Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 12 Tachwedd 2021

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

12 Tachwedd 2021 

09:00 - 12:30

 

Presennol

James Price (Cadeirydd); Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; James Price; Alexia Course a Marie Daly.

Yn bresennol: David O’Leary; Alun Bowen; Rachel Davies a Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad Cworwm

Oherwydd bod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datganiadau o fuddiant

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad.

 

2a. Cyfle Diogelwch

Mae hysbysiad Gwella Rhyngwyneb Teithwyr-Trenau Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) yn dod i ben gyda nifer sylweddol o asesiadau risg yn cael eu cynnal ar draws gorsafoedd, gyda chamau gweithredu a buddsoddiad yn cael eu trefnu ar draws sawl ardal. Mae pecynnau briffio Casglwyr Tocynnau wedi’u diweddaru i sicrhau eu bod yn derbyn gwybodaeth gywir ar risgiau a pheryglon, a bydd cyfle i fabwysiadu canfyddiadau’r asesiadau risg yn ystod unrhyw waith gwella yn y dyfodol.

 

2b. Cyfle Cwsmeriaid

Dangoswyd fideo i’r Bwrdd yn cyflwyno’r dull Amser a Gollwyd Teithwyr.

 

3. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel cofnod gwir a chywir.

Nodwyd y cofnod camau gweithredu gyda nifer o ddiweddariadau i’w cynnwys yn ystod y cyfarfod. TYNNWYD.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae’r tîm yn canolbwyntio ar wella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i deithwyr o ddydd i ddydd, wrth i’r galw gynyddu’n raddol, ar ôl y pandemig, yn ogystal â chynnydd yn nifer y trenau sy’n cael eu gweithredu. Mae hyn wedi golygu nad oes llawer o amser wedi bod i edrych ymlaen yn strategol. Mae’r cynnydd yn yr amserlen wedi ymestyn adnoddau, ac mae’r system yn fregus ar adegau, yn arbennig pan fydd digwyddiadau annisgwyl, er enghraifft tywydd gwael, rhwystrau i linellau neu brinderau adnoddau annisgwyl.

Yn ogystal â sefydlogi argaeledd adnoddau criw trenau, mae gwaith yn parhau i sicrhau bod y nifer fwyaf o gerbydau ar gael i’r gwasanaeth nes y bydd trenau newydd yn dechrau cael eu defnyddio. Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd ar berfformiad ar draws y fflyd, lle cafwyd problemau penodol gydag argaeledd Dosbarth 769 a Dosbarth 230s (ar gyfer hyfforddiant gyrwyr), materion sy’n ymestyn y fflyd Dosbarth 150, sydd weithiau yn arwain at ffurfiannau byr.

Mae’r nifer o yrwyr a chasglwyr tocynnau cynhyrchiol sydd ar gael i weithiau ar y trenau yn elfen allweddol ar gyfer darparu mwy o sefydlogrwydd a gwytnwch, bu’r Bwrdd yn trafod y prinderau criw sy’n arbennig o amlwg ar ddydd Sul, pan nad yw’r nifer o yrwyr ymrwymedig ar y rhestr waith yn ddigonol i gwmpasu’r milltiroedd sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaeth llawn. Bydd gweithdy cynllunio adnoddau criw trenau yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf. Mae salwch sy’n gysylltiedig â Covid wedi cael effaith yn benodol ar argaeledd casglwyr tocynnau CVL yn y dyddiau diwethaf.

Mae perfformiad diogelwch yn parhau i fod yn gadarn, ond bu i’r Bwrdd nodi a thrafod tri SPAD Categori A yn y cyfnod. Derbyniodd y Bwrdd wybodaeth am gefndir y SPAD ac er bod sefyllfa’r flwyddyn hyd yma yn well na’r targed, cytunwyd i’r is-bwyllgor Diogelwch gynnal adolygiad manwl [Cam Gweithredu Peter Strachan]. Gofynnodd y Bwrdd hefyd i’r is-bwyllgor Diogelwch gynnal adolygiad manwl o hyfforddiant gorfodol ar gydymffurfiaeth y dylid bod wedi’i gynnal [Cam Gweithredu Marie Daly].

Mae adolygiad wedi’i gynnal o’r gwersi y gellir eu defnyddio yn dilyn y digwyddiad diweddar yn Salisbury. Cytunwyd y byddai’n cael ei ddosbarthu i aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth [Cam Gweithredu Jeremy Morgan].

Hysbyswyd y Bwrdd bod gwrthwynebiad gan GB Railfreight Ltd i lwybrau arfaethedig Rheilffordd TrC ar linell Wrecsam-Bidston yn effeithio ar strwythur yr amserlen a bydd angen ymyrraeth gan yr ORR o ran a fyddai llwybrau i deithwyr TrC neu lwybrau cludo nwyddau yn cael eu ffafrio yn y cyfnodau pan fydd gwrthdaro yn digwydd. Cytunodd y Bwrdd i drefnu trafodaeth lefel uwch gyda GB Railfreight Ltd [Cam Gweithredu Jan Chaudhry].

TYNNWYD

Nodwyd Dangosyddion Perfformiad Allweddol a oedd yn gysylltiedig â Chyfnod 7. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r mesur ar amser i dri munud yn cael ei ddileu oherwydd mae’n cael ei gynnwys yn y mesur PTL; ac y byddai hyn yn cael ei ddisodli gan ddangosydd ‘cyn canslo’, ond ni fyddai’n cael ei gyhoeddi’n allanol am gyfnod prawf chwe mis.

 

5. Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Cynyddodd cymhorthdal Capex o £1.1 miliwn, yn seiliedig ar ailasesiad o werth y cyllid ROSCO a dderbyniwyd ar gyfer y cyfnod. TYNNWYD. Mae teithio di-docyn wedi lleihau i 11.2%, ac mae’r cyfraddau sganio ar drenau wedi gwella i 32.6%.

Cyflwynwyd hawliadau Atodlen 4 i banel Network Rail ym mis Hydref. Roedd rhai o’r hawliadau wedi’u hystyried a gofynnwyd i TrC i ddarparu eglurhad. Nid oedd unrhyw rai o’r hawliadau wedi’u derbyn neu eu gwrthod hyd yma. Hysbyswyd y Bwrdd bod yr hawliadau’n cael eu gwirio gan yr ORR, ond gofynnodd y Bwrdd i’r hawliadau gael eu gwirio ac i dderbyn eglurhad o bwy sy’n berchen arnynt yn TrC [Cam Gweithredu HC a JC].

 

6. Treganna

Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd am gamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn flaenorol ynglŷn â depo Rheilffordd Pullman, ac yn benodol mewn cysylltiad â chanfod datrysiad ar gyfer Ffordd 7 Pullman er mwyn galluogi i Pullman a TrC ei defnyddio heb gyfaddawdu ar allu’r naill barti neu’r llall i weithredu’n effeithiol. Roedd lwfans o £4 miliwn wedi’i gynnwys yn Achos Busnes prynu Pullman i gwblhau’r addasiadau angenrheidiol i’r cyfleusterau. Yr amcangyfrif ar gyfer y gyllideb wreiddiol yw £6.7 miliwn, felly bydd y gwaith i’w gwblhau yn cael ei gwblhau yn erbyn y flaenoriaeth i gadw o fewn y gyllideb sydd ar gael.

Cyflwynir papur ar wahân i gadarnhau cwmpas terfynol disgwyliedig y gwaith i wella effeithlonrwydd y gweithrediadau PRL, gyda gwaith yn cael ei gymeradwyo’n unol â’r amserlen flaenoriaeth, ar ôl i’r prisiau cyllideb gael eu derbyn gan y contractwr. Nododd y Bwrdd y diweddariad.

 

7. Wrecsam Bidston

TYNNWYD

Mae’r Bwrdd hefyd wedi cymeradwyo datblygu cyfleuster tanwydd yn depo Gogledd Birkenhead Stadler lle mae’r fflyd dosbarth 230 yn seiliedig ar ddangosyddion bod yr ystod tanwydd dosbarth 230 yn fwy tebygol o fod yn fwy cyfyngedig na’r disgwyliad gwreiddiol, ac y byddai angen llenwi’r trenau â thanwydd yn ddyddiol.

TYNNWYD

 

9. Cynllun Peilot Talu wrth Deithio ac Ehangu i Fetro De-ddwyrain Cymru

Ymunodd Dave William a Helen Mitchell â’r cyfarfod. Gofynnwyd i’r Bwrdd roi sylw ar yr achos busnes dros dreialu’r prosiect talu wrth deithio, a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf TrC i’w gymeradwyo. Cytunodd y Bwrdd ar bwysigrwydd y cynllun peilot i ddarparu achos masnachol cryf ac i fod yn glir ynghylch materion gweithredol. Roedd y Bwrdd yn cefnogi’r achos busnes mewn egwyddor ac iddo gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Bwrdd TrC, yn amodol ar Fwrdd Rheilffyrdd TrC yn cymeradwyo’r datrysiad gweithredol yn eu cyfarfod nesaf. Bu i’r Bwrdd argymell hefyd y dylid cynnal adolygiad manwl o’r system weithredu [Cam Gweithredu Marie Daly] a systemau llinell giât eraill [Cam Gweithredu Marie Daly / Helen Mitchell].

 

10. Prydles cargo

Cymeradwyodd y Bwrdd i ymrwymo i amrywiad prydles gyda’r darparwr presennol, DB Cargo, ar gyfer pedwar locomotif Dosbarth 67 ychwanegol rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2028. Bydd yr amrywiad yn golygu y bydd y trefnau Dosbarth 67 ychwanegol yn cael eu prydlesu tan o leiaf 2028, yn seiliedig ar yr amodau prydlesu presennol, er am bris rhentu is o ganlyniad i ymdrechion Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig i leihau costau gyda’r cyflenwr, sydd wedi arwain at arbedion o £2.8 miliwn.

 

11. Opsiynau lleoli fflyd

Ymunodd Colin Lea â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd y gwaith sy’n cael ei wneud i ? lleoli fflydoedd presennol a newydd o’r newidiadau i amserlen Rhagfyr 2023/Mai 2024 a pharhau i weithio i sicrhau bod y system o leoli’r fflyd yn ystwyth er mwyn cyflawni’r amserlen ac ymateb i newidiadau i raglenni cyflenwi fflyd newydd.

 

12. Diweddariad masnachol

Nododd y Bwrdd gynnwys y dangosfwrdd Masnachol a chawsant eu calonogi gan y twf cyfnod ar gyfnod a gyflawnwyd yng Nghyfnod 7, gyda refeniw bellach wedi cynyddu 74.1% i’r cyfartaledd cyn COVID a’r teithiau tocyn wedi cynyddu i 64.2%, gan gynrychioli’r canlyniad cyfnodol cryfaf a gyflawnwyd ers dechrau’r pandemig COVID. Nododd y Bwrdd hefyd berfformiad calonogol ar draws dangosyddion strategol niferus gyda chyfran y system Docynnu Glyfar yn parhau i dyfu a chost gwerthu yn parhau i ostwng. Mae’r defnydd o arian parod wedi cynyddu rhywfaint cyfnod ar gyfnod ond mae’n parhau i fod yn sylweddol is na’r lefelau cyn COVID.

Caeodd y Cadeirydd y cyfarfod a diolchodd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau.