Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 15 Medi 2021
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
15 Medi 2021
13:00 - 17:00
Lleoliad: 3 Llys Cadwyn, Pontypridd ac ar-lein
Yn bresennol
Aelodau: James Price (Cadeirydd); Peter Strachan; Heather Clash; Marie Daly; Jan Chaudhry; ac Alexia Course.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Stephanie Raymond (eitem 8); Dan Tipper a Ryan Williams (eitem 9); James Kennedy (eitem 10); Andy Slater ac Owen Clutterbuck (eitemau 10 ac 11); ac Andrew Gainsbury (eitem 11).
Rhan A
1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
2. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a chyhoeddodd fod y cyfarfod wedi dechrau.
3. Datganiadau o fuddiant
Mae James Price ac Alexia Course yn aelodau o Fwrdd Pullman Rail Ltd.
4. Amser i Ddiogelwch
Clywodd y Bwrdd bod damwain wedi digwydd ar 29 Awst yn cynnwys glanhawr yn y depo ym Machynlleth a syrthiodd tua dau fetr o'r trên ar lawr concrit. Cafodd ei gleisio a llwyddodd i ddechrau gweithio ar y shifft nesaf.
Cynhaliwyd ymchwiliad a nododd fod y glanhawr wedi plygu o'r trên i blygio'r hwfyr. Bu'r Bwrdd yn trafod y mesurau rheoli sydd ar waith, a'r newidiadau a oedd bellach yn cael eu gwneud i leihau'r risg o ddamwain debyg.
5. Amser i gwsmeriaid
Cynhaliwyd cynhadledd gorsafoedd ar 20 Awst gyda chynrychiolaeth o'r holl Gyfarwyddiaethau Gorsafoedd (Rheoli Gorsafoedd, Diogelu Refeniw, Integreiddio Cwsmeriaid) a chyflwynwyr gwadd ar gyfer pynciau penodol. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys adborth ar brofiad cwsmeriaid - cyffredinol a gorsaf benodol, rheoli KPI, pam rydym wedi creu cyfarwyddiaeth Gorsafoedd, rhaglen 'Cwsmer yn Gyntaf', Diogelu Refeniw, gweithgarwch a blaenoriaethau yn y dyfodol, Rheilffyrdd Cymunedol, Cenedlaethau'r Dyfodol, Integreiddio Cwsmeriaid a diweddariadau diogelwch.
6. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Yn amodol ar fân ddiwygiadau, cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 2021 fel cofnod cywir.
Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
7. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr
Roedd y cyfnod blaenorol yn gymharol sefydlog gyda nifer y cwsmeriaid yn dal i godi wrth i gyfyngiadau Covid gael eu codi. Daeth y cyfnod i ben gyda refeniw’n 68% o'r cyfartaledd cyn Covid, tra bod teithiau ar 57%. Roedd 17% yn teithio heb docyn, sy'n dal i fod yn uwch na'r hyn a ddymunir ond gyda archwilwyr tocynnau yn mynd drwy’r cerbydau i wirio tocynnau erbyn hyn, dylai'r lefelau ostwng.
Bu cynnydd clodwiw yn nifer y fflyd Dosbarth 769 sydd ar gael trwy ymgyrch addasu ffaniau oeri injans.
Croesawodd y Bwrdd gyfres o ddangosyddion diogelwch gweithredol cadarnhaol. Mae nifer y damweiniau nad ydynt ymwneud â'r gweithlu wedi gostwng ac ni chafwyd achos o basio signal yn beryglus (SPAD) Categori A yn ystod y cyfnod. Y gyfradd SPAD yw'r isaf ers sawl blwyddyn ac mae’n well na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, sicrhawyd y Bwrdd nad oes lle i laesu dwylo a bod cyfarfod diweddar y Bwrdd Gweithredol Diogelwch wedi canolbwyntio ar y prif ddangosyddion sydd angen sylw. Mae problemau o hyd gyda phobl ifanc ar gledrau Cwm Rhymni ac mae dull amlasiantaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y gweill.
Ar ôl cwblhau proses gaffael Pullman, mae gwaith wedi dechrau i sicrhau canlyniadau a nodwyd yn yr achos busnes, law yn llaw â galluogi Pullman i barhau gyda gwasanaethau bogi ac adnewyddu setiau olwynion i'w gwsmeriaid.
Diweddarwyd y Bwrdd ar waith atgyweirio pont Adam Street a dywedwyd nad yw'r gwaith wedi dechrau eto a bod Seilwaith Amey Cymru wedi diwygio ei ddyddiad cwblhau targed o fis Chwefror i fis Mawrth 2022. TYNNWYD.
Clywodd y Bwrdd fod llystyfiant sy'n tyfu uwchben lein CVL wedi difrodi tair uned. Mae Seilwaith Amey Cymru (AIW) yn adrodd i'r Joint Performance Improvement Centre ar y maes penodol hwn ac mae gwaith clirio sylweddol wedi’i wneud. TYNNWYD.
Mae cyfarfodydd gweithdy'n cael eu sefydlu gyda chynrychiolwyr archwilwyr tocynnau i barhau i drafod cyflawni amseroedd disgwyl 30 eiliad ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd, a chynllunio protocol Metro CVL. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar gyfer y cyfarfod nesaf [Cam Gweithredu - Marie Daly].
Bu'r Bwrdd yn trafod Dangosyddion Perfformiad Allweddol gweithredol ar gyfer Cyfnod Rheilffyrdd 6. Yn gyffredinol, mae perfformiad yn sefydlog ac yn debyg i'r tri chyfnod blaenorol.
8. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod. Cyflwynwyd cyllideb ddiwygiedig i'r Bwrdd ar gyfer 2021-22. O'i gymharu â'r gyllideb gychwynnol ar gyfer 2021-22 a gyflwynwyd ym mis Mai 2021, disgwylir i'r gofyniad cymhorthdal refeniw ostwng £38.5 miliwn, wedi'i lywio gan adolygiad o dybiaethau refeniw teithwyr ac adolygiad o'r sylfaen gostau i gyflawni ymrwymiadau gweithredol. Disgwylir i wariant gweithredu gynyddu £4.2 miliwn yn erbyn y gyllideb gychwynnol, yn gysylltiedig yn bennaf â gwaith trawsnewid cerbydau (derbyniad cychwynnol CAF, dadfeiliad fflyd etifeddol, cynllun cynnal a chadw diwygiedig cerbydau 230) a thargedau perfformiad diwygiedig, wedi'u gwrthbwyso gan ostyngiad yng nghostau staff yn dilyn adolygiad manwl.
Nododd y Bwrdd y gallai'r adolygiad strategol parhaus o'r Cytundeb Grant OLR effeithio ar rywfaint o'r costau. Trafododd y Bwrdd yr angen i ddatblygu opsiynau ar gyfer cynyddu refeniw drwy ddull wedi'i dargedu ac i Fwrdd TrC rymuso'r tîm Masnachol i yrru hyn yn ei flaen a throi bwriad masnachol yn realiti gweithredol. Nododd y Bwrdd fod gostyngiad sylweddol yng nghostau staff yn bennaf oherwydd adolygiad manwl a gynhaliwyd i asesu gofynion busnes rolau newydd, gan arwain at ostyngiad yn y gyllideb oherwydd bod 96 o rolau'n cael eu gwthio'n ôl, saith wedi'u dileu a 3.6 yn cael eu trosglwyddo.
Hefyd, clywodd y Bwrdd y bydd y gofyniad cymhorthdal cyfalaf yn gostwng £38.3 miliwn o'i gymharu â'r gyllideb gychwynnol ar gyfer 2021-22 a gyflwynwyd ym mis Mai 2021. Mae pob prosiect wedi'i ailasesu er mwyn pennu'r cyfleoedd i ohirio gwariant ac ail-alinio gwariant lle bo angen.
Nodwyd yr Adolygiad Cyllid ar gyfer Cyfnod Rheilffyrdd 5. £21.1 miliwn oedd y cymhorthdal gweithredu gofynno TYNNWYD. Roedd refeniw teithwyr yn £7.8 miliwn TYNNWYD. Roedd costau gweithredu net yn £28.8 miliwn TYNNWYD. Cymhorthdal gofynnol Capex oedd £2.9 miliwn TYNNWYD.
Ni wnaed unrhyw gynnydd ar hawliadau Atodlen 4 yn erbyn Network Rail a bydd hyn yn cael ei uwchgyfeirio i'r cyfarfod lefel un nesaf. Bydd llythyr at Network Rail yn cael ei ddrafftio gyda gwahoddiad i gyfarfod i drafod materion ymgysylltu a'r effaith sylweddol ar gyflawni cynlluniau TrC a TfW Rail [Cam gweithredu - Jeremy Morgan / Lewis Brencher].
Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
9. Depo Treganna a chwmpas Pullman Rail
Ymunodd Dan Tipper a Ryan Williams â'r cyfarfod. Ar ôl cwblhau'r broses o brynu Pullmans Rail Ltd, cwblhawyd arolygon manwl o feysydd nad oeddent ar gael o'r blaen i ddilysu cynigion uwchraddio sydd wedi nodi gofynion sefydlogi a dilyniant adeiladu ychwanegol.
Trafododd y Bwrdd arbedion posibl a gynhyrchwyd drwy brynu cwmni Pullmans ac ailfuddsoddi gwaith cyfalaf ar Ddepo Pullman, yn ogystal â'r opsiynau ar gyfer lleoliad y cyfarpar gollwng bogi a thurn olwynion.
Cytunodd y Bwrdd i adnewyddu'r turn olwynion yn ei leoliad presennol a gosod man gollwng bogïau ym mhen Abertawe yr adeilad turn olwynion. Mae'r opsiynau arfaethedig ar gyfer lleoli'r cyfarpar hwn wedi'u hadolygu gyda Stadler, TfWRL BAU a Pullman. Hefyd, cytunodd y Bwrdd i ymchwilio i rinweddau ailddefnyddio turn olwynion Treganna trwy ei adleoli yng ngogledd y rhwydwaith. Bydd y gwaith archwiliadol hwn a'r achos busnes yn cael eu goruchwylio o fewn y broses llywodraethu Trawsnewid.
Nododd y papur arbedion posibl ar gyfer gwaith cyfalaf ar Ddepo Treganna a'r costau ar gyfer gwneud gwaith uwchraddio Atodlen 18 i ddepo Pullmans. Gofynnodd y Bwrdd i'r arbedion gyd-fynd â'r rhai a nodwyd yn yr Achos Busnes [Cam gweithredu - Heather Clash ac Alexia Course].
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyflwyno dwy agwedd benodol ar achos busnes Pullman sy'n hanfodol i'r rhaglen drawsnewid yn ei chyfanrwydd: (1) mynediad digonol i Pullman Road 7 ar gyfer cynnal a chadw cerbydau Stadler Flirt yn barhaus, ar ol eu cyflwyno; a (2) darparu 880m o le cadw realistig ar gyfer BAU ar safle Pullman.
Gadawodd Dan Tipper a Ryan Williams y cyfarfod.
TYNNWYD
12. Methodolegau PTL
Ymunodd Colin Lea a'r cyfarfod. Cyflwynwyd newidiadau arfaethedig i'r Bwrdd i fesur perfformiad Amser Teithwyr a Gollwyd (PTL) - 'PTL v2' a mesur perfformiad newydd canslo ymlaen llaw.
Dywedwyd wrth y Bwrdd fod PTL v2 yn fetrig mwy ystyrlon, hawdd ei ddeall y gellir ei ddefnyddio i reoli perfformiad y dydd yn rhagweithiol a dylai lywio ymddygiad cywir gyda'r prif newidiadau'n seiliedig ar am Ider data, y defnydd o bob gorsaf sydd wedi'i gategoreiddio gan nifer yr ymwelwyr, gan ddileu gwahaniaeth rhwng oedi a achoswyd gan TrC a Network Rail a defnyddio sgor symlach i ddeall sgor canrannol.
Hefyd, trafododd a chymeradwyodd y Bwrdd fesurau ar ganslo ymlaen llaw a chanran yr amserlen sylfaenol a redir.
Gadawodd Colin Lea y cyfarfod.
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau a'r cyfranwyr am fod yn bresennol.