Ewch i'r tabl cynnwys

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 15 Medi 2023

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

15 Medi 2023

09:00 - 14:00

Lleoliad: Llys Cadwyn, Hybrid

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Marie Daly ac Alexia Course.

 

Hefyd yn bresennol

Julian Edwards (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol) a Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Anfonodd Peter Strachan ei ymddiheuriadau.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dywedodd Marie Daly wrth y Bwrdd ei bod wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd yr elusen ‘Menywod Mewn Trafnidiaeth’ yn ddiweddar. Croesawodd y Bwrdd y penodiad.

 

2. Sylw i ddiogelwch

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Hysbysiad Gwella a gafwyd gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd i TrC ynghylch digwyddiadau thermol y trenau Class 175. Nododd y Bwrdd fod y Swyddfa Rheilffyrdd a’r Ffyrdd yn fodlon â’r gwaith cywiro a wnaed yn unol â’r hysbysiad, a bod yr hysbysiad bellach wedi’i gau.

 

3. Sylw i gwsmeriaid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y fflyd newydd o drolïau arlwyo. Trafododd y Bwrdd y manteision o osod targedau ar gyfer y gwasanaethau arlwyo ar y trenau.

 

4. Cofnodion a Chamau Gweithredu

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 18 Awst 2023, a nodwyd y Cofnod Camau Gweithredu diweddaraf.

 

5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Y cynnydd o ran cyflwyno trenau Class 197 i'r gwasanaeth, a chael gwared o drenau Class 175 o wasanaethau i gwsmeriaid yn y dyfodol - gan gynnwys yr angen i gynnal momentwm ar glirio'r llwybrau o gofio'r newid sydd wedi bod o ran y tim [Cam Gweithredu Alexia Course a Jan Chaudhry Van der Velde i drafod].
  • Gwelliant cyffredinol o ran dibynadwyedd y trenau MKIVond gyda'r cafeat bod gormod o amrywioldeb yn bodoli o hyd. Gofynnodd y Bwrdd am ddadansoddiad o dueddiadau ym mherfformiad MKIV [Jan Chaudhry Van der Velde].
  • Roedd lefelau'r criwiau trenau yn ddigonol gan mwyaf dros yr haf. Fodd bynnag, nododd y Bwrdd bod naw gyrrwr wedi bod yn absennol o'r gwaith yn y system Cadwyn Gofal oherwydd cyfres o hunanladdiadau yn gysylltiedig â gwasanaethau TrC. Hyd yma yn 2023/24, mae 15 o farwolaethau wedi bod, o'i gymharu ag 11 ar yr un adeg yn 2022/23. Tynnwyd sylw'r Bwrdd at faterion penodol yn ymwneud â chriwiau trenau yng Nghaerfyrddin. Cytunodd y Bwrdd i ofyn i Dave Taylor roi cyflwyniad ar argaeledd criwiau trenau yng Nghaerfyrddin mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Mae cynlluniau ar waith er mwyn gwella cadernid trenau Class 231 fel rhan o'r paratoadau ar gyfer yr Hydref.
  • Nid oedd unrhyw SPaD Categori A yn ystod y cyfnod. Mae nifer y damweiniau ymysg cwsmeriaid yn dal yn uchel, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar agweddau ar ymddygiad.
  • Mae cyfraddau sganio goruchwylwyr wedi cynyddu. Trafododd y Bwrdd y manteision o gynnal noson wobrwyo [Cam Gweithredu Marie Daly].
  • TYNNWYD
  • Yr angen am negeseuon cadarnhaol ynghylch ailagor rheilffordd Treherbert.

 

5.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

5.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

5.3 Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd

Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd. Cytunwyd bod angen adolygu nifer o risgiau, a nodwyd bod rhai o'r sgoriau ôlgwella yr un fath â'r sgoriau cyn-gwella. Cytunwyd i dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar y gofrestr risgiau yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

6. Diweddariad marchnata

Ymunodd Stephanie Raymond â'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd drosolwg o'r gweithgareddau sy'n cael eu gwneud gan farchnata er mwyn cefnogi twf refeniw y gwasanaethau rheilffyrdd. Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddar ar ad daliadau am oedi, y cynigion i deuluoedd, a'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r Sefydliad Marchnata Siartredig.

Cytunodd y Bwrdd bod angen cynyddu ansawdd y ddarpariaeth Gymraeg mewn marchnata ac ar drenau, gan gynnwys gwella rheolaeth ansawdd. Cytunwyd y dylai Arweinydd Strategaeth laith TrC ddal byrddau cwmniau ELT a TrC i gyfrif a chael eu grymuso i uwchgyfeirio os oes angen.

Trafododd y Bwrdd opsiynau ynghylch cynnig Dosbarth Cyntaf ar wasanaethau MKIV, yn ogystal å'r opsiynau o wella'r gwasanaeth a phryd mae'n ailddechrau. Cytunwyd y dylid cynnal gwaith dadansoddi am gyfnod o bythefnos cyn mynd ati i farchnata'r gwasanaeth [Cam Gweithredu Marie Daly].

 

7. Diweddariad Masnachol

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am fetrigau allweddol ynghylch refeniw teithwyr, darpariaeth wrth y giatiau, cyfraddau sganio ar y trenau, a'r cynllun peilot talu wrth fynd.

Nododd y Bwrdd fod y cynnyrch addysgol newydd nawr ar y farchnad, a bod 75% o'r tocynnau tymor blynyddol wedi cael eu cynnig ar gyfer teithiau addysgol ers mis Medi. Nifer fach sydd wedi manteisio ar hyn.

Hysbyswyd y Bwrdd bod cynllun gweithredu diogelu refeniw yn cael ei ddatblygu, a bod ymweliad yn cael ei drefnu â Northern Trains er mwyn dysgu gwersi o'u dull o fynd i'r afael â theithio heb docyn.

Cytunwyd y dylid darparu naratif ar gyfer adferiad refeniw Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf [Cam Gweithredu Alexia Course].

 

8. Adolygiad ariannol

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer Cyfnod 5 y Rheilffyrdd (23/24).

Cafodd y Bwrdd ei friffio ar R2 ar gyfer blwyddyn ariannol 2024, TYNNWYD.

  • TYNNWYD
  • TYNNWYD
  • TYNNWYD
  • TYNNWYD

Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.

 

9. Prosiect Bullseye

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am Prosiect Bullseye. Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a phenderfynodd y dylid optimeiddio cyfres o opsiynau. 

TYNNWYD

Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.