Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 16 Medi 2022
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
16 Medi 2022
09:00 - 13:00
Lleoliad: St Patricks House
Yn bresennol
Peter Strachan (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry, Alexia Course a Marie Daly.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
James Price
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim wedi’i ddatgan.
2a. Sylw i Ddiogelwch
Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chwsmeriaid yn cyhoeddi digwyddiadau diogelwch. Nodwyd bod ORR yn monitro eitemau o’r fath ac yn gweithredu os oes angen.
2b. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd gyhoeddiadau ar y trenau mewn perthynas â dyheadau’r diwydiant a TrC. Mae heriau’n parhau o ran hyd cyhoeddiadau ac ystyried gofynion y Gymraeg a’r nifer sylweddol sy’n orfodol.
4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr
Cafodd y Bwrdd wybod am y nifer uchel [chwech] o achosion o Basio Signal yn Beryglus (SPAD) yn ystod cyfnod 5. Mae’r achosion wedi cael eu hadolygu a’u dadansoddi ar gyfer ffactorau cyffredin, ond nid oes dim wedi dod i’r amlwg. Cafwyd cynnig gan RSSB i ddadansoddi achosion SPAD diweddar, ac effeithiolrwydd mesurau rheoli gan gynnwys ffactorau dynol sy’n arwain at wallau. Mae’r cynnig hwn wedi cael ei dderbyn, a bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi.
Roedd y perfformiad yn ystod y cyfnod yn gymysg, gyda Llinellau Craidd y Cymoedd yn methu’r targed PTL o drwch blewyn, a llinell Cymru a Thrawsffiniol gryn dipyn yn brin. Yn y cyfnod gwelwyd nifer o streiciau RMT ac ASLEF a oedd yn effeithio ar Network Rail a chwmnïau trenau eraill. Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth gwell rhwng Amwythig a Birmingham ar 30 Gorffennaf i wasanaethu dydd Sadwrn cyntaf Gemau’r Gymanwlad pan nad oedd gwasanaethau Gorllewin Canolbarth Lloegr ar y coridor oherwydd streic ASLEF.
Roedd nifer o ddigwyddiadau seilwaith sylweddol wedi digwydd yn sgil y tywydd poeth eithafol gyda threnau Class 769 yn dangos cryn dipyn o wendid, a phŵer sawl injan yn lleihau (fel y’u cynlluniwyd) i’w cadw’n oer. Arweiniodd hyn at weithredu cynllun wrth gefn Class 769 ar reilffordd Rhymni ar sawl diwrnod.
Hysbyswyd y Bwrdd bod y dull newydd ar y cyd o reoli perfformiad trenau gyda Network Rail ac AIW yn parhau i ennill momentwm. Cytunwyd ar gyllidebau gyda phob prif swyddogaeth am y flwyddyn, ynghyd â phob cyfnod a phob dydd. Adroddir ar y rhain drwy fwletinau perfformiad dyddiol.
TYNNWYD
5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Wedi'i nodi.
5b. Adroddiad risg rheilffyrdd
Nodwyd yr adroddiad risg.
6. Diweddariad masnachol
Ymunodd David O’Leary â’r cyfarfod.
Roedd refeniw teithwyr, siwrneiau a km i gyd yn dal yn is na’r gyllideb yn ystod cyfnod 5. Y prif ffactor a oedd yn sbarduno'r canlyniad hwn oedd effaith weithredol y gweithredu diwydiannol gan Network Rail a staff cwmnïau trenau cyfagos yn ystod y cyfnod, gydag amrywiant o oddeutu -£0.95m i’r gyllideb wedi’i chreu o ganlyniad. Gostyngodd y perfformiad sylfaenol oddi wrth y gyllideb yn ystod y cyfnod gyda’r economi’n gwanhau a’r argyfwng costau byw cynyddol yn sbarduno amcangyfrif o - £0.45m o amrywiant i’r gyllideb.
Bydd Cam 1.1 y strategaeth rheoli refeniw, a oedd yn canolbwyntio ar lwybr Caerdydd-Manceinion, yn cael ei roi ar waith yn ystod cyfnod 6. Bydd hyn yn cymryd yr hyn a ddysgwyd o gam 1.0 (a lansiwyd yn ystod cyfnod 4) ac yn ceisio cynyddu’r budd refeniw cynyddol o £100k yr wythnos a ddarparwyd hyd yma. Bydd newidiadau Cam 2.0 yn cael eu rhoi ar waith wedyn yn ystod cyfnod 7, a bydd hyn yn effeithio ar lwybrau Gogledd Cymru a’r Gororau. Fel rhan o gamau’r strategaeth yn y dyfodol, bydd y dull gweithredu hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer holl wasanaethau TrC y gellir eu harchebu ymlaen llaw ar draws y rhwydwaith.
Mae’r ddarpariaeth ar y gatiau tocynnau yn dal heb gyrraedd y targed ar gyfer y cyfnod a’r flwyddyn hyd yma. Mae grŵp gorchwyl a gorffen traws-swyddogaethol wedi cael ei sefydlu o fis Medi i nodi opsiynau i sbarduno gwelliannau pellach/cyflymach i gynyddu oriau’r ddarpariaeth ar y gatiau tocynnau i darged cychwynnol o 70% yn 22/23 (a 75% yn 23/24) o’i gymharu ag oriau gweithredu. Roedd y Bwrdd yn amau a fyddai’r targedau’n cael eu cyflawni, ond rhoddwyd sicrwydd bod y gweithgor yn gadarn o ran ei amcanion ac yn gwthio i’r cyfeiriad cywir.
Nododd y Bwrdd hefyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar deithiau teithwyr; siwrneiau wedi’u haddalu; sganio ar drenau; a refeniw mewn perygl.
Trafododd y Bwrdd yr ansicrwydd ynghylch newidiadau posibl i brisiau tocynnau ar gyfer 2023.
7. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
8. R2
TYNNWYD
9. Prydles 153
TYNNWYD
10. Cymeradwyo Contract Gwasanaethau Trafnidiaeth Ffyrdd
Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i gytuno ar gontract newydd gydag Abellio ar gyfer gwasanaethau yn lle’r trenau am gyfnod o bedair blynedd, gydag amcangyfrif o werth o £14m y flwyddyn, yn amodol ar (1) bod y Bwrdd yn deall y cymal cytundebol sy’n ymwneud â hawl ‘cael cytundeb gyda chwmni arall’, a (2) yn archwilio rhinweddau cynnwys darpariaeth newid rheolaeth [Gweithredu Marie Daly].
11. Newid Amserlen Mai 23
Nododd y Bwrdd bapur yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cynllunio ar gyfer newid amserlen mis
Mai 2023, a nodi bod ymestyn fflyd Cl175 wedi’i alluogi ynghyd â gwaith cynnal a chadw yn Depo Caer a
storio fflyd cl.756 oddi ar y safle.
Er bod y Bwrdd wedi nodi ac wedi gweld gwerth y papur, cytunwyd i ddarparu adborth ar ei strwythur a’i gynnwys fel sail i bapurau tebyg yn y dyfodol er mwyn i'r Bwrdd gael mwy o eglurder ynghylch prosesau cymeradwyo amserlenni yn y dyfodol [Gweithredu Marie Daly].
12. Opsiynau ar gyfer defnyddio unedau Class 769 drwy'r amser
TYNNWYD
13. Strategaeth Rheoli Refeniw Mark IV
TYNNWYD