Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 18 Awst 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
18 Awst 2023
09:00 - 14:00
Lleoliad: Llys Cadwyn, Hybrid
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd), Peter Strachan, Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Alexia Course, a Julian Edwards.
Hefyd yn bresennol: Lewis Brencher (Eitem 6 - 11), Tristan Guyard (Eitem 12), Dean Fry (Eitem 13), Owen Clutterbuck (Eitem 13), Scott Waddington, Ross Whiting (Ysg).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyflwynodd Julian Edwards a oedd wedi ymuno fel cyfarwyddwr anweithredol cyswllt.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Marie Daly ei hymddiheuriadau.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.
2. Sylw i ddiogelwch
Derbyniodd a chanmolodd y Bwrdd y sylw i ddiogelwch ym mhecyn y cyfarfod ar weithgareddau Wythnos Diogelwch y Rheilffyrdd a chytunodd ar yr angen i ymgysylltu’n llawn â staff ar faterion iechyd y cyhoedd.
3. Sylw i gwsmeriaid
Derbyniodd a chroesawodd y Bwrdd y sylw i gwsmeriaid ym mhecyn y cyfarfod ar brosiect ‘Hyder i Deithio’ y Tîm Rheilffyrdd Cymunedol.
4. Cofnodion a Chamau Gweithredu
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 23ain Gorffennaf 2023, yn amodol ar ddiwygio a nodwyd a diwygiwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.
5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys gweithrediad a pherfformiad trenau Dosbarth 197, tynnu trenau Dosbarth 175 o weithrediadau teithwyr yn y dyfodol, clirio a seilwaith llinellau, trenau Dosbarth 230 ar Wrecsam-Bidston, gwella perfformiad, perfformiad trenau Dosbarth 231, diweddariad ar griw / Menter Ailstrwythuro Gyrwyr (DRI), menter ar y cyd â Network Rail ar wasanaeth 4 cerbyd ar reilffordd y Cambrian, achosion a ffactorau mewn digwyddiadau o Basio Signal yn Beryglus (SPAD) diweddar, dyddiad cyflwyno Trenau Dosbarth 756, adeiladu bogi yn Nhreganna, digwyddiad diogelwch ym Mae Caerdydd, a gwaith parhaus gydag AIW. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r timau perthnasol yn cydweithio ag AIW i ddatrys problemau.
5.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
5.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
5.3 Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd.
6. MkIV
Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o argaeledd a dibynadwyedd cerbydau MKlV a sut roedd timau wedi bod yn ystyried risgiau ac yn mynd i’r afael â heriau logistaidd.
Mewn trafodaeth, nododd y Bwrdd fod dibynadwyedd a hyder wedi gwella ond bod angen mwy, yn enwedig i hybu perfformiad masnachol. TYNNWYD.
7.Diweddariad masnachol
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r diweddariad masnachol a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn. Trafododd y Bwrdd y diweddariad, gan dynnu sylw at y canlynol:
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- Talu heb arian - gan gynnwys ffyrdd o hyrwyddo taliadau di-arian heb arwain at allgau cymdeithasol,
- TYNNWYD
TYNNWYD
Trafodwyd y dull gweithredu o ran swyddfeydd tocynnau, a chytunwyd y byddai gwaith yn cael ei wneud i gyflwyno model Caer yn ehangach [Gweithredu - Marie Daly]. TYNNWYD.
8. Diweddariad ar Farchnata
Derbyniodd a nododd y Bwrdd gyflwyniad a oedd yn drosolwg o’r diweddariad masnachol a oedd wedi’i gynnwys ym mhecyn y cyfarfod. Trafododd yr aelodau’r diweddariad, gan ganolbwyntio ar elw ar fuddsoddiad a lefel gwariant marchnata, a’r angen i sicrhau bod y pwynt gwerthu / trafodiad yn perfformio (e.e., ap, gwerthiant digidol) er mwyn manteisio i’r eithaf ar berfformiad marchnata a sicrhau bod pob ymgyrch yn cynhyrchu refeniw. Nodwyd bod cyfleoedd yn bodoli i hyrwyddo buddsoddiadau sy’n dwyn ffrwyth, a bod ymgyrchoedd sy’n cael eu harwain gan bwynt prisiau bellach yn ddiofyn i’r tîm marchnata.
9. Adolygiad ariannol
Derbyniodd a nododd y Bwrdd gyflwyniad ar adolygiad cyllid cyfnod 04, gan nodi y byddai cysoni ar ôl IFRS16 yn cael ei gynnwys yn y dyfodol, costau ychwanegol ar drenau Dosbarth 175, diogelwch a thacsis a’r rhesymau dros y costau hyn, a bod y sefyllfa alldro yn unol â’r gyllideb. Nodwyd bod y tîm ariannol yn symud tuag at sefyllfa rhagolwg misol ar gyfer rhagolygon mwy ystwyth, a chysondeb o ran negeseuon.
Trafododd y Bwrdd reoli swyddi gwag (yn ddewisol a heb fod yn ddewisol), atodlen IV a Network Rail, hawliadau heb eu datrys, her rheoli, gwaith tybiaethau, a pherchnogaeth cyllideb a chost. Cytunwyd y byddai Julian Edwards yn ymuno â sesiynau crynhoi’r her ariannol [Gweithredu - Heather Clash].
10. Cynnig Rheoli Refeniw Dosbarth Cyntaf
Derbyniodd y Bwrdd drosolwg o’r papurau a oedd wedi’u cynnwys yn y pecyn cyfarfod, a gofynnwyd i’r Bwrdd nodi cynnwys y papur a chymeradwyo’r cynigion i fabwysiadu penderfyniad i ‘fynd’ ar 18 Awst ar yr amod bod y meini prawf llwyddiant a amlinellwyd yn cael eu bodloni, er mwyn gallu dechrau rheoli refeniw gwasanaethau MkIV yn gyfyngedig o 20 Awst ymlaen.
Ar ôl ystyried, cytunodd y Bwrdd i’r cynnig ac i gynyddu’r pwysau lle bo hynny’n briodol er mwyn sicrhau’r dibynadwyedd gorau posibl. Cytunwyd y byddai’r polisi ad-daliad yn cael ei rannu â’r Bwrdd [Gweithredu - Alexia Course].
11. Llinell Llwybr y Gororau
Hysbyswyd y Bwrdd y byddai Julian Edwards yn treulio dau ddiwrnod yr wythnos gyda TrC a fyddai’n cynnwys cymorth ar lefel cyfarwyddwr ar y Gororau a’i statws cyfarwyddwr anweithredol cyswllt gyda Bwrdd Rheilffyrdd TrC.
TYNNWYD
Trafododd y Bwrdd hefyd gynigion uwchraddio premiwm sydd ar gael ar drenau dosbarth cyntaf MKIV a threnau 197 safonol, a chafwyd eglurhad fod y llinell hefyd yn cynnwys Caergybi.
Gadawodd Lewis Brencher y cyfarfod.
12. Dangosfwrdd 175-197
Ymunodd Tristan Guyard â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd y dangosfwrdd a chroesawodd y cynnydd cadarnhaol a wnaed. Nododd y Bwrdd mai’r prif fesurau lliniaru yng Nghaer yw disodli trenau Dosbarth 175 yn effeithlon, hyfforddiant i yrwyr a chlirio llwybrau, storio trenau 197, capasiti cadw, amserlenni a lleoliadau tanwydd. Cytunodd y Bwrdd y byddai atebion posibl yn cael eu profi i sicrhau eu bod yn gwbl angenrheidiol, a ddylid dal contractwyr yn atebol, ac a fydd yn gweithio, a gellid ystyried atebion dros dro lle maent yn gwneud synnwyr yn y tymor hir.
Gadawodd Tristan Guyard y cyfarfod.
13. Estyniad i Drydydd Les Trenau Dosbarth 175
Ymunodd Dean Fry ac Owen Clutterbuck â’r cyfarfod.
Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad ar estyniad trydedd les trenau Dosbarth 175 a chafodd wybod bod yr achos busnes wedi cael ei dderbyn gan Dîm Arwain Gweithredol (ELT) TrC y diwrnod blaenorol. Nodwyd bod ELT wedi cytuno ar egwyddor yr achos busnes, yn amodol ar:
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
TYNNWYD
Cytunodd y Bwrdd i ohirio’r eitem hon am benderfyniad terfynol drwy ohebiaeth cyn dyddiad gorffen y les, sef 31 Awst, ar ôl i ragor o sgyrsiau a thrafodaethau gael eu cynnal.
Gadawodd Dean Fry ac Owen Clutterbuck y cyfarfod.
14. Unrhyw Fater Arall
Nid oedd unrhyw fusnes arall.
Daeth y cyfarfod i ben a diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.