Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 19 Awst 2021

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

19 Awst 2021

13:00 - 17:00

Lleoliad: 3 Llys Cadwyn, Pontypridd ac ar-lein

 

Yn bresennol

Aelodau: James Price (Cadeirydd); Peter Strachan; Heather Clash; Marie Daly; Jan Chaudhry; ac Alexia Course.

Hefyd yn bresennol: David O’Leary (DOL; Jeremy Morgan; Stephanie Raymond [eitem 8]; Chris Williams (eitem 9) a Neil James (eitem 12).

 

Rhan A

1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

2. Hysbysiad Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyhoeddodd fod y cyfarfod wedi dechrau.

 

3. Datganiadau o Fuddiant

Mae James Price ac Alexia Course yn aelodau o Fwrdd Pullman Rail Ltd.

 

4. Amser i ddiogelwch

Bu'r Bwrdd yn gwylio fideo 'Beware of the Bubble' Network Rail.

 

5. Ffocws ar Gwsmeriaid

Fe wnaeth y Bwrdd adolygu'r adborth gan gwsmeriaid gan gynnwys cwynion am sawl pwnc megis cynnydd ym mhris cyflenwadau dŵr ar wasanaethau, canllawiau croesfannau rheilffyrdd, delio ag ymholiadau, a rhybudd bod gwasanaethau wedi’u canslo.

 

6. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2021 fel cofnod gwir a chywir. 

Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

7. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roedd perfformiad dros wythnosau un a dau o gyfnod 4 yn dda ond roedd rhai problemau nodedig gan gynnwys canslo gwasanaethau ar y Sul, methiant signalau yn Abercynon a rhywfaint o afreoleidd-dra wrth anfon trenau. Fe wnaeth tywydd poeth ar ddiwedd y drydedd wythnos a dechrau'r bedwaredd wythnos effeithio ar berfformiad trenau. Yn gyffredinol, mae'r galw gan deithwyr ar gynnydd ac mae'r cynnydd yn nibynadwyedd gwasanaethau dydd Sul wedi gwella'r sefyllfa.

Methodd cynllun i drwsio problemau ffan oeri ar drenau Dosbarth 769, ond mae rhywfaint o waith wedi'i wneud wedyn i osod set fwy effeithiol o ffaniau a ddylai wneud injans yn fwy dibynadwy.

Cafwyd digon o wybodaeth dechnegol o ymchwiliad Vivarail i'r digwyddiad thermol gyda generadur trenau Dosbarth 230 i ategu adroddiad technegol mewnol i asesu'r risgiau wrth symud ymlaen. Mae'r unedau bellach wedi'u clirio i ailddechrau hyfforddiant gyrwyr.

Mae ymosodiadau, bygythiadau a cham-drin tuag at y gweithlu, trais yn y gweithle ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi'r cyfnod clo yn parhau i fod yn broblem. Mae rhai contractwyr diogelwch sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi cael eu dargyfeirio i helpu casglwyr tocynnau yn y cerbydau teithwyr i helpu i gael teithwyr yn ôl i'r arfer o brynu tocynnau. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn broblem benodol yng nghymoedd uchaf Caerdydd, gyda chriw yng ngorsaf Hengoed yn achosi problemau penodol. Mae grŵp gorchwyl a gorffen ar waith i adolygu'r dull o fynd i'r afael â'r problemau. Mae'r dull hwn yn cynnwys gweithio gyda'r heddlu lleol, gwasanaethau cymdeithasol, partneriaethau diogelwch cymunedol, gwleidyddion a chynghorau lleol, gan ddefnyddio holl adrannau TrC a'u cysylltiadau cymunedol.

Ar ôl trafodaethau gyda Seilwaith Amey Cymru, fe'i gwnaed yn glir na fydd gwaith ar bont Adam Street yng Nghaerdydd yn gallu dechrau tan fis Medi 2021 ac o ystyried faint o waith strwythurol sydd ei angen a'r priffyrdd fydd angen eu cau, go brin y caiff ei gwblhau cyn mis Chwefror 2022. Bydd hyn yn effeithio ar adfer y gwasanaeth chwe thrên yr awr i Fae Caerdydd ac yn ôl.

Croesawyd y broses ddiweddar o gaffael Pullman Rail Ltd ac fe'i hystyriwyd yn gyfle pwysig i'w gwneud hi'n haws i gyflwyno trenau Stadler newydd a darparu dewisiadau cynnal a chadw a lletya ychwanegol.

Clywodd y Bwrdd fod y pwyllgor Gweithredol Diogelwch wedi trafod digwyddiadau anfon trenau diweddar, y ddau oherwydd casglwyr tocynnau newydd gymhwyso. Gan fod gyrwyr profiadol wrth lyw’r trenau, ni aeth y naill na'r llall heibio'r golau coch. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen a hyfforddiant ac arweiniad ychwanegol i ddelio â'r mater. 

TYNNWYD

Gofynnodd y Bwrdd am fwy o fanylder am ddigwyddiadau anafiadau nad ydynt yn ymwneud â'r gweithlu [Cam Gweithredu PS] ac y gallai hyn fod yn faes posibl ar gyfer trafodaeth fanylach i'r Pwyllgor Diogelwch.

Holodd y Bwrdd hefyd pam bod y defnydd o gamerâu a wisgir ar y corff yn isel. Dywedwyd bod gan staff bryderon ynghylch ymarferoldeb eu gwisgo. Mae dewisiadau eraill wedi'u nodi a'r gobaith yw y bydd lefelau mabwysiadu yn cynyddu. Cytunwyd i gynnwys ffigurau defnydd yn adroddiad y mis nesaf [Cam Gweithredu BJ a JC]

Mynegwyd pryder bod rhai trenau o bosib yn gadael yn gynnar ar lein y Cymoedd, ac na ddylid goddef hynny. Cytunwyd i roi nodyn atgoffa i gasglwyr tocynnau am adael yn gynnar [Cam Gweithredu JC a BJ].

 

8. Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod. Ar hyn o bryd, mae amrywiadau i'r gyllideb a gyflwynwyd ym mis Mai yn £16m ar gyfer refeniw a bron i £19m ar gyfer gwariant cyfalaf. Mae adolygiad o'r gyllideb sy'n canolbwyntio ar refeniw teithwyr, costau staff a phrosiectau cyfalaf ar y gweill ar hyn o bryd, i'w gyflwyno tua diwedd mis Medi. Yn y cyfamser, gofynnwyd i ddeiliaid cyllideb herio cynlluniau gwariant a chynnig ffyrdd gwahanol o weithio i arwain at leihau costau'n gynaliadwy.

TYNNWYD. Roedd y cymhorthdal gwariant cyfalaf gofynnol yn £2.2m, a oedd £4.3m yn llai na'r gyllideb ac yn bennaf oherwydd lledaenu costau mewn perthynas â Depo Treganna a chyflwyno fflyd newydd.

Hysbyswyd y Bwrdd nad oedd uwchgyfeirio materion Atodlen 4 Network Rail wedi arwain at unrhyw ganlyniad. Bydd papur yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf, ond efallai y bydd angen uwchgyfeirio ymhellach.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd adolygiad cyllid cyfnod 4.

 

9. Diweddariad masnachol

Nododd y Bwrdd y diweddariad masnachol. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Twf parhaus o gyfnod i gyfnod yng Nghyfnod 4, gyda refeniw bellach i fyny i 56.5% o'r cyfartaledd cyn COVID a'r teithiau â thocynnau i fyny i 48.0%. Dyma'r canlyniad cyfnodol cryfaf a gyflawnwyd ers dechrau'r pandemig.
  • Mae'r perfformiad ar draws sawl dangosydd strategol yn galonogol, gyda chydymffurfiaeth â thocynnau clyfar a phrynu cyn teithio yn cynyddu o gyfnod i gyfnod a’r defnydd o arian parod a chost gwerthu yn parhau i ostwng.
  • Ar hyn o bryd mae Traws Cymru yn rhwydwaith bysiau cenedlaethol ar wahân, ond mae gwaith yn parhau i geisio ei uno â'r system drenau a gwella profiad cwsmeriaid, er enghraifft drwy'r wefan.
  • Mae'r ymgyrch Gwirio Capasiti bellach wedi'i hailgyflwyno i'r farchnad, gyda phosteri ymyl ffyrdd, hysbysebion radio a phapurau newydd a chynnwys cyfryngau cymdeithasol. Bydd y ddarpariaeth yn parhau i ganol mis Awst 2021. 

Hysbyswyd y Bwrdd fod cais gwreiddiol Keolis Amey yn rhagweld cynnydd chwyddiant o RPI+1, a adlewyrchir yng nghyllidebau grŵp TfW ac a fyddai'n gynnydd o 3% ym mis Ionawr 2022. Cytunwyd bod angen gwirio hyn gyda Llywodraeth Cymru i weld a yw'n dal i fodloni eu disgwyliadau o ystyried eu ffocws ar gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a newid dulliau teithio [Cam Gweithredu DOL].

Ymunodd Chris Williams â'r cyfarfod i gyflwyno trafodaeth ar ddangosyddion perfformiad allweddol (KPI) masnachol. Bu'r Bwrdd yn trafod twf teithwyr a holwyd a yw'r defnydd gorfodol o orchuddion wyneb yn cyfrannu at y bwlch mewn twf ac a ellir dylanwadu ar benderfyniadau drwy ddata. Cadarnhawyd nad oes llawer o ddata ar gael, ac eithrio rhai a gasglwyd gan Transport Focus [Cam Gweithredu - Chris Williams i'w ddosbarthu].

Trafododd y Bwrdd bob math o syniadau am gynigion i ddenu teithwyr yn ol i wasanaethau, manwerthu trydydd parti, delio ag arian parod a lleihau'r niferoedd sy'n teithio heb brynu tocynnau. 

 

TYNNWYD

 

12. Ymgyrch adfer

Ymunodd Neil James a'r cyfarfod i rannu hysbyseb yr ymgyrch adferiad dan law'r brand. Edrychodd y Bwrdd ar yr hysbyseb a'i nodi, a chytunodd y dylid ei rhedeg ar ol 18 neu 20 Hydref er mwyn caniatau i amserlen mis Medi ennill ei phlwyf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a chymryd rhan.