Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 19 Awst 2022

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

19 Awst 2022

09:00 - 13:00

Lleoliad: Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry, Alexia Course a Peter Strachan.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan a David O’Leary.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Marie Daly

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Ychydig iawn mae staff wedi defnyddio’r camerâu corff. Bydd ymgyrch ‘tawelu meddwl’ yn dechrau cyn bo hir gan bwysleisio nad yw’r camerâu’n cael eu defnyddio i fonitro staff ac mai dim ond i gefnogi erlyniadau y bydd y deunydd yn cael ei ddefnyddio. Mae harneisiau personol yn cael eu darparu ochr yn ochr ag ymgyrch chwalu mythau.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’r cynllun Rheoli Refeniw a Phrynu Tocynnau Advance ar y Diwrnod (APOD) gan gynnwys adfer dulliau rheoli refeniw deinamig a bod POD ar gael hyd at bum munud cyn i gwsmeriaid gychwyn.

 

3. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Hysbyswyd y Bwrdd bod penodi Cyfarwyddwr Llwybrau dros dro ar gyfer Network Rail Cymru wedi rhoi cyfle i ddatblygu dull newydd o wella perfformiad trenau ar draws y system gyfan. Cytunwyd ar y dull newydd rhwng TrC, Network Rail Cymru ac AIW ddiwedd mis Gorffennaf, ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu Strategaeth Perfformiad.

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd hefyd am ddatblygiad y cynllun perfformiad ‘personol cwmnïau trenau eraill’ sy’n seiliedig ar bum egwyddor sylfaenol: (1) sicrhau bod y cynllun trenau yn gadarn, gan daro’r man perffaith rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn wydn; (2) sicrhau bod digon o gerbydau rheilffyrdd y gellir eu defnyddio i gyflawni’r cynllun trenau; (3) sicrhau bod digon o griw trenau i gyflawni’r cynllun trenau; (4) gwneud y gorau o gapasiti i leihau gorlenwi rhagweladwy; a (5) rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol, tresmasu a ffactorau allanol eraill.

Trafododd y Bwrdd y cerbydau sydd ar gael, yn enwedig unedau 175 a cherbydau MKIV gan ofyn TYNNWYD.

Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd fod y sefyllfa gyda hyfforddiant gyrwyr a goruchwylwyr yn parhau i wella yn unol â’r cynllun adnoddau tymor hir, ond bod cael gyrwyr ar y Sul yn dal yn broblem sylweddol TYNNWYD.

Mae’r cynllun optimeiddio capasiti yn parhau i weithredu yn ystod yr haf gan gryfhau, lle bo’n bosibl, y defnydd o fysiau wrth gefn sydd wedi’u lleoli’n strategol, a mesurau lliniaru i gwsmeriaid drwy gynllun deg pwynt i gwsmeriaid. Nododd y Bwrdd fod y rhan fwyaf o gyfnodau brig y gorlenwi yn cael eu hachosi gan streiciau gyrwyr mewn cwmnïau trenau eraill a phrinder criwiau trenau yn y cwmnïau hynny ar ddiwrnodau heb fod yn ddiwrnodau streic.

Nododd y Bwrdd hefyd fod cynlluniau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, pobl ifanc yn ymgynnull, a mathau eraill o niwsans ar y rheilffyrdd yn parhau i leihau’r achosion sy’n cael eu cofnodi, yn enwedig yn y mannau problemus hysbys yng Nghymoedd Caerdydd. Fodd bynnag, mae’r problemau hyn yn dal i achosi oedi.

Effeithiwyd ar y cyfnod gan dywydd poeth gyda rhybudd coch gwres eithriadol gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer 18 a 19 Gorffennaf. Rhoddwyd cyfyngiadau cyflymder ac fe gafodd hyn effaith andwyol ar berfformiad trenau, gyda’r gwasanaeth ar ei wannaf yn ystod y diwrnodau poethaf. Gofynnodd y Bwrdd am wybodaeth am unrhyw effaith bosibl gwres eithafol ar yr unedau newydd [Gweithredu Alexia Course]. 

Nododd y Bwrdd fod lefelau teithio heb docyn wedi cynyddu, a gofynnodd a oes modd gwneud mwy am hyn. Hysbyswyd y Bwrdd bod Strategaeth Diogelu Refeniw yn cael ei datblygu, ac nad oedd yn ymddangos bod unrhyw resymau penodol dros y cynnydd. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r Arolwg Teithio heb Docyn yn fesur gwell, a bod perygl nad yw’r ffigurau’n dangos y sefyllfa gyfan ar hyn o bryd. Nododd y Bwrdd hefyd y gallai datblygu system Talu-WrthDeithio gynnig gwell cyfleoedd i bobl allu talu’n haws.

 

5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adroddiad Sicrhau Diogelwch.

 

5b. Adroddiad risg rheilffyrdd

Nodwyd yr adroddiad.

 

6. Diweddariad masnachol

TYNNWYD

 

7. Cyfrifon Rheoli

TYNNWYD

Gadawodd Andy Quinton y cyfarfod.

 

8. Ail-lunio amserlen mis Rhagfyr 2022

TYNNWYD

 

9. Setliad masnachol CAF

TYNNWYD

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau.