Ewch i'r tabl cynnwys

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 21 Gorffennaf 2023

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

21 Gorffennaf 2023

09:30 - 13:00

Lleoliad: Tŷ San Padrig, Hybrid

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Marie Daly ac Alexia Course.

Hefyd yn bresennol: Stephanie Raymond (Eitemau 6-9), Andy Quinton (Eitem 9), Alison Thompson (Eitem 10), Nick Rowe (Eitem 10), Lewis Brencher (Eitem 12), Jeremy Morgan (Ysgrifennydd).

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Anfonodd Peter Strachan ei ymddiheuriadau.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

 

1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 23 Mehefin 2023 a nodwyd a diwygiwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.

Darparwyd diweddariad byr ar ddiogelu a nodwyd y byddai un polisi ar draws y sefydliad yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys contractau ac is-gontractwyr, a’i gyflwyno i’r Tîm Arwain Gweithredol.

 

2. Sylw i ddiogelwch

Tynnodd y Bwrdd sylw at ddiogelwch o ran y bwriad i ailadeiladu Pont Abermaw yn ddiweddarach eleni. Trafododd y Bwrdd fod angen sicrhau bod tocynnau’n cael eu gwirio ar wasanaethau bysiau yn lle trenau [Cam Gweithredu - Jan Chaudhry Van Der Velde].

 

3. Sylw i Gwsmeriaid

Tynnodd y Bwrdd sylw at gwsmeriaid o ran ymwybyddiaeth cwsmeriaid o weithredu diwydiannol a chydnabod arferion da.

 

4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau - Cyfnod 03

Derbyniodd a nododd y Bwrdd adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau a oedd wedi'i gynnwys ym mhecyn y cyfarfod a rhoddodd sylw penodol i'r materion canlynol:

  • Perfformiad Cyfnod 3 - gan gynnwys digwyddiadau allanol a phrinder cerbydau yn achosi problemau, newyddion cadarnhaol am drenau Class 197 yn dechrau cael eu defnyddio a llwybrau yn y dyfodol, gwaith ar TYNNWYD a'r angen i sicrhau bod hyfforddiant gyrwyr yn parhau i fod ar gael.
  • Llinellau Craidd y Cymoedd - Gwaith Peirianneg a Seilwaith.
  • Materion storio - gan gynnwys cadernid a hyblygrwydd gweithredol.
  • Depo Treganna - cynllun i ddod yn fwy hunangynhaliol o ran gyrwyr, a materion sy'n ymwneud â gyrwyr yn cymhwyso ac yn gwneud cais am swyddi ar y prif reilffyrdd.
  • TYNNWYD
  • Wrecsam-Bidston - yn cynnwys materion gyda threnau Class 230 a chychwyn archwiliad dwys, gan nodi argaeledd unedau, amser a gollwyd a materion eraill. Nodwyd y byddai Jan Chaudhry-Van der Velde yn y cab yr wythnos ganlynol i ddeall materion yn well.
  • MkIVs - cwestiynu dibynadwyedd cerbydau a beth gellir ei wneud yn ei gylch.

 

5.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

5.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad sicrhau diogelwch a nododd berfformiad diogelwch da ar y cyfan a dim SPADs.

 

5.3 Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

6. Diweddariad masnachol

Ymunodd Stephanie Raymond a'r cyfarfod.

TYNNWYD

 

7. Adolygiad ariannol

Nododd y Bwrdd yr adolygiad ariannol sydd wedi’i gynnwys ym mhecyn y cyfarfod, gan gynnwys y sefyllfa alldro, y bylchau mewn swyddi gwag a allai achosi problemau, a rhywfaint o arbedion tanwydd wedi’u cynnwys ar y gyfran heb ei neilltuo.

 

8. Dadansoddiad gwell o’r llwybr teithio

Ymunodd Andy Quinton â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd ddiweddariad a oedd yn nodi bod angen: ystyried sut byddai hyn yn effeithio ar wasanaethau; dechrau ei ddefnyddio i sbarduno gweithredu; a lleoleiddio elw a cholled i alluogi dealltwriaeth a chynllunio. Nodwyd bod gweithrediadau’n ddaearyddol nid yn ôl llinell llwybr, felly byddai hyn yn golygu bod angen amser i gael tyniant.

 

9. Cyllideb 24/25

TYNNWYD

Gadawodd Stephanie Raymond ac Andy Quinton y cyfarfod.

 

10. Perfformiad AIW

Ymunodd Alison Thompson a Nick Rowe â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd ddiweddariad ar Berfformiad AIW, gan gynnwys y cytundeb teiran rhwng AIW, TrC a Network Rail gyda phob un yn dwyn y lleill i gyfrif. Nodwyd bod gweithgorau penodol yn canolbwyntio ar wella perfformiad a gwaith a wneir gyda phobl leol, fel gwaith ar ddefnyddio ‘pa 3 gair’ i roi gwybod am ddigwyddiadau, gwell cyfathrebu ynghylch tarfu a gwaith ar dresmasu a diogelwch cyfansawdd.

O ran gwella perfformiad, nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo ar adnewyddu ffensys, rheoli llystyfiant, cydymffurfio â strwythurau, deall asedau, gwneud penderfyniadau ar sail data am wybodaeth leol a phenodi arbenigwr gwella busnes.

Trafododd y Bwrdd ac AIW nifer o heriau cyfredol. Mae mynediad at beirianneg yn her benodol, ond mae cynlluniau ar y gweill i liniaru hyn. Ystyriwyd hefyd berfformiad hanesyddol, darnau sbâr strategol a thargedau perfformiad, gan gynnwys sut byddai’r cynllun teiran yn gwella perfformiad.

Gadawodd Alison Thompson a Nick Rowe y cyfarfod.

 

11. Gatiau tocynnau

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

12. Diweddariad marchnata

Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd ddiweddariad marchnata, gan gynnwys bod y perfformiad cyffredinol ychydig yn uwch na’r targed, bod y digidol yn perfformio’n dda iawn, bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r system CRM marchnata, bod gwelliannau o ran lawrlwytho’r ap, gan gydbwyso effaith cynnwys pwynt prisiau a bod adborth blaenorol y Bwrdd wedi cael ei ymgorffori.

Trafododd y Bwrdd yr ap a sut mae’n cael ei hyrwyddo, gan nodi bod angen cynyddu defnyddwyr cofrestredig a gwella sut mae data’n cael ei ddefnyddio.

Gadawodd Lewis Brencher y cyfarfod.

 

13. Diweddariad Amserlen 2024

TYNNWYD

 

14. Unrhyw Fater Arall

Ni chodwyd unrhyw faterion pellach.

Daeth y cyfarfod i ben a diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.