Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 23 Gorffennaf 2021

Submitted by Content Publisher on

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig - Cofnodion y Bwrdd

23 Gorffennaf 2021

09:00 - 13:00

Lleoliad: 3 Llys Cadwyn, Pontypridd ac ar-lein

 

Yn Bresennol

Aelodau: James Price (Cadeirydd); Peter Strachan; Heather Clash; Marie Daly; Jan Chaudhry; ac Alexia Course.

Yn bresennol hefyd: David O'Leary a Jeremy Morgan. Ymunodd Geoff Ogden, Richard Graham a Mark Brown ar gyfer eitem 10; ymunodd Stephanie Raymond ar gyfer eitem 11; ac ymunodd Owen Davies ar gyfer eitem 16.

 

Rhan A

1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

2. Hysbysiad Cworwm

Gan fod yna gworwm, estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

3. Datganiadau o fuddiant

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

 

4. Achos Diogelwch

Mae ymchwiliadau'n parhau ar ôl darganfod tân bach ar uned Dosbarth 230 ger Wrecsam. Mae'r tîm Vivarail yn cael ei gefnogi gan adnodd peirianneg TfWRL i ganfod yr achos sylfaenol a sefydlu cynllun gweithredu i atal hyn rhag digwydd eto.

 

5. Achos Cwsmer

Yn dilyn tarfu sylweddol ar wasanaethau'r Cymoedd ddydd Sadwrn 26 Mehefin a achoswyd gan offer signalau diffygiol, mabwysiadwyd dull adolygu newydd. Mae'r dull hwn yn cynnwys nodi gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau, yn ogystal â chynnwys cynrychiolaeth o Transport Focus.

TYNNWYD

 

6. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Yn amodol ar fân ddiwygiad, cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 25 Mehefin 2021 fel cofnod gwir a chywir.

Nodwyd y Log Camau Gweithredu. Datblygwyd cynllun ar gyfer newidiadau i amserlenni Rhagfyr 2022 ar y sail nad yw CAF yn cael ei ohirio am fwy na 15 mis (cam gweithredu 34). Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd i gam gweithredu newydd i ddatblygu a chytuno ar Gynllun Gweithredol Rhagfyr 2022 ar y sail bod CAF yn cael ei ohirio am fwy na 15 mis [Gweithredu Alexia Course/Jan Chaudhry]

 

7. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae nifer y teithwyr yn parhau i wella gyda chyfradd y twf yn sefydlogi. Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu bod cadw pellter cymdeithasol yn amhosibl. Trafododd y Bwrdd broblemau parhaus yn ymwneud ag archwilwyr tocynnau ddim yn cerdded hyd y trên i agor drysau cerbydau yn yr adrannau canol nac i wirio tocynnau. Nodwyd bod rhai Cwmnïau Gweithredu Trenau bellach wedi mandadu hyn. Cytunwyd ei bod yn hanfodol i archwilwyr tocynnau gael mwy o bresenoldeb ar drenau. Trafodwyd gwahanol opsiynau ar gyfer ailddechrau'r dyletswyddau hyn gyda'r amod na fyddai archwilwyr tocynnau yn cael eu gorfodi i gyflawni dyletswydd pe baent yn teimlo'n anghyfforddus ar drên gorlawn.

Mae problemau Dosbarth 769 yn parhau ond mae arwyddion calonogol bod problemau oeri injans wedi'u canfod ac yn cael eu datrys. Mae rhaglen i osod system oeri gwell wedi'i datblygu ac mae cryn hyder y bydd yn datrys y broblem. Mae cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu i gywiro problemau eraill gyda'r unedau.

O ganlyniad i'r tân diweddar ar yr uned Dosbarth 230, bu'n rhaid atal gweddill y fflyd rhag gweithredu nes i'r digwyddiad gael ei ymchwilio'n drylwyr. Roedd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at ddibyniaeth Vivarail ar TrC ar gyfer yr ymchwiliad, ond teimlwyd y dylai TrC fod wedi bod yn craffu ar broses ymchwilio Vivarail. Cafodd adroddiad 
ar y digwyddiad ei gwblhau'r wythnos diwethaf a bydd y fflyd yn rhedeg eto wythnos nesaf. Gofynnwyd i'r Bwrdd a oedd popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y fflyd Dosbarth 230 yn cael ei baratoi ar gyfer gwasanaeth.

Cadarnhawyd bod y gost o baratoi'r fflyd ar gyfer gwasanaeth yn sylweddol a bod trefniadau cynnal a chadw amgen yn cael eu datblygu. Nid oedd adolygiad blaenorol o statws ariannol Vivarail yn rhoi digon o sicrwydd a bydd adolygiad pellach yn cael ei roi ar waith [Gweithredu Alexia Course]

Roedd perfformiad Cyfnod 3 yn weddol, ond bu problemau a achoswyd gan argaeledd a dibynadwyedd Dosbarth 769. Mae nifer y gweithwyr trenau a staff eraill sy'n derbyn hysbysiadau i hunanynysu ar gynnydd a bu prinder difrifol o weithwyr trenau, yn enwedig o ran dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni'r llwyth gwaith ar y Sul. 

Mae'r patrwm o ddau drên yr awr ar wasanaeth Blaenau'r Cymoedd yn yr amserlen LTP o 21 Medi ymlaen a chynhaliwyd trafodaethau mwy cadarnhaol gyda chynrychiolwyr gyrwyr am yr addasiadau i'r diagramau sydd eu hangen i gyflawni'r amserlen milltiroedd uwch, er nad oes cytundeb wedi'i wneud eto. Dylai unrhyw lacio ar y drefn reoleiddio ar gyfer cadw pellter cymdeithasol gynorthwyo gyda'r broses hon. Rhagofyniad arall i'r amserlen well yw gwell argaeledd a dibynadwyedd ar gyfer Dosbarth 769.

TYNNWYD

Yn gyffredinol, mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) gweithredol yn sefydlog. Ar hyn o bryd mae mwy o ffocws ar ddangosyddion cwsmeriaid.

 

8. Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Diogelwch

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Diogelwch, adroddodd Peter Strachan fod y cyfarfod cyntaf wedi'i gynnal ar 13 Gorffennaf. Bwriad y Pwyllgor yw darparu trosolwg strategol heb fynd i fanylder, a darparu rhywfaint o sganio gorwelion allanol. Cafodd Cadeirydd y Pwyllgor sicrwydd cyffredinol o waith parhaus a nododd fod y Cynllun Diogelwch yn rhagorol ac yn cyd-fynd yn dda â'r Cynllun Busnes.

Mae matrics RACI yn cael ei ddatblygu i bennu eitemau rhwng Grŵp TrC a Rheilffyrdd TrC.

 

9. Gwasanaethau Arloesi TrC

Ymunodd Geoff Ogden, Richard Graham a Mark Brown â'r cyfarfod i amlinellu'r gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaethau Arloesi TrC. Mae tua 90 o brosiectau wedi'u nodi ac mae cyfle i Rheilffyrdd TrC gael mynediad at eiddo deallusol at ddibenion amrywiol gan gynnwys dadansoddi'r farchnad, dylunio gorsafoedd a datblygu rhwydwaith. Mae gwahoddiad agored i unrhyw un gael mynediad i'r ardal a rennir lle cedwir gwybodaeth. 

 

10.Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â'r cyfarfod. Nid yw'r gyllideb ar gyfer 2021-22 wedi'i chymeradwyo eto sy'n peri rhywfaint o bryder ynghylch a ellir llenwi swyddi gwag ai peidio.

Y cymhorthdal gweithredu a oedd yn ofynnol oedd £22m, sy'n £4.8m yn llai na'r gyllideb ac wedi'i yrru'n bennaf gan £2.6m mewn refeniw teithwyr uwch na'r disgwyl. O'r amrywiant sy'n weddill o £2.2m, mae £0.9m yn amrywiant parhaol tra bod £1.3m yn cael ei ystyried yn amrywiant dros dro. Roedd refeniw teithwyr yn £6.2m, tua £2.6m yn well na'r gyllideb o ganlyniad i lacio parhaus cyfyngiadau COVID-19. Roedd costau gweithredu net £1.5m yn llai na'r gyllideb ar draws pob prif faes.

Adroddwyd na chafodd hawliadau Atodlen 4 a gyflwynwyd i Network Rail eu hystyried yn ei banel adolygu ym mis Mehefin a’n bod yn disgwyl y canlyniad. 

Holodd y Bwrdd a oedd Rheilffyrdd TrC yn dal i fod yn fusnes gweithredol a dywedwyd wrth y Bwrdd fod TrC wedi cael 'llythyr cysur' yn datgan y byddai'n cael y lefel gywir o gyllid i barhau i ddarparu gwasanaethau yn amodol ar argaeledd y gyllideb. Defnyddiwyd y llythyr hwn gan archwilwyr allanol TrC fel rhan o'u profion busnes gweithredol. Atgoffwyd y Bwrdd hefyd fod gofynion rheoliadol a deddfwriaethol i ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd.

 

11. Sicrhau gyrwyr dydd Sul

Trafododd y Bwrdd opsiynau posibl i ddatrys problemau sy'n ymwneud â’r ffaith fod gyrwyr yn gyndyn o weithio ar y Sul. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhoi sylw brys i'r mater, a chytunwyd i fynd ar drywydd y trefniadau tymor byr a thymor hir a nodir yn y papur atodol a fydd yn cael eu cyfuno'n gynllun gweithredu mewn argyfwng i'w oruchwylio gan dîm prosiect. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ganslo gwasanaethau ar y Sul ymlaen llaw lle bo angen er mwyn rhoi rhybudd cynnar o newidiadau i gwsmeriaid.

 

12. Gorchuddion wyneb 

Cytunodd y Bwrdd i beidio â defnyddio Amodau Teithio Rheilffordd TrC i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol ar wasanaethau TrC yn Lloegr, yn amodol ar naratif cyfathrebu cryf a chlir, oherwydd nifer y risgiau gweithredol dan sylw a'r anallu i’w orfodi.

 

13. Caer

Diweddarwyd y Bwrdd ar y cynnydd o ran datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu canolfan hyfforddi'r Gogledd yn seiliedig ar symud i Wrecsam yn barod ar gyfer 2025. Cadarnhawyd y bydd Caer yn cael ei defnyddio fel ateb dros dro.

 

14. Cynllun Iechyd, Diogelwch, Diogeledd a'r Amgylchedd 2021-2022

Cymeradwywyd Cynllun Iechyd, Diogelwch, Diogeledd a'r Amgylchedd Blynyddol 2021-2022.

 

15. Cyfleoedd i osgoi Gwariant Cyfalaf

Ystyriodd y Bwrdd y crynodeb o ymarfer bwrdd gwaith i asesu cyflwyniad cyllideb gyfalaf Gweithrediadau Rheilffyrdd ar gyfer cyfleoedd i osgoi costau yng ngoleuni newid yn y mecanwaith ariannu ar gyfer cynlluniau cyfalaf. Er bod cyfleoedd wedi'u nodi, cytunwyd i nodi gwariant cyfalaf gohiriedig ar gyfer 2021-22 a cheisio gweddill yr arian sydd ei angen i gyflawni cylch gwaith TrC, blaenoriaethu cynlluniau sy'n cynnwys symud teithwyr neu ddarparu gwelliant gwirioneddol mewn gwasanaethau cwsmeriaid sy'n ysgogi mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau, yn seiliedig ar nodi senarios [Gweithredu Heather Clash].

 

16. Diweddariad masnachol

Mae refeniw yn ôl i fyny i 54.1% o'r cyfartaledd cyn COVID a'r teithiau â thocynnau hyd at 47.5%, sy'n cynrychioli'r canlyniad cyfnodol gorau a gyflawnwyd ers dechrau’r pandemig COVID. Diweddarwyd y Bwrdd ymhellach ar dwf y rhwydwaith a chrynodeb o faterion strategol a chyfleoedd sy'n codi.

 

17. Dogfen Fframwaith a Chod Ymddygiad

Cymeradwyodd y Bwrdd fân newidiadau i Ddogfen Fframwaith Rheilffyrdd TrC a Chod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer aelodau'r Bwrdd a fydd yn cael ei ddosbarthu i'w lofnodi [Gweithredu JM]

 

18. Unrhyw Fater Arall

Cytunwyd i ddosbarthu'r Ymgyrch Farchnata [Gweithredu DOL].

Cytunodd y Bwrdd i gloi papurau'r cyfarfod saith diwrnod cyn y cyfarfod a dim ond gyda chytundeb y Cadeirydd y caniateir cyflwyniadau hwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfranogiad.