Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 25 Mehefin 2021
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
25 Mehefin 2021
13:00 - 17:00
Lleoliad: ar-lein
Yn bresennol
Aelodau: James Price (Cadeirydd); Peter Strachan; Heather Clash; Marie Daly; Jan Chaudhry; ac Alexia Course.
Yn bresennol hefyd: David O’Leary; Jeremy Morgan; Colin Lea (eitem 8); Stephanie Raymond (eitem 10); Andy Slater a Rob Hale (eitem 14).
Rhan A
1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
2. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a chyhoeddodd fod y cyfarfod wedi dechrau.
3. Datganiadau o Fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.
4. Amser i Ddiogelwch
Bu cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr i/o Ynys y Barri, yn enwedig yn ystod y gwyliau ysgol a'r cyfnodau o dywydd cynnes, gan olygu ei bod hi'n fwyfwy anodd cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr gan ennyn sylw negyddol yn y cyfryngau. Hysbyswyd y Bwrdd o'r camau lliniaru sy'n cael eu cymryd o safbwynt gwell diogelwch ar y trên a diogelwch mewn gorsafoedd; staff rheoli torfeydd ychwanegol a systemau giwio bwrpasol; trenau cryfach ac ychwanegol lle y bo'n bosibl; bysiau wrth gefn sydd wedi'u lleoli'n strategol i gefnogi capasiti; bws gwennol bob 20 munud yn benodol rhwng Canol Caerdydd ac Ynys y Barri; a chyfathrebu gwell.
TYNNWYD
5. Amser i Gwsmeriaid
Cafodd y Bwrdd wybodaeth am brosiect diweddar i godi pont ger Machynlleth sy'n dueddol o ddioddef llifogydd. Cwblhawyd y prosiect drwy weithio'n effeithiol mewn tîm, gyda chynlluniau manwl wedi'u rhoi ar waith i gyflawni amserlen gadarn ar lein y Cambrian a'r Brif Linell gan ddefnyddio'r Fflyd 158, tra’n caniatáu i Network Rail gwblhau'r gwaith pwysig ar y bont dros Afon Dulas hefyd.
6. Cofnodion a chamau gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd y cofnodion o’r cyfarfod ar 27 Mai 2021 fel cofnod gwir a chywir.
Nodwyd y Log Camau Gweithredu gyda sawl eitem i'w trafod yn ystod y cyfarfod.
7. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr
TYNNWYD
Hefyd, bu'r Bwrdd yn trafod pwysigrwydd sicrhau bod archwilwyr tocynnau yn cynnal gwiriadau tocynnau ar drenau sy'n hanfodol ar gyfer diogelu refeniw. Ar hyn o bryd, ni ellir cyfarwyddo archwilwyr tocynnau i gerdded drwy'r cerbydau ac mae'r penderfyniad i wneud hynny ai peidio yn dibynnu ar asesiad risg deinamig yn seiliedig ar faint o bobl sydd ar y trên. Fodd bynnag, mae mwy o archwilwyr tocynnau’n cymryd rhan mewn treialon i ganfod ateb ymarferol.
Bu cynnydd mewn achosion o anhrefn cymdeithasol. Trafodwyd y mater gyda chwmnïau trenau eraill ac mae'n ymddangos bod y broblem yn un gyffredin ar ôl llacio'r cyfnodau clo ar hyd a lled Prydain. Mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd i ganfod camau lliniaru addas.
Oherwydd problemau technegol sy'n effeithio ar fynediad i wasanaethu, dim ond ychydig o'r wyth trên Dosbarth 769 sydd wedi bod ar waith ar yr un pryd dros yr wythnosau diwethaf. Mae addasiadau'n achosi problemau mewn sawl maes ac mae'r defnydd o gontractwyr arbenigol wedi'i ymestyn i ganfod yr achosion sylfaenol. Mae hyder y bydd problemau wedi'u datrys, ond rhwystredigaeth ynghylch faint o amser mae'n ei gymryd i gyrraedd lefelau dibynadwyedd boddhaol. Ar hyn o bryd, diffyg trenau Dosbarth 769 yw'r rhwystr mwyaf i ddarparu defnydd llawn o gerbydau yn unol â'r dyheadau presennol. Mae'r lefel annerbyniol o broblemau gyda'r trenau Dosbarth 769 wedi'i rhannu'n ffurfiol â pherchennog y fflyd ac mae proses ar waith i adennill rhai costau. Hysbyswyd y Bwrdd bod cynllun wedi'i greu ar gyfer adfer gwasanaethau 769 [Gweithredu: Jan Chaudhry i'w gylchredeg].
Atgoffwyd y Bwrdd bod trenau Mk IV wedi dechrau gwasanaethu, a gafodd adborth da gan gwsmeriaid a sylw cadarnhaol yn y cyfryngau. Roedd y Bwrdd am fynegi diolch i'r timau a oedd yn rhan o'r gwaith ar brosiect Mk IV.
Mae profiad cynnar o deithiau comisiynu a hyfforddi criw yn dangos y gallai pellter tanwydd trenau Dosbarth 230 fod yn 500 milltir, yn hytrach na'r 800 milltir tybiedig yn y diagramau uned. Mae hyn yn destun ymchwiliad erbyn hyn i ddod o hyd i ateb o ran tanwydd a fydd yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r datblygiad diweddar y depo ail-lenwi tanwydd yn Rhymni.
Mae gwaith yn parhau i ganfod lleoliad addas ar gyfer cyfleuster hyfforddi ardal y gogledd, gyda sawl opsiwn dan ystyriaeth. Fodd bynnag, nodwyd ateb tymor byr i'r efelychydd. Roedd y Bwrdd yn awyddus i gwblhau ateb erbyn cyfarfod nesaf y Bwrdd.
8. Dangosydd perfformiad allweddol (KPI) - at wraidd y mate
Ymunodd Colin Lea â'r cyfarfod i drafod Dangosyddion Perfformiad Allweddol gan gynnwys canslo gwasanaethau ac Amser mae Teithwyr yn ei Golli (PTL). Bydd y ffordd o fesur gwasanaethau sy'n cael eu canslo’n parhau'r un fath gan mwyaf, ond mae gwaith ar droed i archwilio sut i ystyried canslo a gynlluniwyd ymlaen llaw. Awgrymodd y Bwrdd y dylid archwilio rhinweddau pwysoli canslo a gynlluniwyd ymlaen llaw gan fod yr effaith yn fwy arwyddocaol ar adegau penodol o'r dydd ac ar rai llwybrau, neu i gofnodi, adrodd ac adolygu fel mesur ar wahân i'r Bwrdd. Hefyd, pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i ystyried yr effaith ar gwsmeriaid. Cytunwyd i archwilio sut y gellid cynnwys canslo a drefnwyd ymlaen llaw yn Wavelength a metrigau cwsmeriaid eraill [Gweithredu: Colin Lea a David O'Leary].
Mae'r mesur PTL yn cael ei adolygu. Cytunodd y Bwrdd y dylai egwyddor sylfaenol y metrig barhau.
9. Adroddiad diogelwch
Roedd y rhan fwyaf o'r dangosyddion diogelwch ar gyfer cyfnod rheilffyrdd 2 o fewn yr hyn a ragfynegwyd, gan arwain at barhau i wella Mas mewn sawl ardal. Ni chafwyd unrhyw anafiadau penodedig i'r gweithlu, er bod anafiadau i’r gweithlu’n uwch na'r targed. Arhosodd y sgôr Mynegai Pwysoliad Marwolaethau o fewn y ffigur a ragwelwyd, heb unrhyw anafiadau RIDDOR penodedig a dim digwyddiadau heb fod yn ymwneud â'r gweithlu oedd yn golygu mynd yn syth i'r ysbyty.
Roedd un SPAD Categori A yn y cyfnod, a dyma'r chweched cyfnod yn olynol lle mae SPADs TfW Rail ar y blaen i'r ffigur a ragwelwyd ar gyfer 2021. Ni chofnodwyd unrhyw afreoleidd-dra anfon trenau yn y cyfnod, sy'n wir am y pum cyfnod diwethaf yn olynol. Cwblhawyd yr holl ymchwiliadau diogelwch gofynnol o fewn y cyfnod.
Cytunwyd ar y Cynllun Diogelwch sydd bellach ar waith, a bydd yn cael ei adolygu yng nghyfarfod diogelwch chwarterol y Bwrdd ar 13 Gorffennaf.
Mae'r broses o gyflwyno camerâu corff yn mynd rhagddi'n dda ond mae angen datrys sawl problem.
10. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod. Cynhaliwyd archwiliadau at wraidd y mater i adolygu cyllideb FY 2021-22 gyda chanfyddiadau wedi'u cydgrynhoi i sicrhau bod TfW Rail a TrC yn gyson, gan ganolbwyntio'n benodol ar adnoddau [Gweithredu: SR i ddosbarthu canfyddiadau].
TYNNWYD
Rhan B
TYNNWYD
12. Refeniw a thwf
Cyflwynodd David O'Leary ddiweddariad gweithgarwch masnachol. Roedd y cyfnod blaenorol yn dda ar y cyfan yn erbyn y gyllideb, gyda thwf cryf ar draws y rhan fwyaf o lwybrau. Dim ond teithio di-docyn oedd y tu ôl i'r targed, er bod hynny wedi gwella am ddau gyfnod yn olynol.
Felly, bydd y ffocws twf cychwynnol ar leihau teithiau di-docyn yn hytrach na chynyddu'r galw sylfaenol. Roedd cwmpas Gateline yn erbyn y cynllun wedi gwella i 91.9% (heb ei bwysoli) yng nghyfnod 2 ond mae'n parhau ar dim ond 63.8% o gymharu ag oriau gweithredol (wedi'i bwysoli). Byddai canolbwyntio ar wella rhestri dyletswyddau Gateline yn debygol o arwain at welliannau ac mae ffrwd waith ar y gweill i fynd i'r afael â'r mater. Mae'r gwaith o adfer yr holl weithgarwch busnes fel arfer ar drenau wedi'i gyllidebu ar gyfer hydref 2021 a fydd yn hanfodol i leihau teithiau di-docyn.
Mae Grŵp Llywio Twf Rhwydwaith wedi'i sefydlu i archwilio ymddygiad teithwyr yng nghyd-destun: adferiad o covid, a'r angen i fynd i'r afael â heriau sy'n gysylltiedig â dulliau modelu traddodiadol; adferiad gwahaniaethol rhwng hamdden, cymudo a busnes; parhad gweithio gartref; a pha mor fforddiadwy yw trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddeall yn well sut y gellir dylanwadu ar deithwyr presennol a darpar deithwyr. Mae sawl menter alluogi ar waith o ran prisio, trafnidiaeth integredig, manwerthu a thocynnau, diogelu refeniw, profiad cwsmeriaid, marchnata, eiddo a rheilffyrdd cymunedol.
13. Gwelliannau Glynebwy - datblygu contractau pedeir-rhan
Nododd y Bwrdd fwriad TrC a TfW Rail i ymrwymo i gytundeb pedairochrog gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent er mwyn ariannu gwaith gwella'r rheilffordd ar lein Glyn Ebwy.
14. Cyflwyno fflyd newydd
Ymunodd Andy Slater a Rob Hale â'r cyfarfod i amlinellu'r broses o gyflwyno fflyd newydd i'r gwasanaeth gan ganolbwyntio'n benodol ar integreiddio cerbydau'n ddiogel.
Hysbyswyd y Bwrdd bod gwersi'n cael eu dysgu gan gwmnïau trenau eraill y DU sydd â phrofiad o weithio gyda gweithgynhyrchwyr cerbydau newydd TrC.
15. Prydles depo Rhymni
Bydd AIW yn rhoi prydles i TfW Rail ar gyfer y depo cynnal a chadw ysgafn yn Seidin Rhif 4 Rhymni am dymor o bum mlynedd.
Mae amodau a chytundeb mynediad y depo’n dal i gael eu datblygu a'u pennu gan AIW gyda chymeradwyaeth ORR. Mae'r Brydles yn rhoi cyfle i TfW Rail adolygu a rhoi sylwadau ar faterion o'r fath cyn cwblhau'r broses derfynol.
Cymeradwyodd y Bwrdd yr ymrwymiad i Brydles Depo Rhymni.
Hefyd, cytunodd y Bwrdd y dylid datblygu ffurflen brydles safonol [Gweithredu: Jason Howells ac Alexia Course].
16. Archwiliad Sicrwydd Covid Rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd adroddiad archwilio ar reoli dulliau lliniaru covid, rhyngweithio â chwsmeriaid ac ymddygiad.
17. Unrhyw fater arall
Dim
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb.