Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 26 Mai 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
26 Mai 2023
09:30 -13:00
Lleoliad: Ar-lein
Yn bresennol
Peter Strachan (Cadeirydd), James Price, Heather Clash, Marie Daly, ac Alexia Course.
Hefyd yn bresennol: Ross Whiting (Ysg).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Jan Chaudhry Van der Velde ei ymddiheuriadau.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiannau
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 28 Ebrill 2023 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.
2. Sylw i ddiogelwch
Nododd y Bwrdd y wybodaeth am ddiogelwch yn y papurau ynghylch Canolfan Rheoli Gwybodaeth Llinellau Craidd y Cymoedd. Ystyriodd yr aelodau y ffin rhwng gweithgareddau a chyfrifoldebau o safbwynt rheoli diogelwch, cynllunio senarios diogelwch a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o ymarferion.
3. Sylw i Gwsmeriaid
Nododd y Bwrdd gyflwyniad ar wella gorsafoedd yn y papurau cyfarfod. Cytunodd yr aelodau y dylid cynnal cyfarfod Tîm Arwain Gweithredol yn Nhŷ San Padrig yn y dyfodol gydag ymweliad safle â Gorsaf Caerdydd Canolog i weld ac ystyried y cynlluniau diweddaraf [Cam Gweithredu - Ysg].
4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau (Cyfnod: 01 (23/24) 01/04/2023 - 29/04/2023)
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad diweddaru ar ran y Prif Swyddog Gweithrediadau fel y’i cynhwysir ym mhapurau’r cyfarfod a oedd yn nodi, fel gyda chyfnodau blaenorol, mai cerbydau oedd y mater pwysicaf o hyd yng nghyswllt y rhaglen drawsnewid. Hysbyswyd y Bwrdd bod y sefyllfa o ran criwiau trenau yn gryf.
TYNNWYD
5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad sicrhau diogelwch. Tynnwyd sylw’r aelodau at y risgiau sy’n gysylltiedig ag ailagor llinell Aberdâr a Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd, defnyddio camerâu corff, yr adolygiad diogelwch, dysgu o ddigwyddiadau thermol CAF 180 mewn mannau eraill, TYNNWYD.
Hefyd cafodd yr aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am yr adborth drafft ar ddigwyddiadau i gwsmeriaid RSSB, a nodwyd bod yr adroddiad llawn yn cael ei adolygu.
5b. Adroddiad risg rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal i benderfynu sut i sicrhau bod Bwrdd TrC a Bwrdd Rheilffyrdd TrC yn cael golwg ar adroddiadau risg ac yn cyfrannu at yr adroddiadau hynny, yn ogystal ag unrhyw broses uwchgyfeirio angenrheidiol [Cam Gweithredu - JP/LP].
5c. Strategic KPI Report
Nododd y Bwrdd yr adroddiad dangosydd perfformiad allweddol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
6. Diweddariad masnachol
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Cytunodd y Bwrdd y byddai papur yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mehefin Bwrdd Rheilffyrdd TrC, sy’n rhoi manylion cynllun ar gyfer sicrhau bod tocynnau’n cael eu sganio i ddiogelu refeniw, a sut bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i sicrhau bod y targed o 80% yn cael ei gyrraedd cyn gynted â phosibl [Cam Gweithredu - AC].
7. Adolygiad ariannol
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad cryno ar y papurau yn y pecyn cyfarfod, gan gynnwys y prif heriau i fod yn ymwybodol ohonynt a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau cynllunio drwy gydol y flwyddyn ar wariant cyfalaf, effaith bosibl gweithredu diwydiannol sydd ar y gweill, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn cysylltiad â’r llythyr cyllido. Cytunwyd y byddai’r gyllideb hon yn dod i Fwrdd Rheilffyrdd TrC cyn ei chyflwyno, ond efallai y bydd angen gwneud penderfyniad drwy ohebiaeth os bydd amserlenni’n gofyn am hyn.
Ystyriodd a nododd y Bwrdd dystysgrif archwilio Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd ar gyfer Rheilffyrdd TrC, a bydd yn cael ei llofnodi gan Heather Clash.
Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
8. Perfformiad Network Rail
Ymunodd Nick Millington â’r cyfarfod.
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad ar berfformiad Network Rail fel y’i cynhwysir ym mhapurau’r cyfarfod. Croesawodd yr aelodau’r cyflwyniad a’r dull gweithredu, gan gynnwys yr angen i ddatblygu cyfle ar gyfer herio’r naill barti a’r llall rhwng Rheilffyrdd TrC a Network Rail.
Cytunodd y Bwrdd y dylai Nick Millington ei wneud yn ymwybodol o unrhyw gyfleoedd i wella, ac y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod a datblygu’r hyn y gellid gweithredu arno [Cam Gweithredu - JP, JCVDV, NM], gwahoddiadau pellach i Nick Millington fynychu cyfarfodydd Bwrdd Rheilffyrdd TrC a gweithgareddau ar y cyd fel mesurau ac arolygon cwsmeriaid.
Ystyriwyd y wybodaeth darged wedi’i chynnwys yn y pecynnau ar gyfer TrC a Network Rail, a sut gellid annog partneriaid eraill i wneud yr un fath, newidiadau staff a allai gael effaith gadarnhaol ar foderneiddio gwaith cynnal a chadw, a newidiadau CP7 y tu hwnt i reolaeth leol a allai effeithio ar berfformiad.
Gadawodd Nick Millington, James Price ac Alexia Course y cyfarfod.
Nodwyd nad oedd cworwm gan y Bwrdd mwyach, ond nad oedd angen penderfynu ar unrhyw eitemau eraill.
9. TYNNWYD
TYNNWYD
10. Unrhyw Fater Arall
Dim eitemau pellach.
Daeth y cyfarfod i ben a diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.