Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 27 Mai 2022
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
27 Mai 2022
09:00 - 14:00
Lleoliad: Llys Cadwyn
Mynychwyr
James Price (Cadeirydd); Heather Clash; Marie Daly; a Peter Strachan.
Yn bresennol: David O’Leary a Jeremy Morgan. Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod ar gyfer eitem 7; ymunodd Colin Lea â’r cyfarfod ar gyfer eitem 8 ac ymunodd Bethan Jelfs â’r cyfarfod ar gyfer eitem 11.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Alexia Course a Jan Chaudhry
1b. Hysbysiad o Gworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored. Cytunwyd i ddiwygio'r Erthyglau Cymdeithasu er mwyn cynyddu'r cworwm i dri chyfarwyddwr [Jeremy Morgan i weithredu].
1c. Datganiadau o Ddiddordeb
Dim wedi’u datgan.
2a. Sgwrs am Ddiogelwch
Gwelwyd dau deithiwr yng ngorsaf Parc Waun-gron yn cerdded yn syth i lawr y ramp ac yn troi i fynd ar y rheilffordd. Stopiwyd y teithwyr, ac roedd yn amlwg bod ganddyn nhw bob bwriad i groesi’r lein i gyrraedd y platfform ar yr ochr arall. Nododd adolygiad sawl pwynt dysgu, gan gynnwys dim mesurau atal nac arwyddion amlwg. Trafododd y Bwrdd yr angen i ganolbwyntio ar arloesi a thechnoleg i adolygu ymddygiadau a herio meddylfryd.
2b. Sgwrs am Gwsmeriaid
Canmolwyd rheolwr Gorsaf Henffordd am y gwaith a wnaed yn y gymuned drwy gyfres o fentrau. Cytunwyd wrth symud ymlaen, ar ran y Bwrdd, y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at unigolion fel hyn i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.
3. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TfW Rail ar 29 Ebrill 2022 fel cofnod gwir a chywir.
4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr
Gwellodd perfformiad gwasanaethau trên yng nghyfnod 1, ond dim digon i fodloni targedau allweddol ym mhob categori. Y prif feysydd gwella yw (i) sicrhau bod digon o yrwyr a thocynwyr cymwys i gyflawni'r cynllun trên; (ii) cerbydau ychwanegol dibynadwy a digonol; (iii) lleihau lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol, anhrefn, pobl ifanc yn ymgasglu a theithwyr sâl / meddw sy'n achosi oedi; (iv) mesurau i liniaru gorlenwi ar lwybrau penodol ac ar adegau penodol. Sicrhawyd y Bwrdd bod cynlluniau gweithredu ar waith yn y pedwar maes sy'n dechrau gwella perfformiad.
Mae perfformiad fflyd wedi gweld gwelliant ffiniol gyda threnau Mark IV a Dosbarth 769 yn profi i fod yn fwy dibynadwy o gymharu â’r gorffennol diweddar. Mae’r trenau Dosbarth 175 yn parhau i fod yn bryder o ran diffyg argaeledd y rhan fwyaf o ddyddiau.
TYNNWYD
Roedd dangosyddion diogelwch gweithredol ar darged, o ran nifer y digwyddiadau a damweiniau, ond hefyd o ran dangosyddion rhagweithiol, megis asesiadau rheoli cymhwysedd. Roedd un digwyddiad Arwydd wedi'i basio Mewn Perygl (SPAD) Categori A yn ystod y cyfnod sy'n destun archwiliad.
Mae angen gwaith i ddeall y rhesymau sylfaenol dros deithio heb docyn ac i graffu ar y dull samplu [Marie Daly i weithredu]. Sicrhawyd y Bwrdd bod gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu cyfraddau sganio ar drenau, sydd wedi cynyddu’n ddiweddar, ac i sicrhau bod presenoldeb ar reilffyrdd â chlwydi yn ystod oriau brig. Cytunodd y Bwrdd ar yr angen i ddatblygu targedau ar gyfer cyfraddau sganio a phresenoldeb ar reilffyrdd â chlwydi, wedi'u hategu gan ddata cadarn, a chynllun manwl ar sut i gyrraedd y targedau a osodwyd [David O'Leary a Marie Daly i weithredu]. TYNNWYD.
Gofynnodd y Bwrdd am ddata i danategu’r naratif a ddarparwyd ar achosion oediadau a dangosfwrdd ar ddata ‘TOCon-self’ [Marie Daly i weithredu].
Ar hyn o bryd, nid oes gan Amey Infrastructure Wales (AIW) unrhyw dargedau ar waith fel darparwr seilwaith CVL o ran gwella perfformiad. Cytunodd y Bwrdd fod hwn yn annerbyniol, a chytunwyd bod angen set o fesurau a dangosfwrdd [Marie Daly i weithredu].
TYNNWYD
Cytunodd y Bwrdd fod angen datblygu cofrestr risg i gofnodi risgiau Trafnidiaeth Cymru sy’n ymwneud â datblygiad GB Rail [David O’Leary i weithredu].
Prynwyd MKIV ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i wella gwytnwch y fflyd. Cytunwyd bod angen papur ar sut y bydd yn cael ei ddefnyddio [Alexia Course i weithredu].
5a. Adroddiad Sicrwydd Diogelwch
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad sicrwydd diogelwch a adolygwyd yn fanwl yng nghyfarfod diweddar yr Awdurdod Gweithredol Diogelwch.
5b. Adroddiad risg rheilffordd
Nodwyd yr adroddiad.
6. Diweddariad masnachol
Rhagorodd Refeniw Teithwyr ar y targedau a gyllidwyd yng Nghyfnod 01 yn dilyn twf cyfnod-ar-gyfnod parhaus. Mae'r segment marchnad Rhyngdrefol sy'n gyrru'r rhan fwyaf o refeniw ar y rhwydwaith bellach wedi adfer i tua 99% o lefelau cyn-Covid mewn termau refeniw.
Cynhaliwyd 'Gwerthiant Tocynnau Trên Hanner Pris' TfW Rail rhwng 19 Ebrill a 3 Mai, gyda chyfnod teithio o 25 Ebrill i 2 Mai. Mae dadansoddiad cychwynnol yn dangos cynnydd o 8.9% mewn refeniw o gymharu ag wythnosau diweddar. Bydd dadansoddiad llawn o’r gwerthiant yn cael ei gwblhau yn P03 i sicrhau bod unrhyw newid yn ymddygiad prynu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod teithio (sy’n dod i ben ar 27 Mai) yn cael ei gyfrif yn y canlyniadau terfynol.
Roedd y diweddariad meddalwedd peiriannau tocynnau (TVM) diweddaraf yn cynnwys newidiadau i dôn y llais. Mae hyn yn newid dros 550 o wahanol negeseuon i gwsmeriaid o fewn llif archebu TVM i’w gwneud nhw i swnio’n fwy meddal ac yn fwy cyson â brand Trafnidiaeth Cymru.
Syrthiodd teithiau teithwyr yn is na'r targed yn ystod y cyfnod, yn bennaf oherwydd gwahaniaethau rhwng rhagdybiaethau cyllidebol ar weithio o bell a'r canlyniadau gwirioneddol. Fodd bynnag, mae'r elw yn parhau i fod yn gryf.
Hysbyswyd y Bwrdd bod yr oblygiadau posibl sy’n gysylltiedig â’r ffaith nad yw CrossCountry wedi ailgyflwyno gwasanaethau Bryste <> Manceinion eto wedi’u nodi yn ystod y cyfnod. Dengys archwiliadau cychwynnol yr effeithir yn negyddol ar gapasiti llwybrau’r Gororau gan gwsmeriaid sy’n ceisio amseroedd teithio cyflymach drwy Gasnewydd.
Nododd y Bwrdd fod gwerthiannau Webtis ac apiau wedi gostwng. Cytunodd y Bwrdd i archwilio i gostau optimeiddio gwefannau [David O'Leary i weithredu].
7. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Yn ei gyfarfod nesaf, bydd y Bwrdd yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol terfynol ar gyfer 2021-2022. Mae’r Bwrdd wedi rhoi awdurdod dirprwyedig i Jan Chaudhry gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ôl y cyfarfod nesaf, oni bai bod newid sylweddol.
Trafododd y Bwrdd yr angen i gasglu data a datblygu model i gasglu dadansoddiad cost ac incwm.
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer P1.
8. Targedau perfformio 2022-2023
Ymunodd Colin Lea â’r cyfarfod.
Hysbyswyd y Bwrdd bod cynigion targedau perfformiad (cofnodion oedi, canslo, cyn-canslo, PTL a ffurfiannau byr) ar gyfer 2022/2023 wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio data o P1801 i P2211. Nodwyd mai anaml y cyflawnwyd perfformiad gwirioneddol ar gyfer 2021/2022 yn erbyn targedau (llinell doredig), gyda blynyddoedd blaenorol hefyd fel arfer yn disgyn yn is na’r targedau. Mae’r model ar gyfer 2022-2023 yn seiliedig ar ragdybiaethau o P2301 (Ebrill 2022), gydag effeithiau uniongyrchol Covid wedi’u dileu, er bod digwyddiadau arbennig ychwanegol wedi’u cynnwys ynghyd â newidiadau fflyd ac amserlenni.
Cytunodd y Bwrdd bod angen cynnal trafodaeth fanwl am yr eitem y tu allan i’r cyfarfod.
TYNNWYD
12. Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd
Nododd y Bwrdd ganlyniadau cadarnhaol Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd a chytunwyd i weithredu'r camau yn yr adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fynychodd am eu cyfraniadau.