Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 29 Ebrill 2022
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
29 Ebrill 2022
09:00 - 1400
Lleoliad: Llys Cadwyn
Mynychwyr
James Price (Cadeirydd); Jan Chaudhry; Heather Clash; Alexia Course; Marie Daly; a Peter Strachan.
Yn bresennol: David O’Leary and Jeremy Morgan. Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod ar gyfer eitem 6; ymunodd Rob Paige â’r cyfarfod ar gyfer eitem 7; ac ymunodd Colin Lea â’r cyfarfod ar gyfer eitemau 9, 10 ac 11.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad o Gworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datganiadau o Ddiddordeb
Dim wedi’u datgan.
2a. Sgwrs am Ddiogelwch
Bu’r Bwrdd yn trafod pwyntiau dysgu o anaf difrifol i deithiwr a ddioddefwyd ar Blatfform 1, Gorsaf Ganolog Caerdydd ar 19 Mawrth 2022, yn dilyn gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
2b. Sgwrs am Gwsmeriaid
Cyflwynwyd dogfen i'r Bwrdd yn amlinellu cynllun 10 cam arfaethedig i weithredu newidiadau cyflym a mesurau i fynd i'r afael â “phwyntiau poenus” cwsmeriaid mewn busnes, fel arfer ac yn ystod tarfiadau. Bu arweinwyr ar draws tocynwyr, gorsafoedd, cwsmeriaid a masnachol, cyfathrebu a’r tîm arwain marchnata yn cydweithio i greu’r cynllun.
3. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TfW Rail ar 1 Ebrill 2022 fel cofnod gwir a chywir.
Nodwyd y log Camau Gweithredu. Cytunwyd y byddai James Price yn trafod cyfrifoldebau Uwch Berchenogion Cyfrifol gyda Dan Tipper mewn perthynas ag ymchwilio i her Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd (ORR) i gynnig Amey Infrastructure Wales (AIW) i droi’r ardal rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd yn isadeiledd “nad yw'n brif reilffordd” [James Price i weithredu].
4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr
Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd ar berfformiad a gweithgareddau allweddol yng Nghyfnod Rheilffyrdd 13. Roedd Cyfnod 13 yn eithaf anghyson o safbwynt darparu gwasanaeth, wedi'i lesteirio gan broblemau ar Reilffordd y Cambrian yn ymwneud â rhwystr rhwng y Drenewydd a'r Trallwng yn dilyn sawl digwyddiad difrifol a chwalodd yr argloddiau a gadael trac heb ei gynnal yn hongian yn yr awyr yn dilyn stormydd y cyfnod blaenorol.
Effeithiwyd ar y ddarpariaeth gwasanaeth hefyd gan gemau rygbi'r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality. Roedd gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar ddydd Gwener 11 Mawrth, gyda’r gic gyntaf am 20:00, yn cynrychioli risg gyda nifer cyfyngedig o drenau ar gael i gludo cefnogwyr ar ôl y gêm. Fodd bynnag, roedd y cyfuniad o dorf is na'r arfer a rhai newidiadau i'r amserlen yn golygu bod y digwyddiad hwn wedi'i reoli'n llwyddiannus. Ar ddydd Sadwrn 19 Mawrth, tarfwyd yn sylweddol ar ruthr ar ôl y gêm rhwng Cymru a’r Eidal gan unigolyn yn cael ei daro gan drên GWR a oedd yn cyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog, fel yr amlinellwyd yn eitem (2a). Trafododd y Bwrdd yr angen i nodi'r potensial ar gyfer mwy o hyblygrwydd yn yr amserlen o amgylch digwyddiadau mawr.
Trwy gydol y cyfnod, cafodd gwasanaethau a dynnwyd yn ôl oherwydd Covid eu hadfer yn unol â’r cynllun deg cam. Fodd bynnag, mae absenoldebau staff pellach, sy’n gysylltiedig â Covid, wedi parhau i fod yn her wrth i gyfyngiadau’r llywodraeth gael eu llacio’n llwyr. Rheolwyd prinder criwiau yn bennaf i osgoi canslo gwasanaethau ar raddfa fawr, ond roedd dydd Sul yn her arbennig oherwydd diffyg gwirfoddolwyr. TYNNWYD.
Arweiniodd methiant trên ger Y Fenni ar 28 Mawrth at nifer o wasanaethau yn cael eu gohirio am gyfnodau hir o amser. Gwaethygodd y sefyllfa pan brofodd y trên achub Dosbarth 175 broblemau. Mae adolygiad dysgu o ddigwyddiad wedi'i gynnal sy'n cwmpasu'r penderfyniadau rheoli, llif gwybodaeth gwasanaeth, argaeledd gwasanaethau cwsmeriaid wyneb yn wyneb, a darparu trafnidiaeth ffordd amgen. Mae nifer o gynlluniau gwella wedi'u datblygu, gan gynnwys y cynllun cwsmer deg pwynt a gwelliannau i wasanaethau bws sy’n rhedeg yn lle trenau.
Gwaethygodd perfformiad ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) yn ystod ail hanner y cyfnod oherwydd problemau cysylltiedig â signalau ar linellau Aberdâr a Threherbert. Olrheiniwyd achos sylfaenol y methiannau hyn i'r aflonyddwch a achoswyd gan waith gwella seilwaith CVL. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gydag AIW a thîm Trawsnewid Trafnidiaeth Cymru. Cydnabu'r Bwrdd, er y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i leihau amhariadau heb eu cynllunio ar weithrediadau trenau yn ystod y cyfnod hwn o waith adeiladu dwys, mae peth aflonyddwch yn anochel o ystyried oedran yr asedau a hyd y cyfnod amser. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai James Price yn darparu rhywfaint o fewnwelediad i faterion yn ymwneud â rhyngwynebau contractwyr sy'n ymwneud â gwaith seilwaith CVL [James Price i weithredu].
TYNNWYD
Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau Arwydd wedi'i basio Mewn Perygl (SPAD) Categori A yn ystod y cyfnod, ond roedd tri afreoleidd-dra anfon. Gorffennodd pob un, ond un, o’r dangosyddion diogelwch gweithredol y cyfnod 13 yn ffafriol, o gymharu â’r rhagfynegiad dros flwyddyn lawn 2021/2022. Croesawodd y Bwrdd y canlyniad boddhaol gan annog y dylid adeiladu ar hyn yng Nghynllun Diogelwch 2022/2023.
Hysbyswyd y Bwrdd bod tocynnwr a oedd yn cael hyfforddiant trosi tyniant ar yr unedau Dosbarth 197 newydd yn ystod y cyfnod hwn wedi disgyn rhwng y trên a'r platfform yn yr Amwythig a thorri ei ysgwydd. Mae'r archwiliad yn canolbwyntio ar y sefyllfa gyda byrddau camu wrth y drysau.
Yn ogystal, hysbyswyd y Bwrdd fod ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl ifanc yn ymgynnull yn afreolus yn parhau i achosi problemau, yn enwedig ar CVL. Mae gweithgareddau diogelwch amrywiol wedi'u cynnal yn ddiweddar mewn ymdrech i reoli’r broblem. Mae strategaeth a chynllun gweithredu tymor hwy yn cael eu cynllunio drwy ddull amlasiantaeth sy'n cynnwys yr heddlu, sefydliadau diogelwch, diogelu refeniw, tocynwyr, staff gorsafoedd, swyddogion cyswllt cymunedol, a swyddogaethau'r wasg a'r cyfryngau.
Roedd y Bwrdd yn siomedig iawn i nodi bod 11 o ddiffibrilwyr newydd eu gosod wedi cael eu fandaleiddio a dau wedi dioddef difrod sylweddol iawn. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i hyn gael ei weld yn gymdeithasol annerbyniol.
Mae gwaith ffisegol wedi dechrau yn Barry Sidings i ddarparu cilffyrdd gorlif ar gyfer cerbydau ychwanegol CVL. Mae dulliau gweithredu a deunyddiau dysgu llwybrau ar gyfer y cilffyrdd wedi'u cwblhau. Bydd y broses o recriwtio siyntwyr a glanhawyr, yn seiliedig ar y dull lleiaf posibl o ddefnyddio cynnyrch hyfyw, yn dechrau'n fuan.
Gofynnodd y Bwrdd a oedd goblygiadau i Trafnidiaeth Cymru ar sail adroddiad Stonehaven. Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi'i adolygu ond nid oes rhaglen o ymyriadau peirianyddol wedi'i datblygu eto. Cytunodd Jan Chaudhry i wirio a oes angen gweithredu unrhyw gamau penodol mewn perthynas ag ôl-gerbydau fan gyrru (DVTs) MKIV [Jan Chaudhry i weithredu].
TYNNWYD
Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith adolygu sut mae gweithgarwch Network Rail a digwyddiadau allanol eraill yn gwyro dangosfyrddau perfformiad a sut y gellir ystyried hynny wrth adrodd [Marie Daly i weithredu].
5. Adroddiad Sicrwydd Diogelwch
Nododd y Bwrdd yr Adroddiad Sicrwydd Diogelwch a rhoddwyd sicrwydd iddynt y trafodwyd dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) yn fanwl yng nghyfarfod Bwrdd Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant TfW Rail Limited a gynhaliwyd ddoe.
5a. Adroddiad risg rheilffordd
Nodwyd yr adroddiad.
6. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Hysbyswyd y Bwrdd fod y sefyllfa diwedd y flwyddyn ariannol yn adlewyrchu disgwyliadau TfW Group.
TYNNWYD
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer P13.
7. Diweddariad masnachol a rhagolwg refeniw ar gyfer 2022/23
Rhagorodd refeniw a galw teithwyr ar y targedau a gyllidwyd yn P13 yn dilyn twf cyfnod-ar-gyfnod parhaus yn y ddau fetrig. Mae Refeniw Teithwyr wedi cynyddu 7.9% cyfnod-ar-gyfnod gyda'r cyfnod gwirioneddol diweddaraf (£8.8m) i fyny 487.3% blwyddyn-ar-flwyddyn i 76.2% o'r cyfartaledd cyn-Covid. Mae teithiau teithwyr wedi cynyddu 4% cyfnodar-gyfnod i 63.4% o’r cyfartaledd cyn-Covid.
Cymeradwywyd y Cynllun Twf Rhwydwaith ar gyfer 2022/2023 ar ddiwedd mis Mawrth, gyda chyfres newydd o gyfarfodydd NGDG wedi’u creu i reoli cyflawniad yn erbyn y cynllun, gan adrodd i fyny drwy NGSG i fwrdd Trafnidiaeth Cymru / TfW Rail. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd diweddariad mwy sylweddol ar dalu wrth fynd (PAYG) yn ystod y ddau gyfnod nesaf, ond bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae metrigau yn wyrdd i raddau helaeth. Yn benodol, mae’r elw yn gryf gyda mwy o deithiau pellter hirach, mae sganio ar drenau wedi cynyddu i lefelau cyn-Covid ac mae teithiau a ad-dalwyd i lawr. Cytunodd y Bwrdd y byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth fanylach am fathau o addaliadau.
Ymunodd Rob Paige â’r cyfarfod i friffio’r Bwrdd ar ragolygon refeniw 2022-2023, yn seiliedig ar ail-ragolwg lefel uchel a gwblhawyd yn ystod mis Ebrill 2022, gydag ‘Achos Canolog’ ac ‘Achos Uchel’ wedi’u modelu yn seiliedig ar y Cynllun Twf Rhwydwaith a mentrau unigol o fewn y cynllun.
Heriodd y Bwrdd a oes digon o frys o ran prosiectau'r Cynllun Twf Rhwydwaith i gyflawni'r canlyniadau arfaethedig.
TYNNWYD
9. Cynllun gwella gwasanaethau bws sy’n rhedeg yn lle trenau
Nododd y Bwrdd ddiweddariad o ran y cynllun gwasanaethau bws sy’n rhedeg yn lle trenau a oedd yn canolbwyntio ar welliannau allweddol i'r contract newydd ac argymhellion o adolygiad diweddar. Cytunwyd i drefnu cyfarfod pellach i drafod ag is-set o'r Bwrdd ynghyd â chynrychiolaeth o dîm TfW Bus [Jan Chaudhry i weithredu].
10. Optimeiddio capasiti
Nododd y Bwrdd bapur yn darparu cynllun gweithredu tymor byr i ganolig gydag argymhellion i ddeall patrymau teithio a chapasiti newydd ymhellach, yn ogystal â chymryd camau i liniaru'r risgiau, gan wella profiad cwsmeriaid a chydweithwyr. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod y gweithgarwch a amlinellwyd yn y papur yn cael ei gydgysylltu ar draws TfW Group, bod gweithgareddau’n cael eu peilota, bod bysiau yn rhan allweddol o unrhyw ystyriaethau, bod gweithgareddau’n seiliedig ar ddata sylfaenol gan y tîm Dadansoddi Trafnidiaeth, a dylai’r holl berchnogion gweithredol gael eu tynnu ynghyd er mwyn cynnal trafodaeth [Jan Chaudhry i weithredu].
11. Diweddariad ar amserlenni mis Mai a mis Rhagfyr 2022
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar weithredu newidiadau i amserlenni mis Mai a mis Rhagfyr 2022.
12. Cwmpas Depo Treganna a Pullman Rail Ltd
Cymeradwyodd y Bwrdd y gwaith o weithredu cwmpas tri cham y gwaith ar gyfer Depo Treganna a Pullman Rail Ltd a’r trefniadau llywodraethu a rheoli newid sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith. Camau 1 a 2 yw'r gofynion sylfaenol i gynnal y fflydoedd Stadler 231 a 756 newydd yn llwyddiannus. Mae Cam 3, darparu'r Bogie / Underframe Equipment Drop, yn hanfodol er mwyn cyflawni'r gofynion gwasanaeth ar gyfer fflydoedd Stadler. TYNNWYD,
13. Cytundeb Argaeledd a Chynnal a Chadw trenau Dosbarth 230
TYNNWYD
14. Defnyddio darpariaeth seddi dosbarth cyntaf ar fflyd trenau Dosbarth 197
Roedd y Bwrdd yn cefnogi gweithredu opsiwn i beilota cynnyrch ‘uwchraddio ar drên’ lle mae opsiwn premiwm ar gael i gwsmeriaid ar gyfer seddi dosbarth cyntaf heb opsiwn archebu ymlaen llaw ar y fflyd dosbarth 197, yn amodol ar nodi enw addas ar gyfer y cynnyrch.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fynychodd am eu cyfraniadau.