Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 3 Chwefror 2023

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

03 Chwefror 2023

09:00 - 14:00

Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd, ac ar-lein

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd) Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; Alexia Course a Marie Daly.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 6 Ionawr 2023 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y prosiect i nodi opsiynau ar gyfer sicrhau bod digon o hen fflyd ar gael i wneud iawn am golli unedau Cl231 pan fyddant yn cael eu haddasu.

 

2. Sylw i ddiogelwch

Yn ddiweddar cafwyd gyrrwr DB Cargo yn euog o dorri adran 7a o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, a chafodd ei ddedfrydu i wyth mis o garchar a’i gael yn euog o anfon a derbyn negeseuon ar ei ffôn yn ystod ei daith wrth yrru locomotif. Mae nodyn atgoffa wedi cael ei anfon at yrwyr TrC ynghylch y gyfraith a pholisi’r cwmni ar ddefnyddio ffonau symudol.

 

3. Sylw i Gwsmeriaid

Ystyriodd y Bwrdd waith grŵp gorchwyl a gorffen Cynllun Cyflawni Gwasanaeth i Gwsmeriaid Gwasanaethau yn lle Trenau.

 

4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau (Cyfnod: 10 (22/23) 11/12/2022 - 07/01/2023)

Mae graddfa'r newid trawsnewidiol yn dal i effeithio ar ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i gwsmeriaid ond mae lefel dda o ddarpariaeth gwasanaethau tren wedi cael ei chynnal. Gan fod seilwaith sylweddol gwell a cherbydau newydd yn dwyn ffrwyth erbyn hyn, mae timau rheng flaen yn dechrau gweld manteision bod yn rhan o rwydwaith wedi'i drawsnewid gyda dealltwriaeth o'r angen am boen tymor byr er budd y tymor hir. Fodd bynnag, mae streiciau diweddar cwmn'iau tren Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth wedi ychwanegu at gymhlethdod y sefyllfa bresennol, ac wedi cael effaith niweidiol ar hyder teithwyr yn y rheilffyrdd.

Cafodd y Bwrdd wybod am heriau o ran prinder cerbydau yn ystod y cyfnod. Er bod argaeledd y dosbarthiadau 150, 153 a 170, a hen fflydoedd y dosbarth 158 yn well na'r targed ar y cyfan, gan wneud iawn am brinder mewn mannau eraill, mae argaeledd y dosbarth 175 yn dal yn broblem. TYNNWYD.

TYNNWYD

Roedd argaeledd MKIV yn broblem yn ystod y cyfnod gyda dim ond pump o'r wyth swp yn addas ar gyfer gwasanaeth. Trafododd y Bwrdd batrymau gwasanaethu MKIV a chawsant wybod bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu, a bod gwersi'n cael eu dysgu a'u rhoi ar waith, ac y byddant yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd yn y dyfodol agos. TYNNWYD.

TYNNWYD

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • adeiladu mastiau OLE yn Nepo Treganna a'r effaith ar weithrediadau
  • lansio Prosiect Mercury yn llwyddiannus
  • TYNNWYD

Ymunodd Heather Clash a'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am wella cyfraddau sganio goruchwylwyr. Effeithiodd y streiciau yng nghyfnod 10 ar nifer y sganiau ond mae'r comisiwn sganio bellach ar waith i roi cymhelliant ychwanegol i oruchwylwyr. Mae system feddalwedd newydd hefyd wedi cael ei lansio i alluogi rheolwyr goruchwylwyr i weld perfformiad holl aelodau eu t'i'm ar unwaith o ran cyfraddau sganio dyddiol ac wythnosol fesul unigolyn. Hysbyswyd y Bwrdd y dylai hyn helpu rheolwyr i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i wella perfformiad. Hefyd pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau nad oes unrhyw anghysondebau o ran data [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].

Cafodd y Bwrdd wybod, ar ol i'r Adran Drafnidiaeth gyhoeddi HLOS a SoFA CP7, mae rhanbarth Cymru a Gorllewin Lloegr Network Rail wedi gorfod cwtogi'n sylweddol ar ei raglen adnewyddu (yn enwedig adnewyddu traciau) ar gyfer CP7, ac nid oes bwriad i ddefnyddio unrhyw offer allbwn uchel yng Nghymru. TYNNWYD.

TYNNWYD

Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar ddatblygu targedau perfformiad ar gyfer Amey a Network Rail. Croesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed hyd yma gydag Amey a Network Rail. Cytunwyd i wahodd Network Rail i fynychu’r Bwrdd neu RIG i drafod targedau perfformiad [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].

TYNNWYD

 

5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

5b. Adroddiad risg rheilffyrdd

Nododd y Bwrdd yr adroddiad risg ond cytunodd y dylid adolygu’r holl risgiau cyn y cyfarfod nesaf [Cam Gweithredu PAWB]. Roedd y Bwrdd hefyd wedi gofyn am arweiniad ar sut mae risgiau’n cael eu huwchgyfeirio a rhagor o eglurder ynghylch beth sy’n risg a beth sy’n broblem [Cam Gweithredu Leyton Powell]

 

6. Diweddariad masnachol

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad. 

TYNNWYD

TYNNWYD. Cynyddodd darpariaeth y gatiau eto yn P10 i 64.9% Trafododd y Bwrdd yr angen am ddull gweithredu mwy strategol ar gyfer darpariaeth gatiau er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth. Cytunwyd i edrych ar rinweddau gatiau heb staff [Cam Gweithredu Marie Daly] a’r camau cyflym ymlaen posibl cyn datblygu strategaeth fwy tymor canolig, gan gynnwys y cynllun ar gyfer gwella amserlenni gatiau [Cam Gweithredu Marie Daly i’w gynnwys yn adroddiad nesaf y Bwrdd]

The Board were informed that overall cost of sale increased substantially against last period at 17.2% driven by reduced revenue rather than increased costs. The Board requested a breakdown of the cost of constraints that stop or hinder reducing cost of sales, and who/what is imposing those constraints [Action Alexia Course].

 

7. Adolygiad cyllid

TYNNWYD

Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.

 

8. Gosod targedau perfformiad trenau ar gyfer 2023/24

Ymunodd Colin Lea a'r cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd dargedau ac adolygiadau o hyn allan, gan gynnwys yr angen i ddatblygu cyfarfodydd darpariaeth gwasanaethau gyda darparwyr cerbydau.

TYNNWYD

Gadawodd Colin Lea y cyfarfod.

TYNNWYD

 

10. Cynnig prisiau tocynnau Wrecsam Bidston

Ystyriodd y Bwrdd opsiynau i farchnata opsiynau tocynnau amrywiol ar gyfer y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Bidston. TYNNWYD.

TYNNWYD

 

 

11. Cynllun Busnes

Ymunodd Michael Pearce â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y themâu allweddol a’r amserlen ar gyfer datblygu Cynllun Busnes TrC.

Gadawodd Michael Pearce y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.