Ewch i'r tabl cynnwys

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 3 Mawrth 2023

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

3 Mawrth 2023

09:00 - 14:00

Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd, ac ar-lein

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd) Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; Alexia Course a Marie Daly.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 3 Chwefror 2023 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.

 

2. Sylw i ddiogelwch

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y digwyddiadau thermol ar drenau Class 175 yn ddiweddar a’r tarfu a fu ar y rhwydwaith o ganlyniad i hynny. Un peth posibl a allai fod wedi achosi’r digwyddiadau oedd y ffaith bod detritws a malurion wedi cronni o amgylch pen uchaf yr injan. Casglwyd gwybodaeth gan arbenigwyr o ar draws TrC a CAF a dim ond peiriannau y cynhaliwyd archwiliadau uwch arnynt fydd mewn gwasanaeth. Mae’r digwyddiadau wedi achosi newidiadau i amserlenni ar draws y rhwydwaith. Anfonwyd llythyr ffurfiol at CAF ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddiadau cyfredol mewn perthynas â chynnal a chadw cerbydau. Mae Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn fodlon ar y camau a roddwyd ar waith ar gyfer y tymor byr, ac mae’n bosibl y bydd HMRI yn cyflwyno hysbysiad gorfodi. Diolchodd y Bwrdd i Jan Chaudhry van der Velde a’r tîm am eu harweinyddiaeth ac am wneud y penderfyniadau ynghylch diogelwch yn ystod wythnos anodd. 

TYNNWYD

 

3. Sylw i Gwsmeriaid

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am adnewyddu CIS ar draws y rhwydwaith.

 

4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau (Cyfnod Rheilffyrdd: 11 (22/23) 8 lonawr - 4 Chwefror 2023)

Mae effeithiau'r rhaglen drawsnewid yn cael eu teimlo yn y ddarpariaeth gwasanaeth tren drwyddi draw, yng nghyswllt Llinellau Craidd y Cymoedd a rhwydwaith Cymru a'r Gororau fel ei gilydd. Ond, mae timau wedi gwneud yn dda i liniaru'r effeithiau ar deithwyr a chadw lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn uwch na'r targed ar yr un pryd. Mae'r newidiadau ar lawr gwlad yn dod yn fwy amlwg i staff a theithwyr gan roi cipolwg ar y rhwydwaith gwell ar gyfer y dyfodol sy'n helpu i werthu'r buddion yn y tymor hir yn erbyn unrhyw drafferthion yn y tymor byr.

Roedd y perfformiad at ei gilydd yn gymysg ond mae ystyriaethau o ran dibynadwyedd MKIV a Cl175 yn parhau, gan gynnwys cyn y digwyddiadau thermal diweddar. Ond, mae'r trenau 150 a'r hen fflydoedd era ill yn perfformio'n dda. Roedd boddhad cwsmeriaid yn uwch na'r targed ar gyfer y cyfnod.

Lansiwyd Prosiect Mercury yn unol a'r amserlen, ac roedd symud o'r hen systemau meddalwedd i'r rhai newydd wedi mynd rhagddo yn ddidrafferth ar y cyfan.

Trafododd y Bwrdd effaith bosibl y gweithredu diwydiannol arfaethedig ar wasanaethau. Cytunodd y Bwrdd fod angen trafod a Llywodraeth Cymru ynghylch gwerth gofyn i Lywodraeth y DU am eglurder ynglyn a pheidio a nodi y bydd rhai rhannau pwysig o rwydwaith TrC, fel y Gororau neu Ogledd Cymru, yn cael eu cau gan nad ydynt ar y 'brif­linell' [Cam Gweithredu Rob Holmes].

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud a dwyn ceblau; dau achos o Basia Signal yn Beryglus yn ystod y cyfnod; DPA canslo; a'r drefn ansawdd gwasanaeth.

Gadawodd Peter Strachan y cyfarfod.

 

Sa. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad. Gofynnodd y Bwrdd bod fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Rheoli Argyfwng yn cael ei rhannu a bod y Tim Arwain Gweithredol yn cael ei friffio yn y cyfarfod nesaf [Cam Gweithredu Leyton Powell].

 

5b. Adroddiad risg rheilffyrdd

Nododd y Bwrdd yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd bod y Grwp Llywio Cyflawni Rheilffyrdd wedi cynnal adolygiad manwl o'r gofrestr risg yn ddiweddar. Cytunwyd bod angen adolygu'r risg o ffactorau a llano I yn dylanwadu ar berfformiad o ran refeniw teithwyr [Cam Gweithredu Alexia Course].

 

6. Network Rail CP7

Ymunodd David Tunley (Network Rail) ac Anthony McKenna (TrC) a'r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am raglen gynllunio Cyfnod Rheoli 7 Network Rail (CP7), y dull o bennu blaenoriaethau cyllido drwy ymgysylltu a rhanddeiliaid, canlyniadau'r broses ymgysylltu, y weledigaeth ar gyfer 2028, a throsolwg ariannol. Amlinellodd y Bwrdd ei bryderon penodol ynghylch cyllid ar gyfer adnewyddu traciau a'r effaith ar ddibynadwyedd yn ystod CP7. Gofynnodd y Bwrdd am ddadansoddiad o'r lefelau dibynadwyedd a ragwelir ar gyfer Cymru a Lloegr [Cam Gweithredu Anthony McKenna].

Amlinellodd y Bwrdd hefyd ei bryderon ynghylch methiannau sy'n effeithio ar y gwasanaeth , seilwaith y Gororau, Rheilffordd Gogledd Cymru, gwytnwch o safbwynt y tywydd ac ETCS ar Reilffordd y Cambrian. Er y byddai Network Rail a TrC yn cymryd pob cam ar lawr gwlad i liniaru risgiau, mae cynnydd cyffredinol yn y risgiau ar draws y rhwydwaith a allai effeithio ar ddibynadwyedd. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd bod gostyngiad o 5% yng ngwariant Network Rail ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau o'i gymharu a Chyfnod Rheoli 6, gyda gostyngiadau yn y cwmpas o ran adnewyddu asedau, gohirio cynlluniau a'r newid o ran ymyriadau i ailwampio yn hytrach nag adnewyddu'n llawn.

Gadawodd David Tunley ac Anthony McKenna y cyfarfod.

 

7. Diweddariad masnachol

Ymunodd Stephanie Raymond a'r cyfarfod.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

8. Adolygiad cyllid

TYNNWYD

Hysbyswyd y Bwrdd bod llog wedi'i gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ariannol ac, fel y nodir yn y Cytundeb Rheoli, mae'r llywodraeth ganolog yn ei hawlio yn ol ar hyn o bryd. Cytunwyd i drafod y mater a Llywodraeth Cymru [Cam Gweithredu James Price].

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd yr adolygiad ariannol. Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.

 

9. Cyflog

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y trafodaethau ynghylch cyflogau.

TYNNWYD

 

11. Newidiadau i Amserlen 2023

Ymunodd Colin Lea a'r cyfarfod.

Bu'r Bwrdd yn trafod opsiynau ar gyfer newid yr amserlen yn 2023 oherwydd problemau'n ymwneud ag argaeledd cerbydau, cadw cerbydau a'u cynnal, gan gynnwys y sefyllfa o ran cerbydau CAF a'r oedi o ran mwy o hyfforddiant i yrwyr a goruchwylwyr. Ar ol trafod, cytunodd y Bwrdd y dylid mabwysiadu argymhellion y papur, ond pryd bynnag y bo modd, dylid dod ag achosion unigol o uwchraddio'r amserlen i rym cyn gynted ag y bydd yr holl ffactorau parodrwydd yn cael eu cyflawni, cyn dyddiad newid amserlen teithwyr lie bo hynny'n bosibl.

Gadawodd Colin Lea y cyfarfod.

 

11. Teithio am ddim

Cymeradwyodd y Bwrdd set o argymhellion mewn papur ar gyfer delio a cheisiadau am deithio am ddim ar drenau gan unigolion a sefydliadau sy'n dymuno teithio ar y tren lie mae TrC yn talu'r gost, o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

 

12. Targedau perfformiad

Nododd y Bwrdd bapur yn nodi cynigion ar gyfer targedau perfformiad realistig ond ymestynnol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.