Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 30 Ebrill 2021

Submitted by Content Publisher on

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig - Cofnodion y Bwrdd

30 Ebrill 2021

12:30 - 17:00

Lleoliad: ar-lein

 

Yn Bresennol

James Price (JP) (Cadeirydd); Peter Strachan (PS); Heather Clash (HC); Marie Daly (MD); Jan Chaudhry (JC); Alexia Course (AC).

Yn bresennol hefyd: Alun Bowen (Cyfarwyddwr Anweithredol Trafnidiaeth Cymru) a Jeremy Morgan (Ysgrifennydd y Bwrdd). Ymunodd Alan Jones (APJ) ar gyfer eitem 8, Stephanie Raymond (SR) ar gyfer eitem 11 ac ymunodd Colin Lea (CL) ar gyfer eitem 13.

 

Rhan A

1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

2. Hysbysiad Cworwm

Gan fod yna gworwm, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

3. Datganiadau o fuddiannau

Ni ddatgelwyd yr un.

 

4. Achos Diogelwch

Atgoffwyd y Bwrdd o'r angen i aros yn effro wrth groesi ffyrdd a'r risgiau o gymryd llwybr byr, yn enwedig pan nad oeddent yn cael eu gwylio pan fydd y risg o ymlacio a bod yn ddiofal yn cynyddu. Atgoffwyd y Bwrdd hefyd o'r angen i arwain drwy esiampl a phan wneir rheolau, eu bod yn gytbwys ac yn synhwyrol.

 

5. Achos Cwsmer

Ystyriodd y Bwrdd y galw am wasanaethau rheilffyrdd yng nghyd-destun busnesau'n newid eu trefniadau gweithio ar ôl COVID, gyda llawer yn debygol o fabwysiadu mwy o arferion gweithio gartref a gweithio hybrid. Mae angen defnyddio data oddi wrth, er enghraifft, IoD, CBI, FSB, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyflogwyr eraill. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau edrych ar y data hwn [Gweithredu: JP i fynd ar drywydd Lee Robinson a Lewis Brencher]. Gallai gwahanol arferion gwaith effeithio ar refeniw tocynnau Trafnidiaeth Cymru, a chytunodd y Bwrdd y gellid cymryd sawl cam i'w wella gan gynnwys opsiynau tocynnau amgen, cynlluniau teithio wedi'u haddasu a chynlluniau 'rhoi cynnig cyn prynu'.

 

6. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Yn amodol ar fân ddiwygiadau, cymeradwywyd cofnodion Cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig 31 Mawrth 2021 fel cofnod gwir a chywir. Cytunwyd y byddai'r Bwrdd yn darparu camau gweithredu awgrymedig i JM erbyn 5 Mai [Gweithredu - PAWB] ac y byddai polisi golygu yn cael ei ddatblygu i gynnwys Grŵp Trafnidiaeth Cymru [Gweithredu JM].

Adolygodd y Bwrdd ddiweddariadau i'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. Trafodwyd cam gweithredu blaenorol yn ymwneud â gofynion fflyd cerbydau.

Gofynnodd y Bwrdd am eglurhad ynghylch a ellid defnyddio systemau telemataidd yn y fflyd cerbydau presennol [Gweithredu MD].

Trafododd y Bwrdd gamau gweithredu ar warantau ar gyfer y model darparu cynnal a chadw fflyd arfaethedig. 

Nododd y Bwrdd yr angen i gynllunio gwahanol fathau o ddull methu a chamau gweithredu adweithiol y depo i sicrhau na wneir y gwarantau'n annilys. Cytunwyd, pan ddiffinnir y trefniadau cynnal a chadw, y bydd gweithdai'n cael eu cynnal gyda ffitwyr i sicrhau na wneir y gwarantau'n annilys a bod y gweithdai hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun integredig ar gyfer cyflwyno cerbydau [Cam Gweithredu JC a HC].

 

Rhan B

7. Trosolwg lefel uchel o faterion cyfredol

Darparodd JC adolygiad o'r prif faterion a datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf a diweddarodd y Bwrdd ar brosiectau a mentrau arwyddocaol. Y materion allweddol a gododd o'r trosolwg a'r drafodaeth oedd:

  • Mae angen rheoli newidiadau amserlen mis Mai yn ofalus oherwydd bod angen mwy o gapasiti arnynt ond o dan ganllawiau presennol Llywodraeth Cymru arcgyfer cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr lle bo hynny'n bosibl.
  • Bydd y trenau 769 yn cael eu cyflwyno'n raddol i'r gwasanaeth gyda'r pwynt tanwydd yn Rhymni wrthi’n cael ei adeiladu.
  • Mae cynllun ar gyfer y gwaith o wneud cerbydau yn Nhreganna yn cael ei ddatblygu. Cadarnhawyd y bydd dilysiad diogelwch newid yn ei le cyn i'r cynllun gael ei weithredu.
  • Mae gwaith yn parhau i integreiddio'r Trenau Dosbarth 230 a Dosbarth 153/4 i'r gwasanaeth.

 

8. Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Ymunodd Alan Jones (APJ) â'r cyfarfod i roi trosolwg o'r broses adrodd arfaethedig ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol strategol Rheilffyrdd TrC. Ar gyfer pob Dangosydd Perfformiad Allweddol a nodir fel 'coch', bydd perchnogion Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn darparu cynllun gweithredu ar gyfer lliniaru a fydd yn cael ei ddiweddaru'n barhaus drwy'r cylch adrodd er mwyn sicrhau bod fforymau llywodraethu'n cael y wybodaeth ddiweddaraf, gydag unrhyw newidiadau hefyd yn cael eu rhannu â fforymau llywodraethu blaenorol. Cymeradwywyd y broses adrodd arfaethedig.

Trafododd y Bwrdd berfformiad gweithredol drwy ystyried y Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Roedd perfformiad ar draws y grŵp o ddangosyddion darparu gwasanaeth yn gadarnhaol ar y cyfan o ran gwasanaethau a ganslwyd, Amser mae Teithwyr yn ei Golli ac ar amser i dair munud. Er bod cyfanswm y gwasanaethau a ganslwyd yn perfformio'n well na'r targed, mae risgiau o hyd. Yn benodol, mae dibynadwyedd y fflyd yn cael ei fonitro'n ofalus ac mae cynlluniau dibynadwyedd ar gyfer pob dosbarth o gerbydau yn cael eu datblygu. Atgoffwyd y Bwrdd o rai o'r risgiau penodol sy'n gysylltiedig â dibynadwyedd fflyd, gyda'r Pacers yn cael eu tynnu o'r gwasanaeth fel rhan o newidiadau amserlen mis Mai, a dim ond ar un llinell y gellir defnyddio trenau 769. Yn gyffredinol, mae fflydoedd eraill yn perfformio'n dda. Yr her i'r Swyddogion Gweithredol a'r Bwrdd oedd sicrhau bod y ffocws o ran buddsoddi ac adnoddau yn parhau ar y prif fater o ran darparu gwasanaeth o safon ragorol a dibynadwy. Nododd y Bwrdd fod trefniadau ar waith i ddarparu dadansoddiad manylach ar ffurfiannau byr. 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd hefyd am berfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid ac absenoldeb staff. Mae refeniw teithwyr wedi cynyddu tua 4% ond mae'n parhau'n isel o'i gymharu â lefelau cyn COVID.

TYNNWYD

Mae ymosodiadau corfforol a digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ond maent yn parhau'n rhy uchel. Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu i ymchwilio.

 

9. Adroddiad y Bwrdd Rheolwr Gyfarwyddwr - cyfnod 13

Nododd y Bwrdd adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer cyfnod rheilffyrdd 13, ar ôl ymdrin â materion perfformiad eisoes.

 

10. Adroddiad diogelwch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad diogelwch ar gyfer cyfnod rheilffyrdd 13. Mae'r cynllun diogelwch yn dal i gael ei gynhyrchu a chytunwyd y byddai'r drafft cyntaf wedi'i gwblhau mewn pryd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Diogelwch ar 8 Mehefin [Gweithredu JS ac MD]

Bydd Pwyllgor Diogelwch y Bwrdd yn cymryd lle cyfarfod yr Awdurdod Gweithredol Diogelwch fel prif gyfarfod diogelwch y cwmni. PS fydd Cadeirydd y cyfarfod, gan ddarparu her a chraffu annibynnol ar ran Bwrdd Rheilffyrdd TrC. Mae'r cylch gorchwyl a'r agenda sefydlog yn cael eu datblygu [Gweithredu PS, JM].

Nododd y Bwrdd y naratif calonogol ynghylch dangosyddion perfformiad allweddol diogelwch galwedigaethol sy'n parhau i fod yn is na'r ffigurau a ragwelwyd. Roedd holl ganlyniadau dangosyddion perfformiad allweddol diogelwch gweithredol diwedd blwyddyn yn is na'r ffigurau a ragwelwyd. 

Croesawodd y Bwrdd hefyd ganlyniadau cadarnhaol yr Asesiad o adroddiad Archwiliad Glanhau Covid Asesiad Aeddfedrwydd Rheilffyrdd (RM3).

 

11. Adolygiad Ariannol

Ymunodd Stephanie Raymond (SR) â'r cyfarfod. Nododd y Bwrdd adolygiad ariannol Cyfnod Rheilffyrdd 13. Roedd y cymhorthdal gweithredu yn £25.2m a oedd yn ffafriol o +£0.3m o'i gymharu â'r ffigur a ragwelwyd. Roedd Refeniw Teithwyr yn £1.4m, yn llai na'r rhagolwg o -£0.8m oherwydd y cyfyngiadau symud parhaus. Roedd costau gweithredu yn ffafriol yn erbyn y costau a ragwelwyd ar draws pob prif faes. Mae oedi wrth recriwtio yn parhau i arwain at arbedion ffafriol (+£0.4m) a chostau amrywiol fel tanwydd (+£0.2m) a gwasanaeth bws yn lle trên (+£0.4m). 

Roedd cymhorthdal Gwariant Cyfalaf yng nghyfnod rheilffordd 13 yn £34.3m (o'i gymharu â £3.3m yng nghyfnod 12) oherwydd cynnydd sylweddol mewn mentrau cyfalaf.

Nododd y Bwrdd fod y cymhorthdal o £70 fesul taith teithiwr yn uwch na'r cyfnod blaenorol er gwaethaf cynnydd mewn teithiau teithwyr. Cytunwyd bod angen ymchwilio i hyn [Gweithredu SR/MD].

TYNNWYD

 

Rhan C

12. Canolfan Hyfforddi Weithredol Caer

Ystyriodd y Bwrdd gynnig i brydlesu arwynebedd llawr yn The Steam Mill, Caer i ddarparu ar gyfer y lle sydd ei angen ar gyfer llety hyfforddi ac efelychydd newydd yn barod ar gyfer trawsnewid y rhanbarth gogleddol er mwyn cyflawni amserlen Rhagfyr 2022. Amlinellwyd mai'r rhesymau dros ddewis y safle yng Nghaer oedd y lleoliad presennol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddi, amser i deithio i'r rhai a fyddai'n defnyddio'r cyfleuster a Chaer oedd depo mwyaf Rheilffyrdd TrC. Yn dilyn trafodaeth, gohiriodd y Bwrdd benderfyniad ar argymhelliad y papur tra'n aros i ystyriaeth bellach o opsiynau eraill drwy bapur wedi'i ddiweddaru gael ei ddosbarthu y tu allan i'r pwyllgor [Cam Gweithredu MD].

 

TYNNWYD

 

14. Dogfen Fframwaith Drafft

Cymeradwyodd y Bwrdd Ddogfen Fframwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i HC a JC i'w lofnodi'n derfynol [Gweithredu JM, HC a JC].

 

15. UNRHYW FATER ARALL

Cafodd Trafnidiaeth Cymru hysbysiad yr wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno papur i Weinidogion newydd Cymru yn cwmpasu llawer o feysydd polisi, yn gofyn am gyllid cynyddrannol ar gyfer COVID. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ffigurau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cynnwys yn y papur.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau, a daeth â'r cyfarfod i ben.