Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 31 Mawrth 2021
Rheilffyrdd TrC Cyf - Cofnodion Bwrdd
31 Mawrth 2021
13:00 – 17:00
Lleoliad: Ar-lein
Yn bresennol
James Price (JP) (Cadeirydd); Peter Strachan (PS); Heather Clash (HC); Marie Daly (MD); Jan Chaudhry (JC); Alexia Course (AC).
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan (Ysgrifennydd y Bwrdd); Gregg Evans (GE) (Rhan B Eitem 1); Andy Quinton (AQ) (Rhan B Eitem 5) ac Owen Davies (Rhan B Eitem 8).
Rhan A
1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim
2. Hysbysiad Cworwm
Drwy fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan ddatgan bod y cyfarfod ar agor.
3. Gwrthdaro Budd
Ni chafodd unrhyw fudd ei ddatgan.
4. Sylw Cwsmeriaid
Diweddarwyd y Bwrdd ar ymweliadau safle traws-ddiwydiant cydweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth i ddeall y gofynion ar gyfer dilysu lleoliadau stablau ac i adnabod unrhyw bryderon. Roedd gwersi wedi eu dysgu ac yn cael eu cymhwyso i’r prosiect ar reoli rhanddeiliaid, cyfleusterau glanhau ar fwrdd trenau, a diogelwch.
5. Sylw Cwsmeriaid
Gwyliodd y Bwrdd ddwy fideo’n rhoi diweddariad ar ddefnyddio camerâu corff a manteision y cyfarpar hwn i staff a chwsmeriaid.
6. Cofnodion a Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021 fel rhai gwir a chywir.
Bu’r Bwrdd yn adolygu’r diweddariadau i gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol gan ofyn am fwy o wybodaeth am gam gweithredu 8 yn y log, i ganfod a fyddai trefniadau waranti’n cael eu hystyried yng nghytundeb arfaethedig y model i ddarparu cynnal a chadw fflyd [Gweithredu AC].
7. Penderfyniadau a gymerwyd y tu allan i bwyllgor
O ystyried bod TrC ar fin caffael PTI Cymru, cytunwyd y byddai Colin Lea yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr PTI Cymru.
Cymeradwyodd y Bwrdd achos busnes i ddatblygu pwynt tanwydd yn y Rhymni er mwyn dibynnu llai ar safle tanwydd Treganna ac er mwyn gallu ail-lenwi’r trenau Dosbarth 769 dros nos. Bydd y prosiect yn arwain at gynnydd opex blynyddol o £345,000 tan 2023-24 o leiaf, pan fydd y trenau Dosbarth 769 yn cael eu tynnu allan o wasanaeth, ynghyd â chyfraniad cyfalaf o £292,000 yn 2021-22.
Rhan B
1. Sylfeini traciau byr
Ymunodd GE â’r cyfarfod i roi diweddariad ar sylfeini traciau byr. Ar y cyfan mae cydymffurfio â sylfeini traciau diagram yn uchel iawn, dros 90% ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae angen gwelliannau parhaus i rai rhannau o’r rhwydwaith, yn enwedig Llinell y Gororau a rheoli’r fflyd 175. Mae cyfradd ddefnydd y fflyd 175 yn 89% o’i gymharu â 70% ar gyfer gweddill y fflyd, fel bo’r fflyd yma’n llai gwydn. Byddai lleihau’r gyfradd ddefnydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn y system. Mae’r ffocws ar sicrhau bod sylfeini’r traciau’n iawn yn y depo, sy’n well i’r cwsmer ac i berfformiad, fel bod llai o angen cyfnewid trenau. Felly cymerwyd camau i wella’r cyfathrebu rhwng y tîm rheoli a’r fflyd ac i ychwanegu lefel o wydnwch i’r diagramau Dosbarth 175 a fyddai, pe bai angen, yn rhoi opsiynau i’r tîm rheoli gael cyfnewid trenau.
Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod problemau gyda sylfeini traciau byr ar rai o linellau craidd y Cymoedd a rhwng Birmingham a Manceinion. Pan fo angen ar hyn o bryd, gellir defnyddio trenau 143 i ysgafnu’r pwysau ar rai o linellau craidd y Cymoedd ond dim ond tan ddiwedd Mai 2021 y mae’r rhain ar gael, gyda mesurau wrth gefn yna’n cael eu gweithredu drwy ddod â threnau 150 a 769 mewn i wasanaeth. Crëwyd swyddi secondiad 12 mis mewnol i gasglu data gwell am sylfeini traciau byr ac i ddadansoddi perfformiad y fflyd a phenderfyniadau a wneir gan y tîm rheoli.
2. Adroddiad y Bwrdd
Nododd y Bwrdd adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr ar weithgareddau cyfnod 12. Mae gwaith ar y gweill i wella mwy ar weithdrefnau ac arferion diogelwch, hyfforddiant, ymwybyddiaeth rheilffyrdd ac asesiadau risg o waith glanhau. Mae dangosfwrdd adroddiadau rheolwyr yn cael ei ddatblygu. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal archwiliad yn y chwarter nesaf [Gweithredu AC].
TYNNWYD
Yn dilyn darganfod yn chwarter un 2021-22, bydd archwiliad mewnol yn cael ei wneud ar Rheilffyrdd TrC Cyf yn chwarter 2 ar lefel Grŵp TrC i lenwi’r bwlch, gydag archwiliad wedi’i wneud yn flaenorol gan Keolis o dan y trefniadau cytundeb grant blaenorol.
Cytunodd y Bwrdd y dylid monitro achosion canslo a gynlluniwyd oherwydd yr effaith ar y cwsmer.
TYNNWYD
Mae cryn dipyn o amser yn cael ei dreulio ar wella ansawdd ac adrodd data. Cytunodd y Bwrdd y dylai hyn fod yn
flaenorol ac y dylid hysbysu’r Bwrdd o unrhyw lithriad.
Bu’r Bwrdd yn trafod defnyddio’r gwiriwr capasiti a materion gyda defnyddio data byw a hanesyddol. Gall fod angen disodli’r data lle bo’n bosib os oedd yn seiliedig ar ffigurau’r wythnos flaenorol a lle’r roedd data byw ar gael.
Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo trafodaeth bellach i Bwyllgor Datblygu Rhwydwaith TrC [Gweithredu AC].
3. Y broses cynllun busnes
Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd ar broses Cynllun Busnes 2021-22 fydd yn cael ei atodi gan ragolygon 5 ac 20 mlynedd. Bydd y cynllun yn ystyried Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru, llythyr cylch gwaith TrC a dyheadau TrC am fod yn wasanaeth aml-fodd. Roedd y Bwrdd yn cymeradwyo hyn.
4. Adroddiad diogelwch
Briffiwyd y Bwrdd ar Adroddiad yr Awdurdod Diogelwch ar gyfer cyfnod rheilffyrdd 2021 gan nodi ei gynnwys. Er bod nifer isel o ddigwyddiadau SPAD (un dros y cyfnod), cytunodd y Bwrdd â barn yr Awdurdod bod angen mwy o naratif ynghylch pam eu bod yn digwydd a sut y mae risgiau’n cael eu rheoli a’u hadrodd.
Nododd y Bwrdd fod Archwiliadau Meddygol Diogelwch Hanfodol ar ei hôl hi gan ofyn am adolygu pa mor drylwyr oedd y broses hap-brofi cyffuriau ac alcohol [Gweithredu MD].
O ran y depo yn Nhreganna, gofynnodd y Bwrdd am sicrwydd bod tri digwyddiad gweithredu diweddar yn rhai ‘untro’ ac nid yn systemig. Hysbyswyd y Bwrdd fod achosion ‘llwybr’ yn cael eu hymchwilio gydag adolygiad annibynnol i’w gynnal yn y dyfodol agos iawn. Roedd y Bwrdd yn cymeradwyo hyn.
5. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd AQ â'r cyfarfod. Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adolygiad Cyllid. Diolchwyd i AQ am ei waith yn cysoni gwaith TrC â Rheilffyrdd TrC Cyf lle’r oedd prosiectau a gweithgareddau’n gorgyffwrdd i sicrhau dealltwriaeth iawn o gyllid a chyllidebau.
Cadarnhaodd y Bwrdd fod taliadau am yr unedau Marc 4 a Dosbarth 153 i Angel ac Eversholt wedi eu cymeradwyo a’r arian wedi’i ryddhau. O ran capex, roedd peth llithriad mewn gwariant wedi bod ac er y sicrhawyd y Bwrdd nad oedd hyn yn destun pryder, y byddai’n croesawu arweiniad ar unrhyw ganlyniadau. Cadarnhawyd bod y broses i adrodd yn glir yn erbyn cyllidebau ar y gweill ac y byddai’n barod erbyn diwedd Mai / dechrau Mehefin.
Gofynnodd y Bwrdd am adrodd ar sail eithriad lle gallai fod canlyniadau sylweddol a mwy o welededd, er enghraifft, ar gostau llinellau llwybr a pha weithgareddau sy’n fwy proffidiol a thebygol o gynhyrchu mwy o refeniw. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r math o wybodaeth ariannol a gyflwynir iddo i oleuo ei benderfyniadau, a pha mor aml, gael ei drafod rhwng JC, y Tîm Cyllid ac ystyried gwaith blaenorol gan TrC [Gweithredu JC].
Bu’r Bwrdd yn trafod y trafferthion gyda darogan refeniw yn 2021-22. Hysbyswyd y Bwrdd fod rhagolygon refeniw o deithwyr wedi eu paratoi am y flwyddyn ar sail senarios yr Adran Drafnidiaeth ynghyd â rhagdybiaethau’n seiliedig ar wybodaeth leol o’r rhwydwaith. Roedd disgwyl i refeniw teithwyr yn 2021-22 barhau i ostwng yn sylweddol o’i gymharu â’r hyn ydoedd cyn Covid.
TYNNWYD
6. Y gofrestr risg
Mae pob risg hysbys yn yr Adroddiad Bwrdd ynghyd â pherchnogion y risgiau, ac wedi eu hadolygu ar ôl 7 Chwefror. Mae proses wedi’i chychwyn i weld sut i gysoni’r broses rheoli risg â dull TrC o weithredu.
7. Dychwelyd at normalrwydd ac adolygu amserlen 2021
Bu’r Bwrdd yn trafod cael gwasanaethau’n ôl i normal newydd. Mae’n debyg y bydd hyn mewn tri cham (1) bownsio’n ôl dros y 9 mis nesaf, sy’n debygol o olygu rheoli risgiau’n ymwneud â sicrhau digon o gapasiti yng nghyddestun gofynion pellter cymdeithasol; (2) cael pobl yn ôl ar y rhwydwaith a chynyddu refeniw dros y tymor canolig; a (3) cynyddu cyfran ‘farchnad’ TrC yn y tymor hir, a chynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
TYNNWYD
Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod bod angen cynlluniau tocynnu uchelgeisiol gyda phob opsiwn i fod ar gael i annog pobl i ddychwelyd at ddefnyddio’r trenau, cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru. Cytunodd y Bwrdd fod angen edrych yn fwy manwl a gofalus ar y problemau gyda chael pobl i ddychwelyd at ddefnyddio’r trenau mewn cwpwl o wythnosau [Gweithredu JC/MD].
Nododd y Bwrdd y materion ymarferol oedd angen blaenoriaeth, yn enwedig y ddarpariaeth danwydd ychwanegol yn y Rhymni. Hysbyswyd y Bwrdd fod oedi wedi digwydd oherwydd problemau mynediad safle a bod angen i’r ORR gadarnhau gofynion rheoliadol, ond mae gwaith ffisegol ar y gweill ac ar amser ar hyn o bryd. Pwysleisiodd y Bwrdd fod angen dysgu gwersi gyda mynediad safle a chymeradwyo rheoliadol.
TYNNWYD
9. Polisi achos busnes
Mae polisi achos busnes wedi’i ddatblygu mewn ymateb i newidiadau mewn awdurdodau dirprwyedig, trefniadau cyllidebu a newidiadau rôl. Rhoddodd y Bwrdd awdurdod dirprwyedig i HC i gymeradwyo’r polisi achos busnes ar yr amod bod trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â MD i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r matrics dirprwyo cymeradwy [Gweithredu HC].
10. Llinell Wrecsam i Bidston
Bu’r Bwrdd yn trafod y cynnydd ar gynyddu’r gwasanaeth ar linell Wrecsam i Bidston o’r un trên yr awr ar hyn i bryd, i ddau drên yr awr. Mae angen cadarnhad gan Network Rail ar fynediad i’r trac [Gweithredu AC].
TYNNWYD
12. Unrhyw Fusnes Arall
Diolchodd MD i’r Bwrdd am eu cymorth yn ystod ei rôl fel Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Rheilffyrdd TrC. Diolchodd y Bwrdd i MD am fod yn barod i gamu i’r bwlch mewn amgylchiadau anodd.