Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 31 Mawrth 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
31 Mawrth 2023
09:00 - 14:00
Lleoliad: Tŷ San Padrig
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd) Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; Alexia Course a Marie Daly.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiannau
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 3 Mawrth 2023 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf. Trafododd y Bwrdd archwilio rhinweddau dosbarthu cerbydau’r cymoedd [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].
2. Sylw i ddiogelwch
Trafododd y Bwrdd ddigwyddiad diweddar yn nepo Treganna a oedd wedi arwain at fasgedi dau beiriant yn dod ynghyd a difrod yn cael ei achosi i un o’r basgedi wedi’u weldio. Ni chafodd unrhyw gweithredwyr na fforddolwyr eu hanafu ond daeth y gwaith i ben am gyfnod a chynhaliwyd adolygiad trylwyr.
3. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd y targed ‘On Time to 3’ yng nghyd-destun y cytundeb teirochrog a lofnodwyd yn 2022 gan TrC, Network Rail ac AIW sy’n amlinellu mentrau ac atebion ar y cyd i wella perfformiad ar y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.
4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau (Cyfnod: 12 (22/23) 05/02/2023 - 04/03/2023)
Trafododd y Bwrdd y digwyddiadau thermol diweddar ar unedau’r dosbarth 175 a arweiniodd at dynnu’r fflyd gyfan o’r gwasanaeth i deithwyr. Ni chafodd unrhyw deithwyr na staff eu hanafu, ac ni ddaeth unrhyw fwg i mewn i unrhyw un o’r salwnau teithwyr gyda’r amddiffyniad tân yn gweithio’n effeithiol. Cafodd y Bwrdd ddadansoddiad manwl o
faterion cynnal a chadw yn nepo CAF. Ysgrifennwyd at CAF ac mae rhaglen adfer ar waith ar hyn o bryd gyda threfn cynnal a chadw well ar waith. Hysbyswyd y Bwrdd bod y digwyddiadau a’r ymateb wedi profi cadernid a phroffesiynoldeb staff, yn enwedig y rheolwyr a’r rheolwyr adnoddau, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog yn cynnal y gwasanaeth trenau. Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am ei ymateb i’r digwyddiadau.
Cafodd y Bwrdd wybod bod y gwaith o ddarparu gwasanaethau trên yng nghyfnod 12 yn foddhaol ar y cyfan tan faterion y dosbarth 175, ac er bod llawer o’r dangosyddion perfformiad allweddol wedi gorffen y cyfnod yn y coch, roedd y rhan fwyaf wedi gwella dros y cyfnod blaenorol ac roedd boddhad cwsmeriaid wedi aros yn sefydlog.
Mae sawl mater ar y gorwel a fydd yn profi cadernid staff, yn enwedig y cyfyngiad yn Nhreherbert a phrinder cerbydau parhaus.
TYNNWYD
Trafododd y Bwrdd broblemau parhaus o ran darparu a dibynadwyedd posibl fflyd y dosbarth 197, gydag amrywiaeth o faterion yn cael eu hymchwilio, gan gynnwys ystod AdBlue. Cytunodd y Bwrdd y dylid annog CAF i gyrraedd targed cyflawni ac y dylid diweddaru’r Bwrdd ym mhob cyfarfod [Cam Gweithredu Alexia Course].
Cafodd y Bwrdd wybod am lif newydd o nwyddau ar Reilffordd y Cambrian a allai ddod yn barhaol ac, os rhoddir hawliau mynediad, gallai effeithio ar gam olaf cynllun gwella amserlenni Cymru a’r Gororau. Cytunodd y Bwrdd y dylid trafod y mater gyda Llywodraeth Cymru [Cam Gweithredu Alexia Course].
5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd yr adroddiad gyda dangosyddion perfformiad yn gogwyddo tuag at y cyfeiriad cywir.
5b. Adroddiad risg rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd ar nifer o fân ddiwygiadau.
6. Cyllid
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am y gwaith caled wrth i’r flwyddyn ariannol ddod i ben.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i greu cynllun pum mlynedd lefel uchel, trefniadau archwilio allanol, prosesau a chysoni cyfrifon teithwyr, a gwaith y ffrwd waith ‘Polisïau / Prosesau’ Asedau Sefydlog.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad. Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
7. Adolygiad masnachol
Nododd y Bwrdd yr adolygiad masnachol a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am refeniw - gan gynnwys effaith ymgyrchoedd marchnata diweddar, y galw, segmentu teithiau, teithio heb docyn, cyfraddau sganio a darpariaeth wrth y gatiau. TYNNWYD. Nododd y Bwrdd hefyd y gallai cyfraddau sganio gael eu tanddatgan oherwydd problemau gyda dyfeisiau llaw’r goruchwyliwr.
8. Diweddariad marchnata
Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod i ddarparu diweddariad marchnata yng nghyd-destun cydnabod yr her twf refeniw sylweddol o ran cynyddu’r galw am wasanaethau rheilffyrdd yn y tymor byr a’r tymor hirach. Er bod ymgyrchoedd marchnata diweddar wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, mae angen rhagor o arloesi ar gyfer yr heriau refeniw nawr ac yn y dyfodol. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i seilio ymgyrchoedd yn y dyfodol ar segmentu, defnyddio sianeli digidol TrC ei hun - yn enwedig ap TrC, a’r prif flaenoriaethau, heriau, cyfleoedd a’r camau nesaf.
Gadawodd James Price a Heather Clash y cyfarfod. Cymerodd Peter Strachan yr awenau fel Cadeirydd.
9. Strategaeth B2B
Cymeradwyodd y Bwrdd gyfres o argymhellion i foderneiddio’r gwasanaeth B2B er mwyn gallu tyfu yn y dyfodol, yn seiliedig ar ail-frandio, digideiddio, gwella cynnyrch a gwasanaethau, a newid y model gweithredu.
11. Model gweithredu cyfnewidfa gorsafoedd
Nododd y Bwrdd bapur yn darparu crynodeb lefel uchel o waith diweddar i adolygu model gweithredu gorsafoedd, yn benodol ynghylch cynlluniau i greu gweithlu mwy ystwyth ar draws gatiau a swyddfeydd tocynnau. Croesawodd y Bwrdd y diweddariad ond gofynnodd am gyflymu’r gwaith. Nododd y Bwrdd fod tueddiadau calonogol o ran gwella cydymffurfedd gatiau yn erbyn y targed a lefelau darpariaeth gwasanaethau wedi’i phwysoli, ond y dylid adolygu’r pwysoliadau [Cam Gweithredu Alexia Course a Marie Daly]. Hefyd gofynnodd y Bwrdd am gynnal trafodaeth â Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd ynghylch rhoi system fonitro oddi ar y safle ar waith [Cam Gweithredu Marie Daly].
Daeth y cyfarfod i ben a diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.