Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 4 Chwefror 2022
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
4 Chwefror 2022
09:00 - 1400
Lleoliad: Llys Cadwyn
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd); Jan Chaudhry; Heather Clash; Alexia Course; Marie Daly a Peter Strachan.
Hefyd yn bresennol: David O’Leary a Jeremy Morgan.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim wedi’i ddatgan.
2a. Sylw i Ddiogelwch
Daethpwyd o hyd i graciau ar fraced damper Class 170 yn ystod archwiliad wedi’i drefnu yn Nhreganna. Canfu archwiliadau pellach fod craciau tebyg ar bob uned tri cherbyd yn y depo. Ar ôl asesiad technegol, gan gynnwys cymorth gan gwmni ymgynghori annibynnol (TESCO), penderfynwyd nad oedd y mater yn debygol o achosi datgysylltu llwyr. Rhoddwyd trefn fonitro ar waith yn ogystal â gohebu gyda TOCs sy’n defnyddio’r un unedau. Roedd Porterbrook yn ymwybodol o’r mater a bu ymholiadau ynghylch a ddylai TOCs fod wedi cael yr wybodaeth hon.
2b. Sylw i Gwsmeriaid
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain a TrC wedi datblygu ‘lle diogel’ yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae’r ardal yn amgylchedd diogel i unrhyw un sydd angen help neu sy’n teimlo’n fregus. Mae’r cyfleuster yn lle diogel i dîm plismona cymdogaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig siarad ag unrhyw un sydd â phryderon diogelu neu lesiant, gan ganiatáu i swyddogion gynnal ymholiadau gyda pherthnasau neu asiantaethau partner heb orfod mynd â phobl i orsaf heddlu.
Anfonwyd llythyr diolch at staff a oedd yn gysylltiedig â chau’r hysbysiad gwella PTI ORR. Roedd y rhai a dderbyniodd y llythyr yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y Bwrdd yn cydnabod y gwaith a wnaed.
3. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar 7 Ionawr 2022 yn gofnod gwir a chywir.
Nodwyd y log Camau Gweithredu.
4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddw
Yn ystod tair wythnos gyntaf cyfnod 10, gwelwyd cynnydd o ran canslo gwasanaethau yn gysylltiedig â chriwiau trenau fel gyrwyr, goruchwylwyr a staff eraill ddioddef o’r amrywiolyn Omicron. Camwyd yr amserlen i lawr ddwywaith, gyda’r ail gam i lawr ar 3 Ionawr yn darparu’r sefydlogrwydd angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth trên. Arweiniodd hyn at berfformiad llawer gwell yn ystod wythnos olaf y cyfnod, ac yn yr wythnosau ers hynny, yn enwedig o ran canslo.
Roedd refeniw teithwyr wedi gostwng yn sylweddol i 45% o’r sefyllfa cyn Covid. TYNNWYD.
Mae’r holl gyfarwyddwyr perthnasol bellach yn mynychu cyfarfod llywodraethu cynllunio adnoddau ar draws y cwmni cyfan ar ddyddiau Mawrth wythnos 2. Gan ddefnyddio offer newydd i fodelu gyrwyr a goruchwylwyr, mae’r cyfarfod yn archwilio rhybuddion cynnar o brinder yn y sefydliad, yn dilysu bod recriwtio’n digwydd yn y depos cywir ar y lefelau cywir, yn sicrhau cynllunio ar gyfer hyfforddiant trawsnewid, yn llunio amserlenni gwell i’r dyfodol, ac yn rheoli risgiau cysylltiedig.
Hysbyswyd y Bwrdd bod y lefelau absenoldeb o 5% yn rhy uchel, gyda’r Tîm Arwain Estynedig nesaf yn rhoi sylw i leihau absenoldeb oherwydd salwch fel ei brif thema.
Dywedodd AIW fod y gwaith ar atgyweirio Pont Stryd Adam yng nghanol Caerdydd yn mynd rhagddo. Atgoffwyd y Bwrdd ei bod yn bwysig bod y gwaith atgyweirio hwn yn cael ei gwblhau mewn pryd i alluogi amserlen Mai-22 i adfer patrwm arferol gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd, a rhoi terfyn ar ddefnyddio platfform 7 yng ngorsaf Caerdydd Canolog fel man terfynu ar gyfer gwasanaethau Radur a Threherbert.
TYNNWYD
Mae fersiwn drafft o’r adroddiad archwilio mewnol ar y Gymraeg wedi cael ei lunio ac roedd yn cynnig sicrwydd rhesymol. Cydnabyddir bod risgiau’n parhau gydag ymchwiliadau parhaus Comisiynydd y Gymraeg ynghylch diffyg cydymffurfio PIS a chrynodebau data ar yr Ap/Gwefan. Mae cais diwygiedig i Gomisiynydd y Gymraeg yn cael ei baratoi yn gofyn am ymestyn dyddiadau cydymffurfio mewn nifer o feysydd: TVMs, PIS, Gwybodaeth Fyw a'r Fewnrwyd. Gofynnodd y Bwrdd am ymateb i’r Archwiliad Mewnol gan Lee Robinson [Gweithredu Lee Robinson].
TYNNWYD
Trafododd y Bwrdd yr angen i sicrhau hawliau mynediad gan Network Rail ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer pedwar trên yr awr.
5. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adroddiad Sicrhau Diogelwch.
6. Cyfrifon Rheoli
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer Cyfnod 10 y Rheilffyrdd.
Cyflwynwyd cyllideb ar gyfer 2022/23 i’r Bwrdd. TYNNWYD.
Cymeradwyodd y Bwrdd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23.
7. Diweddariad masnachol
Mae’r sefyllfa fasnachol yn gwella ac yn symud tuag at adferiad ar ôl effaith Omicron. Bydd y cynnydd bach yn y niferoedd sy’n teithio heb docyn yn galw am ffocws newydd i helpu i ddiogelu refeniw yn well ar draws y rhwydwaith. Roedd arenillion cryf hyd at fis Rhagfyr 2021, ond mae hyn wedi gwanhau dros y misoedd diwethaf yn bennaf oherwydd gostyngiad yn y defnydd o wasanaethau pellter hir. Mae cost gwerthu hefyd wedi cynyddu yn ystod y cyfnod diwethaf, efallai o ganlyniad i ostyngiad tymor byr mewn tocynnau clyfar wrth symud i’r ap newydd a chyfyngiadau covid.
TYNNWYD. Mae’r cynnydd mewn refeniw teithwyr yn cael ei sbarduno’n bennaf gan dri ffactor; y gwaith parhaus o adfer y galw wrth i gyfyngiadau cymdeithasol COVID-19 lacio, y gwelliannau o un flwyddyn i’r llall yn y niferoedd sy’n teithio heb docyn yn ystod hanner cyntaf FY2023 a’r refeniw disgwyliedig a gynhyrchwyd drwy weithgareddau marchnata.
Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen am ymgyrchoedd adfer effeithiol, uchel eu heffaith ac wedi’u targedu. Hysbyswyd y Bwrdd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei sêl bendith eto ar gyfer lansio’r ymgyrch adfer arfaethedig. Roedd y Bwrdd yn bryderus y byddai hyn yn rhy hwyr [Gweithredu - James Price i drafod dyddiad dechrau’r ymgyrch adfer gyda Llywodraeth Cymru].
Trafododd y Bwrdd y potensial i hyrwyddo ap TrC yn fwy gweithredol a chawsant wybod y disgwylir rhagor o ddatblygiadau ym mis Mai/Mehefin eleni.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno'n ddiweddar ar gynnydd RPI +0% ym mhrisiau tocynnau o fis Mawrth eleni ymlaen, 1% yn is na'r disgwyl.
8. Strategaeth y fflyd
Trafododd y Bwrdd y rhaglenni cerbydau newydd a rhaeadrol sydd wedi wynebu nifer o heriau ac oedi dros y misoedd diwethaf. Pe na bai'r rhain yn cael sylw, gallai hyn effeithio ar nifer y trenau sydd ar gael ac felly ar ddarparu gwasanaethau. Cyflwynwyd nifer o opsiynau lliniaru ar gyfer y cerbydau er mwyn darparu fflyd gadarn a sicrhau bod ymrwymiadau gwasanaeth yn cael eu bodloni, a bod yna ddigon o gapasiti. TYNNWYD.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i nifer o gamau gweithredu [Gweithredu Alexia Course ac Andrew Gainsbury] ynghylch y Mark 4 ychwanegol:
TYNNWYD
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau a phawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau.