Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 4 Mawrth 2022

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

4 Mawrth 2022

09:00 - 1400

Lleoliad: Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd); Jan Chaudhry; Heather Clash; Alexia Course; Marie Daly a Peter Strachan.

Hefyd yn bresennol: David O’Leary a Jeremy Morgan. Ymunodd Tristan Guyard, Rob Hale ac Andrew Gainsbury ar gyfer eitem 6. Ymunodd Stephanie Raymond ar gyfer eitem 8. Ymunodd Stuart Elliot a Dave Williams ar gyfer eitem 9. Ymunodd Colin Lea ar gyfer eitem 12.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Yn ddiweddar, rhyddhaodd RAIB ei adroddiad interim yn dilyn gwrthdrawiad rhwng trenau i deithwyr yng Nghyffordd Twnnel Salisbury ar 31 Hydref 2021. Roedd y canfyddiadau’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chyflwr y cledrau, gyrru trenau, signalau a rheoli adlyniad isel. Mae timau mewnol wedi adolygu’r adroddiad i nodi mesurau sydd ar waith i liniaru risgiau o drenau’n llithro. Ar y cyd â Network Rail ac AIW, mae cyfres o archwiliadau wedi cael eu cynnal i sicrhau bod mesurau lliniaru’r hydref yn cael eu cyflawni’n barhaus.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Cynhaliwyd y sesiwn Mapio Prosesau’r Gadwyn Gwerth gyntaf ar Wybodaeth i Gwsmeriaid ar 3 Chwefror. Roedd yn cynnwys cydweithwyr yn y swyddfa ac yn y rheng flaen o weithrediadau cyfredol, cynllunio gweithredol, gorsafoedd, profiad cwsmeriaid a goruchwylwyr. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth i gwsmeriaid. Bydd y Bwrdd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am allbynnau a chanlyniadau’r sesiynau dros y misoedd nesaf.

 

3. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar 4 Chwefror 2022 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y log camau gweithredu gyda sawl eitem wedi’u cau.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roedd y perfformiad yn y cyfnod wedi gwella’n sylweddol ar ôl cyfateb y cyflenwad o griwiau trenau â’r lefelau llai o wasanaethau trên a lefel y galw gan deithwyr ar draws y rhwydwaith. Mae cynnydd aml-gam yn nifer y milltiroedd sy’n cael eu hamserlennu bellach ar y gweill sy’n adlewyrchu’r cynnydd graddol yn y galw, gwelliannau mewn lefelau absenoldeb a throsglwyddo gyrwyr a goruchwylwyr o raglenni hyfforddi parhaus. Mae’r cynnydd yn parhau drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth, a bydd amserlen lawn mis Rhagfyr 2021 yn cael ei hadfer ar 27 Mawrth.

Hysbyswyd y bwrdd na chafodd y cytundeb gweithio diwrnod gorffwys ar gyfer gyrwyr ei adnewyddu ddiwedd mis Ionawr ac na chafwyd cytundeb am bythefnos. Er gwaethaf hyn, cafodd lefelau gwasanaeth eu cynnal ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 12 Chwefror, ac aeth y diwrnod heibio heb unrhyw ddigwyddiad. Mae cytundeb gweithio diwrnod gorffwys newydd ar waith erbyn hyn, ond dim ond tan fis Awst 2022 y cafodd ei gymeradwyo.

Mae argaeledd a dibynadwyedd Class 769 wedi bod yn gwella’n gyson. Fodd bynnag, profodd y setiau MkIV yn llai dibynadwy eto yn ystod y cyfnod.

TYNNWYD

Mae presenoldeb y goruchwyliwr yn y salwnau yn flaenoriaeth ar gyfer y tîm rheoli goruchwylwyr. Mae cyfraddau sganio tocynnau wedi cynyddu i 167,000, sy’n 27.4%. Roedd. TYNNWYD ac roedd y ddarpariaeth wrth y giatiau yn erbyn yr amserlenni presennol yn 91.8% ac mae’n dal i wella. Cytunodd y Bwrdd fod angen gwella’r cyfraddau sganio.

Roedd y rhan fwyaf o ddangosyddion diogelwch o fewn y targed, ond mae’r ffocws o hyd ar afreoleidd-dra wrth anfon trenau TYNNWYD. Roedd dwy enghraifft yn ystod y cyfnod. Roedd un SPAD Cat A yn ystod y cyfnod a oedd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad risg isel. Mae ymchwiliad ar y gweill.

TYNNWYD

Nid yw hawliau mynediad ar gyfer amserlen dau drên yr awr rhwng Wrecsam a Bidston o fis Mai 2022 ymlaen wedi cael eu caniatáu o hyd. Yn ystod mis Chwefror, cyflwynodd yr ORR amrywiaeth o gwestiynau i’r ddau barti, sydd bellach wedi cael eu hateb, ac mae’r ORR yn ystyried y camau nesaf. Hysbyswyd y Bwrdd ei bod yn ymddangos yn fwyfwy annhebygol y bydd y mater yn cael ei setlo mewn pryd ar gyfer newid amserlen Mai-22. Mae argaeledd unedau Class 230 yn parhau i fod yn broblem, gan arwain at hyfforddiant achlysurol i yrwyr a goruchwylwyr.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd deithio heb docyn a dywedwyd wrthynt y bydd y strategaeth yn cael ei hailystyried ar sail arferion da ac y bydd yn cael ei rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

5. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adroddiad Sicrhau Diogelwch.

 

 

6. Strategaeth a chynllun ar gyfer y fflyd o drenau newydd a dros dro

Ymunodd Tristan Guyard, Rob Hale ac Andrew Gainsbury â’r cyfarfod i gyflwyno’r strategaeth bresennol ar gyfer fflyd o drenau newydd a dros dro ar gyfer CAF EiS, CVL EiS, Class 150s, MKIV ac ymestyn les Class 769, 150 a 153.

Nododd y Bwrdd y diweddariad gan nodi’r rhyngddibyniaethau cymhleth gyda rôl, cyfrifoldebau, ymgysylltiad ac adnoddau Network Rail; yr angen i ystyried goblygiadau gwleidyddol; a thrafodaethau partneriaeth strategol parhaus gyda Stadler.

TYNNWYD

Cytunodd y Bwrdd hefyd i uwchgyfeirio trafodaethau gyda’r Adran Drafnidiaeth ynghylch trenau Class 150 a 175 [Cam Gweithredu James Price ac Alexia Course].

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am MkIV. Yn y cyfarfod diwethaf, gofynnwyd am gyllid ychwanegol ar gyfer MKIV ychwanegol na chafodd ei gymeradwyo ond cafodd cyfres o gamau gweithredu eu dileu. Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hynny. Gofynnodd y Bwrdd am achos busnes diwygiedig a oedd yn cynnwys senario waethaf posibl [Cam Gweithredu Alexia Course ac Andrew Gainsbury]a fyddai’n gofyn am gymeradwyaeth gan y pwyllgor.

 

7. Diweddariad masnachol

Cafodd y Bwrdd y diweddariad masnachol ar gyfer cyfnod 11 a chafodd wybod bod y sefyllfa ar draws nifer o fetrigau wedi gwella ers i’r adroddiad gael ei ysgrifennu. Nododd y Bwrdd fod Refeniw/galw wedi cael ei adfer yn 2022/C11, ar ôl gostwng yn sylweddol yn 2022/C10 yn sgil achosion o Omicron. Mae’r ddarpariaeth wrth y giatiau wedi gwella ac roedd sganio ar drenau’n cael ei ddarparu yn 2022/C11, gyda TYNNWYD. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn rhoi darlun cwbl gywir gan fod y ffigur hwn yn seiliedig ar samplu ar linell y Gororau yn unig. Cytunodd y Bwrdd fod angen ailsefydlu llinell sylfaen y mesur.

Nododd y Bwrdd y blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr o ran cyflawni cynllun Twf y Rhwydwaith ar gyfer 2022/23 a lansio gweithgarwch marchnata i gefnogi cynllun peilot Payzone.

 

8. Cyfrifon Rheoli

TYNNWYD

 

10. Turn olwynion Caergybi

Trafododd y Bwrdd y broses o gaffael turn olwynion ar gyfer depo Caergybi. Y Bwrdd:

  • yn cytuno bod trefniadau llywodraethu priodol wedi cael eu dilyn ar gyfer caffael y turn olwynion a'r cam dylunio;
  • TYNNWYD
  • yn cymeradwyo'r gwariant cyfalaf cyflym ar gyfer turn olwynion, lefel y gwariant i'w sefydlu yn ystod y broses negodi; ac
  • yn cymeradwyo trm y prosiect Cerbydau i ymrwymo i Gytundeb Fframwaith SCAPE a phenodi Balfour Beatty i gyflwyno GRIP 4 i GRIP 8 ar gyfer Cyfleuster Turn Olwynion yng Nghaergybi.

 

11. MKIV

Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud ag argaeledd a dibynadwyedd MKIV a'u nodi.

 

12. Effaith gweithio diwrnod gorffwys

Ymunodd Colin Lea a'r cyfarfod i nodi ystyriaethau ynghylch sut gallai gweithio ar ddiwrnodau gorffwys effeithio ar argaeledd adnoddau a'r broses o gyflawni amserlenni ar gyfer goruchwylwyr a gyrwyr. Nododd y Bwrdd ddadansoddiad o ffigurau'r sefydliad fesul depo; gofynion diagram ar gyfer gwahanol senarios amserlen; gwyliau blynyddol / cyfraddau salwch; amserlenni'r criwiau sy'n gweithio ar ddiwrnodau gorffwys; a ffigurau gwaith ar gyfer diwrnodau gorffwys yn y gorffennol. Nododd y Bwrdd y dadansoddiad.

 

13. Effeithiolrwydd y Bwrdd

Cytunodd y Bwrdd i ymrwymo i gynnal adolygiad mewnol o effeithiolrwydd y bwrdd i gyd-fynd ag egwyddorion Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU. Cytunwyd i ddod a methodoleg ddrafft i'r cyfarfod nesaf [Cam Gweithredu Jeremy Morgan].

 

Unrhyw fater arall

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd sut mae TrC yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu rheilffyrdd Prydain Fawr. Cytunwyd i uwchgyfeirio materion sy’n peri pryder. Cytunodd y Bwrdd i ddarparu teithio am ddim i ffoaduriaid o Wcrain.