Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 6 Ionawr 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
6 Ionawr 2023
09:00 - 14:00
Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd, ac ar-lein
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd); Peter Strachan, Heather Clash, Jan Chaudhry, Alexia Course a Marie Daly.
Hefyd yn bresennol: Alun Bowen a Jeremy Morgan.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a dymunodd flwyddyn newydd dda i bawb.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.
2. Sylw i ddiogelwch a chwsmeriaid
Adolygodd y Bwrdd y defnydd o gamerâu corff.
3. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau
Mae gwaith trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, yn ogystal â delio â materion sy’n ymwneud â hyfforddi criwiau trenau, gweithredu’r system reoli, effeithiau tymhorol a streiciau, yn parhau i herio gwasanaethau bob dydd. Cytunodd y Bwrdd fod angen dysgu gwersi o’r tarfu a achoswyd gan y gwaith trawsnewid.
Cafwyd un achos o basio signal yn beryglus (SPAD) o ganlyniad i broblem dechnegol yn ystod y cyfnod. Mae’r gyrrwr wedi ymgymryd â sesiynau briffio a hyfforddiant. Gwelwyd cynnydd bach yn y Mynegai Marwolaethau wedi’i Bwysoli.
Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â dibynadwyedd, yn enwedig gyda threnau Mark IV a Class 769.
TYNNWYD
4a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at ddigwyddiad y mae Grŵp TrC, yn hytrach na Rheilffyrdd TrC Cyf, yn gyfrifol amdano. Mae angen adrodd yn ôl ar hyn i awduron yr adroddiad [Jeremy Morgan i weithredu].
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
4b. Adroddiad risg rheilffyrdd
Trafododd y Bwrdd y risg o ffactorau allanol yn effeithio ar refeniw teithwyr a chytunodd y dylid gostwng y sgôr ar ôl lliniaru [Alexia Course i weithredu].
Cytunwyd hefyd i adolygu’r risg o ran effaith costau byw uwch ac effaith wael y gaeaf ar gwsmeriaid a chymunedau [Leyton Powell i weithredu].
Nodwyd yr adroddiad risg.
5. Y diweddaraf am y Cynllun Rheoli Argyfyngau
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad o’r Cynllun Rheoli Argyfwng a chawsant wybod bod ymarferion yn cael eu cynnal a bod y gwersi a ddysgwyd wedi cael eu cofnodi, gan gynnwys ymarferion aml-asiantaeth. Mae adolygiad llawn yn cael ei gynnal gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn sgil adolygiad Arena Manceinion.
TYNNWYD
6. Diweddariad masnachol
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
Trafodwyd sganio tocynnau gan y Bwrdd, yn ogystal â’r gwelliannau sydd eu hangen i gynyddu cyfraddau ac i ddeall y rheswm sylfaenol dros ddiffyg cydymffurfio. TYNNWYD.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
7. Adolygiad cyllid
TYNNWYD
Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
8. Cynnig costau gwerthu
TYNNWYD
9. Cynnig contract Rheoli Cyfleusterau
Derbyniodd y Bwrdd argymhelliad i benodi VINCI Facilities Management Ltd fel y partner cyflenwi nesaf ar gyfer Rheoli Cyfleusterau, yn amodol ar drafodaethau contract terfynol a chytundebau cyfreithiol a fydd yn cael eu cwblhau ym mis lonawr a mis Chwefror 2023 cyn dyddiad dechrau'r contract, sef 1 Ebrill 2023.
10. Strategaeth cyflwyno Llinellau Craidd y Cymoedd yn raddol
Ymunodd Steve Whitley a'r cyfarfod.
TYNNWYD
Gadawodd Steve Whitley y cyfarfod.
11. Diweddariad ar y trenau 230
TYNNWYD
13. Craven Arms
Ymunodd Paul Peters a'r cyfarfod.
TYNNWYD
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.