Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 7 Ionawr 2022

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

7 Ionawr 2022

09:00 - 12:30

Lleoliad: ar-lein

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd); Jan Chaudhry; Heather Clash; Alexia Course; a Peter Strachan.

Hefyd yn bresennol: David O’Leary a Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Anfonodd Marie Daly ei hymddiheuriadau.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Gwyliodd y Bwrdd fideo o system CIRAS ar gyfer rhoi gwybod am bryderon iechyd, lles a diogelwch. Hysbyswyd y Bwrdd bod y system yn darparu lefel ychwanegol o dryloywder a rhwyd ddiogelwch ar gyfer problemau sydd wedi’u nodi. Rhoddwyd gwybod am ddau ddigwyddiad drwy’r system yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Trafododd y Bwrdd Ymgyrch Genesis (sy’n cynnwys pob gorsaf) ac Ymgyrch Garland (ar gyfer Gorsaf Caer) i ddarparu diogelwch ychwanegol mewn gorsafoedd dros gyfnod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Cymorth ychwanegol blynyddol ar gyfer gwahanol weithrediadau. Roedd yr ymgyrchoedd yn canolbwyntio ar asesu a oedd pobl yn berygl iddyn nhw eu hunain ac eraill os oeddent yn feddw. Dosbarthwyd dros 1,500 o orchuddion wyneb, gwrthodwyd teithio i 68 o bobl a gofynnwyd i 156 o gwsmeriaid sobri cyn teithio.

 

3. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar 10 Rhagfyr 2021 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y cofnod camau gweithredu.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roedd perfformiad gwael o ran gwasanaethau trên yng Nghyfnod 9, a hynny’n bennaf oherwydd tywydd gwael, effaith coed marw, afiach neu ar ddarfod (DDD) a chyfyngiadau cyflymder 40mya yn sgil hynny. Hysbyswyd y Bwrdd bod Network Rail yn atebol am wneud iawn am ddifrod i unedau dros £10,000. Fodd bynnag, mae Network Rail yn cyhoeddi hysbysiadau force majeure pan fydd stormydd wedi’u henwi sy’n ei indemnio rhag unrhyw hawliadau. TYNNWYD.

Cafodd newidiadau i amserlenni mis Rhagfyr 2021 eu rhoi ar waith ac roeddent yn dangos rhai arwyddion cadarnhaol cynnar. Fodd bynnag, nid oedd modd profi’r amserlen newydd yn iawn oherwydd dyfodiad Omicron a phrinder staff dilynol oherwydd salwch a’r angen i ddefnyddio amserlen argyfwng gyfyngedig. Mae’r lefelau salwch bellach yn dechrau gwella, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ail-weithredu’r amserlen wreiddiol a gynlluniwyd ym mis Rhagfyr 2021 gyda mwy o gadernid.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd gynlluniau posibl o ran defnyddio cerbydau a dywedwyd wrtho y bu cyfle, ar ôl ailystyried y tybiaethau ynghylch cwblhau seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, i ailedrych hefyd ar y rhaglen hyfforddi gyrwyr a goruchwylwyr a’r cynlluniau defnyddio cerbydau yn y cyfnod sy’n arwain at fis Rhagfyr 2024.

Adroddwyd ar dri SPAD Cat A yng Nghyfnod 9 sy’n destun ymchwiliad. Roedd un o’r digwyddiadau wedi’i achosi am fod y prif signal wedi’i roi ar y ddaear oherwydd bod y polyn signal wedi cael ei ddymchwel pan ddaeth trên oddi ar y cledrau yn Balderton. Trafododd y Bwrdd a oedd hyn wedi cynyddu’r tebygolrwydd o anhap, er bod gyrwyr yn cael eu briffio. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd hyn yn rhan o’r ymchwiliad.

TYNNWYD

Mae goruchwylwyr yn parhau i wneud cyhoeddiadau â llaw i roi gwybod i gwsmeriaid am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb. Mae hyn yn ychwanegol at gyhoeddiadau awtomatig sydd wrthi’n cael eu llwytho i fyny i 
systemau cyhoeddi awtomatig y trenau. Nodwyd bod y cydymffurfio wedi gwella wrth i ofynion Cymru a Lloegr ddod yn fwy cyson â’i gilydd a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ddarparu gorfodaeth fwy llym. Dosbarthwyd masgiau hefyd i gwsmeriaid, a gwrthodwyd hawl i gwsmeriaid deithio oherwydd diffyg cydymffurfio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig. 

Nododd y Bwrdd fod ansawdd y gwasanaeth mewn gorsafoedd yn gyson is nag ar y fflyd a’i fod wedi gostwng dros y cyfnodau rheilffyrdd diwethaf. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhywfaint o ffocws ychwanegol ar hyn er mwyn deall pam mae hyn yn digwydd a sut y gellir gwneud gwelliannau [Gweithredu Jan Chaudhry]

Yn dilyn trafodaeth ar wasanaethau trafnidiaeth ffordd yn lle trenau, cytunodd y Bwrdd fod angen cynllun gweithredu ar gyfer gwella, yn delio’n arbennig â gwasanaethau newydd mewn gorsafoedd sydd heb staff neu sy’n cael eu staffio’n rhannol, mewn cyfarfod yn y dyfodol [Gweithredu Jan Chaudhry].

 

5. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adroddiad Sicrhau Diogelwch. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar gydymffurfio â deddfwriaeth gwahanu gwastraff [Gweithredu Jeremy Morgan]

TYNNWYD

 

6. Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer Cyfnod 9 y Rheilffyrdd.

 

7. Turn olwynion Gogledd Cymru

Ymunodd Simon Olorenshaw â’r cyfarfod. Trafododd y Bwrdd gynnig i osod turn olwynion newydd dan y llawr yn depo Caergybi, a ddewiswyd fel y lleoliad mwyaf addas, TYNNWYD. Cytunodd y Bwrdd â’r achos am durn 
olwynion yng Ngogledd Cymru ac mai Caergybi oedd y lleoliad cywir. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd fod angen gwneud rhagor o waith i wneud y canlynol:

  • datblygu strategaeth fasnachol ar gyfer prynu’r turn olwynion [Gweithredu Simon Olorenshaw/Alexia Course];
  • sicrhau y cydymffurfir â’r MSA [Gweithredu Simon Olorenshaw/Alexia Course];
  • sicrhau cynnyrch hyfyw sylfaenol o ran cefnogi seilwaith sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian [Gweithredu Simon Olorenshaw/];
  • a sicrhau bod cyllid ar gael [Gweithredu Simon Olorenshaw/Alexia Course].

 

8. Diweddariad masnachol

Nododd y Bwrdd y diweddariad masnachol.

Cymeradwyodd Bwrdd TrC yr achos busnes Talu-wrth-Ddefnyddio ynghyd â’r strategaeth liniaru ar gyfer y giatiau a gymeradwywyd gan Fwrdd Rheilffyrdd TrC yn y cyfarfod blaenorol. Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn awr i gynnal trafodaethau contract gyda chyflenwyr a ffafrir a dechrau rhoi’r cynllun cyflenwi ar waith. Disgwylir lansiad peilot cychwynnol yn chwarter tri 2022/23.

Aeth y pum siop Payzone gyntaf yn fyw tua diwedd Cyfnod 9, cyn cael eu cyflwyno’n llawn i ardal ehangach Metro De-ddwyrain Cymru ganol mis Ionawr 2022. 

Roedd y sefyllfa refeniw wedi gostwng o un cyfnod i’r llall am y tro cyntaf ers mis Ionawr 2021 yng Nghyfnod 9, gyda chywasgu mesuradwy mewn marchnadoedd hamdden yn lleihau’r pellteroedd teithio cyfartalog o ganlyniad i’r sefyllfa COVID a oedd yn gwaethygu. Yn fwy cyffredinol, mae adferiad Busnes a Chymudwyr yn parhau i fod yn wan ac yn dal i lusgo y tu ôl i’r adferiad cyffredinol o ran teithio Hamdden, er bod y crebachu diweddar yn yr elfen olaf yn peri pryder.

Ar ddiwedd Cyfnod 9 nid oedd yr Adran Drafnidiaeth na Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch maint nac amseriad y cylch pennu prisiau nesaf. Nododd y Bwrdd fod unrhyw newid o RPI+1%, fel sydd yn y contract, yn debygol o greu amrywiad negyddol i’r gyllideb.

Mae saith o beiriannau gwerthu tocynnau ddim yn gweithio ar hyn o bryd o ganlyniad i fandaliaeth mewn gorsafoedd heb staff. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i osod camerâu symud mewn lleoliadau penodol. Trafododd y Bwrdd addasrwydd peiriannau gwerthu tocynnau mewn byd digidol gan dderbyn bod angen darpariaeth prynu tocynnau ar gyfer cwsmeriaid heb ffonau symudol. 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolch i bawb am fod yn bresennol ac am eu cyfraniadau.