Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 9 Rhagfyr 2022
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
9 Rhagfyr 2022
09:00 - 14:00
Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd); Peter Strachan, Heather Clash, Jan Chaudhry, Alexia Course a Marie Daly.
Hefyd yn bresennol: Scott Waddington a Jeremy Morgan.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf. TYNNWYD.
2a. Sylw i Ddiogelwch
Myfyriodd y Bwrdd ar farwolaeth yn y diwydiant rheilffyrdd ac ar wersi i’w dysgu a’u defnyddio ar gyfer TrC. TYNNWYD.
2b. Sylw i Gwsmeriaid
Dros y mis diwethaf, cynhaliwyd gweithdai ar ddefnyddio data’n well er mwyn canolbwyntio mwy ar y cwsmer drwy droi gwybodaeth yn ddeallusrwydd. Cyflwynwyd y Bwrdd i’r dulliau a ddefnyddiwyd a’r camau nesaf.
4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau
Trafododd y Bwrdd gynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am: argaeledd cerbydau a chriwiau; effaith adeiladu OLE ar weithrediadau; lansio Prosiect Mercury; effaith y streiciau diweddar; gwasanaethau bysiau moethus; materion diogelu refeniw mewn perthynas â Gŵyl y Gaeaf yn y Barri; metrigau perfformiad; y dyfarniad cyflog terfynol; a Phrotocol Metro Llinellau Craidd y Cymoedd.
Trafododd y Bwrdd hefyd strategaethau ar gyfer gwella cyfraddau sganio ar drenau. TYNNWYD. Gofynnodd y Bwrdd am ddata cwsmer cudd systematig i fonitro llwyddiant y strategaethau a ddefnyddir [Marie Daly i weithredu].
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am y gwaith caled sy’n cael ei wneud ar draws y rhwydwaith.
5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Ni chafwyd unrhyw achosion o Basio Signal yn Beryglus (SPAD) yn ystod y cyfnod ac roedd y rhan fwyaf o’r dangosyddion yn adrodd eu bod yn well na’r targed. TYNNWYD
5b. Adroddiad risg rheilffyrdd
Nodwyd yr adroddiad risg.
6. Diweddariad masnachol
Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Mae’r proffiliau galw ar y rhwydwaith yn adlewyrchu’r gyfran uwch o deithio nad yw’n gymudo ar gyfer dibenion teithiau cwsmeriaid, gyda’r cyfnodau brig AM/PM traddodiadol yn ystod yr wythnos yn gostwng o’i gymharu â’r sefyllfa cyn y pandemig. Roedd y galw yn ystod y bore hwyr/canol y dydd yn gyffredinol uwch na’r lefelau cyn y pandemig drwy gydol yr wythnos yn ystod P08.
Nododd y Bwrdd fod y gwaith o gyflwyno rhai o’r cynlluniau newydd ar gyfer tocynnau wedi cael ei ohirio oherwydd streiciau. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu lansio ddechrau 2023.
7. Cyfrifon Rheoli
TYNNWYD
8. Cyllideb Blwyddyn Ariannol 2024
Cyflwynwyd y Bwrdd i ddrafft cyntaf cyllideb 2023-24. TYNNWYD.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn prisiau tocynnau ar gyfer 2023, gyda gwahanol sefyllfaoedd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.
TYNNWYD
Nodwyd drafft cyntaf cyllideb 2023-24 gan y Bwrdd.
TYNNWYD
10. Llawr cyntaf San Padrig - amrywio prydles
Cymeradwyodd y Bwrdd gynnig gan landlord swyddfa Ty San Padrig i ddileu'r cymal terfynu ar ddiwedd 2024 yn gyfnewid am ostyngiad mewn rhent. Gofynnodd y Bwrdd a fydd modd adnewyddu'r brydles yn y dyfodol os bydd angen [Alexia Course i weithredu].
11. Strategaeth meysydd parcio
TYNNWYD
Cymeradwyodd y Bwrdd gymhwyso RPI i'r taliadau parcio presennol a'u cysoni ag RPI prisiau tocynnau trên.
12. Turn olwynion Caergybi
Ymunodd Owen Clutterbuck â'r cyfarfod.
TYNNWYD
13. Rhaglen Addasu Trenau 231 Hybrid
TYNNWYD
14. Trenau Class 230
TYNNWYD
Nododd y Bwrdd fod cynnig wedi’i wneud i’r gweinyddwyr ar gyfer darnau sbâr ac offer.
15. Diweddariad ar gwsmeriaid a diwylliant
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer o faterion sy’n ymwneud â chwsmeriaid a diwylliant, gan gynnwys ymateb i gwynion gan gwsmeriaid, cynnydd o ran y cynllun 10 pwynt, y strategaeth farchnata TYNNWYD.
16. Pobl
Cytunodd y Bwrdd i gydnabod y canlynol drwy lythyrau a / neu wahoddiad i’r Bwrdd i ddiolch iddynt: y tîm a fu’n gweithio ar y dyfarniad cyflog y cytunwyd arno; aelod o staff y bu’n rhaid iddo ddelio â thri hunanladdiad mewn wythnos; a goruchwyliwr a gafodd adborth rhagorol ar ei berfformiad.