Rhuthun

Mae’r parth fflecsi hwn yn cynnwys tref farchnad brydferth Rhuthun, yng nghesail Dyffryn Clwyd, sy’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o ardaloedd trefol a phreswyl y dref. Mae nifer o bentrefi a phentrefannau eraill yn yr ardal yn cael eu gwasanaethu gan gynnwys Bontuchel, Clawddnewydd, Clocaenog, Cyffylliog, Derwen, Graigfechan, Llanelidan, Pentrecelyn a Rhydymeudwy.
Pethau i’w gwneud
- Archwiliwch ddyfnderoedd gorffennol tywyll Rhuthun a mynd ar daith o amgylch Carchar Rhuthun. Dyma’r unig garchar pwrpasol o fath Pentonville sy’n agored i’r cyhoedd - manteisiwch ar y cyfle i archwilio pob twll a chornel a dysgu am fywyd yn y system carchardai Fictoraidd.
- Ymwelwch â Thŷ Nantclwyd y Dre o’r 15fed ganrif gyda’i ardd furiog sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol.
- Crwydrwch o amgylch Sgwâr Sant Pedr a mwynhau'r holl bensaernïaeth wych, y siopau unigryw a’r mannau ardderchog i fwyta yn Rhuthun.
Cysylltiadau pellach
- Cysylltu â gwasanaeth TrawsCymru T51 tuag at Y Rhyl, Dinbych neu Wrecsam.
Tocynnau
Mae modd talu ymlaen llaw drwy ap fflecsi neu dalu ar y bws gyda cherdyn / dyfais digyswllt neu arian parod.
- Tocyn unffordd i oedolion - yn dechrau o £1.50.
- Plant (5 - 15) a phobl ifanc (16 - 21 gyda cherdyn fyngherdynteithio) -
- Taith Sengl (unffordd) - £1.00.
- Tocyn Cymru (tocyn dydd) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun).
- Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.50 (oedolyn) / £5.00 (consesiwn).
- Mae deiliaid Tocyn Teithio Rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Tap Ymlaen Tap Ymadael
Mae tap ymlaen a thap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.
- Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar y darllenydd tocynnau wrth fynd ar y bws.
- Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.
- Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau leoliad.
- Os byddwch yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod cyfanswm gwerth eich tocynncau yn cyrraedd y cap, sef pris tocyn dydd 1bws, codir uchafswm o £7.50 arnoch. Os byddwch yn gwneud sawl taith dros gyfnod o 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo beth sy’n rhoi y gwerth am arian orau i chi, sef talu am sawl tocyn dydd 1bws neu am docyn 1bws Wythnos.
Archebu ymlaen llaw
28 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Rydym yn caniatáu i deithwyr ddod â chi cydymaith gyda nhw, mae tâl o 50c.