Rhagfyr 2024 - Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau i’r amserlen

  • Pam ydych chi'n newid yr amserlenni?
    • Mae amserlenni'n newid ddwywaith y flwyddyn ar draws y DU i ganiatáu ar gyfer unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud. Efallai nad yw'r rhain yn uniongyrchol gysylltiedig â'ch gwasanaeth, ond maen nhw'n dal i gael effaith - er enghraifft, efallai y bydd trên cludo nwyddau newydd yn yr amserlen yn golygu y bydd angen newid amser trên sy’n gwasanaethu teithwyr. Yn aml, ychydig iawn o newidiadau sydd, fel sy'n digwydd ar ran Llinellau Craidd y Cymoedd o'n rhwydwaith. Ar y 'brif lein’, mae ein fflyd brif lein newydd bellach mewn gwasanaeth. Cynlluniwyd y rhan fwyaf o'r teithiau ar y llwybrau hyn yn seiliedig ar alluoedd trenau hŷn, ac mae trenau newydd bellach wedi cymryd eu lle, felly nawr yw'r amser iawn i gynllunio amserlen newydd sy'n manteisio ar eu perfformiad gwell.

  • Ble mae'r newidiadau mwyaf?
      • Mae De Cymru yn gweld newid sylweddol i amseroedd trenau a dylai cwsmeriaid wirio cyn teithio.
      • Bydd gwasanaeth hwyrach yn ôl i Faesteg o Gaerdydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ar ôl 23:15).
      • Mae gwasanaethau lleol Caerdydd <> Abertawe yn cynyddu i 1 trên yr awr yn ystod y rhan fwyaf o oriau, ac yn galw hefyd ym Mhontyclun, Llanharan a Phencoed. Mae hyn yn rhoi cyfle newydd i deithwyr gymudo o’r gorsafoedd hyn i Abertawe ac yn ôl.
      • Mae'r galwadau ychwanegol ym Mhontyclun, Llanharan a Phencoed bellach yn golygu bod gan y gorsafoedd hyn 2 drên yr awr yn ystod y rhan fwyaf o oriau.
      • Bydd rhai gwasanaethau Swanline nawr yn defnyddio Platfform 0 yng Nghaerdydd Canolog.
      • Bydd cerbydau ychwanegol yn rhedeg ar wasanaethau prif lein allweddol rhwng Caergybi neu Fanceinion a Chaerdydd neu Abertawe.
      • Bydd dau wasanaeth ychwanegol yn rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau, a bydd dosbarthiad gwell o wasanaethau yn Abergwaun.
      • Bydd lein Calon Cymru yn cael ei lleihau gan un trên y dydd, sy’n golygu y bydd 4 trên y dydd yn rhedeg, fel rhan o'n hadolygiad ehangach o’r amserlenni wrth edrych tua’r dyfodol.
      • Bydd dau wasanaeth bore cynnar yn cael eu tynnu oddi ar lein y Cambrian rhwng Pwllheli a Machynlleth (un i bob cyfeiriad) drwy gydol y flwyddyn a bydd dau wasanaeth gyda'r nos rhwng Pwllheli a Machynlleth (un i bob cyfeiriad) yn cael eu tynnu o fis Rhagfyr i fis Mawrth YN UNIG.
      • Rhai newidiadau i'r patrwm galw ar rai gwasanaethau rhwng Caerdydd a Manceinion Piccadilly.
  • Pam ydych chi'n gwneud y newidiadau hyn nawr?
    • Erbyn hyn, mae bob un trên sy’n rhan o fflyd 197 newydd y brif lein yn gwasanaethu teithwyr (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i wasanaethu ar lein y Cambrian yn 2025). Mewn partneriaeth â Network Rail rydym wedi gallu gwneud rhai gwelliannau i gyflymderau rhwng rhai gorsafoedd allweddol a bydd y newidiadau yn ein helpu i gyflawni potensial y trenau newydd. Bydd y newidiadau hyn yn ein galluogi i greu amserlen fwy safonol ar gyfer cwsmeriaid, ar sail wyneb y cloc lle bynnag y bo modd (e.e. bydd eich trên yn rhedeg XX munud wedi’r awr, bob awr).

  • Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
    • Yn gyffredinol, mae'n golygu y dylech wirio cyn teithio, sy'n rhywbeth y byddem bob amser yn ei argymell beth bynnag.

      Gan ein bod yn rhedeg mwy na 1,000 o wasanaethau i deithwyr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, byddai'n amhosibl rhestru'r holl newidiadau mewn un lle, ac mae'n bwysig cofio y gallai gweithredwyr trenau eraill hefyd fod yn gwneud newidiadau a allai effeithio ar eich teithiau ymlaen.

      Felly, rydym yn argymell defnyddio gwefan neu ap cynllunio teithiau fel National Rail Enquiries neu Cynllunydd Teithiau TrC. Mae'r amserlenni newydd bellach yn y system cyn y newid ar 15 Rhagfyr a gall unrhyw un sy'n chwilio am daith ar ôl y dyddiad hwn weld beth fydd eu hamseroedd teithio.

  • Pam na wnaethoch chi ymgynghori ynghylch y newidiadau hyn?
    • Gwnaethom fynd ati i ofyn am adborth ar ein hadolygiadau i amserlenni’r dyfodol ac mae ein rheolwyr rhanddeiliaid a'n timau cysylltiadau cwsmeriaid yn trosglwyddo adborth yn rheolaidd i'n gweithgorau Amserlenni mewnol.

      Fe wnaethom hefyd weithio'n agos gyda Grwpiau Defnyddwyr y Rheilffyrdd sydd yno i gynrychioli cwsmeriaid.

      Oherwydd cymhlethdodau'r broses amserlennu mae'n rhaid i ni weithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant i edrych ar yr hyn sy'n bosibl.

      Fel cwmni trenau a redir yn gyhoeddus, ein hymrwymiad yw sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, felly byddwn bob amser yn ymdrechu i redeg gwasanaeth sy'n diwallu galw a'n cytundebau lefel gwasanaeth yn y ffordd orau.

  • Pam ydych chi'n cwtogi gwasanaethau ar lein Calon Cymru?
    • Yn sgil pandemig Covid 19, mae’r ffordd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith, addysg a gweithgareddau hamdden wedi newid yn sylweddol. Mae TrC wedi newid hefyd, gan ddod yn rheilffordd gyhoeddus yn ystyr mwyaf gwir y term. Mae angen rhyw fath o gymhorthdal cyhoeddus ar bron bob gwasanaeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei redeg ar adeg lle mae cyllidebau'n cael eu hymestyn fwyfwy. Mae pob ceiniog a wneir y tu hwnt i'r costau gweithredu yn cael ei ddychwelyd er mwyn lleihau'r cymhorthdal a dderbyniwyd. Fel cwmni cyfrifol, mae'n hanfodol ein bod yn cydbwyso'r angen am wasanaeth rheolaidd, cadarn a dibynadwy o fewn y cyllidebau ac yn erbyn y targedau i ddarparu trafnidiaeth fwy cynaliadwy.

      Fel rhan o'n hadolygiadau i amserlenni’r dyfodol, buom yn ystyried rhai o'r gwasanaethau a ddefnyddir leiaf a buom yn nodi, yn y lle cyntaf, rhai gwasanaethau a fyddai'n cael eu cwtogi ar Lein Calon Cymru.

      Canlyniad yr adolygiad hwnnw oedd y penderfyniad i leihau gwasanaethau uniongyrchol Lein Calon Cymru o bump y dydd i bedwar o fis Rhagfyr 2024 a chael gwared ar y ddau wasanaeth hwyr fin nos i Lanymddyfri a Llandrindod.

      Bydd y llinell yn elwa o gyflwyno trenau teithio llesol sydd newydd eu hadnewyddu, tra bydd y newid i’r amserlen yn golygu y bydd criwiau trên yn newid yn Llandrindod yn hytrach nag yn Llanwrtyd a fydd yn gwella profiad y cwsmer os bydd tarfu.

  • Pam ydych chi'n cwtogi gwasanaethau ar lein y Cambrian?
    • Yn sgil pandemig Covid 19, mae’r ffordd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith, addysg a gweithgareddau hamdden wedi newid yn sylweddol. Mae TrC wedi newid hefyd, gan ddod yn rheilffordd gyhoeddus yn ystyr mwyaf gwir y term. Mae angen rhyw fath o gymhorthdal cyhoeddus ar bron bob gwasanaeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei redeg ar adeg lle mae cyllidebau'n cael eu hymestyn fwyfwy. Mae pob ceiniog a wneir y tu hwnt i'r costau gweithredu yn cael ei ddychwelyd er mwyn lleihau'r cymhorthdal a dderbyniwyd. Fel cwmni cyfrifol, mae'n hanfodol ein bod yn cydbwyso'r angen am wasanaeth rheolaidd, cadarn a dibynadwy o fewn y cyllidebau ac yn erbyn y targedau i ddarparu trafnidiaeth fwy cynaliadwy.

      Fel rhan o'n hadolygiadau i amserlenni’r dyfodol, buom yn ystyried rhai o'r gwasanaethau a ddefnyddir leiaf a buom yn nodi, yn y lle cyntaf, rhai gwasanaethau a fyddai'n cael eu cwtogi ar Lein y Cambrian.

      Yna, gofynnwyd am adborth gan grwpiau defnyddwyr allweddol ar effaith debygol y cynigion hyn.

      Ar ôl archwilio sawl opsiwn arall, gan gynnwys cael gwared ar wasanaeth hwyrach, rydym wedi dod o hyd i ateb sy'n ein gweld yn cadw gwasanaethau 08:52 Machynlleth > Pwllheli ac 11:37 Pwllheli > Machynlleth drwy'r flwyddyn.

      Bydd nifer y teithwyr yn cael eu monitro, a bydd y penderfyniad hwn yn cael ei ailasesu ar ôl blwyddyn.

      Fodd bynnag, rydym yn dileu'r gwasanaeth 05:07 Machynlleth > Abermaw a’r gwasanaeth sy’n dychwelyd am 06:45, sydd â niferoedd isel iawn o gwsmeriaid a chymhorthdal cyhoeddus uchel iawn.

      Bydd y gwasanaeth 20:26 Pwllheli i Fachynlleth a’r gwasanaeth 21:47 Machynlleth i Bwllheli nawr ond yn rhedeg o fis Ebrill i fis Rhagfyr.

      Bydd y gwasanaeth 06:30 o Amwythig i Aberystwyth nawr yn dechrau o'r Trallwng.

      Mae'r arbedion a wnaed yn cael eu hailfuddsoddi i helpu i gryfhau gwasanaethau ychwanegol yn ystod tymor prysur yr haf ar arfordir Cambria.

  • Pryd fydd y trenau ychwanegol yn rhedeg rhwng Amwythig ac Aberystwyth?
    • Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cyflwyno chwe gwasanaeth ychwanegol rhwng Amwythig ac Aberystwyth (3 i bob cyfeiriad) yn ystod cyfnod amserlen mis Mai 2026.

  • Beth mae hyn yn ei olygu i Bontyclun, Llanharan a Phencoed?
    • Bydd y gorsafoedd hyn yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y gwasanaethau dyddiol wrth iddynt gynnwys galwadau ychwanegol, sy'n golygu 2 drên yr awr i bob cyfeiriad am y rhan fwyaf o'r dydd. Mae hyn yn cynrychioli 21 trên ychwanegol y dydd ar gyfer y gorsafoedd hyn.

      Cyfeiriad Nifer y trenau yn yr amserlen Mehefin ‘24 Nifer y trenau yn yr amserlen Rhagfyr ‘24
      Tuag at Abertawe/Maesteg 19 31
      Tuag at Gaerdydd 19 28
  • Beth sy'n digwydd i’r Swanline? (Baglan, Llansawel, Sgiwen, Llansamlet)
    • Bydd cynnydd mewn gwasanaethau yn ystod cyfnodau prysur tuag at Abertawe a Chaerdydd, gyda chyfanswm o 7 galwad ychwanegol y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth newydd yn hwyrach gyda’r nos o Abertawe i Gaerdydd am 23:30. Bydd rhai gwasanaethau nawr yn defnyddio Platfform 0 yng Nghaerdydd Canolog.

      Cyfeiriad Nifer y trenau yn yr amserlen Mehefin ‘24 Nifer y trenau yn yr amserlen Rhagfyr ‘24
      Tuag at Abertawe 12 14
      Tuag at Gaerdydd 10 15
  • Pam mae rhai trenau rhwng Gorllewin Cymru a Chaerdydd bellach yn defnyddio Platfform 0?
    • Mae Caerdydd Canolog yn orsaf hynod o brysur gydag 8 platfform i gyd, gyda rhai trenau yn pasio drwodd ac eraill yn terfynu yno. Gyda chymaint o drenau yn mynd a dod, mae'n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r lle sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl. Mae platfform 0 yn un o'n platfformau byrrach, sy'n addas ar gyfer trenau sydd â hyd at 4 cerbyd, tra gall Platfformau 3 a 4 ddarparu ar gyfer trenau hirach fel y gwasanaethau GWR sydd â 9 neu 10 cerbyd o Lundain a'n gwasanaethau 5 cerbyd o Fanceinion. Y tu ôl i Blatfform 0 mae maes parcio cyfleus a gallwch hefyd gyrraedd y maes parcio hwn drwy gymryd y lifft o gyntedd yr orsaf.

  • Pam mae fy nhrên i Orllewin Cymru yn rhannu yn Abertawe a pha ran o'r trên sydd ei angen arnaf?
    • O fis Rhagfyr ymlaen, bydd y rhan fwyaf o'n gwasanaethau ym Manceinion yn rhedeg gyda threnau pum cerbyd. Serch hynny, pan fydd y gwasanaeth yn cyrraedd Abertawe, bydd y ddau gerbyd cefn yn datgysylltu ac yn parhau ymlaen i Orllewin Cymru. Bydd y tri arall yn terfynu yn Abertawe, yn barod i baru i drên dau gerbyd sy'n dod o Orllewin Cymru ac yn rhedeg fel trên pum cerbyd yn ôl i Fanceinion.

      Mae hyn yn ein galluogi i gadw'r rhan fwyaf o gerbydau ar y llwybrau prysuraf.

      Felly os oes angen gorsafoedd arnoch i'r gorllewin o Abertawe a'ch bod mewn trên pum cerbyd, dylech fynd i un o’r ddau gerbyd yn y cefn cyn i chi gyrraedd Abertawe.

      Peidiwch â phoeni, bydd Rheolwyr ein trenau yn gwneud cyhoeddiadau ar y trên.

  • Pam nad yw fy ngwasanaeth i o Abergwaun yn mynd drwodd i Gaerdydd mwyach?
    • Y rheswm syml yw bod yr amseroedd bron yn union yr un fath ag amseroedd ymadael gwasanaethau GWR o Gaerfyrddin i Gaerdydd, Bryste a Llundain. Felly, yn hytrach na gorboblogi’r adeg hon gyda dau wasanaeth o bosib nad oes galw mawr amdanynt, roeddem yn meddwl y byddai'n gwneud mwy o synnwyr i gydweithio.

  • A pham bod rhaid i mi newid yng Nghaerfyrddin er mwyn teithio i Aberdaugleddau?
    • Am yr un rheswm - mae rhai cyfnodau yn ystod y dydd lle mae trên GWR o Lundain i Gaerfyrddin yn rhedeg bron union yr un pryd â'n gwasanaeth o Gaerdydd i Aberdaugleddau. Felly, unwaith eto, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar gyfer yr adegau hyn o’r dydd i ddarparu gwasanaeth sydd ychydig yn gliriach i gwsmeriaid.

  • Pam mae gwasanaethau Maesteg yn rhedeg i Lyn Ebwy yn lle Cheltenham Spa nawr?
    • Gwnaed y newid fel y gallwn gynnig rhai trenau hirach i Lyn Ebwy a Maesteg, lle mae eu hangen fwyaf; ac i wella perfformiad drwy ardal brysur Caerdydd Canolog. Gwyddom mai ychydig iawn o gwsmeriaid sy'n teithio'n uniongyrchol o Faesteg i Cheltenham felly mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael effaith sylweddol. Fodd bynnag, i'r rhai sydd yn gwneud y daith lawn, mae cysylltiadau'n syml iawn yng Nghaerdydd Canolog. Er enghraifft, mae'r 08:07 o Faesteg yn cyrraedd Caerdydd am 09:02 ac mae'r gwasanaeth Caerdydd i Cheltenham yn gadael am 09:10.

  • Pam nad yw rhai o wasanaethau Caerdydd <> Manceinion Piccadilly bellach yn galw yn Craven Arms a Church Stretton?
    • Yn anffodus, ni all pob gwasanaeth alw ym mhob gorsaf, yn enwedig ar ein gwasanaethau pellter hir. Mae'n rhaid i ni gydbwyso nifer y galwadau gyda'r galw tebygol a'r angen am wasanaethau rhwng dinasoedd i gynnig amseroedd teithio cyflymach.  Rydym yn dal i redeg gwasanaeth rheolaidd o Craven Arms ac Church Stretton i'r Amwythig, Caer a Manceinion sy'n cwrdd â’r Gofynion Gwasanaethau Trên gan yr Adran Drafnidiaeth.

      Mae saith gwasanaeth tuag at Amwythig cyn 9yb er enghraifft. Bydd y newid i’r amserlen hefyd yn golygu bod Craven Arms a Church Stretton yn derbyn rhai galwadau dyddiol ychwanegol tuag at Henffordd.

      Rydym wedi nodi problem a godwyd gan randdeiliaid lleol ynglŷn â’r diffyg galwadau ganol y bore, ac rydym yn archwilio opsiynau i ychwanegu galwad ychwanegol yn y gorsafoedd hyn o fis Mai 2025 ymlaen.

  • Fydda i'n cael trenau hwyrach?
    • Fel gweithredwr, rydym yn deall pwysigrwydd economi'r nos a'r angen i roi opsiwn i bobl deithio adref yn hwyrach. Rhaid cydbwyso hyn â'r galw tebygol, yr effaith ar unrhyw gymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen i redeg y trên a'r ffaith bod Network Rail yn cynnal eu harolygiadau cledrau a'u gwaith cynnal a chadw gyda'r nos.

      Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig gwasanaethau hwyrach o Gaerdydd Canolog yn ôl i Faesteg ar ôl 23:15.

      Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda Network Rail i allu rhedeg gwasanaeth hwyrach o Abertawe yn ôl i Gaerdydd am 23:30 ddydd Llun i ddydd Gwener, er mwyn caniatáu i fwy o bobl deithio adref yn hwyrach ar ôl digwyddiadau gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth hwnnw'n galw yn Llansamlet, Sgiwen, Castell-nedd, Llansawel, Baglan, Parcffordd Port Talbot, Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd Canolog.

  • A fyddaf yn gweld cerbydau ychwanegol?
    • Rydym wrthi'n cynyddu'r capasiti ar rai o'n prif wasanaethau prysurach ar y brif lein, yn enwedig rhwng Gogledd a De Cymru, yn ogystal â gwasanaethau i Fanceinion ac oddi yno.

      Rydym yn dal i fod yn y broses o gyflwyno trenau newydd i'r rhwydwaith felly bydd rhai llwybrau yn gweld cyflwyno'r trenau hyn. Bydd llinellau Aberdâr a Merthyr yn dechrau gweld trenau trydan yn cael eu cyflwyno tua diwedd eleni er enghraifft. Mae'r rhain yn drenau sydd â thri a phedwar cerbyd, a fydd yn cymryd lle’r trenau hŷn sydd â dau gerbyd, sy'n rhedeg ar hyn o bryd.

  • Pa drenau newydd sy'n cael eu darparu?
    • Rydym wedi cwblhau'r broses o gyflwyno'r fflyd newydd sbon o drenau Dosbarth 197 ar y brif lein (bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno ar lein y Cambrian yn 2025/26). Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi dechrau cyflwyno'r fflyd o drenau trydan Dosbarth 756 ar linellau Treherbert, Merthyr ac Aberdâr. Mae lein Calon Cymru yn gweld trenau teithio llesol wedi'u hadnewyddu yn cael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod amserlen hwn a gall y rhain gludo hyd at 12 beic, a’r gobaith yw y bydd y rhain yn helpu i ddatblygu'r llinell ar gyfer teithiau hamdden yn benodol.

  • Pam fod rhai ardaloedd yn cael mwy o drenau ac eraill yn gweld llai?
    • Yn sgil Covid 19 bu'n rhaid i ni adolygu ein hymrwymiadau o ran amserlenni’r dyfodol, o ystyried y newid ym mhatrymau teithio a'r amodau economaidd yr ydym yn gweithredu ynddynt. Rydym wedi gwneud ein gorau i deilwra adnoddau i'r galw, tra'n cydnabod bod rhai o'r cynlluniau yr oeddem yn gobeithio eu rhoi ar waith wedi gorfod cael eu gohirio.

      Lle bo modd, yn yr ardaloedd lle mae gwasanaethau wedi'u lleihau, rydym wedi ceisio ail-fuddsoddi rhywfaint o'r arbedion i wella gwasanaethau eraill ar y lein.

      Er enghraifft, mae'r arbedion a wnaed o ganlyniad i leihau rhai gwasanaethau nad ydynt yn cael eu defnyddio llawer yn y gaeaf wedi ein galluogi i ychwanegu trenau pedwar cerbyd i fwy o wasanaethau yn ystod misoedd llawer prysurach y gwanwyn a'r haf.