Ydych chi’n teithio gyda ni dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?
Mae ein gwasanaethau trên fel arfer yn brysur dros gyfnod y Nadolig gyda phobl yn siopa, yn ymweld â ffrindiau a theulu yn ogystal ag archwilio'r holl atyniadau Nadolig ar ein rhwydwaith.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'w hystyried wrth gynllunio eich taith gyda ni y Nadolig hwn.
Newidiadau i wasanaethau trên
Gwiriwch cyn teithio gan y gallai fod gwaith gwella wedi'i gynllunio a allai effeithio ar eich cynlluniau teithio.
Nid oes gwasanaethau trên na gwasanaethau bws yn lle trên ar:
- Dydd Nadolig (Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024)
- Dydd San Steffan (Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024)
- Dydd Calan (dydd Mercher 1 Ionawr 2025) ar linellau lleol Caerdydd a'r Cymoedd yn unig*
*ac eithrio llinellau Caerdydd – Ynys y Barri / Penarth/ Bro Morgannwg.
Bydd y gwasanaethau trên yn dechrau dirwyn i ben o 20:00 ymlaen:
- Noswyl Nadolig (Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024)
- Nos Galan (Dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024)
Bydd gwasanaethau trên yn dechrau yn hwyrach na'r arfer ddydd Gwener 27 Rhagfyr 2024.
Codir cyfyngiadau oriau allfrig o ddydd Gwener 27 Rhagfyr ac yn dod yn ôl ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Ydych chi’n teithio i, o neu drwy Crewe rhwng dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024 - dydd Iau 2 Ionawr 2025?
Mae gwaith yn cael ei wneud i gomisiynu gwaith uwchraddio mawr ar gyfer gwasanaethau cludo nwyddau yn Crewe. Mae gwasanaethau bws yn lle trên ar waith ac mae amserlenni'n cael eu diwygio. Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw.
-
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
-
Bydd holl wasanaethau Piccadilly Manceinion yn dechrau / terfynu yn Amwythig gyda gwasanaethau bws yn lle trên rhwng Amwythig a Stockport. Derbynnir tocynnau’r teithwyr hynny sy’n dymuno teithio ymlaen i Fanceinion Piccadilly.
-
Mae gwasanaethau gwennol Crewe i Gaer / Amwythig gwennol wedi’u canslo gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith.
-
Bydd gwasanaethau Arfordir Gogledd Cymru nawr yn dechrau/terfynu yng Nghaer gyda gwasanaethau bws yn lle trên rhwng Caer a Crewe.
-
Bydd gwasanaethau Avanti West Coast a London Northwestern Railway hefyd yn cael eu heffeithio. Gwiriwch cyn teithio.
-
-
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr i ddydd Mawrth 31 Rhagfyr
-
Bydd bysiau yn rhedeg yn lle trenau rhwng Amwythig a Crewe.
-
Bydd gwasanaethau tua'r gogledd i Piccadilly Manceinion yn dargyfeirio trwy Gaer ac yn dod i ben yn Crewe.
-
Bydd gwasanaethau tua'r de o Piccadilly Manceinion yn dechrau yn Crewe ac yn dargyfeirio trwy Gaer.
-
Bydd gwasanaeth trên gwennol yn rhedeg rhwng Crewe a Piccadilly Manceinion drwy'r dydd ar amseroedd arferol.
-
Bydd gwasanaethau Avanti West Coast a London Northwestern Railway hefyd yn cael eu heffeithio. Gwiriwch cyn teithio.
-
Newidiadau i wasanaethau cwsmeriaid
Bydd ein horiau agor gwasanaeth cwsmeriaid yn newid fel a ganlyn:
Noswyl Nadolig (Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024)
Cysylltiadau Cwsmeriaid 08:00 - 16:00
Cyfryngau Cymdeithasol 08:00 - 16:00
Dydd Nadolig (Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024)
Cysylltiadau Cwsmeriaid ar gau
Cyfryngau Cymdeithasol ar gau
Dydd San Steffan (Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024)
Cysylltiadau Cwsmeriaid ar gau
Cyfryngau Cymdeithasol ar gau
Nos Galan (Dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024)
Cysylltiadau Cwsmeriaid 08:00 - 16:00
Cyfryngau Cymdeithasol 07:00 - 16:00
Dydd Calan (Dydd Mercher 1 Ionawr 2025)
Cysylltiadau Cwsmeriaid 10:00 - 18:00
Cyfryngau Cymdeithasol 10:00 - 18:00
Eiddo coll
Bydd ein swyddfa eiddo coll ar gau ddydd Mercher 25 Rhagfyr a dydd Iau 26 Rhagfyr 2024.
Gwasanaethau Rheoli Teithio
Bydd ein Gwasanaethau Rheoli Teithio ar gau rhwng dydd Llun 23 Rhagfyr - dydd Gwener 27 Rhagfyr ac ar ddydd Mercher 01 Ionawr 2025.
Bydd Gwasanaethau Rheoli Teithio ar agor ddydd Llun 30 a dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024 ac ar ddydd Iau 02 Ionawr 2025.