Diweddariad Class 175

Rydyn ni’n falch o gadarnhau bod ein rhaglen atgyweirio helaeth ar gyfer ein fflyd Class 175 yn dod i ben erbyn hyn.

Yn gynharach eleni, canfuwyd nifer o namau mecanyddol ar y fflyd, gan arwain at eu hatal rhag gweithredu ar sail diogelwch.

Mae ein peirianwyr wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd er mwyn sicrhau bod y trenau yn gweithredu cyn gynted â phosibl, ond mae’r broblem wedi arwain at rai achosion o ganslo, yn ogystal â threnau eraill yn brysurach nag arfer yn ystod y misoedd diwethaf.

Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.

Erbyn hyn, dim ond dau drên sydd angen eu trwsio o’r fflyd o 27 o drenau. Gan mai dim ond 12 trên Class 175 sydd eu hangen erbyn hyn ar ôl cyflwyno’r trenau Class 197 newydd, mae gennym ddigon o drenau Class 175 i’w defnyddio er mwyn bodloni gofynion yr amserlen.

Mae’r fflyd, sy’n gwasanaethu’r prif lwybrau ledled Cymru hyd at Fanceinion, yn weithredol ers ugain mlynedd a mwy, ac mae’n cael ei disodli’n raddol gan drenau newydd sbon. Felly, mae’r fflyd yn parhau i fod angen ei gynnal a’i gadw’n rheolaidd a gall wynebu problemau gyda threnau sy’n teithio filoedd o filltiroedd bob wythnos.