John Speed's map of Cardiff 1610

Cyn y rheilffyrdd

Lleolir gorsaf drenau mawreddog Caerdydd Canolog yng nghanol prif ddinas Cymru. Pob dydd, bydd miloedd o bobl yn pasio drwy ddrysau’r orsaf gan gymudo i’r gwaith a’r ysgol a mynd i gyngherddau ac ar wyliau. Ond mae Caerdydd Canolog yn fwy na’n lle i ddal y trên yn unig. Mae’n sefyll ar dir sydd wedi’i ddylanwadu gan filoedd o flynyddoedd o hanes ac mae’n rhan o stori sydd llawer yn fwy dwfn, am sut wnaeth Caerdydd tyfu o leoliad ger yr afon i brif ddinas gyfoes.

Fel rhan o Raglen Gwella Caerdydd Canolog, rydyn ni’n teithio’n ôl mewn amser i archwilio gorffennol syfrdanol yr orsaf a’r dirwedd o’i hamgylch. Drwy gyfres o flogiau, fideos a delweddau, byddwn ni’n datguddio sut wnaeth y man hwn newid dros y canrifoedd. Yn y blog cyntaf, rydyn ni’n edrych ar hanes Caerdydd cyn i’r rheilffyrdd gyrraedd a cyn i’r orsaf ei hun fodoli.

 

Tirwedd a ffurfiwyd gan gymunedau hynafol

Roedd bodau dynol yn byw yn ardal Caerdydd llawer cyn i’r syniad o’r ddinas ei hun fodoli. Dengys tystiolaeth archeolegol fod pobl wedi bod yma ers miloedd o flynyddoedd. Ar ochr orllewinol Caerdydd sy’n bodoli heddiw, ceir Beddrod Siambr Llwyneliddon sy’n dyddio’n ôl tua 6,000 o flynyddoedd at yr Oes Neolithig. Dengys yr heneb garreg hynafol hon fod cymunedau ffermio cynnar wedi byw, gweithio a chladdu’r meirw yn y dirwedd hon.

Mae’r bryniau sy’n amgylchynu Caerdydd hefyd yn adrodd stori gynnar. Ar y Garth, ceir tomennu claddu o’r Oes Efydd sydd o hyd yn edrych dros y tir oddi tano, a cheir bryngaerau o’r Oes Haearn megis Bryngaer Caerau sy’n dangos lle byddai cymunedau’n ymgasglu er mwyn amddiffyn eu hunain. Roedd yr ymsefydlwyr cynnar hyn yn rhan o batrymau mudo hirdymor a ymddangosodd ar ddiwedd yr Oes Ia diwethaf, wrth i lefelau cynyddol y môr lywio ynys Prydain Fawr a dod â grwpiau newydd o bobl i Gymru.

 

Dyfodiad y Rilwriaid a’r Rhufeiniaid

Cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd, lleolwyd Caerdydd o fewn tiriogaeth y Silwriaid, a oedd yn llwyth pwerus Celtaidd o’r Oes Haearn. Roeddent yn byw ar draws rhannau o’r hyn a ddaeth i fod yn Sir Morgannwg, Sir Fynwy a Sir Frycheiniog. Drwy ymsefydlu yno a’u cadarnleoedd amddiffynnol, crëwyd seilwaith diwylliannol cyntaf y rhanbarth.

Tua AD 55, gwnaeth pob dim newid wrth i’r Rhufeiniaid gyrraedd. Adeiladant gaer mewn lleoliad strategol allweddol lle bo’r Afon Taf yn cwrdd â Môr Hafren. Gwnaeth hyn alluogi iddynt reoli’r ardal o’i gwmpas a’r llwybrau masnacha. Gwnaeth y Rhufeiniaid enwi’r safle’n Caer Dyf, a oedd yn meddwl “Caer ar y Taf” a wnaeth esblygu’n hwyrach i’r fersiwn Gymraeg sef, “Caerdydd”.

Ceir adfeilion y muriau, adeiladau ac arteffactau Rhufeinig o hyd o dan Gastell Caerdydd, sy’n sefyll ar yr un safle heddiw. Fodd bynnag, pan wnaeth y Rhufeiniaid ddiflannu o Brydain yn y 5ed ganrif, daeth Caerdydd yn llai pwysig. Gwnaeth bobl barhau i fyw yn yr ardal, ond heb dref na ddinas fawr.

 

O gastell i dref ganoloesol

Gwnaeth Caerdydd ddechrau tyfu eto yn y cyfnod Normanaidd. Tua 1090au, gwnaeth Norman lord Robert FitzHamon adeiladu castell mwnt a beili o fewn yr hen furiau Rhufeinig. Ystyrir y foment hon yn aml fel gwir ddechrau Caerdydd ganoloesol.

Gwnaeth tref fach ffurfio o amgylch y castell, gan ddarparu bwyd, nwyddau a gwasanaethau i’r gaer. Dros yr ychydig ganrifoedd nesaf, daeth Caerdydd yn fwy sefydledig. Adeiladwyd muriau cerrig yn y dref a chyrhaeddodd cymunedau crefyddol, gan gynnwys Y Brodyr Dominicaidd (Du) a’r Brodyr Ffransisgaidd (Llwyd). Mae peth o’u dylanwad yn parhau heddiw mewn enwau lleoedd fel Greyfriars Road.

Nid oedd bywyd bob amser yn heddychlon. Ym 1404, ymosodwyd a llosgwyd y dref yn ystod y gwrthryfel a arweiniwyd gan Owain Glyndŵr. Er gwaetha’r dinistr hwn, ail-adeiladwyd Caerdydd a pharhaodd i fod yn ganolfan leol bwysig, yn enwedig fel tref borth a marchnad.

 

Tref ar fin newid

Erbyn y 16eg ganrif, roedd Caerdydd yn sefydlog ond yn dref borth weddol fach, a gwnaeth tyfu’n araf yn hytrach na’n ddramatig. Parhaodd hyn i fod yn wir ymhell i mewn i ddechrau’r 1800au, wrth i ddiwydiant cynnar ddechrau datblygu o amgylch de Cymru. Roedd mwyngloddio yn y Cymoedd a gwelliannau i borth Caerdydd yn arwydd o’r hyn oedd i ddod. Roedd y dref ar fin trawsnewid, ond nad oedd eto yn ganolfan fasnach bwerus ag y byddai’n fuan.

Byddai’r trawsnewidiad hwn yn cyrraedd yng nghanol y 19eg ganrif, wrth i’r dociau newydd gael eu hadeiladu a gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Roedd angen gorsaf drenau canolog i gysylltu Caerdydd gyda’r Cymoedd a thu hwnt. Byddai’r safle lle fydd Caerdydd Canolog bellach yn sefyll yn chwarae rôl hanfodol.

Ni fyddai troi tir corsiog yn brif ganolfan drenau yn dasg syml. Byddai’n cymryd gweledigaeth a sgil un o beirianwyr gorau Prydain i ail-lywio’r dirwedd a gwneud gorsaf drenau yng Nghaerdydd yn bosibilrwydd.

Yn ein blog nesaf, byddwn yn archwilio sut wnaeth dyfeisgarwch peiriannol helpu i drawsnewid Caerdydd am byth a sut wnaeth y rheilffordd helpu i yrru esgyniad y ddinas i ddod yn brifddinas yr ydyn yn ei hadnabod heddiw…

…Ymunwch â ni wrth inni barhau â’r daith…