Trafnidiaeth Cymru Amcanion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020-2021
1. Gwella prosesau recriwtio, cadw, camu ymlaen, datblygu a phrofiad y bobl a gyflogir gan TrC i alluogi’r sefydliad i ddod yn gyflogwr cynhwysol o ddewis.
Camau Gweithredu
- Datblygu strategaeth Dysgu a Datblygu sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled TrC yn ei gyfanrwydd, waeth a oes nodwedd warchodedig yn effeithio ar unigolion ai peidio.
- Cyflwyno rhaglen hyfforddi a datblygu fewnol agored ar gyfer holl weithwyr TrC. Byddai hon ar gael i gydweithwyr ac yn seiliedig ar yr amcanion a bennwyd gan reolwyr llinell i adlewyrchu anghenion datblygu cydweithwyr.
- Parhau i gyfyngu ar effaith rhagfarn ddiarwybod yn ein harferion recriwtio trwy barhau i ddefnyddio sifftio dall ar gyfer yr holl recriwtio mewnol ac allanol.
- Parhau i hysbysebu pob swydd yn allanol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu ymwybyddiaeth o’n swyddi gwag i ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Byddwn yn gweithio ar y cyd â’r Tîm Cyfathrebu i ddeall sut y gallwn gyrraedd ymgeiswyr o'r grwpiau hyn yn well.
- Dylunio a darparu rhaglen ‘addysgu’r addysgwyr’ ar gyfer ysgolion i ddylanwadu ar ddewisiadau a wneir gan ferched ifanc yn yr ysgol gyda’r nod o’u llywio tuag at yrfa mewn trafnidiaeth.
Meini Prawf Llwyddiant
- Sefydlu model tâl a pherfformiad sy’n cefnogi lleihau’r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau a gweithio tuag at gydraddoldeb cyflog.
- Datblygu dull rheoli talent sy’n darparu rhaniad rhyw 50/50 ar lefel Gweithredol a graddau 1 a 2a gan roi sylw i’r nodweddion gwarchodedig eraill ar yr un pryd.
- Peidio â chael unrhyw hawliadau cyflog cyfartal.
2. Gwella cynrychiolaeth staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod, LGBTQ + a phobl anabl a gweithwyr â chyfrifoldebau rhieni yn y sector Trafnidiaeth.
Camau Gweithredu
- Cynyddu’r cyfle a’r ymwybyddiaeth ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg a gweithio rhan-amser trwy hyrwyddo ein polisi gweithio hyblyg yn gadarnhaol, ystyried rhannu swyddi a mathau eraill o gontractau hyblyg.
- Cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth a digwyddiadau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn cymunedau anodd eu cyrraedd a difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol.
- Cynnig cyfleoedd datblygu, fel cysgodi uwch arweinwyr ac uwch arweinwyr y dyfodol, gan dargedu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu.
- Ceisio adolygiad, herio ac achrediad allanol o weithredoedd TrC fel cyflogwr trwy ymgysylltu’n weithredol gyda safonau a meincnodau cydraddoldeb perthnasol (e.e. Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, y Cynllun Hyderus o ran Anabledd, y Siarter Lles y Gweithle, ac ati) (2018/19 a 2019/20).
Meini Prawf Llwyddiant
- Cyhoeddi calendr digwyddiadau clir sy’n hyrwyddo gweithgareddau sefydliadol i ddathlu’r holl nodweddion gwarchodedig
- Gwell cynrychiolaeth o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled graddau a rolau, gan gynnwys o fewn yr Uwch-strwythur Rheoli.
- Achrediad gan gorff allanol i gydnabod ffocws cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan TrC, yn benodol Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.
- Tystiolaeth mewn diwygiadau polisi y bydd cymorth anabledd yn cynnwys pob maes anabledd gan gynnwys iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a dyslecsia na fydd gweithwyr o bosibl yn adrodd yn eu cylch.
3. . Cael cynllun arweinyddiaeth ar gyfer pob arweinydd yn y sefydliad i arwain ac ysgogi timau a dangos ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Camau Gweithredu
- Hyfforddiant a dosbarthiadau meistr sy’n cael eu cynnal ar gyfer y busnes i gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hyrwyddo’r Gymraeg.
- Parhau i hybu ymwybyddiaeth o gydraddoldebau, amrywiaeth a chynhwysiant trwy sesiynau cyfathrebu a hyfforddi a gynhelir gan arbenigwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
- Sicrhau bod pob gweithiwr newydd yn ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb a’r holl reolwyr yn ymgymryd â hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod.
- Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol ynghlwm wrth Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno i holl aelodau’r Uwch-dîm Rheoli a’r Bwrdd mewn sesiwn hyfforddi ac yn dilyn hynny byddai’n cael ei raeadru i uwch reolwyr perthnasol a llunwyr penderfyniadau polisi maes o law.
Meini Prawf Llwyddiant
- Penodi a hyfforddi pump Llysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn TrC – i gymell tegwch, cynhwysiant a pharch yn y Gweithle a gyda’n cyflenwyr.
- Ynghlwm wrth Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gweithredu ac adrodd ar wybodaeth gyflogaeth yn flynyddol a’i chyflwyno o dan bob un o’r nodweddion gwarchodedig.
- Cynhyrchu adroddiad interim ar opsiynau ar gyfer datblygu trefniadau gwell ar gyfer monitro trwy gyfeirio at nodweddion gwarchodedig ledled TrC.
4. Adolygu effaith cydraddoldeb polisïau sefydliadol allweddol mewn meysydd fel: recriwtio a dethol, dysgu a datblygu, cefnogi presenoldeb yn y gwaith, parch yn y gwaith (gwrthfwlio ac aflonyddu); rheoli talent; Adolygiad Perfformiad Blynyddol, disgyblu,
Review the equality impact of key organisational policies in areas such as: recruitment and selection, learning and development, supporting attendance at work, respect at work (anti-bullying and harassment); talent management; Annual Performance Review, disciplinary, grievance and job evaluation (2020/21).
Camau Gweithredu
- Sicrhau bod profiad staff TrC, fel y mae’n cael ei fesur trwy’r arolwg staff a mecanweithiau adborth staff perthnasol eraill, yn cael ei ddadansoddi ar gyfer amrywiadau yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig ac ar gyfer cymryd camau gwella
- Gwella gallu staff TrC ac eraill i ddeall a mynd i’r afael â’r rhwymedigaethau cyfreithiol ynghlwm wrth Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus trwy ddarparu’r hyfforddiant perthnasol i’r uwch-dimau angenrheidiol
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol cyn ac ar yr adeg y mae polisi’n cael ei ystyried, a thystiolaethu i hynny wrth gadw cofnodion o’r ystyriaethau hynny
- Ymateb yn deg ac yn gyfartal i’r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â mynd i’r afael â strategaeth genedlaethol “Ffyniant i Bawb”, gan ganolbwyntio’n benodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.
Meini Prawf Llwyddiant
- Cyhoeddi polisïau sy’n llwyddo i ddangos cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol
- 50% o A1, A2 ac 1 y grid 9-blwch Rheoli Talent wedi’u poblogi â chydweithwyr sy’n uniaethu ag un o’r nodweddion gwarchodedig.