Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Chwefror 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
15 Chwefror 2024
09:30 - 16:00
Lleoliad - Canolfan Reoli Integredig, Ffynnon Taf
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Vernon Everitt, Alun Bowen, a James Price.
Hefyd yn bresennol: Gareth Evans, Jeremy Morgan, Dean Katchi (eitem 2), Josh Hopkins (eitem 5.1), Zoe Smith-Doe (eitem 5.2), Dan Tipper (eitem 5.3), Marie Daly a Lewis Brencher (eitem 5.4).
Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ymddiheuriad gan Alan McCarthy (Unite).
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf. Hysbyswyd y Bwrdd bod ystadegau’n dangos bod gweithwyr yn fwy tebygol o gael damweiniau yn ystod y chwe mis cyntaf yn eu swydd. Felly, mae’n hanfodol bod gweithwyr yn dod i ddeall y gweithdrefnau a phrosesau iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod hwn.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd ddigwyddiad diweddar lle cafodd cwsmer ei daro’n wael. Trafodwyd hefyd sut wnaeth y staff ar y trên ddelio â’r sefyllfa, a’r gwersi y gellir eu cymhwyso i TrC.
2. Iechyd, Diogelwch a Chadernid
Ymunodd Dean Katchi â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Adroddiad Asesu DSEAR wedi dod i law, a chynhaliwyd adolygiad gyda’r aseswyr a thîm y prosiect i ddeall y camau gweithredu.
- Perfformiad diogelwch yn ddigonol, ond mae tuedd barhaus o weld cyfanswm mwy na’r disgwyl o ddigwyddiadau’n ymwneud â’r gweithlu - er bod tuedd iddynt fod yn llai niweidiol.
- Yr arweinyddiaeth iechyd a diogelwch sy’n fwyfwy rhagweithiol, ac ymyriadau cadarnhaol yn Pullman Rail.
- Adolygiad sicrwydd o raglen Mynwent y Crynwyr a phroblem ddiweddar yn ymwneud â goleuadau, gan gynnwys mesurau lliniaru posibl.
- Yr angen i gynnwys gwasanaethau brys yn y gwaith o gynllunio depos, a chydleoli gwasanaethau brys yn yr ystafell reoli yn ystod digwyddiadau mawr.
- Cyfarfod mewnol diweddar ynghylch Bwrdd Rheilffyrdd TrC yn uwchgyfeirio anafiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu, ac ymgyrch gyfathrebu ar gyfer ymddygiad gwell gan gwsmeriaid ar sail y gwersi a ddysgwyd o ymgyrch Cyfarpar Llinellau Uwchben.
Gadawodd Dean Katchi y cyfarfod.
4. Diweddariad Strategol / Datblygu
4.1 - Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Bu’r Bwrdd yn trafod cynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol. Roedd y trosolwg yn cynnwys diweddariadau ar y canlynol:
- Y ffocws parhaus ar esblygiad TrC 2.0, gydag ymgysylltu da ar draws y sefydliad a gyda Llywodraeth Cymru. Roedd araith a sesiwn ddilynol y Dirprwy Weinidog, a gynhaliwyd yn ystod galwadau Trafodaethau Cwmni Cyfan diweddar, wedi cael eu croesawu gan gannoedd o bobl a oedd yn bresennol ar-lein ac yn Llys Cadwyn.
- Mae perfformiad y rheilffyrdd yn parhau i wella - gyda pherfformiad arbennig o galonogol ar y llwybr rhwng Wrecsam a Bidston. Nododd y Bwrdd y pwysigrwydd o neilltuo amser penodol i reoli'r llwybr. Hysbyswyd y Bwrdd bod targedau perfformiad yn cael eu hadolygu ar draws y rhwydwaith. Fodd bynnag, mae argaeledd unedau yn dal yn broblem - yn bennaf, oherwydd prinder yr unedau Class 197. Nododd y Bwrdd fod y Prif Weithredwr yn derbyn adroddiadau diweddaru dyddiol ar achosion o oedi a pherfformiad yn erbyn targedau. Nodwyd y bydd y Bwrdd Perfformiad Gweithredol, un o isbwyllgorau Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf, yn cyfarfod am y tro cyntaf yfory. I ddechrau, bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar argaeledd unedau cyn symud ymlaen i ystyried set ehangach o broblemau.
- Mae argaeledd unedau MKIV yn dal i fod yn wael. Cytunwyd y bydd sesiwn fanwl yn cael ei chynnal yn ystod y cyfarfod nesaf [Cam gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].
- Gofynnodd y Bwrdd am grynodeb o’r newidiadau y gall teithwyr ddisgwyl eu gweld o ganlyniad i’r rhaglen barhaus i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd [Cam gweithredu James Price].
- Croesawodd y Bwrdd y newyddion y byddai rheilffordd Treherbert yn debygol o ailagor yn ystod yr wythnosau nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd i ddiolch iddynt am eu hymgysylltiad a’u cydweithrediad [Cam gweithredu Dan Tipper].
- Mae cynnydd da wedi cael ei wneud ar fysiau, gan gynnwys y gwaith o gynnal sawl archwiliad manwl ar draws gwahanol agweddau ar y rhaglen. TYNNWYD. Gofynnodd y Bwrdd am yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau sy’n ymateb i’r galw [Cam gweithredu Lee Robinson].
- TYNNWYD.
Hefyd, cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Llinellau Craidd y Cymoedd; mae’r sefyllfa bresennol ar Gamlas Suez yn effeithio ar chwyddiant ac oedi o ran deunyddiau; prosiectau Caerdydd Canolog; ymateb i’r adolygiad diwylliannol diweddar yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; a gwariant Teithio Llesol.
4.2. Cyllid (Cyfrifon Rheoli)
Derbyniodd a nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlyniadau ariannol ar gyfer mis Ionawr 2023/24. Roedd yr wybodaeth hon yn ymwneud â chymhorthdal i TrC ac adolygiad o’r flwyddyn gyfan a oedd yn adlewyrchu’r cynllun busnes presennol ar gyfer cyllideb 2023/24, fel y’i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.
TYNNWYD
Mae’r gwaith o ddatblygu amserlen cyllideb 2025/26 yn mynd rhagddo, ac mae’r gwersi a ddysgwyd o'r fersiwn diwethaf yn cael eu rhoi ar waith.
Rhan B – Sesiwn Diweddariad Gweithredol
5. Diweddariadau Gweithredol
5.1 Cofrestr risg strategol
Ymunodd Josh Hopkins â’r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd fod archwiliad o’r swyddogaeth rheoli risg ar gyfer rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd wedi ei gynnal er mwyn adolygu’r trefniadau rheoli risg presennol sydd ar waith. Mae’r Tîm Archwilio Mewnol wrthi’n paratoi adroddiad i gofnodi canfyddiadau ac argymhellion.
Yn dilyn adolygiad, mae proses o reoli risg ar y rheilffyrdd wedi’i diweddaru i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r model tair llinell amddiffyn. Cyflwynwyd y broses i’r Grŵp Llywio Cyflawni Rheilffyrdd ddiwedd mis Ionawr, ac fe’i cyflwynwyd i Fwrdd Rheilffyrdd TrC ddechrau mis Chwefror.
Following a review, an updated rail risk management process has been established to ensure alignment with the three lines of defence model. The process was presented to the Rail Delivery Steering Group in late January and was reported to the TfW Rail Board in early February.
Nododd y Bwrdd nad oes unrhyw risgiau newydd a bod pedwar risg wedi eu lleihau. Nodwyd prif risgiau Horizon hefyd.
Gadawodd Josh Hopkins y cyfarfod.
5.2 Cynllun Busnes 2024/25
Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â chytuno ar yr Adroddiad Blynyddol 2024/25, a’i gyhoeddi. Yn amodol ar ambell i fân awgrym golygyddol, cymeradwywyd y cynllun i’w rannu â Llywodraeth. Nododd y Bwrdd y rhybudd y bydd rhai o’r elfennau i’w cyflawni yn amrywio os bydd unrhyw newidiadau ariannol.
Cadarnhawyd na fyddai llythyr cylch gwaith newydd ar gyfer 2024/25, ond mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyr ariannu.
Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.
5.3 CVL
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Mae cynnydd da wedi cael ei wneud ar ddepo Ffynnon Taf ers y cyfarfod diwethaf, gyda’r prif waith yn parhau o amgylch y porthdy a’r maes parcio. Bydd gyrwyr yn gweithio o’r depo o fis Medi ymlaen. Nododd y Bwrdd y cynnydd a wnaed yn dilyn ei ymweliad yn ystod y bore.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gymeradwyo Gorsaf Treherbert; Cyfnewidfa Porth sydd bron â chael ei chwblhau a’i throsglwyddo i’r awdurdod lleol; a’r cynnydd o ran y Cyfarpar Llinellau Uwchben.
Croesawodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf, y cynnydd a wnaed, a’r hyder a gafwyd wrth gwblhau gweddill y rhaglen; er gwaethaf y ffaith bod angen goresgyn heriau a meysydd cymhleth allweddol o hyd, gan gynnwys signalau.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
5.4 Diweddariad brand
Ymunodd Marie Daly a Lewis Brencher y cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad brand, gan gynnwys gweledigaeth, cenhadaeth, pwrpas a gwerthoedd newydd arfaethedig TrC. Nododd a chroesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed yn y cynlluniau ar gyfer esblygu’r ‘brand T’, yng nghyd-destun y ffaith bod ymwybyddiaeth o’r brand wedi cynyddu 40% dros y pum mlynedd diwethaf. Cytunwyd bod rhai o’r newidiadau a awgrymwyd yn galw am ragor o waith trafod, datblygu a phrofi, yn enwedig yr awgrymiadau ynghylch bysiau.
5.5. Is-bwyllgorau’r Bwrdd
TrC 2.0. Yn ddiweddar, cyfarfu’r pwyllgor i adolygu Cylch Gorchwyl drafft y pwyllgor. Cytunodd y Bwrdd â chynnig y pwyllgor y dylai cwmpas y pwyllgor ganolbwyntio ar y newid diwylliannol a’r cynllun datblygu pobl sydd ei angen i sicrhau bod y cylch gwaith a bennwyd gan y Dirprwy Weinidog yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus - yn hytrach na chanolbwyntio ar gynllunio rhwydwaith a materion mwy gweithredol.
Bu’r pwyllgor yn trafod aelodaeth a risg y pwyllgor hefyd. Cytunodd y Bwrdd, gan ei bod yn debygol y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr is-bwyllgorau, y dylai’r pwyllgor fabwysiadu aelodaeth hyblyg ac y dylai holl aelodau’r bwrdd gael yr opsiwn i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd [Cam gweithredu Jeremy Morgan].
Pwyllgor Prosiectau Mawr. Bu'r cyfarfod diweddar yn adolygu’r Swyddfa Rheoli Prosiect; Crossrail Caerdydd; bysiau; Llinellau Craidd y Cymoedd; ac adnewyddu seilwaith.
Pwyllgor Pobl. Roedd cyfarfod diweddar y pwyllgor yn canolbwyntio ar ganlyniadau diweddar yr arolwg / archwiliad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; dangosfwrdd, lifrai; alinio gwobrau; model gweithredu integredig ar gyfer bysiau; cynllunio’r gweithlu; ac ymgysylltu â’r gymuned.
5.6 Is-fyrddau’r cwmni
Yn ystod cyfarfod diweddar y Bwrdd Rheilffyrdd, cafwyd trafodaethau ynghylch perfformiad, diogelwch, isbwyllgor OPB, unedau MKIV, cyllid, cyflwr terfynol y fflyd ar rwydwaith Trawsffiniol Cymru, a strategaeth cerbydau.
5.7 Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diwethaf y Bwrdd Llywio yn canolbwyntio ar berfformiad, Dangosyddion Perfformiad Allweddol, cyllid a chyllidebau.
5.8 Panel cynghori
Yn ystod cyfarfod diweddar y Panel Cynghori, cafodd yr aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y rheilffyrdd, newidiadau i amserlenni, cerbydau, teithio llesol a masnachfreinio bysiau. Hefyd, cafodd yr aelodau eu briffio ar fecanwaith adrodd newydd TrC ar gyfer dangosyddion perfformiad allweddol.
Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.