Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Ebrill 2021

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

15 Ebrill 2021

10:00 – 16:30

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.

Yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitem 2c); Jan Chaudhry (eitem 5); Chris Williams (eitem 6a) a Jeremy Morgan. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden; David O’Leary; Lewis Brencher; Lisa Yates; Lee Robinson; Alexia Course; Karl Gilmore; a Dave Williams.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Alun Bowen. 

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod yna gworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Ar ôl gwneud un mân newid, derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 18 Mawrth 2021 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y cofnod camau gweithredu.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Er bod rhai agweddau ar fywyd yn dychwelyd i normal, dylid parhau i gadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo da.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Mae’r rheolau ar wisgo gorchudd wyneb yn wahanol ledled y DU. Mae angen i ni fod yn ystyriol o gwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaethau sy’n croesi ffiniau lle gallai’r rheolau fod yn wahanol; a lle maen nhw’n wahanol, dylid cael arwyddion yn nodi hynny.

 

2c. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Mae adolygiadau DPA wedi dechrau a byddant yn datblygu dros y misoedd nesaf. Mae papur ymchwil yn cael ei gynhyrchu sy’n edrych ar effaith hirdymor COVID-19 ar weithwyr TrC a bydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Gwasanaethau Corfforaethol yr Uwch Dîm Arwain ar sail asesiadau risg i staff [Gweithredu - LP i’w rannu â NF]. Mae cefnogaeth barhaus yn cael ei rhoi i’r gweithrediadau glanhau ac mae adolygiad o asesiadau risg ar y gweill.

Nid oedd RIDDOR wedi cofnodi unrhyw anafiadau yn ystod cyfnod 12 y rheilffordd, felly roedd gostyngiad yn y Mynegai Digwyddiadau Difrifol a Marwolaethau. Mae cwsmeriaid yn dychwelyd at wasanaethau ac mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cydymffurfio â’r rheolau gwisgo gorchudd wyneb a gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ystod cyfnod 12 y rheilffordd, roedd un digwyddiad heb amheuaeth lle gwnaeth trên daro person ar groesfan reilffordd, 14 o ddigwyddiadau’n ymwneud â’r gweithlu, pedwar digwyddiad nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu, pum ymosodiad corfforol ac un SPAD yn ystod siynt. Cafwyd cyflwyniad ar y strategaeth SPAD yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles.

Roedd 57 o ddigwyddiadau ar draws y seilwaith lle bu bron i ddamwain ddigwydd. Mae diwylliant da o adrodd am ddigwyddiadau wedi’i ddatblygu, ond mae angen gweithio i ganfod beth sydd y tu ôl i’r cynnydd ac a yw’r materion sy’n cael eu hadrodd yn ddigon arwyddocaol i gyfiawnhau gweithredu pellach. Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Y mis diwethaf oedd y tro cyntaf ers cryn amser i’r Weithrediaeth allu myfyrio’n strategol a dechrau’r broses o ail-lunio cynlluniau a chydlynu gwahanol feysydd o’r busnes newydd yn briodol. Yn benodol, mae gwaith manwl wedi’i wneud o ran cerbydau, depos a mannau cadw trenau a'r cysylltiad â thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos sefyllfa fwy cadarnhaol o ran costau ac amserlenni.

TYNNWYD

Mae rhaglen o sesiynau herio ar waith gyda thîm Amey, ac mae allbwn y cyfarfodydd hyn yn cynyddu hyder o ran cyflawni yn erbyn y cynllun, gyda sawl ffordd gredadwy o gyflwyno’r rhaglen ar amser. Cytunodd y bwrdd y dylai’r rhai sy’n ymwneud â’r rhaglen gael eu dal i gyfrif am gyflawni’r rhaglen yn unol â'r amserlen a'r gyllideb, a dylent chwilio am ffyrdd o gyflymu’r broses o lunio’r rhaglen. Mae’r sesiynau herio hyn hefyd yn edrych ar y risgiau o ganolbwyntio gormod ar fanylebau yn hytrach nac ar allbynnau a chyllidebau.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am heriau allweddol eraill gan gynnwys dull strategol TrC o sicrhau bod yr holl weithgareddau’n arwain at greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sydd wedi’i chynllunio’n dda; manteisio ar gyfleoedd i adeiladu sefydliad effeithlon drwy chwalu seilos a rheoli dyblygu diangen; pennu strategaeth fasnachol a chwsmeriaid TrC; a dylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth, yn enwedig ym maes trafnidiaeth integredig a chynllunio defnydd tir.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

3b. Cyllid

Nododd y Bwrdd yr adroddiad cyllid. Nid oedd cyfrifon rheoli ar gyfer Mawrth 2021 ar gael oherwydd gweithgareddau diwedd y flwyddyn. Bydd cyfrifon drafft 2020-21 yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru yr wythnos hon. Fodd bynnag, cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran gwariant cyfalaf a gweithredol yn erbyn alldro, ond bydd yr wybodaeth yn newid i adlewyrchu’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau cyllid a gafodd eu blaenoriaethu dros y mis diwethaf, gan gynnwys cymeradwyaeth derfynol ar gyfer y datganiad asedau net ac adroddiad archwilio’r EMA; gweithgareddau cau ar ddiwedd y flwyddyn; prisio asedau Llinellau Craidd y Cymoedd ac archwiliad allanol; gwasanaethau ychwanegol gan gynnwys glanhau, grantiau teithio llesol, mentrau bysiau, Gwasanaethau Arloesi TrC a mentrau newydd eraill ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd; a chylch gwaith y flwyddyn ariannol newydd ar gyfer 2021/22, ynghyd â chynllun busnes a’r gyllideb gysylltiedig.

TYNNWYD

Gofynnodd y Bwrdd am dystiolaeth i gefnogi ymateb TrC i COVID-19 mewn perthynas â beth fydd rhwymedigaethau'r dyfodol, yn enwedig y dystiolaeth a’r cofnodion y gellir eu defnyddio i ddangos sut mae TrC wedi cefnogi a diogelu pobl.

Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod datganiad elw a cholled TrC wedi’i gynnwys yn yr adroddiad cyllid ar gyfer cyfnod 12 y rheilffordd, sy’n rhoi syniad o’r gwaith sydd angen ei wneud i gynyddu refeniw wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Gofynnodd y Bwrdd am sylwadau a syniadau ynghylch sut mae refeniw yn cael ei olrhain yn erbyn cynlluniau [Cam Gweithredu Heather Clash].

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

3c. Diweddariad am yr is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgorau Archwilio a Risg, Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Iechyd, Diogelwch a Lles a Phobl.

Trafododd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu waith personas parhaus [Gweithred – Jeremy Morgan i’w ddosbarthu] a’r angen i adolygu gwerthoedd TrC i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â theimladau a meddyliau cwsmeriaid.

 

3d. Bwrdd Llywio TrC

Ym mis Mawrth, cafodd Bwrdd Llywio TrC drafodaethau am strwythurau llywodraethu; dangosyddion perfformiad allweddol, newidiadau i staff uwch, heriau o ran cadw pellter cymdeithasol, a llythyr cylch gwaith TrC a chynnydd gyda Chynllun Busnes 2021-22.

 

4. Sesiwn AD gyfrinachol

TYNNWYD

 

5. Unrhyw fater arall

Ymunodd Jan Chaudhry a'r cyfarfod i gyflwyno ei hun i'r Bwrdd fel Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL a GO a'r cyfarfod.

 

6a. Refeniw Teithwyr Rheilffordd

Ymunodd Chris Williams a'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar refeniw teithwyr, gan nodi beth yw refeniw teithwyr; y mathau o docynnau a chyfrifoldebau'r Prif Weithredwr/Gweithredwr Eilaidd; y materion sy'n ymwneud a rheoleiddio a'r broses pennu prisiau; tueddiadau yn y gorffennol; cost gwerthu; rhagolygon a materion allweddol sy'n debygol o effeithio ar y galw gan gwsmeriaid a refeniw dros y pum mlynedd nesaf. Trafododd y Bwrdd gynnwys y cyflwyniad, a'i nodi.

 

6b. Tocynnau

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad am docynnau talu wrth ddefnyddio, a oedd yn tynnu sylw at y manteision yn seiliedig ar brofiadau darparwyr eraill sy'n sicrhau buddion i gwsmeriaid o ran hwylustod, patrymau teithio modern, rhoi mwy o hyder i deithwyr eu bod yn talu'r pris iawn am eu taith; caniatau mwy o deithio heb ei gynllunio; a chapio tocynnau'n awtomatig. Trafododd y Bwrdd y cyflwyniad a'i nodi, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod swyddogaeth cymorth swyddfa gefn briodol ar waith yn ogystal a dull o ddosrannu tocynnau.

 

6c. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risgiau Strategol gyda chwe risg yn cael eu huwchgyfeirio i'r Bwrdd, sef: adennill cyllid ERDF o raglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, argaeledd cyllid, rhwymedigaethau rheilffyrdd, oedi wrth gyflawni'r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn sgil COVID-19, canfyddiad gwael y cyhoedd o TrC a methiant i wella'r broses o drawsnewid rheilffyrdd. Trafododd y Bwrdd y risgiau ac roeddent yn fodlon a'r mesurau lliniaru sydd ar waith.

 

6d. Cyfathrebu

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad Cyfathrebu. Argraff gyffredinol y brand oedd +17.0 ar gyfer mis Mawrth, sy'n ostyngiad o +20.5 ym mis Chwefror. Roedd hyn dal yn welliant net o un flwyddyn i'r llall o +9.2.

Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi mewn perthynas â phob maes busnes ar gyfer y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, Llywodraeth Leol, a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu ar 6 Mai 2021. Roedd y Bwrdd, yr Uwch Dîm Arwain a chynrychiolwyr undebau’n rhan o’r gwaith cynhyrchu ac fe gafodd cynllun cyfathrebu mewnol ei roi ar waith i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r canllawiau.

Yn ystod mis Mawrth, roedd cysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn sefydlog, gyda gostyngiad bach tua diwedd y mis oherwydd dechrau’r cyfnod cyn yr etholiad ac o ganlyniad i hynny, gostyngiad mewn cynnwys rhagweithiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

6e. Y diweddaraf am fysiau

Mae 76 o weithredwyr (93%) wedi cofrestru â BES 2, gan adael dim ond nifer fach o weithredwyr, cymunedol yn bennaf, ar ôl.

Holodd y Bwrdd sut bydd y broses o ddylunio'r rhwydwaith yn cael ei chwblhau a sut bydd y penderfyniad terfynol ar ddylunio’n cael ei wneud. Bydd cynlluniau cyflawni ar lefel leol yn cael eu datblygu a bydd y rhain yn bwydo i mewn i gynlluniau rhanbarthol, gyda’r broses gymeradwyo i’w phennu.

 

6f. Prosiectau seilwaith – edrych ymlaen at y chwe mis nesaf a dangosfwrdd Llinellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd gynnwys y prosiectau seilwaith – adroddiad yn edrych ymlaen at y chwe mis nesaf a dangosfwrdd Llinellau Craidd y Cymoedd. Nodwyd bod rhywfaint o lithro wedi bod yng ngharreg filltir rhif 9 y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a bod materion a gafodd eu huwchgyfeirio’n cael eu lliniaru.

 

6g. Cynnydd yn erbyn cerrig milltir

Nododd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn cerrig milltir corfforaethol.

 

6h. Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Busnes

Mae’r Cynllun Busnes drafft wedi cael ei rannu â Llywodraeth Cymru a bydd y fersiwn nesaf yn cael ei rannu â’r Bwrdd i’w gymeradwyo ar ôl etholiadau’r Senedd.

 

6i. Diwrnod strategaeth y Bwrdd

Cytunodd y Bwrdd ar yr agenda ddrafft ar gyfer y Diwrnod Strategaeth nesaf.

 

Unrhyw fater arall

Drwy ohebiaeth, roedd y Bwrdd wedi cymeradwyo Cais i Weithredu Tendr Sengl i gael System Tynhau Sbringiau gwerth £2.6 miliwn ar gyfer Llinellau Uwchben ar Reilffyrdd Trydan.