Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Rhagfyr 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

15 Rhagfyr 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Sarah Howells.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 17 Tachwedd 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Nawr bod amodau’r gaeaf wedi ein cyrraedd, mae angen bod yn glir ynghylch meysydd cyfrifoldeb TrC dros raeanu ac ati i atal llithro, baglu a chwympo.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Roedd y pwyntiau wedi torri yng Nghaerdydd Canolog y bore yma. Byddai’r cyfathrebu â chwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt wedi gallu bod yn well.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. 

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddau arolygiad diweddar gan Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd mewn perthynas â rheoli gyrwyr a hyfforddiant staff yr ystafell reoli. Ni nodwyd unrhyw broblemau mawr.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd ei friffio am ddau ddigwyddiad yn safle adeiladu depo Ffynnon Taf, y camau a gymerwyd ar unwaith mewn ymateb, a’r broses ymchwilio ddilynol.

Mae perfformiad diogelwch y rheilffyrdd yn erbyn targedau yn parhau i wella’n gyson ar gyfer y rhan fwyaf o’r dangosyddion perfformiad allweddol. 0.02 oedd sgôr mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli y gweithlu dros y cyfnod, gyda chyfartaledd blynyddol newidiol o 0.04. Mae hyn yn is na’r ffigur a ragwelwyd, sef 0.07. Roedd gostyngiad mewn anafiadau nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu dros y cyfnod ond mae’r ffigurau’n dal ychydig yn uwch na’r rhai a ragwelwyd. Prif achosion anafiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu yw PTI a llithro, baglu a chwympo.

Mae ymosodiadau corfforol wedi gostwng o 27 yn y cyfnodau 04-06 i 16 yn y cyfnodau 07-08. Nid oedd unrhyw SPADs yng nghyfnod 08. 

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i storio batris lithiwm yn ddiogel ar gyfer y fflyd rheilffyrdd newydd, datblygu cynllun atal hunanladdiad ar y cyd â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, a gweithredu Ymgyrch Genesis.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod. 

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Yn ystod y mis diwethaf, canolbwyntiwyd ar gyllidebau a chynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, cyflwyno unedau CAF newydd i’r gwasanaeth i deithwyr, cynllunio hirdymor parhaus ynghylch ymyriadau trafnidiaeth yn y dyfodol, ffocws parhaus ar gyflawni rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, a chynnydd o ran adolygu teithio llesol.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar fysiau, gweithio gyda’n gilydd i sicrhau newid mewn dulliau teithio, ymateb i’r newid yn yr hinsawdd, a’r angen i gynnig cyfres o opsiynau cyflawni.

Roedd y Bwrdd yn croesawu’r ffaith bod yr holl drafodaethau ynghylch cyflogau ar draws grŵp cwmnïau TrC wedi dod i ben gyda chanlyniad. Diolchodd y Bwrdd i’r holl dimau am gefnogi’r gwahanol agweddau ar gyflawni hyn. 

TYNNWYD

Mae’r cynnydd o ran trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn parhau’n dda, gydag uwch reolwyr yn canolbwyntio’n benodol ar yr adran Caerdydd i Rymni a dechrau defnyddio.

TYNNWYD

Mae adolygiad o weithgareddau teithio llesol yn parhau i sicrhau bod ansawdd cynlluniau ledled Cymru mor uchel â phosib, ac i hwyluso newid mewn dulliau teithio. Nododd y Bwrdd y materion allweddol sy’n cael eu hadolygu, gan gynnwys cynlluniau treigl dros ddiwedd y flwyddyn a chyflymder dyrannu gwariant gweithredol i awdurdodau lleol. Caiff archwiliad dwfn ei gynnal yn y dyfodol agos. 

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Mae’r ffocws wedi bod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy’n nesáu, ac ar gynllunio ar gyfer 2023-24. 

TYNNWYD

Hysbyswyd y Bwrdd bod trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch cynnal a chadw’r trenau dosbarth 230 ar ôl i Vivarail fynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Nododd y Bwrdd nad oes unrhyw beth yn ddyledus gan Vivarail i TrC ond ei fod yn chwilio’n frwd am ddarnau sbâr a chyfarpar ar gyfer yr unedau.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynllun busnes 2023-24, mesurau i fynd i’r afael ag osgoi talu am docyn, a chynnydd o ran datblygu’r Amgylchedd Rheoli Uwch.

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli mis Tachwedd 2022. 

 

3c. Cynnig i gau PTI Cymru Holdings Ltd

Cymeradwyodd y Bwrdd y canlynol: 

  • Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i Gytundeb Trosglwyddo Asedau, gan dderbyn yn gyfreithiol rhwymedigaethau PTI Cymru yn y dyfodol i’r cwmni;
  • hysbysiad yn cael ei roi i Dŷ’r Cwmnïau bod PTI Cymru wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

4. Cyllideb

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad a thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyllideb 2023-24.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

5. Diweddariad ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Tony Mercado, Dan Tipper a Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod. 

TYNNWYD

Gadawodd Tony Mercado, Dan Tipper a Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.

 

6. Edrych ymlaen at chwe mis nesaf Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd y broses edrych ymlaen a chytuno y dylid cynnwys unrhyw eitemau arwyddocaol yn adran seilwaith adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

7. Rhaglen Gwelliannau Caerdydd Canolog

Ymunodd Geoff Ogden, Amy Nicholls ac Adam Day a'r cyfarfod. 

TYNNWYD

Gadawodd Amy Nicholls ac Adam Day y cyfarfod.

 

8. Talu wrth Fynd

Ymunodd Dave Williams a Helen Mitchell a'r cyfarfod. 

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar amseriadau a chostau rhaglenni.

Ymunodd Dave Williams a Helen Mitchell a'r cyfarfod.

 

9. Mynd i'r afael a'r newid yn yr hinsawdd yn TrC

Ymunodd Hayley Warrens a Leyton Powell a'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfeiriad strategol TrC o ran mynd i'r afael a risgiau sy'n gysylltiedig a'r hinsawdd ac argymhellion ynghylch sut gall TrC wella ei gadernid a'i allu i ymaddasu ymhellach. Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y gyfres o ofynion adrodd ar garbon sy'n berthnasol i TrC a chytunodd i wneud y canlynol:

  • dirprwyo'r gwaith o fonitro risgiau hinsawdd a chynnydd i'r ls-bwyllgor lechyd, Diogelwch, Llesiant a Chynaliadwyedd, drwy'r Grwp Llywio Ymaddasu i'r Hinsawdd;
  • cefnogi'r gwaith o weithredu safonau ISO 14090:2019 a BS 8631 i ddarparu fframwaith cadarn i TrC ar gyfer cynllunio mewn cysylltiad a'r hinsawdd; gwella'r broses o wneud penderfyniadau, a rheoli costau ymaddasu;
  • hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud i hybu a blaenoriaethu'r agenda ymaddasu i'r hinsawdd;
  • cymeradwyo defnydd parhaus o ganllawiau Llywodraeth Cymru i roi fframwaith cynhwysfawr a chadarn i TrC ar gyfer adrodd ar garbon corfforaethol.

Gadawodd Hayley Warrens y cyfarfod.

 

10. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y gofrestr risgiau strategol a’i thrafod.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Jan Chaudhry Van de Velde, Andy Quinton a Geoff Ogden y cyfarfod.

 

12. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant a’r pwyllgor Archwilio a Risg.

Cytunodd y Bwrdd y dylai camau lliniaru a gymerwyd yn erbyn risgiau a nodwyd yn y gofrestr risg strategol gael eu cynnwys yn adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol o fis Chwefror ymlaen. [Cam Gweithredu James Price a Jeremy Morgan].

 

13. Y Bwrdd Rheilffyrdd

TYNNWYD

 

14. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC wedi rhoi sylw i weithio gyda gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru, cyllidebau a phrosiect Cyfnewidfa Caerdydd.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.