Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Mai 2024

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

16 Mai 2024

10:00 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams

 

Yn Bresennol:

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones a James Price.

 

Hefyd yn bresennol:

Gareth Evans (Llywodraeth Cymru), Jeremy Morgan, a Gareth Pembridge (Arsylwr, eitemau 1 i 7).

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Ymddiheurodd Alan McCarthy (Unite) ac Andrew Morgan.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Ebrill 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Tynnodd cynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar sylw at effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a diogelwch pobl ac asedau. Trafododd y Bwrdd yr angen i ddeall y risgiau, a dod â risgiau iechyd a diogelwch a newid yn yr hinsawdd at ei gilydd.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Roedd y tarfu ar wasanaethau’r bore yma wedi achosi rhywfaint o oedi ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, ond roedd y cyfathrebiad drwy gyhoeddiadau a gardiau ar y trên yn gyson ac yn effeithiol.

 

2. Diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.

  • Nododd cyfarfod cychwynnol grŵp llywio Ymddygiadau Diogel Cwsmeriaid feysydd targed ar gyfer gwella, a darparodd ymwybyddiaeth a datblygiad parhaus i gyflawni amcanion y grŵp. Bydd y grŵp llywio yn parhau i gyfarfod bob wyth wythnos.
  • Cafodd ardal storio batris lithiwm ymweliad safle gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i helpu i ddatblygu gweithdrefnau ymateb brys ar gyfer Depo Treganna.
  • Mae cofrestr astudiaeth HAZOP wedi’i chwblhau ynghyd â’r gwaith o gwblhau’r cynllun gweithredol ar gyfer Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.
  • Cafwyd canlyniadau cadarnhaol yn gyffredinol ar draws pob metrig perfformiad diogelwch.
  • Cynhaliwyd ymarfer brys yn nhwnnel Caerffili, a oedd yn canolbwyntio ar brofi offer cyfathrebu a defnyddio unedau ffyrdd-rheilffyrdd. Nodwyd sawl risg, a chynhaliwyd trafodaethau â Network Rail ar fesurau lliniaru.
  • Mae gwaith ar adolygu gwasanaethau galwedigaethol yn parhau drwy gynnal cyfarfod yn ddiweddar gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a threfnu ymweliad safle sydd ar fin digwydd i weld sut mae eu prosesau’n gweithio.

Trafododd y Bwrdd risgiau sy’n gysylltiedig â thresmasu mewn perthynas â chroesfannau rheilffyrdd a thrafodaethau blaenorol ynghylch ymyrraeth. Cafodd y Bwrdd ei hysbysu bod Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd wedi adolygu’r mater y llynedd ac y bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf yr is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant [Nicola Kemmery a Leyton Powell i weithredu].

 

3. Rheoli risg yn strategol

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol a’r Adroddiad ar Lefelau Bygythiad. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am broses rheoli risg Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, a chroesawodd yr hyder o ran cael gwell gafael ar risgiau ar y rhaglen ers cymryd yr awenau gan AIW dros y broses.

Mae un ‘mater’ newydd wedi cael ei ychwanegu at y gofrestr risg sy’n ymwneud â gwahanu gwastraff, ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch a ddylid trin trenau fel gweithle. Codwyd y mater yn y Bwrdd Llywio diwethaf.

 

4. Cenedlaethau’r Dyfodol

Roedd Derek Walker (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol), Heledd Morgan (Cyfarwyddwr: Gweithrediad ac Effaith, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol), Natalie Rees (Pennaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, TrC) a Louise Moon (Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy, TrC) wedi ymuno â’r Bwrdd.

Rhoddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gefndir a chyd-destun i’w swydd ac i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Aeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ati i gyfleu ei ddiolch i TrC am berthynas waith gadarnhaol, gan gynnwys cyfranogiad TrC yn yr academi arweinyddiaeth. Er bod TrC yn cael ei enwi’n ffurfiol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) (y Ddeddf), dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei fod yn cydnabod cydymffurfiaeth wirfoddol TrC ers sefydlu’r sefydliad.

Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod yr aliniad rhwng yr hyn mae TrC a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ceisio ei gyflawni, a sut mae’r sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r nod hwnnw.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu strategaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sef ‘Cymru Can’, a’r pum cenhadaeth gysylltiedig sy’n annog cyrff cyhoeddus i gymryd camau i lunio dyfodol cadarnhaol; a llunio blaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn y presennol ac yn y dyfodol. Cynhaliwyd trafodaeth ar sut y bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu i lunio a chefnogi rhai o'r materion mwy anodd sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon. Nododd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei awydd i fod yn gynghreiriad i gyrff sy’n cael eu henwi yn y Ddeddf i fodloni canlyniadau a’r manteision o gael ‘golwg gyffredinol’ o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy’n ei alluogi i nodi meysydd i’w gwella a chyfleoedd yn y dyfodol.

Rhoddodd Natalie Rees drosolwg o waith parhaus TrC i gydymffurfio â’r Ddeddf a’r newid yn ffocws prosiectau datblygu cynaliadwy TrC, o gyflawni i effaith, a chymryd rhan yn Academi Arweinyddiaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd y Bwrdd a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad archwilio mewnol diweddar a oedd yn canolbwyntio ar sut mae TrC wedi gwreiddio’r Ddeddf. Roedd yr adroddiad yn darparu ‘sicrwydd rhesymol’ ac mae cynllun ar waith i fynd i’r afael ag argymhellion yr adroddiad. Mae matrics aeddfedrwydd wedi’i gwblhau’n ddiweddar hefyd, ac fe’i cymeradwywyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’i rannu gyda’r cyrff cyhoeddus eraill fel arfer da.

Rhoddodd Louise Moon gyflwyniad i’r Bwrdd ac i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar brosiect diweddar a oedd yn mesur gwerth cymdeithasol. Croesawodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol y prosiect a’i ganlyniadau, a gofynnodd i’r prosiect gael ei rannu â chyrff cyhoeddus eraill. Mae’r prosiect hefyd yn cael ei ddefnyddio’n fewnol i ddatblygu methodoleg ar gyfer mesur manteision y Metro. 

Trafododd y Bwrdd a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol sut gall Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol helpu gyda negeseuon TrC o ran newid dulliau teithio. Cytunwyd y bydd TrC yn rhoi cyflwyniad i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar y rhwydwaith-T [Lewis Brencher/Natalie Rees i weithredu].

 

5. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol

Bu’r Bwrdd yn trafod cynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Mae perfformiad y rheilffyrdd yn parhau i wella, ac mae’n amlwg bod mwy o gerbydau ar wasanaethau i Fanceinion. Roedd dechrau’r cyfnod rheilffordd diwethaf yn heriol oherwydd problemau â’r seilwaith o ganlyniad i’r tywydd ond nad oeddent ar Linellau Craidd y Cymoedd, ond roedd y mater wedi’i ddatrys gyda pherfformiad cryf tua diwedd y cyfnod. Fodd bynnag, mae prinder unedau yn dal i achosi problemau ac fe gafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau presennol o ran cerbydau rheilffyrdd, gan gynnwys cerbydau Class 150 yn cael problemau cynnal a chadw yn y cyfnod cyn cael eu disodli gan drenau Class 756.
  • Mae gwaith yn parhau i gyflawni’r ‘rhwydwaith-T’, a dyma’r mater strategol mwyaf o hyd. Hysbyswyd y Bwrdd bod cynnydd da wedi’i wneud o ran twf refeniw teithwyr, ond bod targedau heriol wedi’u gosod ar gyfer eleni. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan Gyfarwyddwr Marchnata newydd a fydd yn cael ei benodi’n fuan, gyda’r swydd yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y teithwyr, cynyddu refeniw a chynyddu cyfran y farchnad.
  • Mae’r gwaith o ddatblygu’r agenda bysiau yn parhau, wrth i’r gwaith barhau gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i fasnachfreinio yn y dyfodol ac ar y broses o bontio i fasnachfraint. Mae’r gwaith yn cael ei gydgysylltu fwyfwy â chynllun clir o nawr hyd at ddechrau’r fasnachfraint.
  • Mae’r adborth ar ddelio â’r digwyddiadau pêl-droed diweddar wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae Rheolwyr Gyfarwyddwyr Cwmnïau Trên eraill wedi bod yn gofyn am gael ymweld â TrC i gael golwg ar y broses. Roedd y sylw negyddol a roddwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau i'r ffordd roedd TrC wedi delio a digwyddiadau yn siomedig gan ei fod yn seiliedig ar adroddiad gan Bwyllgor y Senedd o ddigwyddiadau beth amser yn 6l. Ers hynny, mae'r perfformiad wedi gwella'n sylweddol. 
  • Trafododd y Bwrdd yr angen am sesiwn ar sut bydd y Metro yn cael ei weithredu, a sut bydd yn delio ag aflonyddwch [JM i weithredu].
  • Mae Cyfnewidfa Caerdydd wedi'i chwblhau, ond mae heriau'n parhau i godi o ran ei defnyddio. Mae cymorth allanol wedi cael ei gyflwyno gan Transport for Greater Manchester (TfGM), ynghyd a sesiwn her gan arbenigwr allanol yn y diwydiant.
  • TYNNWYD.
  • Mae perfformiad EIS yn parhau i wella. Fodd bynnag, mae'r angen i drydaneiddio rheilffyrdd Treherbert a Chanton yn barhaol a chwblhau'r gwaith o uwchraddio'r signalau a'r cledrau yng Nghaerdydd Heol y Frenhines i alluogi pedwar tren i weithredu bob awr yn dod yn bwysicach.
  • TYNNWYD.

 

6. ls-fyrddau'r cwmni

Roedd cyfarfod bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf a gynhaliwyd yn ddiweddar yn canolbwyntio ar berfformiad a refeniw, strategaeth i ddelio a chost gwerthiant, tocynnau disgownt, tocynnau tebyg i rai cwmni awyrennau a rheoli cynnyrch.

TYNNWYD

 

7. Cyllid

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid 2024/25, yr archwiliad allanol parhaus ar gyfer cyfrifon 2023/24 a datblygiad cyllidebau ar gyfer 2025/26.

Nododd y Bwrdd y bydd papur ar OLR yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Llywio yr wythnos nesaf ac yn cael ei rannu a'r Bwrdd [Jeremy Morgan i weithredu].

 

8. Pullman

Ymunodd Alexia Course, Roger Evans a Mike Whitten a'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd drafodaeth fanwl ar Pullman Rail Ltd. TYNNWYD.

Gadawodd Alexia Course, Roger Evans a Mike Whitten y cyfarfod.

 

9. Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer y cyhoedd

Ymunodd Zoe Smith-Doe a Michael Pearce â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd gynnydd yn erbyn cerrig milltir y cynllun busnes ar gyfer chwarter cyntaf 2024/25.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf, a chafwyd trafodaeth bellach ar ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol cyhoeddedig. Mae rhagor o waith wedi’i wneud ar destun rhagarweiniol a graffiau tuedd.

 

10. Yr wybodaeth ddiweddaraf am fflecsi a Traws Cymru

Ymunodd Lee Robinson a Huw Morgan â’r cyfarfod.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am statws gwasanaethau fflecsi. Nododd y Bwrdd fod yr 16 o gynlluniau fflecsi lleol ar draws chwe awdurdod lleol wedi cludo bron i 135,000 o deithwyr ers eu sefydlu. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu gan awdurdodau lleol fel rhan o gynlluniau datblygu rhwydwaith sy’n cael eu cefnogi gan TrC, a byddant yn cael eu hwyluso gan lwyfan yr Ap, y system archebu a’r ganolfan alwadau sy’n cael ei rheoli gan TrC.

Cafodd y Bwrdd ei atgoffa o’r manteision i’r cwsmer o gael TrC yn ymgymryd â’r gwaith o gaffael gwasanaeth Traws. Nododd y Bwrdd fod y rhwydwaith yn gyffredinol wedi cynyddu’r galw 19% yn 2023/24, gyda chontractau caffael TrC yn sicrhau twf o 24%, gan gynnwys twf o 65% ar ddau lwybr - sef y T1 a’r T10. Cafodd 2.26 miliwn o deithiau eu gwneud gan deithwyr ar draws y rhwydwaith o 14 llwybr, gyda refeniw bysiau wedi cynyddu 9%. Roedd gwerthiant tocynnau drwy’r Ap wedi cynyddu 67%, ac mae sianeli talu newydd ar fysiau, fel talu wrth fynd, wedi chwalu rhai o’r rhwystrau a oedd yn atal pobl rhag teithio.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ganfod rhagor o gyfleoedd ar gyfer twf refeniw drwy farchnata, tocynnau a gwasanaethau gwell ar y Sul. Mae gwersi gan Traws hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwaith parhaus o fasnachfreinio bysiau.

Gadawodd Lee Robinson a Huw Morgan y cyfarfod.

 

11. Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Disgwylir trydaneiddio rheilffordd Treherbert yr wythnos nesaf, a bydd hynny’n cwblhau’r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd TAM.

Mae rhaglen mynediad Class 756 i’r gwasanaeth yn sefydlog gydag amcangyfrifon cyfredol o fis Medi 2024.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiannau allweddol yn ystod y cyfnod, gan gynnwys y canlynol: Gorsafoedd Aberdâr a Lein y Ddinas - perfformiad gwell yn ystod y mis yn erbyn yr amserlenni Mynediad i’r Gwasanaeth ar gyfer amserlen 2 Mehefin; cael gwared ar y cyfyngiadau o ran defnyddio Pŵer y National Grid ar y system cyfarpar llinellau uwchben; ac mae’r gwaith o drosglwyddo Depo Ffynnon Taf i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf i’w ddefnyddio’n weithredol am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2024 yn dal i fod ar y rhaglen.

Croesawodd y Bwrdd y cynnydd diweddar.

 

12. Y Bwrdd Llywio

Roedd y Bwrdd Llywio diweddar yn canolbwyntio ar berfformiad rheilffyrdd, dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y cyhoedd, OLR, cyllid a chyllideb, gwahanu gwastraff, adroddiad y Prif Swyddogion Gweithredol, masnachfraint bysiau, cyfathrebiadau o amgylch Cyfnewidfa Caerdydd, a rheoli risg.

Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.