Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Rhagfyr 2021

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

16 Rhagfyr 2021

09:00 - 16:30

Lleoliad: ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen; Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1 a2); Leyton Powell (eitem 2d); Marie Daly (eitem 4) a Jeremy Morgan.

Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Lewis Brencher (eitem 15); Alexia Course (eitemau 13 ac 14) Karl Gilmore (eitemau 7 ac 8); Richard Marwood; (eitem 7); Geoff Ogden; David O’Leary; Leyton Powell (eitem 12); Lee Robinson (item 6); Dave Williams; a Lisa Yates.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Datganodd Sarah Howells ddiddordeb mewn perthynas ag eitemau 2a a 10 fel un o weithwyr Jwrasig Fibre.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Ar ôl gwneud mân newidiadau, derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Tachwedd 2021 yn gofnod gwir a chywir.  
Nodwyd y cofnod camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Roedd peiriant cloddio ffyrdd-rheilffyrdd wedi troi drosodd yng ngorsaf Market Harborough gan arwain at ddirwy o £600,000 i Amey. Digwyddodd y ddamwain o ganlyniad i newid maint yr offer o’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen i fod yn ymwybodol o newid a’r effeithiau y gall eu cael.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid 

Yn sgil aros mewn gwesty yn ddiweddar lle’r oedd grŵp o glientiaid swnllyd a chroch, cafwyd argraffiadau negyddol o’r gadwyn gwestai er bod hyn y tu hwnt i’w rheolaeth i raddau helaeth. Gallai hyn fod yn berthnasol i ddarpariaeth gwasanaethau TrC lle gallai ymddygiad teithwyr effeithio ar frand TrC hyd yn oed os nad yw’n uniongyrchol gyfrifol.

 

2a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae effaith COVID yn parhau ar draws timau, gan effeithio ar unigolion, gwasanaethau a chyflawni prosiectau. Yn gyffredinol, mae teithio ar drenau yn cynyddu, ac mae teithio heb docyn wedi lleihau. Fodd bynnag, mae nifer y teithwyr yn debygol o ostwng eto gyda dyfodiad amrywiolyn Omicron, a fydd hefyd yn arwain at lai o drenau.

Mae perfformiad y rhwydwaith wedi bod yn llai da nag a gofnodwyd yn ystod y cyfnod diwethaf oherwydd amryw o faterion. Mae’r rhain yn cynnwys tywydd eithafol, sydd wedi effeithio ar faint o gerbydau sydd ar gael yn sgil coed yn cwympo; yn ogystal â materion yn ymwneud â diffyg darpariaeth gyflenwi ar gyfer shifftiau giardiau a gyrwyr yn rhannol oherwydd salwch, COVID, a llai o awydd yn ôl pob tebyg i weithio goramser ers cyfnod cyntaf COVID. Mae cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i gynllunio’n well ar eu cyfer yn y dyfodol.

Mae trafodaethau’n parhau ynghylch cynnal a chadw trenau gyda CAF a Stadler, ac un o’r prif faterion sy’n cael eu hystyried yw sefydlu a rhedeg depo Ffynnon Taf. Bydd natur gyfrifiadurol y depo yn arwain at ffyrdd newydd o weithio a bydd angen buddsoddi yn y sgiliau a’r profiad cywir er mwyn sicrhau llwyddiant.  

TYNNWYD

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth TrC ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cyfle a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2020 o ran rhwydwaith Ffeibr ar Linellau Craidd y Cymoedd. Mae hyn i’w ystyried o dan eitem ddiweddarach ar yr agenda, ond cytunwyd y byddai Alun Bowen yn adolygu’r cyllid a gyflwynir yn y papur [Gweithredu: Alun Bowen].

Ystyriodd y Bwrdd y niferoedd staff a gofynnodd am ddadansoddiad manylach o staff uwchben a staff rheng flaen [Gweithredu: James Price i siarad â Lisa Yates].

Cytunodd y Bwrdd i drafod yn y cyfarfod nesaf y rhesymeg strategol dros dderbyn cyfrifoldebau Rhwydwaith Ffyrdd Strategol oddi wrth Lywodraeth Cymru [Gweithredu: James Price].

Cafodd y Bwrdd wybodaeth hefyd am faterion yn ymwneud â’r Protocol Drws Metro, ymgysylltu â Rheilffyrdd Prydain Fawr, masnachfreinio bysiau, rheoli tir a thrafodion.

Nododd y Bwrdd gynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol. 

 

2b. Diweddariad ar yr is-fyrddau 

Roedd cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ym mis Rhagfyr yn canolbwyntio ar berfformiad y rhwydwaith, cerbydau dosbarth 230, hawliau mynediad rheilffordd Wrecsam i Bidston, opsiynau amserlen MKIV, y briff cyflogau i yrwyr trenau, a depo Ffynnon Taf.

 

2c. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am amrywiadau i wariant o’i gymharu â rhagolygon blaenorol.

TYNNWYD

Mae rhestr o brosiectau posibl y gellid eu cyflwyno i reoli tanwariant wedi cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cafodd y Bwrdd wybod bod lefelau teithwyr rheilffyrdd ar 79% o’r lefelau cyn COVID.

Cymeradwyodd y Bwrdd y newidiadau i'r Matrics Awdurdod Dirprwyedig.  

 

2d. Diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Mae rhagor o negeseuon wedi cael eu cyhoeddi ynghylch yr angen i staff weithio gartref. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn nifer o feysydd gan gynnwys sefydlu rhaglen Arweinyddiaeth Visible Felt, fframwaith newydd ar gyfer iechyd, diogelwch, cynaliadwyedd a llywodraethu diogelwch gan AIW/TrC, ac ymateb i ganfyddiadau archwiliadau sicrwydd diogelwch. Mae adolygiad sicrwydd hefyd yn cael ei ddatblygu i adolygu ymddygiad staff AIW a’i weithlu contractwyr un ai i roi sicrwydd bod y diwylliant yn gyrru ymddygiad diogelwch yn gyntaf, neu fod tîm rheoli AIW yn nodi risgiau er mwyn cymryd camau pellach o ran gweithio’n ddiogel ar ochr y lein.

O ran y rheilffyrdd, mae’r mynegai wedi’i bwysoli ar gyfer y marwolaethau wedi gweld cynnydd bach oherwydd nifer y teithwyr sy’n llithro, yn baglu ac yn cwympo. Roedd un anaf RIDDOR penodol yn ystod y cyfnod, sef bod goruchwyliwr CVL wedi torri’i ffêr ar ôl baglu a chwympo ar risiau’r platfform. Cofnodwyd dau SPAD ac adroddwyd am un achos o afreoleidd-dra yn y broses anfon. Rhoddwyd gwybod hefyd am farwolaeth un person a oedd wedi’i daro gan drên yn ystod y cyfnod. Digwyddodd y digwyddiad yn Llwydlo, sef yr ail ddigwyddiad mewn tri mis. O ganlyniad, mae’r lleoliad wedi symud i broses uwchgyfeirio haen un gyda’r asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd i edrych ar fesurau lliniaru.

Mae Ymgyrch Genesis wedi dechrau. Mae’r ymgyrch yn gweithredu ar sail dim goddefgarwch tuag at unigolion meddw, ac ni fyddant yn cael mynd i mewn i’r orsaf na theithio ar wasanaethau. Bydd mwy o staff Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a staff Diogelwch yn cael eu lleoli yn y Canolfannau yn y cyfnod sy’n arwain at y Flwyddyn Newydd er mwyn delio â chydymffurfio o ran gorchuddion wyneb, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Mae’r gwaith o ddatblygu cynllun gwella iechyd a diogelwch ar gyfer Pullman Rail yn parhau.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.  

 

3. Rhaglen newid

Ymunodd Marie Daly â’r cyfarfod i roi trosolwg a sicrwydd ynghylch adolygiad TrC o’r model gweithredu presennol a’r cynlluniau ar gyfer datblygu model gweithredu i weithio tuag ato yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd ar set o egwyddorion arweiniol a thrafododd ei gyfrifoldebau o ran datblygu’r model gweithredu targed. Cytunodd y Bwrdd y byddai:

  • yn darparu meddwl arweiniol i’r Uwch Dîm Arwain ar gyfeiriad strategol y model gweithredu targed, gan adolygu allbynnau allweddol yn barhaus;
  • yn dal yr Uwch Dîm Arwain i gyfrif i sicrhau bod y rhaglen newid yn cyflawni ei chylch gwaith, gyda phwynt gorffen clir mewn golwg;
  • yn cwestiynu’n barhaus a oes gennym y sgiliau, yr adnoddau a’r gallu mewnol i gyflawni’r rhaglen newid; ac
  • yn goruchwylio ymgysylltiad Llywodraeth Cymru a Gweinidogion wrth ddatblygu’r model gweithredu targed.

 

4a. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles a’r Pwyllgor Archwilio a Risg, a nododd gofnodion y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu.

TYNNWYD

 

4b. Bwrdd Llywio TrC

Roedd cyfarfod blaenorol Bwrdd Llywio TrC yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau rhwydwaith ffyrdd strategol, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, cyllid ERDF, adfer y galw, PTI, Dangosyddion Perfformiad Allweddol, bysiau, Erthyglau Cymdeithasu TrC, y gyllideb a chylch gorchwyl y Bwrdd.

TYNNWYD

 

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

6. Diweddariad ar fysiau

Mae’r diwygiadau bysiau wedi canolbwyntio ar deithwyr, wedi’u harwain gan yr egwyddor o ‘un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn’, a fyddai’n berthnasol i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cyfan. Ceir consensws ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fod y system ddadreoleiddiedig bresennol wedi torri, ei bod yn gymhleth a bod angen ailystyried rolau a chyfrifoldebau.

TYNNWYD

Roedd y Bwrdd yn awyddus i sicrhau nad yw TrC yn cael ei ddal yn atebol am benderfyniadau a wneir gan eraill ac nad oes gan TrC reolaeth drostynt.

Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod.

TYNNWYD

Mae trafodaeth fanwl gyda Llywodraeth Cymru ar sefyllfa ddiweddaraf y rhaglen wedi’i threfnu ar gyfer yr wythnos nesaf.

 

8. Golwg chwe mis ymlaen ar Linellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad golwg chwe mis ymlaen ar Linellau Craidd y Cymoedd.

 

9. Strategaeth Gorfforaethol

Nododd y Bwrdd y cynnydd a wnaed o ran datblygu’r Strategaeth Gorfforaethol ac awgrymodd rai mân ddiwygiadau.

 

10. Masnacheiddio Ceblau Ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd

Datganodd Sarah Howells wrthdaro buddiannau a gadawodd y cyfarfod dros dro.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr Achos Busnes a gymeradwywyd ganddo yn Ch3 2020 i fasnacheiddio’r capasiti sbâr ar geblau ffeibr CVL 432. Er bod y Bwrdd wedi cymeradwyo’r achos busnes, gwnaeth Llywodraeth Cymru ohirio’r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgydio yn y prosiect yn ddiweddar ac wedi gofyn am ailgyflwyno’r achos busnes sydd wedi cael ei ddiweddaru a’i ddiwygio.

Nododd y Bwrdd y diweddariad a gofynnodd i’r Pwyllgor Prosiectau Mawr ddarparu rhywfaint o oruchwyliaeth a chraffu.

 

11. Pris Tocynnau’n Codi

Ailymunodd Sarah Howells â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y broses a’r dull o bennu’r cynnydd mewn prisiau. Cytunwyd i gynnal trafodaeth bellach yng nghanol 2022 ar gyfer y Bwrdd cyfan neu is-grŵp.

 

12. Adroddiad ar lefel bygythiadau a’r gofrestr risg strategol

Ar hyn o bryd mae pedair risg agored ar gofrestr risg y Tîm Arwain Strategol / Bwrdd. Ychwanegwyd tair arall at yr adroddiad fel risgiau a materion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, er gwybodaeth. Nododd y Bwrdd rai mân newidiadau mewn sgoriau risg.

 

13. Adolygiad strategol o Gytundeb Grant OLR

Ymunodd Alexia Course â’r cyfarfod.

Atgoffwyd y Bwrdd bod y Cytundeb Grant OLR rhwng Gweinidogion Cymru a Rheilffyrdd TrC Cyf yn ofyniad o dan y Ddeddf Rheilffyrdd. Mae’r Cytundeb Grant OLR, a ddaeth i rym ar 7 Chwefror 2021, yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer adolygiad strategol o rai rhwymedigaethau sydd ynddo. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am fanylion a chanlyniad yr adolygiad hwnnw. Cymeradwyodd y Bwrdd y diwygiadau i’r Cytundeb Grant OLR a chyhoeddi’r ddogfen ddiwygiedig.

 

14. Proses amrywio’r Cytundeb Grant OLR

Cymeradwyodd y Bwrdd y broses y bydd TrC a Rheilffyrdd TrC Cyf yn ei dilyn o ran cytuno ar amrywiadau i’r Cytundeb Grant OLR a’u ffurfioli.

 

15. Cyfathrebu

Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am themâu allweddol yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu dros y mis diwethaf, gan gynnwys digwyddiadau tywydd eithafol, lansio trenau newydd, nifer cynyddol o ymholiadau gan y cyfryngau, newidiadau i’r ymgyrch teithio’n saffach, yr angen am gynllunio tymor hwy ar gyfer ymgyrchoedd strategol, paneli rhanddeiliaid rhanbarthol, marchnata, ac ymholiadau gan Aelodau o’r Senedd ac ASau. Mae’r nawdd gan dywydd ITV wedi cael ei ddefnyddio i hyrwyddo negeseuon am orchuddion wyneb.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniad, a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.