Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Mehefin 2021
Cofnodion Bwrdd Trafnidiaeth Cymru
17 Mehefin 2021
10:00 - 16:30
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen; Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Alison Noon-Jones; a James Price.
Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitem 2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn y diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden; David O’Leary; Lewis Brencher; Lisa Yates; Lee Robinson; Alexia Course; Karl Gilmore; a Dave Williams.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Nicola Kemmery ei hymddiheuriadau.
1b. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a chyhoeddodd fod y cyfarfod wedi dechrau.
1c. Datganiadau o Fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC dyddiedig 20 Mai 2021 fel cofnod gwir a chywir.
Nodwyd y log camau gweithredu, gyda nifer o eitemau i'w trafod yn ystod y cyfarfod.
2a. Amser i ddiogelwch
Gan fod asedau'n dechrau cael eu defnyddio'n helaeth eto, mae'n anochel y bydd rhywfaint o ddiraddiad sydd angen ei fonitro.
2b. Amser i gwsmeriaid
Roedd teithiwr sydd fel arfer yn defnyddio'r car i deithio i Gaerdydd yn defnyddio'r trên yn lle hynny ac wedi rhoi adborth cadarnhaol ar lendid, gofod a’r gallu i barcio. Dywedodd y byddai'n defnyddio'r gwasanaeth eto heb os.
2c. Perfformiad o ran diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Mae papur cyfarfod wyneb yn wyneb canolraddol ar gyfer ardaloedd rheoledig fel Llys Cadwyn wrthi'n cael ei ddatblygu.
Clywodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad iechyd a diogelwch Trenau TrC dros y cyfnod diwethaf. Roedd un farwolaeth, dim digwyddiadau adroddadwy RIDDOR, un SPAD a dim digwyddiadau afreoleidd-dra. Fodd bynnag, adroddwyd am nifer o ymosodiadau corfforol ar staff, gydag achosion wedi dyblu o'r cyfnod blaenorol - yn bennaf oherwydd mwy o deithwyr, agor yr economi nos ac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae hyn wedi achosi cynnydd yn y mynegai pwysoliad marwolaethau, ond mae'n parhau o fewn y ffigurau a ragwelwyd. Mae digwyddiadau'r gweithlu wedi cynyddu ond yn fach eu natur. Trafododd y Bwrdd y cynnydd mewn ymosodiadau corfforol ac a oes modd gwneud mwy gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i dynnu sylw at erlyniadau llwyddiannus fel rhwystr i ymddygiad gwael, fel y gwneir gan Heddlu De Cymru [Cam gweithredu: LP].
Roedd un achos o daro cebl segur yn ystod y cyfnod. Mae'r digwyddiad yn destun ymchwiliad, sawl bwletin wedi'u cyhoeddi a fforymau wedi cynnal.
Mae achosion o dresmasu yn cael eu hadolygu gyda'r set gyntaf o ddata ar gael. Mae adroddiadau 'mannau problemus' Llinellau Craidd y Cymoedd ar fin dechrau a fydd yn cynnwys camddefnyddio croesfannau rheilffordd.
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Yn gyffredinol, roedd y mis diwethaf yn brysur, ond mewn ffordd fwy cadarnhaol wrth setlo lawr i weithgareddau busnes fel arfer. Mae'r angen i gynllunio a gweithredu mewn ffordd aml-ddull effeithlon yn parhau ac mae gwir angen cyfuno anghenion cwsmeriaid yn y dyfodol a'r data sydd ar gynlluniau datblygu awdurdodau lleol, amserlenni bysiau a'r elfennau eraill sydd eu hangen i gyflwyno rhwydwaith drafnidiaeth aml-ddull o'r iawn ryw.
Mae'r uwch dîm yn parhau i weithio'n dda gyda'i gilydd mewn cyfnod o bwysau, ac mae angen diolch iddynt.
Mae angen parhaus i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyflawni nawr ac at y dyfodol.
TYNNWYD
Cynhaliwyd trafodaethau gyda Network Rail yn rhanbarthol ac yn genedlaethol am Adolygiad Williams a'r effaith ar TrC. Penderfynwyd nad oes diddordeb mewn effeithio ar frand neu gynlluniau TrC, a bod gan Network Rail ddiddordeb yn sut mae'r cledrau a gwasanaethau wedi'u dwyn ynghyd yma yng Nghymru. Mae'r staff wedi cael eu briffio ar yr adolygiad, gan nodi nad yw'n debygol o gael unrhyw effaith sylweddol ar TrC.
TYNNWYD
Trafododd y Bwrdd berchnogaeth a chyflawni 'materion anodd' er mwyn sicrhau mwy o eglurder a gwaith mwy cydlynus. Roedd y Bwrdd yn cytuno ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r materion hyn i'r fforwm er mwyn cael cyngor a thrin a thrafod rhinweddau amcanion ar y cyd rhwng cyfarwyddiaethau.
3b. Cyllid
Diweddarwyd y Bwrdd ar weithgareddau cyllid allweddol dros y cyfnod diwethaf:
- Bydd yr Adroddiad Blynyddol a'r datganiadau Ariannol yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf.
- Mae gwaith ar droed i gael dealltwriaeth ddyfnach o TrC Trenau o safbwynt sbardunau a chostau allweddol.
- Bydd cyllid bysiau yn debygol o gael ei ryddhau ac mae'n rhan o'r llythyr ariannu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru.
- Bydd grantiau cyntaf Teithio Llesol yn cael eu talu ym mis Gorffennaf, yn ogystal â thaliadau i Traws Cymru.
- Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol yn dal i gael eu datblygu a thrafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru.
- Mae'r gwaith o brisio Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o archwiliad allanol wedi'i gwblhau.
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Mai 2021, a thrafodwyd y rhesymau dros y tanwariant a oedd yn ganlyniad i fwy o refeniw teithwyr, cyflwyno costau'n raddol a thanwariant prosiect yn erbyn y gyllideb refeniw; a chostau cynnal a chadw a thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn erbyn y gyllideb gyfalaf.
TYNNWYD
Hefyd, cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am risgiau a chyfleoedd a llythyr cysur drafft gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 eu cyflwyno i'r Pwyllgor Risg ac Archwilio ar 11 Mehefin. Cytunwyd i roi awdurdod dirprwyedig i James Price a Heather Clash gymeradwyo unrhyw newidiadau terfynol ansylweddol i'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol cyn eu cyhoeddi.
Fe wnaeth y Bwrdd adolygu a chymeradwyo matrics Dirprwyon diwygiedig a oedd yn cynnwys sawl newid o ran is-strwythurau a bancio, lefelau cymeradwyo uwch, eitemau'n ymwneud â phenodiadau Prif Swyddog Gweithredol ac NED a chynnwys y Pwyllgor Prosiectau Newid Mawr.
3c. Diweddariadau'r is-bwyllgorau
Nododd y Bwrdd ddiweddariadau gan y pwyllgorau Cwsmeriaid a Chyfathrebu a Phobl. Mae is-grŵp o'r Pwyllgor Pobl wedi'i sefydlu i adolygu cynigion cyflog.
Bu'r Bwrdd yn ystyried a chymeradwywyd argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Risg bod:
- James Price a Heather Clash yn llofnodi llythyr cynrychiolaeth i KPMG;
- James Price yn llofnodi'r datganiadau ariannol ar ran y Bwrdd.
Mynegodd y Bwrdd ei ddiolch i'r tîm am baratoi'r cyfrifon.
3d. Bwrdd Llywio TrC
Roedd cyfarfod diwethaf y Bwrdd Llywio yn cynnwys trafodaethau ar gyllid (yn enwedig cyllid cyfalaf), Erthyglau Cymdeithasu TrC, GB Rail, y wybodaeth ddiweddaraf am raglen FIT, gwasanaethau Blaenau'r Cymoedd, a nodyn drafft gan Lywodraeth Cymru ar gontractau dros dro.
4. Sesiwn gyfrinachol Adnoddau Dynol
Gweler cofnod ar wahân.
5. Unrhyw fater arall
Dim.
Rhan B - Sesiwn y diweddariad gweithredol
Ymunodd Lewis Brencher, Leyton Powell, Alexia Course, Karl Gilmore, Lisa Yates, David O'Leary, Dave Williams a Geoff Ogden â'r cyfarfod.
6a. Cadw pellter cymdeithasol
TYNNWYD
Cytunodd y Bwrdd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn nodi safbwynt TrC, nad yw'r rheoliadau presennol yn ymarferol ac y dylai pobl gymryd cyfrifoldeb personol am ddefnyddio gwasanaethau TrC [Gweithredu LB, AB].
6b. Cofrestr risg
Mae risgiau trenau wrthi'n cael eu trosglwyddo i System Rheoli Risg TrC. Mae'r gwaith o lwytho cronfa ddata ARM o sawl cofrestr risg ar wahân ar draws y busnes bron wedi'i gwblhau, ac mae proses glanhau data ar y gweill ar gyfer mis Gorffennaf/Awst. Ar hyn o bryd, mae 735 o risgiau / materion agored ar draws pob lefel yn ARM, tri wedi'u sgorio'n Uchel Iawn ac yn cael eu hystyried yn "risgiau lefel Bwrdd”. Yn ystod y cyfnod, treuliwyd cryn amser yn dadansoddi'r data meintiol ar gyfer rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd er mwyn helpu i gwblhau Carreg Filltir 9. Ar ôl i Garreg Filltir 9 ddod i ben yn llwyddiannus, bwriedir i'r gwaith fireinio'r allbynnau risg misol.
Trafododd y Bwrdd gamau lliniaru risgiau sy'n ymwneud ag adennill cyllid yr UE, argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, ac oedi cyn cyflawni cynllun Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn sgil COVID-19.
6c. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd
Cyflwynwyd Carreg Filltir 9 ar 11 Mehefin a oedd yn cynnwys mwy na 400 o gyflawniadau. Mae dau gyflawniad wedi symud i garreg filltir ddiweddarach. Trafododd y Bwrdd rinweddau defnyddio iawndal penodedig ar gyfer cyflawni'n hwyr. Cytunwyd y dylid uwchgyfeirio materion yn ymwneud â thrydydd partïon sy'n achosi oedi.
Nodwyd yr Atodlen Contract Byw gan y Bwrdd.
6d. Cerrig milltir
Nododd y Bwrdd gynnydd yn erbyn cerrig milltir corfforaethol a rhaglenni.
6e. Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfathrebu
Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Er bod mis Mai yn gadarnhaol ar y cyfan o safbwynt brand TrC, mae mwy o graffu o ganlyniad i nifer cynyddol o deithwyr a fydd yn effeithio ar ganfyddiadau o'r brand. Mae camau ar waith i ymateb i'r her hon o safbwynt cyfathrebu. Disgwylir mwy o graffu wrth i ddisgwyliadau cwsmeriaid ddechrau mynd yn fwy na'r hyn y gellir ei gyflawni o ganlyniad i bolisi'r llywodraeth a heriau'r gwasanaeth. Mae'r gwaith o baratoi ar gyfer galw cynyddol yn parhau, ond yn y cyfamser, mae'r pwyslais o hyd ar ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac ymateb i'w hanghenion.
6f. Gwefan newydd
Ymunodd Alexander Skipwith a Derek Gannon â'r cyfarfod i gyflwyno gwefan newydd TrC. Bydd y wefan yn dwyn ynghyd wefannau TrC a TfW Rail ac yn cael ei ddiogelu at y dyfodol i gynnwys pob dull teithio. Pwysleisiodd y Bwrdd fod angen sicrhau bod pob dull yn cael ei drin yn gyfartal a'u bod yn fwyfwy amlwg ar y dudalen flaen. Teimlwyd bod y dyluniad presennol yn edrych fel cynnyrch rheilffordd.
6g. Diweddariad ar fysiau
Diweddarwyd y Bwrdd ar y datblygiadau diweddaraf ar draws BES, Dylunio a Datblygu Rhwydwaith, Dylunio a datblygu modelau gweithredu, cardiau a theithio rhatach, Traws Cymru a Fflecsi.
Mae gweithgorau partner bellach yn cyfarfod i drafod arian a chyllid, datblygu rhwydwaith, profiad teithwyr, partneriaethau masnachol a datgarboneiddio. Mae gan Lywodraeth Cymru strwythur ymgysylltu a llywodraethu bysiau sy'n cynnwys Grŵp Partneriaeth Bysiau sy'n goruchwylio Bwrdd Partneriaeth a Phwyllgor Llywio Bysiau Cenedlaethol.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu'r cyfarfod a chyfrannu ato.