Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Chwefror 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

17 Chwefror 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3a); Leyton Powell (eitemau 1a - 2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Lewis Brencher, Alexia Course, Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, Dan Tipper a Dave Williams. Ymunodd Chris Williams a Jeremy Whittaker ar gyfer eitem 10.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Alun Bowen; Sarah Howells ar gyfer y sesiwn diweddariad gweithredol.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Ionawr 2022 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y log camau gweithredu. 

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Mae rhybudd tywydd difrifol wedi’i roi i rannau o Dde Cymru ac mae’n debygol y bydd llawer o wasanaethau, os nad pob gwasanaeth, yn cael eu canslo. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am rwystr sylweddol ar y rheilffordd neithiwr gyda thrampolîn wedi cael ei chwythu i drwyn un o drenau’r brif linell.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Cysylltwyd â manwerthwr tocynnau trên drwy sgwrs ar y we gydag ymateb awtomatig yn dweud y byddai rhywun yn cysylltu â'r cwsmer o fewn dwy awr. Erbyn i’r cwsmer gael ymateb, roedd y gwasanaeth wedi cau am y noson. Yn y bore, cafodd y sgwrs ei chau oherwydd ni chafwyd ymateb gan y cwsmer am hanner awr. Mae angen cadw enghreifftiau o’r rhwystredigaethau hyn mewn cof er mwyn sicrhau bod TrC yn parhau i ganolbwyntio ar y cwsmer.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. 

TYNNWYD

Roedd un neu ddau o fân anafiadau i Grŵp TrC. Mae asesiadau risg swyddfa’n cael eu cynnal mewn ymateb i symud Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Sefydlwyd gweithgor i adolygu trefniadau gweithio ac i ddychwelyd i’r gweithle ar draws y busnesau. Bydd y rhaglen Arweinyddiaeth Visible Felt nawr yn cael ei hadfer. 

Mae’r perfformiad ar draws Rheilffyrdd TrC wedi gwella’n sylweddol gyda sgôr gyfun y Mynegai Marwolaethau wedi’i bwysoli ar gyfer y cyfnod blaenorol yn 0.13, yn is na’r rhagfynegiad o 0.18 ac yn well na’r cyfnod blaenorol o 0.20. Fodd bynnag, roedd nifer yr ymosodiadau corfforol blynyddol yn y gweithlu yn saith, sy’n dal yn uwch ar gyfartaledd na’r ffigur a ragwelwyd sef pump. Roedd pum ymosodiad corfforol yn ymwneud â goruchwylwyr, staff gorsafoedd a staff diogelwch. Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau hyn ac mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal i ddatblygu rhagor o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ynghylch osgoi a rheoli gwrthdaro. Roedd un achos o Basio Signal yn Beryglus ac un afreoleidd-dra yn y broses anfon.

Roedd un ddamwain yn ymwneud â seilwaith yn ystod y cyfnod. Torrodd aelod o staff ei law ar lafn llif gadwyn llonydd yn ystod dyletswyddau tynnu coed. Nid oedd hyn wedi arwain at golli amser. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod is-gontractwyr busnesau bach a chanolig yn gweithio yn unol â safonau diogelwch TrC drwy AIW. Cytunodd y Bwrdd fod y mater hwn yn destun adolygiad sicrwydd. 

Dywedodd Pullman fod llai o ddigwyddiadau heb golli amser. Mae cynllun diogelwch diwygiedig wedi’i ddatblygu a bydd yn cael ei gyflwyno gyda hyfforddiant.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae’r gwaith cyflenwi’n parhau’n gyflym ar draws y busnes cyfan, gyda chynnydd yn cael ei wneud mewn sawl maes allweddol gan gynnwys trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, cynlluniau mynediad i wasanaeth, cynllunio ariannol strategol gyda Llywodraeth Cymru, a sefydlogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth rheilffyrdd bob dydd wrth i’r adferiad ar ôl absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid barhau. Mae’r gwaith yn parhau i ailosod y model gweithredu wrth i newidiadau yn y 12 - 18 mis diwethaf gael eu cyfuno. 

Ar ôl cyflwyno amserlenni rheilffyrdd brys, mae’r set ddiweddaraf o ddangosfyrddau yn dangos tuedd gwasanaeth sy’n gwella. Mae’r DPA hyn yn dangos pwysigrwydd peidio â gor-ymestyn darpariaeth gwasanaethau yn erbyn y staff a’r cerbydau sydd ar gael. Mae’r data diweddaraf am linellau’r giatiau yn dangos bod nifer y teithwyr ar gyfartaledd yn 70% o’r ffigurau cyn covid gyda chynnydd clir yn dal i fod yn weladwy. Mae dal angen gwisgo gorchudd wyneb. Nododd y Bwrdd nad yw'r ffigurau o ran yr Amser mae Teithwyr yn ei Golli ar Linellau Craidd y Cymoedd yn perfformio fel y dylai o hyd, sydd wedi'i briodoli'n bennaf i effeithiau gwaith atgyweirio pont Adam St.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar o'r trm Gweithredol llawn a gytunodd ar set o egwyddorion fel sail i'r model gweithredu targed, nodi arbedion cost, arbedion effeithlonrwydd a synergeddau, a datblygu atebolrwydd cliriach. Nododd y cyfarfod lefel uchel o gysondeb o ran egwyddorion adeiladu 'un sefydliad' a gwneud pethau unwaith a'u gwneud yn dda. Roedd y cyfarfod hefyd yn ystyried sut beth yw dylunydd a gweithredwr system aml-ddull ar gyfer TrC. 

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo caffael PTI Cymru yn ddiweddar. 

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Mae'r gweithgarwch yn canolbwyntio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyda Llywodraeth Cymru yn gofyn am falans prawf o fewn ychydig ddyddiau i ddiwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig. 

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau allweddol eraill gan gynnwys cynllunio cerbydau, rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, cynllunio busnes a chyllidebu, Pullman, diweddaru’r Erthyglau Cymdeithasu, prisio pensiynau rheilffyrdd, a’r sefyllfa alldro ar gyfer 2021-22.  

Nododd y Bwrdd fod tîm cyllid Rheilffyrdd TrC wedi cymryd perchnogaeth lawn dros y model adolygiad strategol a fydd yn disodli’r model cynnig gwreiddiol.  

TYNNWYD

Roedd taliadau grant teithio llesol ar gyfer chwarter tri ar ei hôl hi o ran proffil a nododd y Bwrdd y cynnydd sylweddol sydd ei angen ar gyfer chwarter pedwar i gronni ar gyfer y balans. Gofynnir i Swyddogion Adran 151 awdurdodau lleol baratoi datganiad i sicrhau bod cyfrif priodol yn cael ei roi am wariant yn y maes hwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi dulliau i helpu awdurdodau lleol i gyflwyno prosiectau’n fwy unffurf yn y blynyddoedd i ddod.  

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd yr adroddiad cyllid a chyfrifon rheoli mis Ionawr.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Sarah Howells y cyfarfod. 

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher, Alexia Course, Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, Dan Tipper a Dave Williams â’r cyfarfod.

TYNNWYD

 

5. Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cefnogi datblygiad Cynllun Datblygu Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

6. Cyfathrebu ac ymgysylltu

Roedd hwn yn gyfnod llawer gwell o ran yr holl ddangosyddion allweddol yng nghyswllt cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys gwell argraff o frand, llai o ymholiadau gan y cyfryngau a sylw negyddol cysylltiedig, llai o ohebu a chyswllt corfforaethol gan gynrychiolwyr etholedig, a mwy o ymgysylltu rhagweithiol ar draws pob sianel. Roedd hyn yn cyddaro â gwell perfformiad gweithredol, yn ogystal â chyflwyno nifer o straeon proffil uchel. Bydd y gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer adfer y galw yn cyd-fynd â'r gwaith o gyflawni nifer o weithgareddau i gyd-fynd â'r posibilrwydd o gael gwared ar gyfyngiadau covid ac adfer yr amserlen rheilffyrdd lawn ddiwedd mis Mawrth. Roedd y Bwrdd yn awyddus i fwrw ymlaen â’r gweithgareddau i adfer galw a mesur llwyddiant yr ymgyrch a sicrhau bod negeseuon yn cynnwys dychwelyd i wasanaethau llawn pan fo hynny’n berthnasol. 

TYNNWYD

 

8. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf. 

Gadawodd Karl Gilmore y cyfarfod.

 

9. Bysiau

Cyflwynwyd y Bwrdd i ddogfen ddrafft Bws Cymru sy’n nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i greu system fysiau gyda theithwyr fel canolbwynt iddi, gan ganolbwyntio ar bedair elfen o ddarparu bysiau wedi’u hintegreiddio’n well i bawb, ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Nododd y Bwrdd gynnwys amlinellol y ddogfen a chroesawodd yr eglurder ynghylch rôl TrC o ran gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau Bws Cymru, gan ddatblygu’r model newydd ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau rheolaidd, fforddiadwy a dibynadwy ac ar hyd nifer o weithgareddau eraill. 

 

10. Egwyddorion adwerthu. 

Ymunodd Chris Williams a Jeremy Whitaker â’r cyfarfod i gymryd rhan mewn trafodaeth ar ddull TrC o fanwerthu yn seiliedig ar brif egwyddorion pob penderfyniad a fydd yn seiliedig ar ddata ac yn cael ei gefnogi gan argraffiadau cwsmeriaid; nid yw’r rhwydwaith na’r marchnadoedd mae TrC yn eu gwasanaethu yn unffurf; mae segmentu cynnyrch yn diffinio’n glir y cynnyrch a gynigir i ganiatáu manylebau, darpariaeth a monitro cyson; ac mae llawer o dueddiadau cwsmeriaid yn ganlyniad i newidiadau ymddygiad hirsefydlog yn y diwydiant, ond hefyd y tu allan i’r diwydiant. 

Yn dilyn trafodaeth fanwl ynghylch segmentu, tueddiadau manwerthu allweddol, tocynnau - gan gynnwys defnyddio’r ap, talu wrth ddefnyddio, swyddfeydd tocynnau, strwythur prisiau a chyfathrebu, cytunwyd i ddatblygu strategaeth manwerthu newydd, trefnu gweithdy i hwyluso trafodaeth bellach ac adrodd ar gynnydd.

Gadawodd Jeremy Whittaker a Chris Williams y cyfarfod.

 

11. Strategaeth Gorfforaethol 

Cymeradwyodd y Bwrdd ddrafft terfynol y Strategaeth Gorfforaethol Pum Mlynedd a chawsant yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf i Lywodraeth Cymru eu cymeradwyo a’u cyhoeddi.

 

11. Cofrestr Risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod gan grynhoi mân newidiadau i’r gofrestr risg strategol.

Nododd y Bwrdd y gofrestr risg

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

12. Unrhyw fater arall

Cafodd y Bwrdd wybod bod TrC wedi caffael PTI Cymru yr wythnos diwethaf. Bydd gwaith yn dechrau nawr ar gyflawni integreiddio.

Gadawodd Vernon Everitt y cyfarfod.

 

13. Diweddariad ar yr is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod Bwrdd blaenorol Rheilffyrdd TrC Cyf a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad, strategaeth gyflogau a strategaeth fflyd.

Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar Pullman Rail Ltd gan ganolbwyntio ar iechyd a diogelwch, gofynion ychwanegol depo Treganna a chyllideb 2022-23.

 

14. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Mae Karl Gilmore wedi ymuno â’r Pwyllgor Pobl. Roedd cyfarfod blaenorol y pwyllgor yn trafod y dyfarniad cyflog, metrigau Adnoddau Dynol, cynigion i raddedigion a phrentisiaid, a chefnogi pobl sy’n dychwelyd i’r swyddfa. Cytunodd y Bwrdd fod angen dadansoddi’r ffigurau absenoldeb yn fanwl, yn enwedig faint sydd i’w briodoli i iechyd meddwl a salwch [Cam Gweithredu Lisa Yates].

Roedd cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Taliadau yn trafod tâl gweithredol, adolygu perfformiad gweithredol a gwerthuso’r farchnad. 

 

15. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC a oedd yn cynnwys cyllideb TrC, tanwariant, y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a’r rhaglen FIT, Adolygiad Taylor, DPA, bysiau a’r Cynllun Datblygu Trafnidiaeth Cenedlaethol.

TYNNWYD

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfranogiad.