Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Tachwedd 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

17 Tachwedd 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - St Patricks House ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Sarah Howells, Alison Noon-Jones, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Hydref 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer lles gweithwyr, yn ogystal â’r cyfleusterau ar gyfer cwsmeriaid. Mae angen cynnwys y rhain yn y dyluniad yn hytrach na bod yn ôl-ystyriaeth.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Trafodwyd pwysigrwydd gweithredu prosesau gwasanaeth cwsmeriaid yn dilyn profiad diweddar gyda chwmni cludo nwyddau.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. 

Mae’r arolwg a’r archwiliad iechyd meddwl bellach wedi cau gyda’r cam nesaf yn cynnwys dadansoddiad o'r bylchau yn erbyn canllawiau NICE.

Mae cydweithio pellach â’r Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd (RSSB) wedi arwain at sawl canlyniad sy’n adeiladu ar waith presennol. Cynhaliwyd gweithdy cydweithio gyda Chyfarwyddiaeth yr RSSB a TrC yn gynharach yr wythnos hon.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion perfformiad diweddaraf:

  • Roedd perfformiad diogelwch rheilffyrdd wedi cael sgôr gyfun y mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli o 0.29, a oedd yn uwch na’r sgôr a ragwelwyd sef 0.17. Mae mynegai marwolaethau cyfunedig y gweithlu yn dal yn gyson yn ystod y cyfnod hwn ar 0.02, gyda’r cyfartaledd blynyddol yn symud 0.05, sy’n dal yn is na’r ffigur a ragwelwyd o 0.07. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y digwyddiadau yn ymwneud â’r gweithlu gyda 17 wedi’u hadrodd, yn is na’r ffigurau a ragwelwyd o 20.15.
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer yr anafiadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r gweithlu yn ystod y cyfnod hwn, gyda 28 yn cael eu cofnodi. Roedd hyn yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd sef 16.16. Nid yw data gwraidd y broblem yn datgelu unrhyw batrymau na thueddiadau.
  • Roedd ymosodiadau corfforol wedi cynyddu yn ystod y cyfnod hwn, gydag 11 wedi’u hadrodd. Roedd nifer yr ymosodiadau corfforol blynyddol yn y gweithlu yn 8.62, sy’n uwch ar gyfartaledd na’r ffigur a ragwelwyd sef 7.
  • Ni chafwyd unrhyw adroddiadau am Basio Signal yn Beryglus (SPAD). 

Croesawodd y Bwrdd Pullman Rail i ennill ardystiad ISO 45001 ar gyfer ei system rheoli diogelwch.

Codwyd y cynnydd mewn ymosodiadau corfforol fel rhwystr posibl i gwsmeriaid sy’n dod yn ôl i ddefnyddio gwasanaethau. Cytunwyd i siarad â Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf i rannu’r hyn a ddysgwyd [Cam gweithredu i Leyton Powell].

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Hysbyswyd y Bwrdd ei bod hi’n rhy hwyr i adfer a rhedeg gwasanaeth drenau, er i’r streic rheilffyrdd gael ei gohirio ar ddiwrnod gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd (5 Tachwedd). Trafododd y Bwrdd yr angen i unioni’r cydbwysedd rhwng rhybuddio pobl i beidio â defnyddio’r gwasanaeth rheilffyrdd ac annog pobl i’w ddefnyddio.

Nododd a chroesawodd y Bwrdd yr ymdrech i ddarparu a chyfathrebu gwasanaethau amgen. Roedd y Bwrdd hefyd yn croesawu timau gweithredol a oedd yn gweithio’n agos gyda Network Rail dros y penwythnos i adfer gwasanaethau erbyn dydd Llun 7 Tachwedd.

Mae nifer o sesiynau deialog defnyddiol wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion yn ddiweddar, sydd wedi arwain at rai canlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys cyfarfod cyntaf gyda Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i edrych ar gydweithio mwy effeithiol, cynnal sgyrsiau ynghylch defnyddio ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd, a chynnal sawl sesiwn herio gyda Gweinidogion lle mae tîm TrC a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol.

Cafodd y Bwrdd wybod nad oedd unrhyw drafodaethau ynghylch cyflogau heb eu cwblhau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-2022.

Mae trafodaethau gyda Network Rail wedi parhau i edrych ar ffyrdd o leihau'r gost o redeg y rheilffordd a chynyddu nifer y bobl sy'n ei defnyddio drwy gael gwared ar ddyblygu a chymhlethdodau ar draws rhyngwyneb y ddau gwmni. Bydd y gwaith hwn yn cloi ei gam cyntaf erbyn mis Rhagfyr gydag adroddiad i'w gyflwyno i'r Bwrdd yn y flwyddyn newydd.

Mae gwaith yn parhau i gynyddu ansawdd a ma int y ddarpariaeth teithio llesol ledled Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Sustrans, ond mae pryderon o hyd ynghylch lefel gwariant y Gronfa Teithio Llesol a'r posibilrwydd o lithro. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn Byrddau yn y dyfodol gyda'r dull gweithredu'n cael ei ddatblygu ymhellach er mwyn gallu cyflawni'n fwy effeithiol.

Cafodd y Bwrdd wybod bod gwaith yn parhau i gynllunio a deal I y ffordd orau o gyflawni masnachfreinio bysiau fel rhan o system aml-ddull a defnyddio manteision model gweithredu newydd TrC i sbarduno arbedion effeithlonrwydd ar lefel gorbenion. Nododd y Bwrdd y materion allweddol sy'n dod i'r amlwg ynghylch cyflymder y newid i rwydwaith newydd a'r rhyngweithio rhwng dim allyriadau drwy'r bibell wacau a darpariaeth cerbydau, ynghyd a'r angen i gael darlun clir ar senarios cyllideb yn y dyfodol.

Gwelodd Perfformiad Rheilffyrdd ar gyfer cyfnod 7 (18 Medi i 15 Hydref) ddarlun da cyffredinol ar gyfer taliadau a didyniadau perfformiad (PTL) ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd a Chymru a'r Gororau. Dywedwyd wrth y Bwrdd bod hyn yn gysylltiedig i raddau helaeth a sefyllfa gwell o ran staffio (gyrrwyr a giardiau) a fflyd gymharol gadarn. Fodd bynnag, ar gyfer y cyfnod presennol, mae'r perfformiad wedi gostwng ar rwydwaith Cymru a'r Gororau, yn rhannol oherwydd cyfnod hwy yn yr hydref nag a gynlluniwyd, ond hefyd o ganlyniad i argaeledd y fflyd sy'n gysylltiedig a'r swm sylweddol o waith depo presennol. Mae cynllun i fynd i'r afael a hyn yn cael ei ddatblygu.

Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariadau ar gynllun Glynebwy [Cam gweithredu i Dan Tipper], Caerdydd Canolog [Cam gweithredu i Alexia Course] a Talu-Wrth-Deithio [Cam gweithredu i Heather Clash]

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd cyllid allweddol yn ystod y mis diwethaf:

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu matrics Dirprwyo Awdurdod cyfun sy’n dod â dirprwyaethau Grŵp a Rheilffyrdd at ei gilydd. Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol i ddirprwyaethau’r Bwrdd, gyda’r ffocws yn bennaf ar ddirprwyo penderfyniadau o’r Weithrediaeth i’r Byrddau Llywio a phwyllgorau eraill.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Marie Daly, Dan Tipper a Geoff Ogden â’r cyfarfod.

 

4. Diweddariad ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Darparwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar fynediad i’r gwasanaeth, perfformiad dylunio sy’n dal ar y gweill, y signalau a’r rhaglenni cyfarpar llinellau uwchben (OLE) sy’n dal i gadw at y targed, cynnydd gyda depo Ffynnon Taf, a Thrydaneiddio Depo Treganna. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am risgiau a heriau sy’n dod i’r amlwg o ran adnoddau, a mwy o gostau a chyfnodau caffael o gadwyni cyflenwi deunyddiau ar draws yr holl becynnau.

 

5. Edrych ymlaen at chwe mis nesaf Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Wedi'i nodi.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod 

 

6. Y Gronfa Teithio Llesol

TYNNWYD

 

7. Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Ymunodd Rhian Prosser ac Alexia Course â’r cyfarfod yn gofyn am gymeradwyaeth i TrC gymryd buddiant lesddaliadol mewn perthynas â datblygiad Cyfnewidfa Bws Caerdydd. TYNNWYD

 

8. Cofrestr risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Nodwyd y Gofrestr Risg.

 

9. Targedau ar gyfer newid dulliau

Ymunodd Mark Barry, Paul Chase, Andy Holder a Lee Robinson â’r cyfarfod.

Nododd a thrafododd y Bwrdd bapur a oedd yn tynnu sylw at y targedau ar gyfer newid dulliau a nodwyd yn Llwybr Newydd / Cymru Sero Net ac yn nodi graddfa’r her o ran cyrraedd y targedau hyn. Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod y papur yn cynrychioli dechrau proses o ymgysylltu â Bwrdd TrC ar oblygiadau’r targedau dull rhannu cenedlaethol.

 

10. Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Prosiectau Mawr ddiweddariad i’r Bwrdd ar gyfarfod y Pwyllgor yn ddiweddar. Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am ardal Glynebwy, bws, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), Cyfnewidfa Caerdydd, Gwelliannau Caerdydd Canolog a Thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu fod y cyfarfod ddoe yn darparu lefel dda o dryloywder o ran gweithgareddau a pherfformiad, gan gynnwys gwella gorsafoedd a rhoi mewnwelediadau ar waith.

 

11. Is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad, dadansoddiad o'r llwybr, ap TrC a dulliau masnachol, capasiti Rheilffordd Rhymni, a chymeradwyaeth cynnal a chadw Vivarail.

 

12. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC. Roedd y cyfarfod yn ymwneud â phartneriaethau strategol, prisiau yn y dyfodol, perfformiad rheilffyrdd, Llinellau Craidd y Cymoedd, teithio llesol, newid ymddygiad, cefnffyrdd, bwlch cyllido TrC, streiciau a bysiau moethus, dangosyddion perfformiad allweddol, cyllid, erthyglau cymdeithasu a gwasanaethau cyfreithiol.

 

13. Panel Cynghori

Roedd y Panel Cynghori diweddar yn cynnwys ymweliad â safle Cyfnewidfa Caerdydd, ac roedd yn cynnwys trafodaethau ar berfformiad rheilffyrdd, y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, Sustrans, a labordai arloesi.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.