Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Ebrill 2024

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

18 Ebrill 2024

10:00 - 17:00

Lleoliad - St. Patrick’s House a Teams

 

Yn Bresennol:

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones a James Price.

 

Hefyd yn bresennol:

Peter MacDonald (eitemau 1 i 4), Jeremy Morgan, a Brian Jenkins (Arsylwr, eitemau 1 i 11).

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Ymddiheurodd Alan McCarthy (Unite).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 21 Mawrth 2024 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad o ddamwain trên yn India ym mis Hydref 2023 a achoswyd gan y gyrrwr yn tynnu ei sylw a’r risg o fod yn hunanfodlon. Trafododd y Bwrdd rinweddau technoleg canfod er mwyn hwyluso gwell ffocws.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Tynnwyd sylw’r Bwrdd at y profiad diweddar o fenyw â phroblemau symudedd yn derbyn gwasanaeth ardderchog o ran gwasanaeth i gwsmeriaid.

 

2. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol

Bu’r Bwrdd yn trafod cynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol. Roedd y trosolwg yn cynnwys diweddariadau ar y canlynol:

  • Ymdrech sylweddol nifer o gydweithwyr, yn enwedig y Tîm Cyllid, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nododd y Bwrdd ei fod yn croesawu cydweithio da â swyddogion Llywodraeth Cymru.

  • Trafodaethau strategol lefel uchel gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth.
  • Gwelliant parhaus ar draws perfformiad gweithredol y rheilffyrdd, yn enwedig ar Linellau Craidd y Cymoedd, sy'n cael ei ddangos gan y dangosyddion perfformiad ond sydd hefyd yn cael ei ddangos yn anecdotaidd drwy lai o gwynion gan gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae diffyg trenau Class 197 a phroblemau dibynadwyedd cerbydau MK/Vyn parhau i fod yn broblem. Gan nodi bod cynllun gwella ar waith i wella cyfradd cyflawni trenau Class 197, heriodd y Bwrdd y weithrediaeth i gyflawni rhagor o welliannau gan CAF ac i archwilio rhinweddau rhyddhau amser y Prif Weithredwr neu nodi cymorth i hwyluso newid.
  • Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau wrth i drenau Class 150 ddod i ben ac wrth i drenau Class 756 ymuno a'r gwasanaeth ar yr un cyflymder. Nododd y Bwrdd y materion ynghylch mynediad i wasanaeth trenau Class 756 a chytunodd i barhau i bwyso ar y weithrediaeth i sicrhau trosglwyddiad effeithiol ac amserol rhwng trenau Class 150 a threnau Class 756. Croesawodd y Bwrdd y newyddion am y trenau Class 756 cyntaf yn rhedeg llwybr yn ystod y dydd ar y rhwydwaith TAM fel rhan o'r broses o gael mynediad at brofion gwasanaeth.
  • Nododd y Bwrdd y materion a drafodwyd ar draws y fflyd rheilffyrdd a herio'r weithrediaeth i sicrhau bod risgiau a chyfathrebu a chwsmeriaid yn cael eu lliniaru'n effeithiol.
  • Cynnydd o ran darparu'r 'T-network' i gynyddu trafnidiaeth rhyngfoddol a chynyddu cyfran trafnidiaeth gyhoeddus o'r farchnad.
  • Roedd llwyddiannau diweddar o ran rheoli dau ddigwyddiad pel-droed rhyngwladol lle'r oedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn gam ymlaen o gynigion blaenorol. Roedd hyn yn cynnwys oedi tren am awr i ganiatau i gem rhwng Cymru a Gwlad Pwyl orffen. Nid oedd yr oedi bwriadol i ganiatau i gefnogwyr ddal y tren ar ol yr oedi cyn gorffen y gem wedi'i gynnwys yn y ffigurau perfformiad. Croesawodd y Bwrdd adborth cadarnhaol Cymdeithas Bel-droed Cymru.
  • Effaith gadarnhaol gynnar is-bwyllgor Perfformiad Gweithredol newydd Bwrdd Rheilffyrdd TrC.
  • Parhau i weithio'n agos gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen a'r agenda bysiau.

Gadawodd Scott Waddington y cyfarfod, a chymerodd Nicola Kemmery yr awenau tel cadeirydd.

  • TYNNWYD

 

3. Cyllid

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Mawrth 2024; a'r adroddiad cysylltiedig yn tynnu sylw at weithgareddau a chanlyniadau ariannol ar gyfer blwyddyn lawn 2023/2024. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y cymhorthdal i Wasanaethau Rheilffyrdd TrC a chymhariaeth â chyllideb cynllun busnes 2023/2024 a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru. Mae canlyniadau diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/2024 yn adlewyrchu gostyngiad ymylol mewn gwariant refeniw yn erbyn cyllid a chynnydd mewn gwariant cyfalaf sy’n cyd-fynd â gofynion cyllido Llywodraeth Cymru. 

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adrodd Dangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol yn y parth cyhoeddus, a gwaith parhaus ar ddatblygu’r amgylchedd rheolaethau mewnol.

Cymeradwyodd y Bwrdd lythyrau o gefnogaeth i TfW Innovation Services Ltd a Pullman Rail. Fel Cadeirydd Pullman Rail Ltd, datganodd Alun Bowen fuddiant ac ni gymerodd ran yn y bleidlais.

Fel cyfarwyddwr cwmni Pullman Rail Ltd, datganodd James Price fuddiant ac ni gymerodd ran yn y bleidlais.

Nododd y Bwrdd gynnwys y cynllun ariannol tymor canolig pum mlynedd a’r angen i wella ffocws masnachol a bod yn fwy creadigol o ran cynhyrchu refeniw.

 

4a. Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynnwys cyflwyniad ar risgiau TrC o ran yr hinsawdd; a diweddariadau ar yswiriant, rheoli risg, yr amgylchedd rheolaethau mewnol, ac archwilio mewnol.

Adolygodd y pwyllgor ‘T-Network’ ei gylch gorchwyl a chytuno ar galendr clir o eitemau i’w cyflwyno i’r pwyllgor.

 

4b. Is-fyrddau’r cwmni

Roedd cyfarfod bwrdd blaenorol Rheilffyrdd TrC Cyf yn canolbwyntio ar berfformiad rheilffyrdd, newidiadau i amserlenni mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024, strategaeth gatiau tocynnau yn y dyfodol a chyllidebau.

 

5. Diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys: 

  • Datblygu dull strategol o ymdrin ag iechyd, diogelwch, cynaliadwyedd, risg a chadernid, gan gefnogi a galluogi masnachfreinio bysiau.
  • Cynnull grŵp llywio i hwyluso menter strategol hirdymor gyda’r nod o ddylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad teithio cwsmeriaid.
  • Perfformiad diogelwch, gyda’r Bwrdd yn nodi gostyngiad yn nifer y digwyddiadau yn y gweithlu a gostyngiad nodedig mewn damweiniau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu. Adolygodd y Bwrdd ffigurau absenoldeb oherwydd straen ac er nad oedd y dadansoddiad yn nodi unrhyw risgiau penodol mewn unrhyw grŵp demograffig, bydd dadansoddiad a thrafodaeth bellach yn cael eu cynnal yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles. 

Ailymunodd Scott Waddington â’r cyfarfod gan ailgydio yn yr awenau fel y cadeirydd.

 

6. Rheoli risg yn strategol

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol a’r Adroddiad ar Lefelau Bygythiad ar gyfer mis Ebrill 2024. Nododd y Bwrdd risg newydd o ran sefyllfa ariannol cyflenwr TrC. Nododd y Bwrdd risgiau sy’n ymwneud â Pullman Rail hefyd a chytunodd Alun Bowen i roi cyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol [Alun Bowen i weithredu].

 

7. Strategaeth TG a Gwasanaethau Digidol

Ymunodd Mandy Garrett â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y Strategaeth Gwasanaethau Digidol a TG tair blynedd sy’n cael ei datblygu. Atgoffwyd y Bwrdd o’r tueddiadau presennol o ran technoleg a symudedd byd-eang y mae angen i’r strategaeth eu hystyried.

Cafodd y Bwrdd ei gyflwyno i bum amcan allweddol y strategaeth, sef cwsmeriaid, cydweithwyr, data, tîm a thechnoleg. Nododd y Bwrdd y diweddariad a chroesawodd a chefnogwyd y dull strategol arfaethedig.

Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â rhoi’r gwaith ar gontract allanol yn erbyn darpariaeth fewnol; archwaeth risg; a’r angen i TG fod yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg [Alun Bowen i weithredu].

Gadawodd Mandy Garrett y cyfarfod.

 

8. Cenedlaethau’r Dyfodol

Ymunodd Natalie Rees â'r cyfarfod.

Atgoffwyd y Bwrdd y bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymuno â nhw yn y cyfarfod nesaf. Cytunwyd i gynhyrchu brîff Cadeirydd [Natalie Rees i weithredu].

Gadawodd Natalie Rees y cyfarfod.

 

9. Mynediad i wasanaeth Class 765 a Class 398

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach yn ystod y dydd i drafod materion yn ymwneud â mynediad i wasanaeth trenau Class 765 a Class 398. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni cymeradwyo, rhaglenni profi ac amcangyfrifon o ddyddiadau mynediad i wasanaeth.

 

10. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen Linellau Craidd y Cymoedd:

  • Mae cyfarpar llinellau uwchben (OLE) Rheilffordd Merthyr wedi cael ei wefru’n barhaol gan agor rhagor o seilwaith ar gyfer profi trenau.
  • Cytunwyd ar y broses drosglwyddo ar gyfer Depo Ffynnon Taf i Weithrediadau TrC. Cam 1 - Mae swyddfeydd a sied cynnal a chadw wedi’u targedu ar gyfer diwedd mis Mehefin 2024; a Cam 2 - Asedau trac, signalau ac OLE, yn dilyn cymeradwyaeth ASBO ac ORR i ddilyn yn ddiweddarach yn Ch3 2024.
  • Mae blocâd comisiynu CAR 1 (Stryd y Frenhines, Llinell Bae Caerdydd ac elfennau sy’n weddill o ôl troed CAR 1) yn cael ei archebu ar gyfer Hydref/Tachwedd 2025.
  • TYNNWYD

Gadawodd Dan Tippery cyfarfod.

 

11. Y Bwrdd Llywio

Trafododd y Bwrdd Llywio diweddar Maas, recriwtio Cyfarwyddwyr Anweithredol (NED}, adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol, cyllideb a chyllid, risg, a dangosyddion perfformiad allweddol.

 

12. Sesiwn gyfrinachol

Nododd y Bwrdd y cynnydd o ran ateb gohebiaeth ddiweddar a dderbyniwyd gan y Bwrdd.

Gadawodd Heather Clash y cyfarfod. 

Trafododd y Bwrdd berfformiad y Weithrediaeth.

 

Gan nad oedd unrhyw faterion pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.