Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Ionawr 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
18 Ionawr 2024
09:30 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Alun Bowen, a James Price.
Hefyd yn bresennol: Peter McDonald, Jeremy Morgan, Alan McCarthy (Unite) (eitemau 1-3), Leyton Powell (Eitemau 1-3), Zoe Smith-Doe (Eitemau 5.2-5.3), Dan Tipper (Eitem 5.4), Amy Nicholls (eitem 5.1), Geoff Ogden eitemau 5.1 - 5.5), Helen Mitchell a Chad Collins (eitem 5.6).
Rhan A - Cyfarfod Llawn y Bwrdd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ymddiheurodd Vernon Everitt ac Andrew Morgan.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Cafodd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC 18 Rhagfyr 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir a gwir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Roedd tân ar fws trydan TfL sawl wythnos yn ôl wedi tarfu’n sylweddol ar yr ardal gyfagos. Atgoffwyd y Bwrdd o bwysigrwydd rheoli digwyddiadau.
Nododd y Bwrdd hefyd ddamwain ddiweddar a allai fod yn gysylltiedig â thafluniad golau blaen bws.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd fater diweddar ar linell Elizabeth TfL pan arweiniodd toriad pŵer at bobl yn cael eu gadael ar y trên am sawl awr heb doiledau, gwres na thrydan. Achosodd y diffyg toiledau yn benodol i bobl gymryd camau llym gan gynnwys agor y drysau allanol. Mae gwersi’n cael eu dysgu o’r digwyddiad.
Trafodwyd sbwriel ar rai gwasanaethau, ond nodwyd bod y mater yn llai amlwg ar drenau newydd yr ymddengys bod cwsmeriaid yn dangos mwy o barch atynt. Hysbyswyd y Bwrdd hefyd ei bod yn rhaid gwahanu gwastraff ar drenau erbyn hyn, ac nad yw hynny’n syml ac ystyried y cyfyngiadau o ran lle. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i fynd â’u gwastraff adref.
2. Iechyd, Diogelwch a Gwytnwch
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Gwytnwch sydd yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Ymweliad safle cydlynol ar y cyd rhwng TrC ac AIW â Depo Ffynnon Taf a’r ICC gyda nifer o Arolygwyr ORR newydd. Yn gyffredinol, roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol ac yn gyfle da i ddangos y cynnydd a wnaethpwyd ar y Metro.
- Arweiniodd trydydd cyfarfod Gweithgor Croesfan Reilffordd TrC-AIW at y strwythur terfynol ar gyfer llywodraethu, asesu risg a pharodrwydd i dderbyn risg. Mae AIW yn awr yn datblygu’r allbwn yn weithdrefnau drafft i sicrhau bod y broses yn gliriach ac yn fwy effeithlon gydag un broses.
- 0.03 yw’r mynegai wedi’i bwysoli ar gyfer marwolaeth yn ôl y gweithlu ac mae’n parhau’n is na’r cyfartaledd blynyddol symudol o 0.06 ac yn is na’r ffigur a ragwelwyd sef 0.07. Arhosodd y mynegai wedi’i bwysoli o farwolaethau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu ar 0.10 sy’n gyson â’r ffigur a ragwelwyd sef 0.10. Mae’r strategaeth diogelwch nad yw’n ymwneud â’r gweithlu yn cael ei datblygu a bydd yn cyd-fynd â gwaith newid ymddygiad parhaus.
- Cyn y twrnamaint 6 Gwlad, bwriedir cynnal Ymarfer Cluedo ar 30 Ionawr. Bydd yn canolbwyntio ar reoli digwyddiadau ac argyfyngau mewn ymarfer ar ffurf gweithdy.
- Dros gyfnod yr ŵyl, rhedodd Ymgyrch Genesis (De Cymru) ac Ymgyrch Garland (Gogledd Cymru) ar y cyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydain a’r timau diogelwch. Roedd y presenoldeb uwch yn gallu darparu amgylchedd diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr ar rwydwaith TrC. Roedd 80 achos o ofyn i bobl sobri neu wrthod gadael iddynt deithio oherwydd ymddygiad.
3. Cofrestr risg strategol
Nododd y Bwrdd gynnwys y Gofrestr Risg Strategol. Mae adolygiad o brosesau rheoli risg wedi’i gwblhau, mae adroddiadau’r Bwrdd ac adroddiadau risg yn gyffredinol yn cael eu hadolygu gan gynnwys nodi ‘prif risgiau’ - y rhai a allai achosi effaith ariannol neu weithredol sylweddol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
4. Diweddariad Strategol / Datblygu
4.1 - Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Trafododd y Bwrdd gynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
- Tuedd barhaus o wella ffigurau PTL a gwella argaeledd a chapasiti cerbydau yn raddol. Mae gwaith yn parhau i wella dibynadwyedd ac argaeledd Mk4 a dal cyflenwr y locomotifau i gyfrif drwy gytundeb contract gwell.
- Wrth baratoi i redeg gwasanaethau Metro, aeth tri aelod o’r Tîm Arwain Gweithredol i linell Elizabeth TfL i ddeall y broses o adfer gwasanaeth ar rwydwaith prysur; effaith rheoli dim toiledau ar drenau; taith y cwsmer gan gynnwys mewn cyfnodau o darfu ar wasanaeth; amseroedd aros; a theithiau masnachol / newid dull. Roedd yr ymweliad yn ddefnyddiol ac yn llwyddiannus gyda rhai gwersi pwysig yn cael eu dysgu.
- Yn ei gyfarfod blaenorol, cytunodd Bwrdd Rheilffyrdd TrC i sefydlu Bwrdd Perfformiad Gweithredol a fydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd Rheilffyrdd a’r Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol. I ddechrau, bydd y ffocws ar reilffyrdd a cherbydau ond bydd yn graddio tuag at faterion nad ydynt yn ymwneud â’r rheilffyrdd. Trafododd y Bwrdd opsiynau ar gyfer sut y bydd gwaith y pwyllgor yn cyfrannu at waith y prif fwrdd.
- Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran yr agenda bysiau, yn enwedig y cyfarfodydd a’r ymgysylltu cynyddol gadarnhaol gydag awdurdodau lleol. Croesawodd y Bwrdd y papur masnachfraint bysiau yn y pecyn a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r polisi cyffredinol.
- Disgwylir penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar yr opsiwn a ddewiswyd ar gyfer trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, ond nid yw hyn yn arafu’r cynnydd. Mae’r cam presennol yn heriol, yn enwedig o ran cael mynediad at wasanaeth, ond mae cynnydd da’n cael ei wneud.
- Roedd ymweliad diweddar gan Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn edrych ar bryderon TrC ynghylch cyflymder ailagor llinell Treherbert a dosbarthiad llinell y Bae. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i TrC ddangos elfennau cadarnhaol Cymru’n Gweithio y gellir eu gwneud yn wahanol i weddill y DU.
- Dechreuodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol a TG newydd yn ei swydd ddechrau mis Ionawr gyda blaenoriaethau allweddol o ran datblygu apiau a manteisio i’r eithaf ar y swm sylweddol o ddata sydd gan TrC, yn enwedig drwy’r trenau newydd. Gellir defnyddio’r data i sicrhau gwell profiad i gwsmeriaid ac ansawdd gwasanaeth mewn TrC aml-ddull.
- Yn ddiweddar treuliodd y Prif Swyddog Gweithredol ddiwrnod yn Llys Cadwyn yn siarad â holl aelodau’r tîm. Ar y cyfan, roedd yn brofiad cadarnhaol iawn a oedd yn rhoi argraff dda o agwedd ac ymroddiad cydweithwyr. Bydd yr ymarfer yn cael ei ailadrodd yfory yn St Patrick’s House.
- Yr wythnos diwethaf, cyfarfu tri aelod o’r Tîm Arwain Gweithredol â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ar ôl rhai heriau o ran cludo cefnogwyr i gemau yn ystod hydref 2023, a gemau sydd ar y gweill yng Ngwanwyn 2024. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol o ran cynllunio ar gyfer gemau yn y dyfodol a dysgu o gyrhaeddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y gymuned ac ymgysylltu â phobl ifanc.
4.2. Cyllid (Cyfrifon Rheoli)
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Ionawr a chawsant eu diweddaru ar y canlynol:
- Y sefyllfa diwedd blwyddyn sy’n cyd-fynd â rhagolygon.
- Gwariant cyfalaf a gwariant gweithredol o fewn mis. Roedd tanwariant gwariant cyfalaf yn ystod y mis ac nid yw’n debygol o gael ei adlewyrchu yn y sefyllfa alldro.
- Risgiau a chyfleoedd o ran refeniw teithwyr, hawliadau AIW a chyfalaf.
- Disgwylir llythyr cyllido ar gyfer 2023/24 yn dilyn datrys y bwlch cyllido.
- Yr angen am drafodaeth yn y Bwrdd Llywio ar IFRS 16 [Gweithredu Jeremy Morgan].
- Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol Mae gwaith yn parhau i sicrhau eglurder o ran y negeseuon ac i roi darlun cywir o berfformiad TrC.
Trafododd y Bwrdd adroddiadau ariannol a chytunodd fod angen crynodeb o’r sefyllfa ariannol, barn ‘trosolwg’ am y sefyllfa ariannol gan gynnwys niferoedd uwch dros gyfnod hwy o amser ar sail hanner blwyddyn.
4.3 Cyllideb
Adolygodd a nododd y Bwrdd ail fersiwn cyllideb 2024/25 a fydd yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru cyn bo hir. Mae’r gyllideb yn cynnwys cyflawni arbedion o 5% ar draws gwasanaethau canolog. Hysbyswyd y Bwrdd bod meincnodi wedi dangos bod costau Gwasanaethau Canolog TrC yn ffafriol o ran meincnodi yn y sector preifat. TYNNWYD.
Gadawodd James Price y cyfarfod.
Rhan B - Sesiwn Diweddariad Gweithredol
5. Diweddariadau Gweithredol
5.1 Gwelliannau Caerdydd Canolog
Ymunodd Amy Nicholls a Geoff Ogden â’r cyfarfod. Roedd cyfarfod Bwrdd Strategol Gwelliannau Caerdydd Canolog ym mis Tachwedd wedi cytuno ar ostyngiad yng nghwmpas y prosiect i ddod â’r prosiect yn rhan o’r gyllideb o £139m. Mae’r cwmpas wedi’i adlewyrchu yn yr Achos Busnes Amlinellol sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd gan TrC a bydd yn cael ei ryddhau i’w gymeradwyo’n ffurfiol gan yr Adran Drafnidiaeth a CCR ddiwedd y mis.
Cafodd y Bwrdd wybod am fframwaith llywodraethu diwygiedig, gan gynnwys Cylch Gorchwyl (ToR) diwygiedig Bwrdd Caerdydd. Bydd y Bwrdd diwygiedig yn gwneud penderfyniadau strategol ar gyfer holl brosiectau Ardal Ganolog Metro Caerdydd, gyda grŵp integreiddio’n eistedd yn uniongyrchol oddi tanynt.
TYNNWYD
Gadawodd Amy Nicholls y cyfarfod.
5.2 Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.
Mae gwaith yn parhau ar fireinio’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol i’w cyflwyno’n gyhoeddus. Adolygodd y Bwrdd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chytunodd fod angen gwell metrigau ariannol a dylai’r data ar gyfer damweiniau’r gweithlu a damweiniau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu fod yn gymesur.
Nododd y Bwrdd ddiweddariad cerrig milltir y Cynllun Busnes a bod 42 o’r 370 o gerrig milltir yn wynebu risgiau i’w cyflawni yn 2023/24, ac nid oes yr un ohonynt yn peri unrhyw bryder mawr ond mae angen rhywfaint o reolaeth arnynt.
5.3 Strategaeth gorfforaethol
Cytunodd y Bwrdd i ymestyn hyd y Strategaeth Gorfforaethol i 2026/27 i gyd-fynd â thelerau Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Lywodraethu.
Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.
5.4 Diweddariad Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni rhaglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Nododd y Bwrdd y canlynol:
- Dros gyfnod y Nadolig, cwblhaodd y Rhaglen yr holl waith arfaethedig yn llwyddiannus, gan gynnwys ailagor Rheilffordd Treherbert ar gyfer hyfforddi gyrwyr fel y bwriadwyd ar 2 Ionawr, llwybr cebl dan-drac critigol ar Seilwaith NR ym Mharc Ninian a llawer o waith Trac, OLE a Sifil.
- Mae awdurdodiad Gorsaf Treherbert yn dal yn risg ond mae cynnydd cadarnhaol wedi cael ei wneud o ran adeiladu a sicrhau dros y pedair wythnos diwethaf.
- Mae’r dogfennau awdurdodi dylunio wedi’u cyflwyno i’r ASBO ar gyfer Trehebert a Dinas Rhondda, a disgwylir cymeradwyaeth ganol y mis i’w chyflwyno i ORR. Bydd adolygiad parhaus o awdurdodiad gorsafoedd Treherbert yn cael ei gynnal drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror er mwyn gallu lliniaru unrhyw faterion pellach yn gynnar.
- Cafwyd cymeradwyaeth i roi egni parhaol i’r System OLE o Gaerdydd i Bontypridd o’r ASBO ar 8 Ionawr, gyda’r rhan honno o’r OLE bellach wedi’i hegnioli’n barhaol. Mae’r dogfennau awdurdodi sy’n weddill gan y tîm Cerbydau Rheilffyrdd yn cael eu datblygu er mwyn gallu dechrau profi rhediadau CI 756 ar 15 Ionawr.
- Mae’r broses egnioli barhaol ar gyfer yr adrannau OLE i Ferthyr ac Aberdâr yn aros wedi’i rhaglennu ar gyfer 2 Chwefror.
- Oherwydd yr effaith ar weithrediadau yn Nepo Treganna, ni chafodd y gwaith o egnioli’r system cyfarpar llinellau uwchben dros dro i gefnogi hyfforddiant staff ei gwblhau o 8 Ionawr ymlaen. Mae tîm y prosiect yn datblygu asesiad risg i ganolbwyntio ar dasgau gofynnol penodol a llai o egni i liniaru’r cyfyngiadau gweithredol a chaniatáu i’r egni a’r hyfforddiant gael eu cynnal ddiwedd mis Ionawr / dechrau mis Chwefror.
- TYNNWYD
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
5.5. Cynllun busnes Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf
Cymeradwyodd y Bwrdd gynllun busnes Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.
TYNNWYD
Gadawodd Geoff Ogden y cyfarfod.
Ailymunodd James Price â’r cyfarfod.
5.6. Talu wrth Fynd (PAYG)
Ymunodd Helen Mitchell a Chad Collins â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot llwyddiannus y system Talu Wrth Fynd a oedd yn cynnwys tua 1,600 o deithiau rhwng Caerdydd, Casnewydd a Phont-y-clun. Bydd y prosiect yn cael ei ehangu a’i lansio drwy gynllun cyfathrebu a marchnata. Roedd rhai materion technegol gweddilliol yn cael eu datrys ond dim i atal cwsmeriaid rhag defnyddio’r system na chynhyrchu refeniw TrC. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno’r prosiect ymhellach, gan groesawu’r cynnydd a wnaethpwyd a bod y TOC cyntaf y tu allan i TfL i weithredu system o’r fath.
Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod.
Gofynnodd y Bwrdd a yw’r prosiect yn cyd-fynd â’r gwaith parhaus o fasnachfreinio bysiau. Dywedwyd wrth y Bwrdd ei fod dal yn waith ar y gweill a bod cynrychiolaeth o’r tîm masnachfreinio bysiau ar dîm y prosiect.
Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariadau wrth i’r prosiect gael ei gyflwyno ar draws y rhwydwaith.
Gadawodd Helen Mitchell a Chad Collins y cyfarfod.
5.7 Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol
Rhoddodd Lee Robinson yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am ei rôl sy’n esblygu a fydd yn cynnwys cymryd yr awenau o ran mewnbwn TrC i gynllunio trafnidiaeth ranbarthol i sicrhau bod TrC yn ychwanegu gwerth. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gwmpas y rôl, gan weithio gyda Chyd-bwyllgorau Corfforedig a ffactorau llwyddiant critigol.
Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod
6. Y Bwrdd Rheilffyrdd
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar berfformiad, sbarduno refeniw i’r busnes, darpariaeth drwy’r giatiau, edrych yn fanwl ar amserlenni’r Metro, prisiau tanysgrifio, a thalu wrth ddefnyddio.
Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.