Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Tachwedd 2021

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

18 Tachwedd 2021

10:00 - 16:30

Lleoliad - Llys Cadwyn, Pontypridd ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitemau 1a - 2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Lewis Brencher; Karl Gilmore; Lee Jones; Lee Jones (eitem 4); Richard Marwood; (eitem 4); Geoff Ogden; David O’Leary; Leyton Powell; Dan Tipper (eitem 4); Dave Williams; a Lisa Yates.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod yna gworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 21 Hydref 2021 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y cofnod camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Ystyriodd y Bwrdd ddamwain reilffordd ddiweddar Cyffordd Twnnel Salisbury. Er nad oedd natur y ddamwain yn gymhleth, gallai arwain at oblygiadau o bwys. Mae adolygiad o’r gwersi sydd i’w dysgu wedi cael ei gynnal ac mae’n rhan o’r diweddariad diogelwch.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Gallai TrC ystyried defnyddio strategaeth y diwydiant twristiaeth o ryngweithio â’r mannau hynny nad yw’n eu cyrraedd mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu rheoli gan TrC

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau diogelwch yng Ngrŵp TrC dros y cyfnod diwethaf. Mae rhaglen Arweinyddiaeth Visible Felt yn cael ei datblygu gyda sesiynau briffio staff wedi’u trefnu dros yr wythnosau nesaf. Mae’r gwaith o ddatblygu’r broses ddiogelu yn parhau. Mae cymorth yn parhau i gael ei ddarparu i Pullman Rail i wella perfformiad diogelwch ymhellach.

Ni chafodd Rheilffyrdd TrC unrhyw broblemau diogelwch mawr yn ystod y cyfnod diwethaf. Bu cynnydd bychan mewn SPADs sy’n destun ymchwiliad gan is-bwyllgor Diogelwch Rheilffyrdd TrC Cyf a fydd yn adrodd ar y canfyddiadau i Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles TrC. Mae’r ymosodiadau corfforol blynyddol tra’n symud yn dal yn uwch ar gyfartaledd na’r ffigurau a ragwelwyd.

Adolygodd y Bwrdd ganfyddiadau cychwynnol o ddamwain Cyffordd Twnnel Salisbury a’r gwersi y gellir eu cymhwyso i TrC, a chymerwyd camau ar unwaith i ganfod unrhyw ganlyniadau i TrC o ran parodrwydd tymhorol. Bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal pan fydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd wedi cyhoeddi ei hadroddiad terfynol.

Cwblhawyd arolygiadau Awdurdodiad Diogelwch ORR ganol mis Medi ac mae adborth wedi’i dderbyn yn ddiweddar, gyda 16 o gamau gwella wedi’u nodi. Bydd cyfarfod ffurfiol gydag AIW yn cael ei drefnu i adolygu’r canfyddiadau ac i ddeall yr effeithiau a’r risgiau posibl i TrC. Prif thema’r canfyddiadau oedd: dilyn y system rheoli diogelwch o ran cydymffurfio ag ymchwiliadau; archwilio a risg; ac adnoddau cymwys.

O ran Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, mae cynllun sicrwydd diogelwch yn cael ei ddatblygu. Bydd Partneriaid Cyflenwi Seilwaith yn cymryd rhan yn y camau nesaf.

Adroddodd Pullman Rail am nifer o digwyddiadau trwch blewyn dros y cyfnod diwethaf. Mae camau gwella wedi’u nodi ac mae strategaeth gwelliant parhaus yn cael ei datblygu.

Trafododd y Bwrdd faterion capasiti diweddar ar drenau. Nodwyd nad yw cadw pellter cymdeithasol yn ofyniad cyfreithiol mwyach. Nododd y Bwrdd fod popeth posibl yn cael ei wneud i greu’r capasiti mwyaf posibl ar ein gwasanaethau a bod defnyddio’r Gwiriwr Capasiti yn cael ei hyrwyddo er mwyn galluogi cwsmeriaid i wneud penderfyniadau am eu teithiau ar sail gwybodaeth.  

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Er bod llwyth gwaith sylweddol, mae’r uwch dîm yn parhau i ganolbwyntio ar nodau strategol tymor hir - integreiddio a newid moddol - yn ogystal â dechrau gwaith mwy sylweddol yn adolygu model gweithredu TrC.

Mae refeniw rheilffyrdd yn parhau i gynyddu ochr yn ochr â gostyngiad mewn teithio heb docyn. Mae’n debygol y bydd angen lleihau cyllidebau yn y dyfodol, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi gweithgareddau sy’n cynhyrchu refeniw.

Mae’r perfformiad ar draws y rhwydwaith yn sefydlog ar y cyfan ond mae rhywfaint o fregusrwydd, yn enwedig ar sail faint o yrwyr a gwarchodwyr sydd ar gael ac, mewn rhai achosion, prinder cerbydau. Mae yna broblemau penodol o ran dibynnu ar shifftiau heb fod yn rhan o gontract ac mae angen cyrraedd pwynt o gael gweithlu sefydlog nad yw’n ddibynnol ar oramser neu waith gwirfoddol.  

Mae gwaith Caerdydd Heol y Frenhines yn parhau, lle mae dull gwahanol wedi’i ddefnyddio i geisio cyflymu’r broses o adnewyddu’r orsaf a lleihau costau. Mae timau’n cael eu herio ar sut mae gwella a chyflwyno’r dull hwn yn gyson ar draws gorsafoedd eraill.

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer gwella amserlenni yn y dyfodol yn parhau ac mae naratif yr Adran Drafnidiaeth wedi newid i un lle mae’n cydnabod ei chyfrifoldebau seilwaith yng Nghymru yn gynyddol, yn ogystal â chyllido’r gwaith angenrheidiol i ganiatáu i amserlenni diwygiedig weithredu. Mae risgiau sylweddol yn parhau o ran faint o amser a ganiateir gan Network Rail i roi’r newidiadau gofynnol ar waith.

TYNNWYD

Mae’r gwaith o feddwl yn strategol wedi dechrau ar fodel gweithredu a strwythur TrC. Dylai’r gwaith hwn sicrhau nad yw gweithgareddau sy’n rhan o’r cylch gwaith yn cael eu “hychwanegu” wedyn a bod dull gweithredu yn cael ei gynllunio i gyflawni diben craidd TrC, gan gynnwys trosglwyddiadau FIT posibl nawr yn hytrach na phan fyddant yn digwydd, a gwneud hynny mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda GB Rail lle mae’n ymddangos nad yw materion datganoledig wedi cael llawer o ystyriaeth eto. Cytunwyd y byddai papur yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ar y cyfleoedd a allai fod ar gael i TrC drwy greu Rheilffyrdd Prydain Fawr, gan gynnwys y goblygiadau ymarferol i wasanaethau yng Nghymru [Gweithredu James Price] Mae trafodaethau’n cael eu cynnal hefyd gyda Transport Scotland, TfL a TrC.

TYNNWYD

Mae’r adolygiad strategol o Gytundeb Grant Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn parhau gyda’r dull gweithredu a’r cynigion hyd yma wedi’u cefnogi mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Heriodd y Bwrdd yr angen am Gytundeb Grant manwl iawn.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Rhoddwyd crynodeb i’r Bwrdd o’r prif feysydd cyllid a llywodraethu y canolbwyntiwyd arnynt dros y cyfnod diwethaf:

  • cau’r bwlch cyllido ochr yn ochr â’r MA ar gyfer COVID-19 y Rheilffyrdd yn gofyn am £53m o gyllid refeniw ychwanegol. Mae’r bwlch yn y gyllideb gyfalaf oddeutu £20m;
  • cynllunio a negodi cerbydau;
  • ailsefydlu llinell sylfaen Rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys yr effaith ar gyllid ERDF;
  • adrodd ar DPAion gan gynnwys cerrig milltir y cynllun busnes ar gyfer 2021/22;
  • cynllunio busnes a chyllidebu ar gyfer 2022/23 gan gefnogi Llywodraeth Cymru gyda chynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod sy’n ymwneud â’r Rhaglen Lywodraethu a heriau cyllido’r blynyddoedd i ddod;
  • cwblhau cyfnod pontio Pullman Rail;
  • y posibilrwydd o ariannu prosiectau / gweithgareddau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol mewn perthynas ag unrhyw gyllid dros ben gan Lywodraeth Cymru;
  • gweithgareddau ychwanegol gan gynnwys grantiau teithio llesol taliad Ch2, cynlluniau bysiau, PTI, Gwasanaethau Gwybodaeth TrC (JV) a chynlluniau strategol allweddol eraill ar gyfer y blynyddoedd ariannol i ddod, gan gynnwys FIT / SRN
  • adrodd a llywodraethu gan gynnwys cynlluniau tryloywder, cyflwyno SOX yn y DU ac adroddiadau dangosfwrdd ariannol pellach.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

3c. Diweddariad ar yr is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar is-fyrddau Pullman Rail Ltd a Rheilffyrdd TrC Cyf. Roedd gwella perfformiad diogelwch yn flaenoriaeth benodol a drafodwyd gan Fwrdd Pullman yn ogystal â materion cynnal a chadw.

TYNNWYD

 

3d. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Roedd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu diweddar wedi adolygu metrigau perfformiad, ansawdd gwasanaeth, profiad cwsmeriaid, hygyrchedd a chynhwysiant, canlyniadau cysylltiadau cwsmeriaid, diweddariad ar y panel ar-lein newydd, fflecsi, y ‘Cwsmer yn Gyntaf’ a Webtis.  
Nododd Prif Bwyllgor Prosiectau mis Tachwedd waith ar ddatblygu’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni, gwaith paratoi ar gyfer Rheolwr Seilwaith Cymru Last Resort, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am sawl prosiect. Nododd y Pwyllgor y ddibyniaeth sylweddol ar Network Rail i fwrw ymlaen â phrosiectau. Ni wnaeth y Pwyllgor drafod Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yng ngoleuni’r ymarferiad presennol i ailsefydlu'r llinell sylfaen ac, yn hytrach, mae wedi cytuno i gyfarfod arbennig ar wahân wedi’i drefnu ar gyfer 9 Rhagfyr i drafod Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

3d. Bwrdd Llywio TrC

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gyfarfod diweddar y Bwrdd Llywio a oedd wedi ystyried trosglwyddo PTI Cymru, ymgysylltu Gweinidogol, Llinellau Craidd y Cymoedd, trosglwyddo Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, gwasanaethau bysiau, statws TAW, a dangosyddion perfformiad allweddol.

 

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher, Karl Gilmore, Lee Jones, Richard Marwood, Geoff Ogden, David O’Leary, Leyton Powell, Dan Tipper, Dave Williams a Lisa Yates â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Karl Gilmore, Lee Jones a Dan Tipper y cyfarfod. 

 

5. Rhaglen FIT

Trafododd y Bwrdd gynnwys papur yn nodi datblygiadau diweddaraf rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol (FIT) a’r bwriad i drosglwyddo swyddogaethau darparu rhwydwaith ffyrdd strategol o Lywodraeth Cymru i TrC. Yn ogystal â’r papur a gyflwynwyd, hysbyswyd y Bwrdd y cynhaliwyd cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i adolygu’r cynnydd o ran trosglwyddo swyddogaethau darparu rhwydwaith ffyrdd strategol. Yn y cyfarfod hwnnw, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyfarfod ac wedi ystyried y camau nesaf yn dilyn trafodaeth rhwng Gweinidogion.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd sylwadau Llywodraeth Cymru a chytunodd fod angen ystyried amseriad unrhyw drosglwyddiad yn ofalus a bod angen iddo gyd-fynd â blaenoriaethau eraill strategol bwysig. Cytunodd y Bwrdd hefyd i drafod y mater yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Llywio ac i geisio rhagor o eglurder ynghylch y tebygolrwydd y bydd unrhyw swyddogaethau darparu rhwydwaith ffyrdd strategol yn cael eu trosglwyddo.

 

6. Prosiect peilot Talu-wrth-Ddefnyddio

Ymunodd Helen Mitchell â’r cyfarfod. Trafododd y Bwrdd bapur ac achos busnes ategol ar brosiect peilot Talu-wrth-Ddefnyddio. Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ynghylch cynnig taliadau cerdyn clyfar digyswllt ac integreiddio trefniadau tocynnau ar gyfer rheilffyrdd a bysiau.

Cymeradwyodd y Bwrdd fwrw ymlaen â’r prosiect peilot Talu-wrth-Ddefnyddio fel un o amcanion strategol allweddol Llywodraeth Cymru fel y nodir yn yr achos busnes; gwariant o £10.46m o wariant cyfalaf a gwariant gweithredol o £7.66m i gwblhau’r cynllun peilot; estyniad i Fetro De-ddwyrain Cymru; a dyfarnu contract gyda Visa Ticketing i gyflawni rhannau allweddol o’r prosiect peilot. Roedd y gymeradwyaeth yn amodol ar fodloni ymholiadau Bwrdd Rheilffyrdd TrC ynghylch y cynnig i gwsmeriaid o ran derbyniad ar linellau gatiau yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chasnewydd ar gyfer cwsmeriaid a oedd yn teithio gyda chardiau cEMV yn ystod y cyfnodau peilot rheilffyrdd.  

 

7. Strategaeth Gorfforaethol

Nododd y Bwrdd y cynnydd o ran datblygu strategaeth gorfforaethol bum mlynedd TrC.

 

8. Diweddariad ar fysiau

TYNNWYD

 

9. Cofrestr risg

Nodwyd fersiwn ddiweddaraf y gofrestr risg. Mae proses risg Pullman Rail wedi cael ei hadolygu a chanfuwyd na fyddai'r gost o'i chymharu a'r budd o ymgorffori risgiau Pullman yn y system ARM yn ffafriol. Mae'r prif risgiau strategol yn aros yr un fath o ran defnyddio cyllid ERDF ar gyfer Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd; cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23; TYNNWYD

Mae risgiau newydd wedi dod i'r amlwg o ran cyflenwi deunyddiau hanfodol a'r cynnydd ym mhrisiau ynni.

 

10. Prosiectau Cyflawni TrC -Amserlen Contractau Byw a Chipolwg ar Gaffael

Nododd y Bwrdd yr amserlen contractau byw a golwg chwe mis ar gaffael.

 

11. Diweddariad ar bobl

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau allweddol y gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, gan nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig a'r angen i gyflogau gyd-fynd a chyfraddau'r farchnad er mwyn denu ymgeiswyr a chadw staff ar gyfer rolau arbenigol. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am fentrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a'r agwedd strategol tuag at dalent gynnar a dysgu a datblygu.

 

12. Adroddiad cyfathrebu

Roedd y cyfnod diwethaf yn fwy cadarnhaol na'r cyfnod blaenorol, gyda dileu'r ddeddfwriaeth cadw pellter cymdeithasol yn gostwng y lefelau craffu. Cefnogwyd yr ymdrechion i gynyddu nifer y teithwyr drwy gynyddu gweithgareddau ymgysylltu rhagweithiol 'yn bersonol' sydd wedi helpu i wella'r argraff a wnaiff TrC fel brand. Mae cwsmeriaid yn parhau i fynegi eu pryderon am orchuddion wyneb a chapasiti ar wasanaethau, a chafodd 'wythnos o weithredu' ar orchuddion wyneb ymateb cadarnhaol. Nodwyd bod cyflwyno'r wefan 'un parth' a chwblhau datblygiad creadigol yr ymgyrch adfer galw yn gerrig milltir allweddol. Bydd amseriad y cynllun adfer yn cael ei drafod gyda Llywodraeth Cymru. Nododd y Bwrdd y sicrhawyd nawdd gan dywydd ITV Cymru. Mae llawer iawn o weithgarwch ymgysylltu a rhanddeiliaid a'r gymuned yn parhau.

 

13. Unrhyw fater arall

Mae’r gwaith ymgysylltu’n parhau gyda thîm y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd, gan ymchwilio i’r cyfleoedd i TrC gymryd rhan. Yn amodol ar fân newidiadau, cymeradwyodd y Bwrdd ddatganiad i Fwrdd y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd i gefnogi ei agenda arloesi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau.