Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Mai 2022
Cofnodion Bwrdd Trafnidiaeth Cymru
19 Mai 2022
09:30 - 17:00
Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein
Mynychwyr
Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery a James Price.
Yn bresennol: Leyton Powell (eitem 2); Natalie Feely (eitemau 1 i 3) a Jeremy Morgan.
Sesiwn diweddaru gweithredol (Rhan B): Lewis Brencher, Alexia Course, Karl Gilmore, Geoff Ogden, Lee Robinson, Dan Tipper a Dave Williams.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Rhan A - Cyfarfod Bwrdd Llawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ymddiheurodd Alison Noon-Jones am fod yn absennol.
1b. Hysbysiad o Gworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datganiadau o Ddiddordeb
Dim wedi'u datgan.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Trafnidiaeth Cymru ar 21 Ebrill 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y
log camau gweithredu.
1e. Sgwrs am Ddiogelwch
Roedd cyfarfod diweddar o Fforwm Diogelwch De Cymru yn canolbwyntio ar gymesuredd a rheoli risg, a’r angen i
wella safonau heb fod yn or-fiwrocrataidd.
1f. Sgwrs am Gwsmeriaid
Cafodd cês yn cynnwys eitemau personol o ddillad ei adael ar y trên ym Mhontypridd. Aeth dechreuwr newydd i’r afael â’r digwyddiad a sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd i'r perchennog. Ymdriniwyd â’r digwyddiad yn dda iawn, heb i’r aelod o staff wybod bod y cês yn perthyn i Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru.
2. Perfformiad Diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Mae prosiect ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi dechrau, gyda ffocws cychwynnol ar leoliadau problemus Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL). Digwyddodd lladrad cebl cyntaf y flwyddyn ariannol ger gorsaf Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ar 15 Ebrill. Cymerwyd 40-50 metr o gebl pŵer a'i ddarganfod mewn coetir lleol, gyda’r copr wedi'i dynnu ohono.
Ar lefel Grŵp, ni adroddwyd am unrhyw ddamweiniau yn y cyfnod blaenorol, ond bu digwyddiad yn ymwneud ag ymddygiad ymosodol gan aelod o’r cyhoedd yn Llys Cadwyn tuag at staff y dderbynfa. Mae adolygiad risg blaen tŷ yn cael ei gynnal.
Roedd perfformiad cyffredinol yn erbyn targedau Trafnidiaeth Cymru yn gadarnhaol, gyda phob Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) yn is na'r lefelau a ragwelwyd, ar wahân i ‘ddigwyddiadau gweithlu dros 7 diwrnod’. Roedd un digwyddiad Arwydd wedi'i basio Mewn Perygl (SPAD), ond mae'r duedd gyffredinol yn gwella. Canfu'r archwiliad fod y digwyddiad wedi digwydd oherwydd diffyg canolbwyntio ar ran y gyrrwr, a achoswyd gan unigolyn yn rhedeg ar y platfform ger y trên.
Mae gwiriadau sicrwydd gyrwyr a thocynwyr wedi'u cynnal, gan gynnwys cydymffurfio â'r polisi ffonau symudol. Cynhaliwyd 80 o wiriadau a ddaeth o hyd i un ffôn yn unig gyda'r pŵer ymlaen, ond mewn bag y tu ôl i'r gyrrwr.
Mae cyfartaledd blynyddol Ymosodiadau Corfforol y Gweithlu yn parhau i fod yn gyson â'r ffigurau a ragwelwyd. Mae gweithgor ar y cyd wedi’i sefydlu i alinio Amey Infrastructure Wales (AIW), TfW Rail a TfW Group gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) i ddatblygu rhaglen strategol ar y cyd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, tresmasu, troseddu a hunanladdiad.
Roedd un digwyddiad isadeiledd ers y cyfarfod diwethaf, a achoswyd gan unigolyn yn cael ei daro gan gangen coeden. Hysbyswyd y Bwrdd bod timau clirio llystyfiant wedi datgelu nifer fawr o nodwyddau wedi'u defnyddio ym Mae Caerdydd, a bod y gwaith o’u gwaredu yn parhau. Mae hwn yn faes tresmasu amlwg a fydd yn cael ei archwilio ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru.
Roedd perfformiad da o ran Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) a dim ond un mân ddigwyddiad a adroddwyd.
Mae tueddiad o welliant yn Pullman gyda gostyngiad nodedig mewn damweiniau amser a gollwyd yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd ymweliad dwyffordd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) at sylwadau cadarnhaol ynghylch y cynllun gwella.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3. Diweddariad Strategol
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Adroddodd y Prif Swyddog Gweithredol ei fod yn ymwybodol o ba mor brysur yw pobl a'r angen i ofalu am lesiant pobl ac i unigolion fod yn hunanymwybodol o'u hanghenion eu hunain.
TYNNWYD
Bu'r Bwrdd yn trafod darpariaeth y gwasanaeth rheilffordd o ran y sefyllfa ddiweddaraf ar TrainCrew - lle mae'r sefyllfa'n gwella; cerbydau ychwanegol - lle mae problemau dibynadwyedd yn parhau; gorlenwi, yn enwedig ar lwybrau hirach; ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn sy'n effeithio'n bennaf ar y Cymoedd, gan gynnwys Maesteg a Glynebwy. Yn ogystal, bu'r Bwrdd yn trafod y bygythiad o streic Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn effeithio ar weithrediadau Network Rail. Cytunodd y Bwrdd i ddatblygu strategaeth llwybrau allweddol i geisio rheoli'r sefyllfa [James Price i weithredu].
Bu'r Bwrdd yn trafod cyllid Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth (DfT) a chytunwyd y byddai'n ddefnyddiol cael crynodeb o'r holl fuddsoddiadau rheilffyrdd [Alexia Course i weithredu]. Yn ogystal, trafododd perthnasoedd â’r DfT a Network Rail a chytunwyd bod angen nodyn ar waith Bwrdd Rheilffyrdd i Gymru a chais Trafnidiaeth Cymru i Lywodraeth y DU a Network Rail a’r cynnydd yn erbyn hynny [Alexia Course i weithredu], a sesiwn Bwrdd yn y dyfodol ar raglen strategaethau perchnogaeth asedau Trafnidiaeth Cymru [Alexia Course i weithredu].
Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â gweithrediad y CVL yn y dyfodol, a chytunwyd ei bod yn hanfodol bwysig iddo ddeall unrhyw risgiau gweithredol sy'n dod i'r amlwg.
TYNNWYD
Hysbyswyd y Bwrdd bod rôl Mike Whitten fel Rheolwr Cyffredinol Pullman Rail Limited wedi'i wneud yn barhaol.
3b. Cyllid a Llywodraethiant
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau diweddar yn ymwneud â chyllid a llywodraethiant. Mae’r broses gyllidebu yn gweithio’n dda, ac mae cynllun busnes 2022-2023 ar fin cael ei gwblhau, yn amodol ar adran ychwanegol ar newid ymddygiad yn unol â chais y Dirprwy Weinidog.
TYNNWYD
Croesawodd y Bwrdd y sefyllfa refeniw bresennol a oedd yn dangos 95% o lefelau cyn-Covid.
Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli ac adroddiad ariannol mis Ebrill.
Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.
4. Presenoldeb Network Rail yng nghyfarfod Bwrdd Trafnidiaeth Cymru
Ymunodd Michelle Handforth (Network Rail), Bill Kelly (Network Rail), Alexia Course a Jan Chaudhry Van-der-Velde y
cyfarfod. Trafododd y Bwrdd a Network Rail dri mater o ddiddordeb cyffredin:
(1) Perfformiad - trafododd y Bwrdd a Network Rail faterion yn ymwneud â rheoli llystyfiant, yr heriau o adfer ar ôl y pandemig, tresmasu ar y rheilffyrdd, a defnydd ac effaith cyfyngiadau cyflymder dros dro. Nododd y Bwrdd fod Bwrdd Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro wedi’i sefydlu mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru, sydd hyd yma wedi sicrhau rhai canlyniadau cadarnhaol.
(2) Rheoli’r rhwydwaith - rhoddodd Network Rail ddiweddariad i'r Bwrdd ar y defnydd o adnoddau a hyfforddiant; rheoli effeithiau newid hinsawdd; coed sydd wedi marw, coed sydd yn marw a choed afiach; buddsoddi mewn isadeiledd; sicrhau twf a gwerth i gwsmeriaid; nodi arbedion effeithlonrwydd; amserlennu; a gweithio ar y cyd.
(3) Trawsnewid i GB Rail yn y dyfodol - pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i Trafnidiaeth Cymru fod yn rhan o wneud penderfyniadau. Cytunodd y Bwrdd a Network Rail fod y sesiwn yn ddefnyddiol, a dylid trefnu un arall ar gyfer dechrau 2023. Gadawodd Michelle Handforth, Bill Kelly, Alexia Course a Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.
5. Is-fyrddau
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd TfW Rail Ltd (TfWRL), a ganolbwyntiodd ar berfformiad rheilffyrdd, ysgogi refeniw a materion sy’n gysylltiedig â cherbydau ychwanegol.
6. Diweddariadau is-bwyllgor y Bwrdd
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr. Yn benodol, bu’r Pwyllgor yn ystyried y cynnydd o ran gwella amlder Glynebwy, a chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru i brosiect y Global Centre for Rail Excellence.
Cymeradwyodd y Bwrdd gylch gorchwyl y Pwyllgor Pobl, Tâl Cydnabyddiaeth ac Enwebiadau.
8. Bwrdd Llywio
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gyfarfod diweddaraf Bwrdd Llywio Trafnidiaeth Cymru. Ystyriodd y cyfarfod gynnwys adroddiad Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, perfformiad rheilffyrdd, Trawsnewid CVL, gwasanaethau bysiau; cylch gorchwyl Adolygiad Taylor, cyllid a'r rhwydwaith ffyrdd strategol.
Rhan B - Sesiwn diweddaru gweithredol
Ymunodd Lewis Brencher, Dan Tipper, Karl Gilmore, Geoff Ogden a Dave Williams â’r cyfarfod.
9. Adroddiad cyfathrebu ac ymgysylltu
Adolygodd y Bwrdd y dangosfwrdd Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y cyfnod 2 Ebrill - 19 Mai 2022.
Mae effaith gadarnhaol lansio ymgyrch 'Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn' yn parhau ac mae bellach wedi symud o ganolbwyntio ar y rheilffyrdd, i deithio llesol ac ar fysiau. Mae'r ymgyrch yn parhau i hybu ymwybyddiaeth brand gadarnhaol a gyrru traffig mesuradwy i wefan Trafnidiaeth Cymru. Mae gwaith manwl bellach ar y gweill i ddeall effeithiau brand, masnachol ac ymddygiadol yr ymgyrch er mwyn gwella effeithiolrwydd ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Mae gwell darpariaeth gwasanaeth, rheolaeth lwyddiannus o waith Metro aflonyddgar ac ymgysylltu rhagweithiol parhaus â rhanddeiliaid wedi helpu i feithrin ymddiriedaeth mewn perthnasoedd a heriwyd yn ystod y cyfnod o aflonyddwch wrth drawsnewid trwy ddiwedd y don Omicron. Wrth symud ymlaen, bydd mewnwelediad cwsmeriaid yn cael ei ddwyn ynghyd â mewnwelediad brand i ddarparu naratif mwy cyson ar draws mesurau lluosog. Bydd y tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu hefyd yn ailffocysu, ochr yn ochr â gwaith ar draws Trafnidiaeth Cymru yn ehangach, i sicrhau bod newid ymddygiad yn ffocws allweddol ar gyfer pob gweithgaredd.
Gadawodd Lewis Brencher y cyfarfod.
TYNNWYD
Gadawodd Alexia Course y cyfarfod.
TYNNWYD
12. Cipolwg ar chwe mis nesaf y prosiectau isadeiledd
Nododd y Bwrdd broffil cipolwg ar chwe mis nesaf y prosiectau isadeiledd.
Gadawodd Karl Gilmore a Dan Tipper y cyfarfod.
13. Diweddariad bysiau
Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod am drafodaeth ar adborth anffurfiol i’w roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y Papur Gwyn ar Fysiau. Cymeradwyodd y Bwrdd y papur gan bwysleisio bod angen atebolrwydd clir am risg refeniw rhwydwaith bysiau.
Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod.
14. Cofrestr Risg Strategol
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd y canlynol:
- Mae Strategaeth Rheoli Risg Trafnidiaeth Cymru wedi’i hadolygu a’i diwygio yn unol â’r Polisi Rheoli Risg diweddaredig.
- Mae dadansoddiad o'r Gofrestr Risg Genedlaethol wedi'i gwblhau. Cymeradwyodd y Bwrdd gamau i'w cymryd mewn ymateb i'r dadansoddiad.
- Mae dwy risg newydd, un ohonynt o ganlyniad i wahanu risgiau a materion ynni, ac un yn ymwneud â gweithredu diwydiannol posibl. Mae gan dri risg un mater wedi'i ddiweddaru. Mae dwy risg ac un mater wedi'u dad-ddwysáu.
Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol.
15. Archwaeth Risg
Trafododd y Bwrdd ddull Trafnidiaeth Cymru o ddatblygu archwaeth risg corfforaethol. Cytunodd y Bwrdd y byddai'n adolygu datganiadau archwaeth risg, a byddai'r rhain yn cael eu dosbarthu i dimau a'u cyfleu i'r Bwrdd Llywio.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
16. Sesiwn gyfrinachol
TYNNWYD
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.