Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Rhagfyr 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
19 Rhagfyr 2024
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Louise Cheeseman, Rhian Langham, Vinay Parmar a James Price.
Hefyd yn bresennol:
Jeremy Morgan, Sam Hadley (TrC), Peter McDonald (Llywodraeth Cymru) Andrew Morgan (CLlLC) ac Alan McCarthy (Unite).
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Mae Louise Cheesman yn Gyfarwyddwr Go Ahead.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Tachwedd 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i ddiogelwch
TYNNWYD
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Nododd y Bwrdd fod y perfformiad ar y rhwydwaith yn gyson well ym mhob agwedd dros y blynyddoedd diwethaf ac adlewyrchir hyn yn ffigurau Transport Focus a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
2. Diweddariad Diogelwch
Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde a Dean Katchi â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- PCynnydd gydag adroddiad panel ymchwilio Lefel 3 y diwydiant ar ddigwyddiad Talerddig. Hysbyswyd y Bwrdd bod yr adroddiad yn gytbwys o ran canfyddiadau cychwynnol. Nid yw'n debygol y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan ddechrau 2026. TYNNWYD. Trafododd y Bwrdd asesiadau risg y diwydiant ar gwymp dail yn y lleoliad. Trafododd y
Bwrdd hefyd safbwynt cydweithwyr yn dilyn y digwyddiad. - Gwacau Gorsaf Caer yn ddiweddar oherwydd bygythiad diogelwch ffug.
- Cychwyn Ymgyrch Genesis, Ymgyrch Nadolig gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cynnwys gwell presenoldeb diogelwch a phlismona ar draws y rhwydwaith o ganlyniad i fwyo ymwelwyr a mwyo deithio cysylltiedig ag economi yn ystod y nos.
- TYNNWYD
- Effaith digwyddiadau iechyd a lles a chael adborth. Trafododd y Bwrdd y cymhlethdodau sy'n ymwneud â mesur effaith a heriau sy'n gysylltiedig â defnyddio metrigau.
- Rhoddwyd gwybod am dri SPAD yn ystod y cyfnod rheilffordd diwethaf. Roedd dau yn risg isel gyda'r trydydd yn peri mwy o bryder ond roedd camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Gadawodd Dean Katchiy cyfarfod.
3. Rheoli risg yn strategol
Ymunodd Josh Hopkins â'r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad rheoli risg strategol.
Bydd adolygiad 'egwyddorion cyntaf' o ddull TrC o reoli risg yn dechrau yn y flwyddyn newydd drwy adolygiad ELT cychwynnol. Cytunwyd bod angen i'r dull fod yn fwy greddfol ar draws y sefydliad. Cytunwyd y dylai'r adolygiad gynnwys adolygiad o'r archwaeth risg corfforaethol [Cam gweithredu Jan Chaudhry Van-derVelde].
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am archwiliadau dwfn i fasnachfreinio bysiau a chynlluniau ar gyfer gweithdy risg ar y model gweithredu posibl ar gyfer seilwaith yn y dyfodol. Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â thoriadau i gyflenwad pŵer a ffeibr TrC wedi cael eu lleihau. Cytunwyd i ychwanegu risgiau seiberddiogelwch [Cam Gweithredu Heather Clash] a thywydd eithafol [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van-de-Velde].
Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde a Josh Hopkins y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Er gwaethaf dwy storm sylweddol, cyflawnwyd targedau perfformiad yn ystod y cyfnod blaenorol ar gyfer Cymru a'r Gororau a Llinellau Craidd y Cymoedd. Roedd y newid i'r amserlen yr wythnos diwethaf wedi bod yn ddidrafferth a hyd yma, nid yw wedi effeithio ar berfformiad.
- Mae cynnydd da wedi cael ei wneud o ran gweithio gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru drwy gyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol a Phrif Swyddogion ar gynllunio bysiau a thrafnidiaeth ranbarthol. Trafododd y Bwrdd yr angen i brif ffrydio gweithgareddau bysiau yn fewnol ac i ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad gweithredol perthnasol yn ogystal â masnachfreinio. Mae angen rheoli'r newid sefydliadol cysylltiedig fel rhaglen arwyddocaol. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar weithredu'r model gweithredu targed [Cam Gweithredu Marie Daley].
- Mae'r ffocws ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn ystod y mis diwethaf wedi canolbwyntio ar dynhau rheolaethau pellach ar ddylunio, rhaglenni a gwariant a sicrhau arian wrth gefn ar gyfer 2025/26. TYNNWYD
- Cyfarfod diweddar gyda CAF TYNNWYD
- Diweddariad ar waith gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a GBRTT ar sut bydd Great British Railways yn edrych yng Nghymru a sut bydd Llywodraeth Cymru a TrC yn gweithio gyda'r endid newydd a beth mae TrC yn ceisio ei ennill o'r agenda diwygio rheilffyrdd. Nododd y Bwrdd gynlluniau i gael Cyfarwyddwr Llwybr Cymru a Gorllewin Network Rail i fynychu cyfarfodydd bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.
- Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd a sgyrsiau diweddar ynghylch Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; cynlluniau i ddatblygu ymhellach y cysyniad o bedwar trên yr awr i ben cymoedd Treherbert, Merthyr ac Aberdâr drwy wasanaeth gwennol; diogelwch ar fysiau; heriau cyllidebol; ac ailfrandio 'teithio llesol' i 'strydoedd mwy diogel'.
Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.
5. Cyllid
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer TrC ym mis Tachwedd 2024/25 a Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig yng nghyfnod rheilffyrdd 7.
TYNNWYD. Mae galwadau dyddiol yn cael eu cynnal i oruchwylio cyllideb Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer 2024/25.
Cafodd y Bwrdd hefyd yr TYNNWYD, cynnydd mewn Yswiriant Gwladol a heriau mewnol ynghylch arbedion ac osgoi costau ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn paratoi ar gyfer cyllideb 25/26.
Cytunodd y Bwrdd fod angen iddo gael mewnwelediad ar faterion ariannol Traws Cymru [Cam Gweithredu Heather Clash].
6. Cynllun busnes
Ymunodd Zoe Smith-Doe a Michael Pearce â'r cyfarfod.
Trafododd a chymeradwyodd y Bwrdd y Cynllun Busnes drafft ar gyfer 2025/26, sy'n amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Ymunodd Zoe Smith-Doe a Michael Pearce â'r cyfarfod.
7. Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Ddechrau mis Rhagfyr, rhoddodd ORR Gymeradwyaeth Cyflwyno i’r Gwasanaeth (APIS) ar gyfer System OLE ar Reilffordd Treherbert, gan nodi’r awdurdodiad sylweddol terfynol ar gyfer y gwaith seilwaith ar ochr TAM y rhwydwaith a chaniatáu i fflyd Dosbarth 756 gael ei chyflwyno ar y llwybr. Fodd bynnag, effeithiwyd ar gyflwyno Dosbarth 756 gan broblemau ysbeidiol o ran darllen goleuadau yn dilyn digwyddiadau llifogydd diweddar, gyda dau angen eu newid. Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau’r mynediad angenrheidiol i gefnogi proses profi a chomisiynu Dosbarth 398, gyda’r mater yn cael ei uwchgyfeirio i uwch arweinwyr AIW.
Trafodwyd cynnydd a cherrig milltir allweddol a gyflawnwyd yn 2024 gyda’r ddealltwriaeth, er y bu’n flwyddyn anodd iawn, bod cerrig milltir sylweddol a chymhleth wedi cael eu cyflawni gyda mwy o heriau i ddod yn 2025 a thu hwnt. Diolchodd y Bwrdd i bawb a gymerodd ran am y cynnydd a wnaed yn 2024.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
8. Brand a strategaeth farchnata
Ymunodd Kim Townsend a Lewis Brencher y cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar y dull marchnata strategol sy’n ofynnol i gyrraedd targed refeniw masnachol TrC, TYNNWYD.
Cymeradwyodd y Bwrdd dri cham strategol cyntaf arfaethedig y dull gweithredu TYNNWYD.
Trafododd y Bwrdd ddisgwyliadau cwsmeriaid, mwy o bwyslais ar greu profiad gwell i gwsmeriaid sy’n annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth eto, estyn allan at fusnesau lleol, a’r angen i gymunedau deimlo perchnogaeth ar y rhwydwaith.
Gofynnodd y Bwrdd am wybodaeth am y refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan gwsmeriaid newydd o’i gymharu â’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan fusnes eildro tymor hwy [Cam Gweithredu Lewis Brencher / Kim Townsend].
9. Byrddau is-gwmnïau
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Pullman. TYNNWYD.
Cymeradwyodd y Bwrdd benodiad Roger Evans a Mike Whitten i Fwrdd Pullman.
Hefyd, nododd y Bwrdd gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.
10. Diweddariadau’r is-bwyllgorau
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y pwyllgorau Prosiectau Mawr, Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Rhwydwaith-T a phwyllgorau Archwilio a Risg. Gwahoddodd y Bwrdd Mandy Garrett i roi adroddiad cynnydd ar y strategaeth TG a Gwasanaethau Digidol a ‘phrofion treiddio’ [Cam Gweithredu Jeremy Morgan]. Cymeradwyodd y Bwrdd Siarter Archwilio Mewnol a Pholisi Archwilio TrC.
Cymeradwyodd y Bwrdd newidiadau i aelodaeth yr is-bwyllgorau a nododd y bydd adolygiad o’r cylch gorchwyl yn cael ei gynnal ddechrau 2025.
11. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC yn canolbwyntio ar gyllid a chyllidebau.
12. Sesiwn gyfrinachol
Cafodd y Bwrdd sesiwn gyfrinachol.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.