Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Ionawr 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

20 Ionawr 2022

10:00 - 16:30

Lleoliad - ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen; Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitemau 1a - 2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, a Dave Williams. Ymunodd Lee Robinson ar gyfer eitem 5; Mark Brown (Amey) ar gyfer eitem 6; ac Ian Cater ar gyfer eitem 7.

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a dymunodd flwyddyn newydd dda i bawb a dymuniadau gorau wrth symud ymlaen.

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Rhagfyr 2021 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y cofnod camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Ddydd Llun yr wythnos hon oedd ‘Dydd Llun y Felan’. Mae pobl yn ei chael hi’n anodd yr adeg hon o’r flwyddyn yn enwedig gyda covid, gweithio gartref, a heriau ariannol, felly mae angen canolbwyntio ar les. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd hyn yn ymddangos yn fuan mewn briffiau diogelwch ar draws y cwmni cyfan.

Cafodd y blocâd diweddar ar Linellau Craidd y Cymoedd ei gynnal mewn tywydd garw ac anodd ond heb ddamweiniau. 

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Cafodd cwsmer ar drên prif linell drafferth gyda system talu di-gyswllt yn unig lle’r oedd y Wi-Fi yn wael. Dylai’r opsiwn o dalu ag arian parod barhau i fod ar gael ar gyfer gwasanaethau TrC pan fo hynny’n bosibl.

Aeth ap newydd TrC drwy gyfnod o brofion. Yn rhan o hyn gwnaeth un person ifanc deithio i Loegr a ddefnyddio’r ap ar wasanaethau gweithredwr arall, ond nid oedd yr ap yn gweithio’n iawn. Cafodd y person ifanc docyn cosb gan y gweithredwr arall a llythyr gan ORR. Ymyrrodd TrC gan nad oedd yn ymddangos yn deg ar y person ifanc nad oedd yr ap yn gweithio ac nad oedd yn gwybod y dylai ofyn am ad-daliad a phrynu tocyn newydd. Mae angen sicrhau nad yw’r risg yma yn parhau [Gweithredu Lewis Brencher / Dave Williams].

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Roedd y perfformiad diogelwch ar draws Grŵp TrC yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda rhywfaint o weithgarwch rhagweithiol da a llawer iawn o weithgarwch o amgylch gweithgareddau’r Nadolig a mesurau rheoli covid. Mae’r mesurau rheoli sy’n ymwneud â phrosiectau adeiladu hefyd yn gadarnhaol. Tynnwyd sylw’r Bwrdd at ddau weithgaredd penodol: (1) gweithio gyda Transport for London ar samplu covid a fydd yn cael ei rannu â TrC; a (2) cefnogi Llywodraeth Cymru gyda chanllawiau newydd ar gyfer lefel rhybudd 2 a chyflwyno profion llif unffordd ar gyfer gweithwyr hanfodol.  

TYNNWYD

Mae adolygiad diogelwch yn mynd rhagddo ar Drawsnewid a rheoli seilwaith. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau mai diogelwch yw’r brif flaenoriaeth wrth drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Bu cynnydd bach yn nifer y digwyddiadau yn Rheilffyrdd TrC dros y cyfnod diwethaf, gyda dadansoddiad yn cael ei wneud o’r mathau o ddamweiniau ac ymddygiad. Roedd sgôr gyfun y Mynegai Marwolaethau wedi’i Bwysoli ar gyfer y cyfnod yn 0.20, sydd ychydig yn uwch na’r rhagfynegiad o 0.18. Mae nifer yr ymosodiadau corfforol ar y gweithlu yn dal yn uwch na’r ffigurau disgwyliedig gydag 11 ymosodiad corfforol wedi’u riportio yn ystod y cyfnod. Roedd tri digwyddiad SPAD yn ystod y cyfnod ac mae ymchwiliad ar y gweill i bob un ohonynt. Roedd pedwar achos o afreoleidd-dra yn y broses anfon ac mae ymchwiliad ar y gweill i bob un o’r rheini.

Ni chafwyd unrhyw ddamweiniau seilwaith yn ystod y cyfnod ond cafwyd 14 digwyddiad tresmasu. Rhoddwyd gwybod am ddau fân anaf heb golli amser ar Drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod hwn a dau achos o ddifrod.

Nid oedd gan gwmni Pullman Rail unrhyw ddigwyddiadau colli amser ond roedd ganddo dri anaf cymorth cyntaf. Cynigiwyd cefnogaeth mewn meysydd risg â blaenoriaeth.

 

3. Diweddariad strategol
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae cynnydd da yn dal i gael ei wneud ar draws y busnes er gwaethaf gwyliau’r Nadolig a’r cyfyngiadau Omicron a oedd yn effeithio ar ba mor gyflym mae rhai gweithgareddau wedi cael eu cyflawni. Mae perfformiad gweithredol y rheilffyrdd wedi gwella wrth i wasanaethau wedi’u trefnu gael eu cwtogi oherwydd absenoldebau yn sgil Covid. Roedd hyn yn galluogi’r adnodd pobl i ymdopi, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn canslo a gostwng nifer y cerbydau. Mae cynnydd yn parhau ar raglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd gyda dau flocâd Nadolig llwyddiannus wedi’u cynnal er gwaethaf salwch Covid a thywydd gwlyb iawn.

Fel y rhagwelwyd ac y trafodwyd yn y cyfarfod diwethaf, gyda newid yn y canllawiau gan Lywodraethau’r DU a Chymru, cafodd y duedd o gynnydd yn y defnydd o’r gwasanaeth rheilffyrdd ei gwrthdroi gan arwain at ostyngiad sylweddol o tua 80% o nifer yr ymwelwyr drwy’r giatiau cyn covid ar ddechrau mis Rhagfyr i tua 40% erbyn diwedd y mis. Ond gwelwyd adferiad gweddol iach yn ystod yr wythnos lawn ddiwethaf i oddeutu 50%. Yr her sylweddol nawr yw adfer yr amserlen wreiddiol cyn gyflymed â phosibl heb amharu ar ddibynadwyedd a chyfateb lefelau gwasanaeth i’r staff sydd ar gael, yn enwedig o ran symud torfeydd capasiti yn ystod digwyddiadau chwaraeon yn fuan iawn. 

Awgrymodd y Bwrdd y dylid rhyddhau gohebiaeth yn nodi pam nad yw’r lefelau gwasanaeth yn debygol o fod yn ôl i’r arfer tan ar ôl y Chwe Gwlad [Gweithredu Lewis Brencher].

TYNNWYD

Mae gwaith cadarnhaol yn parhau gyda Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth ar baratoi ar gyfer gwella amserlenni yn y dyfodol. Mae cyllid a chynlluniau ar gael yn awr ar gyfer y rownd nesaf o welliannau eleni ac mae trafodaethau wedi cael eu cynnal am y rhaglen lawn hyd at 2024.

Cafodd Rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ei thrafod yn helaeth yn y Pwyllgor Prosiectau Mawr diwethaf. Mae trafodaethau diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr a’r Bwrdd wedi canolbwyntio ar ddylunio, adeiladu a chyllido. Cytunodd y Bwrdd y byddai bellach, dros y misoedd nesaf, yn rhoi ystyriaeth gyfartal i gerbydau a gweithredu, a mynediad i wasanaeth, integreiddio a chymeradwyaethau rheoleiddio. 

TYNNWYD

Mae risgiau’n parhau o amgylch gweithrediadau Llinellau Craidd y Cymoedd oherwydd y protocol drws Metro na chytunwyd arno eto. Hysbyswyd y Bwrdd bod rhaglen weithredu gyda’r Tîm Rheoli Rhanbarthol wedi dechrau i geisio dod â hyn i ben yn ystod y misoedd nesaf.

TYNNWYD

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Mae’r gweithgarwch cyllid diweddar wedi canolbwyntio ar y sefyllfa diwedd blwyddyn ac ar gytuno ar sefyllfa alldro gyda Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn profi’n heriol o ystyried ansicrwydd ynghylch sefyllfa refeniw’r rheilffyrdd. Mae gweithgareddau allweddol eraill wedi canolbwyntio ar gynllunio cerbydau, Llinellau Craidd y Cymoedd, adrodd ar DPA, cynllunio busnes a chyllidebu ar gyfer 2022-23, adolygiad strategol rheilffyrdd, cymorth i Pullman Rail Ltd, a chyflwyno SOX y DU.

TYNNWYD

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

TYNNWYD

 

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, a Dave Williams â’r cyfarfod.

 

5. Diweddariad ar fysiau

Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ar yr agenda bysiau. Y flaenoriaeth fu cefnogi Llywodraeth Cymru o ran dylunio ac yna gweithredu deddfwriaeth newydd a dylunio’r model gweithredu. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y casgliad o ran BES2 a’r camau dilynol, datblygiad strategol Traws Cymru a’i ail-gaffael, dylunio’r rhwydwaith, cardiau teithio rhatach, yr agenda wledig, prisiau tecach ac integreiddio cyllid.

Roedd uchelgais yr agenda bysiau wedi creu argraff ar y Bwrdd ond roedd yn deall bod angen cyrraedd y pwynt lle byddir yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am arwain gwahanol rannau o’r agenda, cytuno pwy sy’n cyflawni beth a phwy fydd yn ei ariannu, gan gynnwys cael eglurder ynghylch rôl TrC. Cytunodd y Bwrdd fod rôl TrC yn hanfodol o ran cyflawni rhwydwaith teithio integredig. Cytunwyd i godi hyn ym Mwrdd Llywio’r wythnos nesaf.

Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod.

 

6. Gwasanaethau Arloesi TrC

Ymunodd Mark Brown (Amey) â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf. Cyfanswm nifer y cyfleoedd ers i Wasanaethau Arloesi TrC ddechrau gweithredu yw 106 ar draws ystod o weithgareddau, gyda 23 o Orchmynion Tasgau wedi’u cymeradwyo TYNNWYD Dangoswyd astudiaethau achos i’r Bwrdd o’r gwaith a wnaed hyd yma.

ydd amcanion Gwasanaethau Arloesi TrC yn cyd-fynd â chynllun busnes 2022-23 TrC gyda’r nod o sicrhau bod y fenter ar y cyd yn dod yn fwyfwy rhagweithiol wrth gyflwyno cynigion i TrC sy’n cyd-fynd ag amcanion y cynllun busnes a’r gweithgareddau ategol; datblygu pecyn gwireddu buddion ar gyfer pob prosiect; ac yn gynyddol integreiddio gwaith y fenter ar y cyd â ffrydiau arloesi eraill TrC.

Gadawodd Mark Brown y cyfarfod.

 

7. Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

Ymunodd Ian Cater â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a thrafododd ganlyniadau ymarferiad mewnol i ganfod cyfleoedd posibl o ran trosglwyddo cyfrifoldebau’r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol o Lywodraeth Cymru i TrC.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd hefyd newidiadau mewn atebolrwydd o ran adolygiadau gweithredol uwch wythnosol, cyflawni rhaglenni gan gynnwys mwy o ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi ac arferion gweithio covid, a chryfhau adnoddau.

Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am y gwaith sy’n cael ei wneud i yrru’r prosiect yn ei flaen.

 

9. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd yr amserlen contractau byw a golwg chwe mis ar gaffael.

Gadawodd Karl Gilmore y cyfarfod. 

 

10. Strategaeth Gorfforaethol

Nododd y Bwrdd y cynnydd o ran datblygu strategaeth gorfforaethol bum mlynedd TrC.

 

11. Cofrestr Risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’r Gofrestr Risg Strategol. Mae dull cyson o reoli risg wedi cael ei sefydlu drwy TrC a Rheilffyrdd TrC. Mae’r system Rheoli Risgiau Gweithredol (ARM) wedi’i chwblhau’n sylweddol gydag oddeutu 200 o ddefnyddwyr, gyda gwaith yn parhau o ran addasu i adlewyrchu anghenion, glanhau data risgiau sy’n cael eu mewnforio o systemau eraill a newidiadau o ddydd i ddydd i’r grŵp defnyddwyr ac i’r data risg. Mae hyn hefyd yn cynnwys dull safonol system sgorio cyson ar draws y portffolio risg ar gyfer adrodd ac uwchgyfeirio er mwyn gwneud y system yn fwy ymarferol i’w defnyddio.

Ar hyn o bryd mae gan ARM 2,338 o gofnodion risg, gyda 1,441 ohonynt ar agor, 683 ar gau a 214 yn aros am gymeradwyaeth. Mae pedair risg agored ar gofrestr risg uwch y Tîm Arwain Strategol/Bwrdd, dim risgiau a materion newydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod, a chafodd tair risg eu hisgyfeirio o lefel y Tîm Arwain Strategol / Bwrdd.

Mae drafft cyntaf o hyd a lled risg i ystyried yr effeithiau a’r mesurau lliniaru posibl yn sgil digwyddiad mawr Toriad mewn Cyflenwad Pŵer wedi cael ei gwblhau. Mae’r drafft yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, wedyn dechreuir asesiad manwl o effaith toriad pŵer cenedlaethol am gyfnod sylweddol o amser.

Gadawodd Leyton Powell a Geoff Ogden y cyfarfod

 

12. Adroddiad cyfathrebu

Roedd y cyfnod diwethaf yn un anodd arall oherwydd amrywiolyn Omicron a’i effaith ar ansawdd y gwasanaeth. Adlewyrchwyd yr effaith ar draws y rhan fwyaf o feysydd gweithgarwch gan gynnwys argraff o frand, cyswllt â rhanddeiliaid ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae cyhoeddi amserlen argyfwng wedi helpu i wrthbwyso rhywfaint o’r effaith hon, ond profiad y cwsmer yw’r stori fwyaf dros y cyfnod. Mae’r flwyddyn newydd, gwelliannau o ran darparu gwasanaethau a newidiadau yn y cyfyngiadau, yn gyfle i ailosod ein cynlluniau rhagweithiol ar gyfer y flwyddyn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo yn awr i adfer a thyfu’n gadarnhaol yn ystod yr ail chwarter.

Gadawodd Lewis Brencher, David O’Leary a Dave Williams y cyfarfod.

 

13. Diweddariad ar yr is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar Byrddau Pullman Rail Ltd a Rheilffyrdd TrC Cyf. Nid oedd unrhyw eitemau newydd o bwys wedi cael eu trafod gan y Bwrdd Rheilffyrdd, gyda ffocws mawr ar berfformiad, turn olwynion newydd yng Ngogledd Cymru, adnoddau a cherbydau.

Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021, trafododd Bwrdd Pullman gyllid, newidiadau i’r safle a goblygiadau diogelwch. Mae’r cwmni’n dod â’r flwyddyn i ben yn gryf ac mae ganddo lyfr archebion llawn ar gyfer 2022-23.

 

15. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Roedd cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Prosiectau Mawr wedi ystyried Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a bysiau yn eithaf manwl ynghyd â pharthau 20mya; adolygiad blynyddol o waith adnewyddu'r rheilffyrdd; gwelliannau i orsafoedd; y Ganolfan Rhagoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ; a phrosiectau gwella Cymru a Thrawsffiniol.

Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu wedi ystyried DPA; diweddariad ar brofiad cwsmeriaid; cwynion; ffigurau oedi ac ad-dalu; diweddariad ar y Labordai Arloesi; a rheoli asedau.

 

16. Bwrdd Llywio TrC

Cyfarfod anffurfiol oedd cyfarfod Bwrdd Llywio TrC yn ddiweddar ac ystyriodd Omicron a’r effeithiau ar absenoldebau staff; cyllid a chyllidebau; y tebygolrwydd o newidiadau mewnol i staff Llywodraeth Cymru; Erthyglau Cymdeithasu; PTI Cymru; a phrisiau tocynnau trên.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfranogiad.