Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Mehefin 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
20 Mehefin 2024
10:00 - 17:00
Lleoliad - Wrecsam a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones a James Price.
Hefyd yn bresennol:
Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Jeremy Morgan, Alan McCarthy a Gareth Pembridge (Arsylwr, eitemau 1 i 11).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Cafwyd ymddiheuriad gan Andrew Morgan.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, gwnaeth y Cadeirydd groesawu pawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 16 Mai 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Myfyriodd y Bwrdd ar dystiolaeth ddiweddar a roddwyd gan Brif Weithredwr Boeing i Gyngres yr Unol Daleithiau, yn dweud mai gweithlu heb ei hyfforddi oedd y rheswm dros y problemau diweddar a oedd yn effeithio ar awyrennau 737 Max ac yn beio diswyddiadau a throsiant gweithwyr a oedd yn fwrn ar y diwydiant ar ôl Covid gan gyfrannu at broblemau gweithgynhyrchu yn y cwmni. Trafododd y Bwrdd yr angen i reoli cyfnodau o newid sylweddol yn ofalus.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Yn sgil achos diweddar o golli cerdyn debyd, cafodd un newydd ei ddosbarthu a’i wneud yn barod i’w ddefnyddio dim ond drwy ei roi wrth ymyl ffôn symudol. Trafododd y Bwrdd a ellid defnyddio technoleg debyg ar gyfer ap TrC.
2. Diogelwch
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Adolygu’r System Rheoli Diogelwch electronig gan gynnwys adborth gan randdeiliaid.
- Profion diogelwch parhaus wedi’u cynllunio ymlaen llaw mewn cydweithrediad â gweithredwyr bysiau ar gyfer Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.
- Y cynnydd sylweddol mewn ymosodiadau ar y gweithlu, ar lafar yn bennaf. Mae hyfforddiant rheoli gwrthdaro wedi cael ei gyflwyno.
- Ôl-drafodaeth strwythuredig ar gadernid busnes yn dilyn toriad TG a effeithiodd ar sawl un o swyddogaethau TrC.
- Dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer Pullman Rail, seilwaith a thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae dwyn ceblau yn broblem o hyd. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sydd wedi cymryd camau mewn ymdrech i gau’r farchnad.
3. Rheoli risg yn strategol
Mae’r Polisi Rheoli Risg wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn gyfredol, yn unol ag arferion da a threfniadau llywodraethu rheoli risg y sefydliad. Gofynnir am gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Risg.
Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol o’r prif risgiau yr adroddwyd arnynt y mis blaenorol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Ceir risg na fydd Cyfnewidfa Porth ar agor mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod yn yr haf. Bydd James Price yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf [Cam Gweithredu]. - Mae’r sefyllfa well o ran perfformiad gweithredol y rheilffyrdd wedi parhau gyda pherfformiad da o ran amser a gollir gan deithwyr a chynnydd yn nifer y gwasanaethau â rhwng tri a phum cerbyd ar lwybrau a ddefnyddir yn helaeth. Erbyn hyn, mae cerbydau MKIV yn gweithredu’n bennaf mewn ffurfiannau pedwar neu bum cerbyd ac maent yn gweithio’n well ar y cyfan.
- Mae’r gwaith cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn parhau gyda dealltwriaeth o’r angen i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac i fanteisio ar y cyfle i gynllunio mewn ffordd integredig a chydgysylltiedig.
- Canolbwyntiodd cyfarfodydd diweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar yr angen i gyfleu manteision cadarnhaol buddsoddi drwy TrC; Metro Gogledd Cymru; yr angen parhaus i fynd i’r afael â theithio heb docyn a cholli refeniw; y cysyniad o ‘gontract cymdeithasol’ gyda chwsmeriaid; yr angen i wella cysondeb ar draws y sector cyhoeddus a byd busnes er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl; a pherfformiad gweithredol y rheilffyrdd.
- Gwelwyd perfformiad da ym mhob rhan o’r rhwydwaith yn ystod cyfnod diwethaf y rheilffyrdd, ond cafwyd rhai anawsterau yn ystod y cyfnod presennol, a hynny’n bennaf ar Linellau Craidd y Cymoedd oherwydd cynnydd mewn amserlenni. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am broblemau seilwaith rhwng AIW a Network Rail a gymerodd fwy na dau ddiwrnod i’w datrys. Nododd y Bwrdd na chafodd profion a oedd wedi'u cynllunio ar gyfer unedau Class 756 eu cynnal, sydd wedi gohirio eu mynediad i’r gwasanaeth am fis. Mae perfformiad Cymru a’r Gororau yn parhau i fod yn dda, er y bu mwy na’r disgwyl o wasanaethau dau gerbyd. Mae problemau technegol gydag unedau Class 231 wedi effeithio ar berfformiad ond maent yn cael eu hatgyweirio dan warant. Trafododd y Bwrdd yr angen am ‘ailosod’ mewn perthynas â phrosiectau cyfalaf, dylunio a mynediad i’r gwasanaeth [Cam Gweithredu James Price].
- Cyfarfod yr wythnos nesaf gyda Phrif Swyddog Gweithredol CAF i bwyso am unedau Class 197 yn gyflymach ac i gynnig cymorth lle bo modd.
- Mae’r cynnydd yn parhau o ran yr agenda bysiau, gan gynnwys sesiwn ddefnyddiol gydag Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn cael ei dilyn gan drafodaethau pellach.
- Dechreuodd John Worthington yn rôl Cyfarwyddwr Cyflawni TrC yr wythnos hon gyda ffocws ar gwblhau sawl prosiect, ond yn enwedig Depo Ffynnon Taf a thurn Gogledd Cymru.
Hefyd, cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am agor Cyfnewidfa Caerdydd; gwersi a ddysgwyd o’r toriad TG un pwynt methiant diweddar; digwyddiad meithrin tîm diweddar gyda TfL TYNNWYD.
5. Cyllid
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Mai 2024. TYNNWYD.
TYNNWYD
Nododd y Bwrdd fod llythyr o gysur gan Lywodraeth Cymru wedi dod i law.
Yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio a Risg, cymeradwyodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023/24.
Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.
6. Memo’r Pwyllgor Archwilio a Risg
Nododd y Bwrdd femorandwm gan gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn crynhoi gweithgarwch cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg a gynhelir ar 21 Mehefin 2024; ac adolygiad o gydymffurfiaeth y Pwyllgor â’i gylch gorchwyl ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.
7. Cyfarfodydd is-fyrddau
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar byrddau TfW Fibre a Rheilffyrdd TrC.
8. Is-bwyllgorau
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y pwyllgorau Prosiectau Mawr, Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Rhwydwaith-T a Phobl. Cytunwyd i ddosbarthu papurau ar newid diwylliant a gradd-brentisiaethau rheilffyrdd [Cam Gweithredu Jeremy Morgan].
9. Bwrdd Llywio
Canolbwyntiodd cyfarfod diweddar y Bwrdd Llywio ar CAF, perfformiad rheilffyrdd, Llinellau Craidd y Cymoedd, Dangosyddion Perfformiad Allweddol, adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol, bysiau, y gyllideb a gweithredwr y dewis olaf.
10. Ysgrifennydd y Cabinet
Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth â’r cyfarfod.
Trafododd Ysgrifennydd y Cabinet dueddiadau cadarnhaol ym mherfformiad gweithredol presennol y rheilffyrdd yng ngoleuni newidiadau i amserlenni a dywedodd fod llawer iawn i fod yn obeithiol yn ei gylch. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am syniadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch rhyngweithio â Gweinidogion y DU; integreiddio’n llawn ar raddfa genedlaethol; perfformiad rheilffyrdd; hyrwyddo trafnidiaeth fel hwylusydd; a thrafnidiaeth gyhoeddus fel y trydydd gwasanaeth cyhoeddus.
Bu’r Bwrdd ac Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn trafod pwysigrwydd glendid trenau - yr ystyrir yn aml ei fod y peth cyntaf y bydd cwsmeriaid yn ffurfio barn arno mewn perthynas ag ansawdd gwasanaeth; Metro Gogledd Cymru; a’r achos o blaid trefniadau llywodraethu diwygiedig ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.
Gadawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth y cyfarfod.
11. LlCC
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Yn ystod y mis diwethaf, cafodd llinell Treherbert ei thrydaneiddio’n llwyddiannus a gwnaeth Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd awdurdodi system Cyfarpar Llinellau Uwchben Treherbert a’r estyniadau platfform yng ngorsafoedd Aberdâr a Lein y Ddinas. Er bod disgwyl i sawl proses awdurdodi seilwaith gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, mae hyn yn garreg filltir bwysig o ran cwblhau’r holl waith seilwaith mawr ar ochr TAM y rhwydwaith. Mynegodd y Bwrdd ei ddiolch am gwblhau’r garreg filltir hon.
Mae gwaith depo Ffynnon Taf yn dal i fynd rhagddo er mwyn helpu i drosglwyddo i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf. Mae dyddiad cwblhau’r trosglwyddiad cychwynnol wedi symud i ddechrau mis Gorffennaf 2024. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â’r gofynion sy’n ymwneud â chyflwyno unedau Class 398.
O ran cyflwyno unedau Class 756, mae disgwyl i’r cwrs Peilot Hyfforddiant i Yrwyr ddechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Mehefin yn unol â’r rhaglen. Yn anffodus, effeithiwyd ar y profion cydweddoldeb electromagnetig hollbwysig yn sgil gofyniad Network Rail i gymryd meddiant brys ar fyr rybudd ar ddwy noson yn olynol er mwyn datrys problemau technegol, a effeithiodd ar y gwasanaeth i deithwyr, ac mae hynny wedi gohirio’r rhaglen mynediad i’r gwasanaeth.
Gadawodd Dan Tipper a Gareth Pembridge y cyfarfod.
12. Sesiwn gyfrinachol
TYNNWYD
Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.