Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Ebrill 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

21 Ebrill 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Leyton Powell (eitem 2); a Jeremy Morgan.

Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Neil James, David O’Leary, Lee Robinson, a Dan Tipper.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 24 Mawrth 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd wersi pellach i’w dysgu ynghylch cyfrifoldeb ac atebolrwydd personol yng ngoleuni digwyddiad Tram Croydon.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Myfyriodd y Bwrdd ar waith da a wnaed yn ddiweddar i amddiffyn refeniw ar un o wasanaethau'r brif lein a oedd yn cynnwys y goruchwyliwr a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Roedd yr ymateb yn seiliedig ar y goruchwyliwr yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa yn y cerbyd a’r bobl yn mynd ar y trên ac oddi arno.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Roedd perfformiad da ar draws dangosyddion Grŵp TrC ynghyd â dechrau llwyddiannus i’r rhaglen arweinyddiaeth visible felt. Nododd y Bwrdd mai anhwylderau iechyd meddwl yw’r pwnc mwyaf amlwg o ran atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol.

Mae Cynllun Diogelwch Rheilffyrdd TrC 2022-23 wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â Grŵp TrC a bydd y drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i Grŵp Gweithredol Diogelwch Rheilffyrdd TrC ei gymeradwyo. Nid oedd unrhyw SPADS yng Nghyfnod 13 y Rheilffordd. Arweiniodd y Gweithrediad Refeniw at ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, yn enwedig ar Linellau Craidd y Cymoedd. Holodd y Bwrdd a oedd goruchwylwyr bob amser yn cyhoeddi eu presenoldeb ar wasanaethau i atal ymddygiad gwael. Cadarnhawyd nad yw hyn yn digwydd bob amser ond bod ffrwd waith cyhoeddiadau trenau yn bodoli. Cytunodd Leyton Powell i fwydo hyn yn ôl i’r adolygiad [Cam Gweithredu Leyton Powell].

Roedd 14 o ddigwyddiadau yn ymwneud â’r gweithlu yng Nghyfnod 13 y Rheilffordd, ac roedd wyth yn ymwneud â llithro, baglu a syrthio / rhyngweithio â phobl. Roedd un anaf RIDDOR penodol yn y gweithlu lle roedd dargludydd wedi torri ei ysgwydd ar ôl disgyn rhwng y trên a’r platfform yn Amwythig. Mae’r RIDDOR yn destun ymchwiliad i ganfod yr achos sylfaenol ac i atal hyn rhag digwydd eto. Rhoddwyd gwybod am 44 o Ymosodiadau Corfforol yn y Gweithlu yn ystod y cyfnod. Mae’r cyfartaledd blynyddol o saith yn dal yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd, sef pedwar. Fodd bynnag, mae ymosodiadau wedi gostwng 29% yn ystod Cyfnodau 11-13 y Rheilffordd, o’i gymharu â Chyfnodau 8-10 y Rheilffordd.

Nodwyd mân ddigwyddiadau yn ymwneud â gwaith seilwaith, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a Pullman Rail. 

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod y tîm wedi parhau i ganolbwyntio'r mis diwethaf ar ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd, cynllunio ar gyfer gwasanaethau a seilwaith yn y dyfodol, a dal cadwyn gyflenwi TrC yn atebol am nifer o brosiectau - yn fwyaf nodedig o ran dylunio ac adeiladu Llinellau Craidd y Cymoedd, a CAF ar gyfer trenau newydd.

Mae perfformiad sylfaenol y gwasanaeth rheilffyrdd yn parhau i wella, ond mae cyfres o stormydd a difrod canlyniadol i seilwaith Network Rail wedi effeithio ar hyn, yn ogystal ag yn fwy diweddar, effaith cynnydd pellach yn nifer yr absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid. Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd nad oes lle i fod yn rhy hunanfodlon ac mae diwylliant o berfformiad yn cael ei annog.

TYNNWYD

Hysbyswyd y Bwrdd bod cyfarfod cyntaf Gweithgor Protocol Metro Llinellau Craidd y Cymoedd wedi’i gynnal yr wythnos diwethaf a’i fod yn sesiwn gadarnhaol.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Roedd y gweithgareddau cyllid dros y mis diwethaf yn canolbwyntio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, cynllunio cerbydau, seilwaith a busnes a chyllid ar gyfer 2022-23, TYNNWYD

Nododd y Bwrdd ffigurau rhagarweiniol ar ddiwedd blwyddyn a allai newid yn amodol ar archwiliad a thrafodaeth gyda Llywodraeth Cymru. 

TYNNWYD

Diolchodd y Bwrdd i bawb a oedd yn gysylltiedig â sicrhau sefyllfa dda ar ddiwedd y flwyddyn.

 

4. Presenoldeb Network Rail yng nghyfarfod Bwrdd TrC

Trafododd y Bwrdd bynciau i’w trafod gyda Network Rail yn y cyfarfod ym mis Mai.

 

5. Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Pobl. Cytunodd y Bwrdd i lunio cylch gorchwyl i gyfuno’r Pwyllgorau Pobl a Thaliadau ac i gynnwys dyletswyddau pwyllgor enwebiadau i ffurfio ‘Pwyllgor Pobl, Taliadau ac Enwebiadau’ [Cam Gweithredu Jeremy Morgan].

Roedd y Pwyllgor Archwilio a Risg diweddar yn cynnwys cyflwyniad gan archwilwyr allanol TrC ar y cynllun archwilio, roedd yn ystyried nifer o adroddiadau Archwilio Mewnol, adroddiadau ariannol ac anariannol, ac yn cynnwys cymeradwyo'r polisi Rheoli Risg diwygiedig a darpariaeth pensiynau Grwp TrC.

 

6. ls-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am gyfarfod diweddar bwrdd Pullman Rail Ltd.

 

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Neil James, David O'Leary a Dan Tipper a'r cyfarfod.

 

9. Adroddiad cyfathrebu

Cafodd yr ymgyrch Rhwydwaith Cymdeithasol Go lawn ei lansio'n ddiweddar a bydd yn cael ei dilyn gan elfennau bysiau a theithio llesol. Mae arwyddion cynnar yn dangos bod yr ymgyrch yn cael effaith gadarnhaol gyda 96% o'r oedolion a oedd yn rhan o'r sampl wedi gweld / clywed yr ymgyrch, ac, ar gyfartaledd, mae pob person wedi gweld /clywed yr ymgyrch 13.61 gwaith. Gwelwyd cynnydd sylweddol hefyd yn nifer ymwelwyr y wefan o ganlyniad i alwadau i weithredu gan weithgareddau marchnata rheilffyrdd o'r cychwyn cyntaf. Roedd mwy o ymgysylltu ar sianeli cymdeithasol hefyd.

Mae rhannau o fannau manwerthu segur yn Wrecsam Cyffredinol a Chaerdydd Canolog wedi cael eu troi'n fannau preifat i ddinasyddion o'r Wcrain eu defnyddio cyn gwneud eu teithiau ymlaen.

Roedd llai o ddigwyddiadau mawr a thywydd gwell wedi arwain at gyfnod tawelach ar gyfer ymholiadau ar y cyfryngau, er bod gwasanaethau prysur / gwasanaethau a gafodd eu tarfu wedi arwain at rywfaint o sylw. Roedd hyn yn golygu bod modd defnyddio gweithgareddau cyfryngau rhagweithiol i hyrwyddo gwaith sydd ar y gweill ar Linellau Craidd y Cymoedd, caffael PTI, ail-lansio'r Daith Oren Odidog a lansio Cledrau Cymru.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad a chroesawodd ymgyrch y Rhwydwaith Cymdeithasol Go lawn a'r gwaith ar gyfer ffoaduriaid o'r Wcrain. 

Gadawodd Neil James y cyfarfod. 

 

10. Diweddariad am Linellau Craidd y Cymoedd

afodd y Bwrdd ragor o wybodaeth am y cynnydd mewn perthynas a'r rhaglen i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae'r elfennau dylunio i'w cyflawni wedi gwella ond mae angen sicrwydd llawn ar effaith elfennau hanfodol i'w cyflawni o ran dylunio. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau sy'n ymwneud a gweithio'n ddoethach, prosesau rheoli risg a sicrwydd a defnyddio arferion gorau.

TYNNWYD

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod. 

 

11. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf.

 

12. Rheoli risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd y gofrestr risg. Nid oedd unrhyw risgiau na materion newydd na rhai sy’n dod i’r amlwg. Cytunwyd i leihau’r risg o ran prisiau nwy a thrydan yn broblem.

Trafododd y Bwrdd ddatblygiad parodrwydd TrC i dderbyn risg a chytunodd i wneud y canlynol:

  • adolygu a chytuno ar y sefyllfa risg bresennol, dyheadau o ran sefyllfa risg, a’r sefyllfaoedd risg y gellir eu goddef;
  •  y Prif Swyddog Risg yn drafftio Datganiadau Parodrwydd i Dderbyn Risg yn seiliedig ar gategori ee llywodraethu, prosiectau, gweithrediadau ac ati gyda chymeradwyaeth Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio;
  • y Prif Swyddog Risg yn cyflwyno’r Datganiadau Parodrwydd i Dderbyn Risg a’u cyflwyno i’r Bwrdd a’r Weithrediaeth i’w cadarnhau;
  • y Weithrediaeth i ddefnyddio lefelau parodrwydd i dderbyn risg mewn penderfyniadau a chynlluniau sylweddol ar strategaeth, prosiectau newydd mawr a blaenoriaethu i weld lle mae'r canlyniad arfaethedig yn eistedd o ran sefyllfaoedd risg y gellir eu goddef;
  • y Weithrediaeth i sicrhau bod penderfyniadau mawr yn cynnwys y canlyniadau disgwyliedig a’r canlyniadau a ffafrir yn y sefyllfaoedd risg y gellir eu goddef a bod adnoddau’n cael eu nodi i gefnogi’r newid at lefel uchelgeisiol;
  • y Bwrdd a’r Weithrediaeth i rannu Datganiadau ar Barodrwydd TrC i dderbyn risg â rhanddeiliaid allweddol;

Cytunodd y Bwrdd i sesiwn wedi’i hwyluso i ddatblygu’r sefyllfaoedd risg presennol a’r sefyllfaoedd risg uchelgeisiol [Cam Gweithredu Leyton Powell]

 

13. Diweddariad ar fysiau

Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod. Adolygodd y Bwrdd bapur yn nodi dull arfaethedig TrC o ymateb i Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru: Un Rhwydwaith Un Amserlen, Un Tocyn - Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru.

TYNNWYD

Gadawodd David O’Leary a Lee Robinson y cyfarfod.

 

14. Sesiwn gyfrinachol

Cymerodd y Bwrdd ran mewn sesiwn gyfrinachol ar ddatblygu Model Gweithredu Targed TrC.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfranogiad.