Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Gorffennaf 2022
Cofnodion Bwrdd TrC
21 Gorffennaf 2022
09:30 - 17:00
Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd); Heather Clash; Vernon Everitt; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones, a James Price.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).
Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Sarah Howells.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 23 Mehefin 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Trafododd y Bwrdd yr amodau tywydd cynnes presennol, yr effaith ar gadernid seilwaith a’r angen i sicrhau bod
cynlluniau gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn cael eu hadolygu a’u diweddaru.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd wersi diweddar ym maes profiad mewn maes awyr a gwasanaeth i gwsmeriaid y gellid eu cymhwyso at TrC.
2. Perfformiad diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar, gan gynnwys cymorth i Pullman Rail, datblygu Polisi newydd ar gyfer y 11m Gofalu am Ddigwyddiadau a phresenoldeb TrC yng ngrwp troseddau mete I Rheilffyrdd y DU ac adolygiadau sicrwydd.
Mae'r perfformiad o ran diogelwch wedi bod yn rhesymol, ond cafodd y Bwrdd wybod am bump o'r un ar ddeg o alwadau am ddigwyddiadau a fu bron a digwydd a adroddwyd gan ddepo Caer a oedd yn cynnwys nodwyddau/pethau miniog ar drenau. Rhoddwyd sicrwydd i'r Bwrdd bod rhai ymyriadau cadarnhaol wedi cael eu gwneud, gan gynnwys hyfforddiant pethau miniog i staff. Cytunwyd i godi'r mater gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig [Cam gweithredu i Leyton Powell].
Roedd perfformiad yr adran Gweithrediadau yn dda yn erbyn y mynegai wedi'i bwysoli ar gyfer marwolaethau, ond mae ymosodiadau'n dal yn uchel, gyda 13 wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod. Cytunwyd i edrych ar arferion gorau o bob cwr o'r DU [Cam gweithredu i Leyton Powell].
Cafwyd un digwyddiad a gofnodwyd gan RIDDOR yn ystod y cyfnod a ddeilliodd o aelod o'r tim diogelwch yn baglu ac yn torri ei benelin wrth geisio ymyrryd ag achos o gwffio/ymosodiad rhwng dau aelod o'r cyhoedd.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad diogelwch o ran seilwaith, Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a Pullman Rail.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3. Diweddariad strategol
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
TYNNWYD
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am set o flaenoriaethau dau gam ar gyfer Gweithrediadau Rheilffyrdd. Yn gyntaf, sicrhau gwelliant graddol ym mherfformiad y gwasanaeth lie bynnag y bo modd; ac ail, cynllunio'n fanwl ar gyfer y dyfodol i ddarparu llwybr o berfformiad gwell a rheoli'r risg o roi gormod o bwysau wrth i fflydoedd CAF a Stadler ac amserlenni newydd gael eu cyflwyno.
Mae'r galw gan deithwyr yn parhau i ddangos twf sylfaenol gydag amcangyfrif o 2.3% o gynnydd o ran siwrneiau teithwyr o un cyfnod i'r llall ar ol ystyried effaith y gweithredu diwydiannol. Nododd y Bwrdd fod cytundeb wedi'i wneud gyda Network Rail ar gyfer gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd bob awr yn ystod cyfnod y streic nesaf.
Fel rhan o’r gwaith o geisio lliniaru lefel y gorlenwi sy’n gysylltiedig â digwyddiadau a thywydd poeth, cafodd y Bwrdd wybod bod tîm cyflawni rhaglenni wedi cael ei sefydlu i edrych ar rinweddau cyfres gyfochrog o gynnyrch sy’n ymwneud â theithio ar fws moethus ar gyfer digwyddiadau mawr ac ar gyfer gwasanaethau pellter hirach gorlawn.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith dylunio ac adeiladu Llinellau Craidd y Cymoedd, ac mae’r ddau wedi gwneud cynnydd da dros y mis diwethaf.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am fysiau, lle mae gwaith yn parhau i baratoi ar gyfer masnachfreinio; a theithio llesol, lle mae angen dull aml-bartner i gyflawni’r newid radical y gallai fod ei angen.
Mae gwaith manwl yn parhau ynghylch manteisio ar rwydwaith ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd at ddibenion masnachol, i gydnabod y ffaith mai’r cynnig presennol yw bod TrC yn dylunio ac yn gweithredu’r rhwydwaith a bod angen gwaith manwl i bennu hyfywedd. Cytunwyd i gysylltu â TfL a osododd ffeibr yn rhwydwaith Trenau Tanddaearol Llundain [Cam gweithredu i Vernon Everitt i ddarparu manylion cyswllt].
3b. Cyllid a llywodraethu
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau cyllid allweddol yn ystod y cyfnod diwethaf, gan gynnwys:
- Mae cyfrifon 2021-22 TrC a Rheilffyrdd TrC Cyf wedi cael eu cwblhau.
- TYNNWYD
- Adolygu systemau cyllid Pullman, datblygu’r tîm ac adrodd ar feysydd ffocws penodol.
- Cyllidebu a rhagweld i gyd-fynd â’r model gweithredu targed.
TYNNWYD
Nododd y Bwrdd y cerdyn sgorio DPA ond gofynnodd am amrywiaeth ehangach o ddangosyddion sy’n gysylltiedig â’r model gweithredu newydd. Gwnaed awgrymiadau ynghylch metrigau sy’n ymwneud â chyllid, pobl, perfformiad gweithredol, cwsmeriaid, diogelwch a chyflawni prosiectau [Cam gweithredu i Jeremy Morgan].
Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli ac adroddiad ariannol mis Mehefin.
Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.
5. Is-bwyllgorau
Roedd y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant blaenorol yn ymdrin â materion a pherfformiad cyfredol, ymgysylltu contractwyr â Llinellau Craidd y Cymoedd, a dysgu o ymweliad diweddar gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi adolygu ei gylch gwaith, gyda Phwyllgor Diogelwch Rheilffyrdd TrC Cyf yn dod yn fwy gweithredol. Byddai Peter Strachan yn cael ei wahodd i Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant TrC, gyda Vernon Everitt yn mynychu’n wirfoddol yn unig.
Adolygodd y Pwyllgor Prosiectau Mawr diweddar Reoli Seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd gan gynnwys perfformiad AIW, cyfnewidfa Caerdydd, ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd; Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gorsaf Sanclêr, a GCRE.
6. Is-fyrddau
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad, dadansoddi cyllid yn ôl llinell y llwybr, newidiadau i amserlenni, argaeledd cerbydau a thrafodaethau ynghylch cyflogau Rheilffyrdd TrC Cyf.
Cymeradwyodd y Bwrdd y Penderfyniad Ysgrifenedig y dylid diwygio Erthygl 11(2) o erthyglau cymdeithasu presennol Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig yn unol â hynny i gynyddu’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr o beidio byth fod yn llai na dau i beidio byth â bod yn llai na phedwar, ac oni nodir fel arall, pedwar fydd y nifer; ac felly newid geiriad erthygl 11(2) i ddarllen: ‘Gall y cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr gael ei bennu o bryd i’w gilydd gan benderfyniad gan y cyfarwyddwyr, ond ni chaiff byth fod yn llai na phedwar, ac oni nodir yn wahanol, pedwar fydd y nifer’.
Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol
Ymunodd Dan Tipper a Geoff Ogden â’r cyfarfod.
7. Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran Datblygu Cynaliadwy
Ymunodd Natalie Rees â’r cyfarfod i roi trosolwg o’r Diweddariad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy a oedd yn amlinellu astudiaethau achos TrC o arferion da yn seiliedig ar y nodau llesiant. Croesawodd y Bwrdd gynnwys cadarnhaol yr adroddiad a gofynnodd am i’r arfer da gael cyhoeddusrwydd da drwy’r sefydliad cyfan [Cam gweithredu i Natalie Rees].
8. Cyfathrebu
Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu allweddol dros y mis diwethaf. Roedd y mis diwethaf yn gyfnod heriol o ganlyniad i weithredu diwydiannol RMT ac NR, gydag effaith hynny i’w weld ar ddechrau’r cyfnod. Mae’r materion hyn yn dal i fod yn flaenllaw yn y gwaith o ddarparu ymgyrchoedd, cyfryngau gweithgareddau ymgysylltu a sgyrsiau’r llywodraeth. Yn fras, nid oedd llawer o feirniadaeth benodol ar TrC o ran sut cafodd y gweithredu diwydiannol ei reoli, ond roedd effaith sylweddol ar ganfyddiad y diwydiant yn gyffredinol sydd wedi effeithio ar argraff TrC fel brand.
Mae’r rownd ddiweddaraf o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned wedi parhau i fod yn werthfawr, gan gynhyrchu adborth defnyddiol, ond bydd adolygiad o fformat sawl panel a gweithgaredd yng ngoleuni’r cyfle i’w cyflwyno’n bersonol yn cael ei gynnal. Mae cynlluniau ehangach yn cael eu datblygu o ran datblygu brand, ymgysylltu â’r gymuned a newid ymddygiad.
Cafodd yr arddangosfa o unedau class 197 ei chroesawu gan randdeiliaid a’r cyfryngau lleol, ac mae’r misoedd nesaf yn cyflwyno llawer o gyfleoedd eraill i barhau i ddathlu cynnydd o ran cyflawni ein rhaglen drawsnewid.
Mae’r ymgyrch ‘Y Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn’ yn parhau, gyda’r rhan fwyaf yn canolbwyntio ar sianeli sy’n eiddo iddynt, sy’n cefnogi’r twf parhaus yn nifer yr ymweliadau â’n gwefan.
9. Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd
Nododd y Bwrdd y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch, dylunio, adeiladu ac integreiddio. Mae perfformiad dylunio wedi gwella’n foddhaol ers mis Ebrill 2022.
Oherwydd effaith perfformiad dylunio yn ogystal â nifer o ddylanwadau allanol, mae cynllun adfer wedi cael ei roi ar waith ar draws nifer o ddisgyblaethau adeiladu. Mae perfformiad cyffredinol y rhaglen yn cyd-fynd â swmp gofynnol y ddarpariaeth. Fodd bynnag, mae bygythiadau a nodir yn erbyn pum eitem llwybr critigol drwy’r rhaglen ar hyn o bryd yn amodol ar fesurau arbennig i’w lliniaru.
TYNNWYD
Gofynnodd y Bwrdd am faint o gledrau a osodwyd ac a ddylai newid hinsawdd ddylanwadu ar fanyleb y cledrau. Cytunwyd i dderbyn diweddariad mewn cyfarfod yn y dyfodol [Cam gweithredu i Dan Tipper].
TYNNWYD
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
10. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf
Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf. Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
11. Cofrestr Risgiau Strategol
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Cafodd rhybuddion Rheolwr Risg Gweithredol (ARM) eu rhoi ymlaen ym mis Mehefin fel rhan o gryfhau Llinell Amddiffyn gyntaf TrC wrth reoli ei fygythiadau a’i gyfleoedd. Er mwyn helpu i fonitro ac archwilio cydweithwyr sy’n defnyddio’r system, mae adroddiad rheoli defnyddwyr ARM yn cael ei ddatblygu a fydd yn cefnogi’r gwaith o lywodraethu risg y system.
Fel rhan o Bolisi a Strategaeth Rheoli Risg TrC, mae Gweithdrefn Rheoli Risg Menter yn cael ei datblygu sy’n nodi dull TrC o Reoli Risg ar draws y sefydliad. Mae’r Weithdrefn yn cynnwys egwyddorion a phroses rheoli risg; atebolrwydd a chyfrifoldebau; a geirfa termau.
Cytunwyd y dylid adolygu datganiadau archwaeth risg yn flynyddol [Cam gweithredu i Leyton Powell].
Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risgiau Strategol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
12. Diweddariad ar fysiau
Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod i ddarparu amlinelliad o ddadansoddiad o gynigion y rhwydwaith bysiau ar gyfer Gogledd Cymru. Croesawodd y Bwrdd y dull o gynllunio rhwydwaith y mae angen ei ddefnyddio i lywio masnachfreinio.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sydd wedi cyfarfod dair gwaith, gan ganolbwyntio ar ddata a theithio llesol. Bydd y cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar fysiau a chludo nwyddau.
Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod.
13. Llety Gogledd Cymru
Rhoddodd y Bwrdd awdurdod dirprwyedig i’r Weithrediaeth i benderfynu ar brydles ar gyfer swyddfeydd Gogledd Cymru ar ddiwedd yr ymarfer diwydrwydd dyladwy.
14. Bwrdd Pullman
Nododd y Bwrdd waith Bwrdd Pullman Rail.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau.