Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Ionawr 2021

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC - 21 Ionawr 2021

10:00 – 16:30

Lleoliad y cyfarfod: ar-lein

 

 

Cynrychiolwyr

Scott Waddington (SW) (Chair); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Alun Bowen (AB); Gareth Morgan (eitemau 2b-2c); Natalie Feeley (eitemau 1-3) a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddaru gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Lisa Yates (LY); Lee Robinson (LR); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM) a Dave Williams (DW). Ymunodd Natalie Rees (NR) ar gyfer eitem 5a a Matthew Gilbert ar gyfer eitem 5b.

Rhan A – Cyfarfod Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a dymuno blwyddyn newydd dda iddynt.

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Lisa Yates (Rhan B)

 

1b. Hysbysiad Cworwm

Gyda chworwm yn bresennol, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Gwrthdaro Buddiannau

Ni ddatgelwyd yr un.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC dyddiedig 17 Rhagfyr 2020 fel cofnod gwir a chywir. Nododd y Bwrdd bapur yn meincnodi costau gwasanaethau bws yn lle trên.

 

2a. Achos Diogelwch

Yn ddiweddar, cafodd Network Rail ddirwy o £135,000 am ddigwyddiad flynyddoedd yn ôl pan aeth plentyn yn ei arddegau ar ben trên a chael ei drydanu. Dirwywyd Network Rail gan nad oedd y ffensys yn ddigonol. Nodwyd bod angen i TrC gymryd yr holl ragofalon angenrheidiol fel nad yw rhwystrau naturiol i gael mynediad at y rhwydwaith yn cael eu cyfaddawdu yn ystod gwaith trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

2b. Achos Cwsmer

Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen i sicrhau bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo drwy’r adeg a’r risgiau o adael i safonau lithro.

 

2c. Perfformiad diogelwch

Ymunodd GM â’r cyfarfod i ddarparu’r diweddariad ar berfformiad diogelwch. Mae’r perfformiad wedi parhau’n dda o ran damweiniau a digwyddiadau. Fodd bynnag, cofnodwyd dau ddigwyddiad SPAD yn y cyfnod blaenorol. Rhoddwyd manylion y ddau ddigwyddiad i’r Bwrdd a manylion ar sut rydym yn ymchwilio iddynt. Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles yn adolygu hyn yn fanylach yn ei gyfarfod nesaf. Gofynnwyd i GM nodi arferion gorau gan TOC eraill ar reoli SPAD. [Gweithredu GM].

Mae’r gwaith cynllunio’n parhau mewn perthynas ag unrhyw symud posibl yn ôl i weithio mewn swyddfeydd gyda threfniadau ar safle yn cael eu terfynu. Bydd y cynlluniau’n cael eu hadolygu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith cymorth yn parhau wrth drosglwyddo staff Axis Cleaning i TrC - mae asesiadau risg fflydoedd glanhau cyffredinol wedi’u cwblhau yn erbyn gweithgareddau a nodwyd o fewn Llawlyfrau Glanhau Fflydoedd y Gwasanaeth Rheilffordd.

Mae’r adolygiad o ddarpariaeth cymwyseddau Diogelwch Rheilffyrdd Personol yn parhau gyda chais TrC am statws ‘Sentinel gydag Esemptiad’ yn cael ei gyflwyno.

Mae’r paratoadau wedi dechrau ar gyfer y Diwrnod Amser i Siarad ar 4 Chwefror mewn cysylltiad â Mind Cymru / Amser i Newid.

Nid oes achos RIDDOR neu ‘colli mwy na saith diwrnod’ wedi’u cofnodi yn yr 13 cyfnod olynol diwethaf ac mae’r mynegai marwolaethau ar gyfer damweiniau yn dal i ostwng. Mae ymddygiad anghymdeithasol yn parhau yn uchel ac mae mesurau lliniaru amrywiol yn cael eu hystyried. Mae gorfodaeth i wisgo masgiau yn parhau i wella ond gwrthodir rhoi caniatâd i rhwng 200 a 300 o bobl yr wythnos deithio o hyd am nad ydynt yn gwisgo masg. Ers dechrau’r cofnodi ym mis Awst 2020, gwrthodwyd rhoi caniatâd i dros 6,000 o bobl deithio. Ymchwiliodd y Bwrdd i weld a oes unrhyw ddadansoddi wedi’i wneud ar ddemograffeg y rhai sy’n gwrthod gwisgo masgiau. Hysbyswyd y Bwrdd mai dim ond tystiolaeth anecdotaidd sy’n bodoli.

O ran seilwaith (trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a rheoli seilwaith), ni adroddwyd am unrhyw ddamweiniau yn cynnwys staff na chontractwyr yn ystod y cyfnod diwethaf. Mae riportio digwyddiadau a fu bron â digwydd yn parhau’n uchel ac mae hynny’n gadarnhaol, oherwydd mae’n golygu bod materion yn cael eu codi cyn iddynt achosi damwain.

Diweddarwyd y Bwrdd ar gamau a gymerwyd i wella ymhellach diogelwch croesfannau. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau nad yw TrC yn cael eu cyfyngu gan brosesau ac arferion presennol, a allai fod wedi bod ar waith am flynyddoedd ond a allai fod yn annigonol.

 

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Hysbyswyd y Bwrdd am newidiadau i uwch reolwyr gan fod GM yn bwriadu ymddeol.

Rhannodd JP ei fwriad i 2021 fod y flwyddyn y mae TrC yn dod yn fwy aml-foddol ac yn fwy strategol o ran sut mae popeth o fewn cylch gwaith TrC yn integreiddio, yn enwedig o ran teithio llesol a theithio ar fysiau. Gofynnwyd i’r Bwrdd ddwyn JP i gyfrif er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae rhoi Transport for Wales Rail Limited ar waith yn mynd rhagddo’n dda wrth baratoi i drosglwyddo gwasanaethau rheilffordd o Keolis Amey i’r cwmni newydd ar 7 Chwefror. Mae’r gwaith o benodi Rheolwr Gyfarwyddwr yn mynd rhagddo’n dda. Cyfwelwyd pum ymgeisydd yr wythnos hon a dewiswyd dau ar y rhestr fer.

Blaenoriaeth arall yw sicrhau bod cyfrifoldebau Transport for Wales Rail Limited a Grŵp TrC yn cael eu diffinio’n glir. Bydd rhai swyddogaethau gweithredol yn cael eu cyflawni ar lefel Grŵp TrC a rhai swyddogaethau a allai gwmpasu moddau trafnidiaeth amrywiol nad ydynt yn canolbwyntio ar reilffyrdd yn llwyr. Holodd y Bwrdd a ddylai Transport for Wales Rail Limited gymryd perchnogaeth eto o wasanaethau arlwyo a glanhau. Nodwyd bod y trefniadau hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn cyflwyno’r trefniadau newydd. Nododd NF yr angen am ymgynghoriad a sichrau cefnogaeth fuan i unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n briodol cael strwythur dydd i ddydd a phennu cyfnod amser i’w adolygu gyda golwg ar ddatblygu strategaeth ar gyfer sefydliad integredig. Pwysleisiodd y Bwrdd hefyd yr angen am strategaeth ddigidol a gofynnodd am ddiweddariad yn y cyfarfod nesaf [Gweithredu DW]. Cytunodd y Bwrdd i adolygu’r cynllun busnes a’r strategaeth rai misoedd ar ôl cyflwyno’r trefniadau newydd.

Mae cynnydd da wedi’i wneud ar raglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gyda defnydd effeithiol wedi’i wneud o’r gostyngiad mewn teithio yn sgil y cyfyngiadau symud i gyflwyno blocád tair wythnos i’r gogledd o orsaf Radur. Mae timau wedi cyflawni gwaith cafnu, ymchwiliadau tir, rheoli llystyfiant a sawl prosiect adnewyddu.

Mae Teithio Llesol a Theithio mewn Bysiau yn feysydd a fydd yn hollbwysig wrth ddarparu system drafnidiaeth wedi’i integreiddio ac sy’n gweithio’n effeithiol. Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar yr hyn sydd ei angen i greu system fysiau fwy integredig a gwell a’r hyn sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd yn ymwybodol bod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod cyfrifoldebau ac amcanion gwahanol sefydliadau yn cael eu llunio i fodloni dyheadau polisi.

Mae gwaith ar droed gyda Llywodraeth Cymru, yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail i ystyried sut i roi Cymru mewn gwell sefyllfa i ddenu buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y rhwydwaith rheilffyrdd trwm. Hysbyswyd y Bwrdd o gytundeb i gynnal cyfarfod rheolaidd ar fuddsoddi yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd pob corff a fydd yn gweithredu fel yr hidlydd strategol ac fel corff cynllunio ar gyfer ceisiadau cyllid i Lywodraeth y DU. Hysbyswyd y Bwrdd bod hwn yn fater pwysig 
gan fod tystiolaeth yn awgrymu fwyfwy mai’r rhanbarthau yn Lloegr a oedd yn llwyddo orau i ddenu cyllid gan Lywodraeth y DU oedd y rhai a oedd yn gweithredu gydag un llais ar draws y pleidiau. I’r perwyl hwn, bydd nifer fach o staff Network Rail yn cael eu secondio i dimau TrC i gefnogi’r rhaglen hon. Hefyd, cytunwyd i adnewyddu’r ffordd y bydd Network Rail a Transport for Wales Rail Limited yn gweithio gyda’i gilydd ar ôl 7 Chwefror i sicrhau cymaint o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd â phosibl.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y cynnydd sy’n cael ei wneud ledled y tri maes cyllid allweddol: Rhoi Transport for Wales Rail Limited ar waith, trefniadau ar gyfer diwedd y flwyddyn a chyflwyno gwasanaethau newydd, gan gynnwys glanhau, grantiau teithio llesol a mentrau bws. Fel rhan o’r gorchwyl o roi Transport for Wales Rail Limited ar waith, mae ffocws sylweddol ar adael y systemau ymddiogelu tanwydd presennol, sefydlu systemau ymddiogelu tanwydd newydd, prisiau trosglwyddo gwasanaethau, gan gynnwys TfW Innovation Services Ltd, trefniadau bancio, y drefn endid newydd o ran systemau ariannol i sicrhau parhad cyflenwadau a thaliadau, sicrwydd archwilio, gan gynnwys setliad asedau clir a diwydrwydd dyladwy asedau gosod, trefniadau pensiwn a risgiau a mesurau lliniaru newydd.

Mae’r gwaith yn parhau hefyd i gysoni matrics cynrychiolaeth TrC a Transport for Wales Rail Limited gydag Erthyglau Cymdeithasu TrC, cytundeb rheoli a safonau’r sector cyhoeddus. Mae newidiadau llywodraethu eraill yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau, rhoddion a lletygarwch a Rhyddid Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod Transport for Wales Rail Limited yn cyd-fynd â safonau’r sector cyhoeddus.

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli mis Rhagfyr. Mae’r rhagolygon o gymharu â’r mis blaenorol wedi newid yn sylweddol. Mae’r rhagolygon presennol yn rhagolygon interim ac yn amodol ar newid pellach yn sgil trafodaeth ar y Setliad Asedau Clir ar gyfer y Cytundeb Grant rheilffyrdd sy’n adlewyrchu’r newid allweddol o’r mis blaenorol (-£16 miliwn). Rhagolygon FY Mis Blaenorol o £405 miliwn o gymharu â’r Rhagolygon FY Presennol Diwygiedig o £389 miliwn (heblaw am eitemau nad ydynt yn arian parod). Cynghorwyd y Bwrdd bod hwn oherwydd y setliad asedau clir ar gyfer cau’r Cytundeb Mesurau Brys a therfynu’r Cytundeb Grant gan arwain at y trefniadau OLR. Mae hyn yn debygol o newid eto o ystyried amrywioldeb yr eitemau a thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru o ran triniaeth. O ran gwariant cyfalaf, y rhagolygon FY Mis Blaenorol o £270 miliwn o gymharu â’r rhagolygon FY presennol diwygiedig o £237 miliwn (heb gynnwys prydlesau IFRS16 sydd i gyfrif am addasiadau i driniaeth). Mae hyn oherwydd newidiadau mewn cyllid cyfalaf i’r Gwasanaethau Rheilffordd. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r sefyllfa.

Yn y mis (Rhagfyr) roedd y gwariant ar adnoddau yn £33.9 miliwn (heb gynnwys gwariant nad oedd yn arian parod) ac roedd £32 miliwn yn ymwneud â’r Rheilffyrdd, ac mae’r mwyafrif yn cael ei drosglwyddo i’r Partner Gweithredu a Datblygu (ODP). Roedd y Gwariant Cyfalaf yn £15.6 miliwn ac mae £15.5 miliwn o hynny’n ymwneud â’r Rheilffyrdd.

 

3c. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Prosiectau Newid Mawr a’r Pwyllgor Pobl.

Rhan B – Sesiwn ddiweddariad ar Agweddau Gweithredol

Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL a GO â’r cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor Gweithredol i’r cyfarfod.

5a. Diweddariad ar gynaliadwyedd

Ymunodd NR â’r cyfarfod i roi diweddariad ar faterion cynaliadwyedd. Mae Prosiect Bioamrywiaeth Llwybrau Gwyrdd yn cynnwys cyllid gwerth £100,000 gan y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol mewn 22 gorsaf a’u cyffiniau, ynghyd â phum prosiect cymunedol.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae 20 Hyrwyddwr Datblygu Cynaliadwy wedi gwirfoddoli i hyrwyddo agenda cenedlaethau’r dyfodol ledled TrC.

Cynghorwyd y Bwrdd bod ôl-troed carbon TrC wedi gostwng o 30% yn ystod y 12 mis diwethaf yn bennaf oherwydd llai o wasanaethau a bod swyddfeydd ynghau. Gofynnodd y Bwrdd am wybodaeth ar fesurau sy’n gysylltiedig ag allyriadau fesul milltir a deithiwyd gan deithiwr neu debyg [Gweithredu NR]. Hysbyswyd y Bwrdd nad oedd lefelau gwastraff ar y rhwydwaith wedi gostwng yn ôl y disgwyl yn sgil achosion o dipio anghyfreithlon.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y panel Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy ym mis Rhagfyr.

 

5b. Diweddariad ar Deithio Llesol

Ymunodd MG i roi diweddariad ar weithgarwch Teithio Llesol. Atgoffwyd y Bwrdd bod TrC yn ymgymryd â’r gwaith o weinyddu £50 miliwn o Grantiau Teithio Llesol ar gyfer awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru o 1 Ebrill. Mae’r porth ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid a system rheoli grantiau wedi’u datblygu ac yn fyw ar gyfer ceisiadau, sgorio, adrodd gwybodaeth reoli a chymeradwyo hawliadau/taliadau.

Gan weithio mewn partneriaeth â Sustrans, mae TrC hefyd yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd y cynllun yn dod i ben ym mis Mawrth 2021, ond gellid ei ymestyn am 12 mis pellach ar gyfer datblygu’r cynllun a chyflwyno cynigion, paratoi cyngor, mapiau o’r rhwydwaith teithio, gwerthuso a monitro ac ymgynghori ac ymgysylltu, gan ddarparu cyngor a chymorth ar yr elfennau teithio llesol o NW Metro a phwyso a mesur sut i gefnogi cynllun Caerdydd Canolog.

Hysbyswyd y Bwrdd bod gwaith dadansoddi wedi’i wneud i bennu patrymau seiclo yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwelodd y clo mawr cyntaf yng Ngwanwyn/ Haf 2020 gynnydd sylweddol mewn gweithgarwch seiclo, ond heb lawer o dystiolaeth o ddiben y teithiau. Mae’r gweithgarwch wedi lleihau nawr. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod teithio llesol yn cael ei integreiddio ar draws gwahanol foddau o drafnidiaeth ac nad yw’n cael ei ystyried fel ychwanegyn.

 

5c. Diweddariad ar ddyfodol y Rheilffyrdd

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad pellach a thrafodwyd cynnydd yr orchwyl o roi Transport for Wales Rail Limited ar waith. Cynhaliwyd trafodaeth ar yr angen i egluro rolau a chyfrifoldebau TrC a Transport for Wales Rail Limited ond hefyd creu TrC integredig. Cynghorwyd y Bwrdd bod darlun yn esblygu o safle swyddogaethau o fewn y Grŵp TrC. Cadarnhawyd mai dim ond y polisi diogelwch a fydd yn cael ei dynnu oddi ar Transport for Wales Rail Limited, gyda chyfrifoldeb am y dystysgrif ddiogelwch yn aros gyda TOC. Mae cyfleoedd pellach i uno gwasanaethau yn cael eu hystyried gyda’r egwyddor sylfaenol o alluogi Transport for Wales Rail Limited i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gyda chyn lleied o darfu â phosibl.

Cyflwynwyd y Bwrdd i newidiadau arfaethedig i strwythur cyfarfodydd yr Uwch Dîm Arweinwyr a fydd yn caniatáu cyfarfodydd gyda ffocws ar ddatblygu rhwydwaith, gan gynnwys y rhaglen gyfalaf,

 

5d. Cyfathrebu

Gwelwyd gwelliannau parhaus o ran yr argraff o'r brand (+13.8) sy'n adlewyrchu'r sylw cadarnhaol yn y wasg a'r ymgyrch farchnata ar y Gwiriwr Capasiti ar gyfer mis Rhagfyr. Mae'r prosiect enwi trenau wedi tyfu mewn poblogrwydd ac yn tynnu at ei derfyn cyn ei lansio. Yn ystod mis Rhagfyr, gwelwyd ymgysylltu ar draws y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn parhau yn sefydlog wrth i'r cyfyngiadau symud parhaus arwain at lai o bobl yn teithio, gan arwain at nifer isel o gysylltiadau gan gwsmeriaid. Er bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer y negeseuon rhagweithiol a'r straeon newyddion dros y Nadolig, roedd ymgysylltu ar lefel uchel o hyd. Y neges fwyaf poblogaidd ym mis Rhagfyr oedd y fideo Cyfarchion y Tymor, a oedd yn cynnwys rhagflas o'r trên-tram newydd sy'n cael ei gadw yn Ffynnon Taf.

 

5e. Cofrestr Risg

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y mân newidiadau i'r gofrestr risg. Nododd y Bwrdd y bydd adolygiad o risgiau Rheilffordd TrC yn cael ei gynnal yn gynnar ym mis Chwefror i ddeall proffil y sefydliad. Er y bydd yr atebolrwydd ar gyfer y risgiau hyn yn cael eu rheoli gan Fwrdd Transport for Wales Rail Limited, mae'n bosibl y bydd rhai yn cael eu hanfon ymlaen i TrC. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu i'r Bwrdd ar ôl cwblhau'r adolygiad. Trafododd y Bwrdd ddiffyg cynnydd wrth gael cyfres o Erthyglau cwmni a dogfen fframwaith y cytunir arnynt. Cytunwyd y dylid uwchgyfeirio hyn i gyfarfod nesaf Grŵp Llywio TrC.

 

5f. Diweddariad ar fysiau

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar waith a risgiau allweddol y naw ffrwd waith ar fysiau.

 

5g. Edrych ymlaen chwe mis ar y rhaglen seilwaith

Adolygodd y Bwrdd ddangosfwrdd trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, a oedd yn cynnig diweddariad ar gynnydd a risgiau allweddol. Diweddarwyd y Bwrdd hefyd ar y cynnydd a wnaed yn ystod y blocâd tair wythnos ym mis lonawr. Cynhaliwyd trafodaeth ar lefelau adnoddau ODP, rhaglen cynllunio Amey, amseroedd gweithredu trenau ar stop (dwell times) ac ymosodiad meddalwedd wystlo diweddar ar Amey.

 

5h. Tracwyr

Adolygodd a nododd y Bwrdd gynnydd ar brosiectau corfforaethol allweddol a rhaglenni.

 

6. Unrhyw Fater Arall