Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Mawrth 2024

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

21 Mawrth 2024

10:00 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones a James Price.

Hefyd yn bresennol: Peter MacDonald, Jeremy Morgan, Leyton Powell (eitemau 2 a 3), Jan Chaudhry Van der Velde (eitem 5.1), Marie Daly (eitem 5.2), Geoff Ogden (eitem 5.3), James Gough (eitem 5.4), Zoe Smith-Doe (eitem 5.5), Dan Tipper (eitem 5.6) ac Alexia Course (eitem 5.7).

 

Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Ymddiheurodd Alan McCarthy (Unite).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 15 Chwefror 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd rinweddau llwybrau cerdded priodol mewn meysydd parcio, sy’n seiliedig ar ddiogelwch ymddygiad naturiol wrth ddylunio.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Cafodd y Bwrdd adborth cadarnhaol ar y trefniadau rheoli torfeydd ar gyfer gêm rygbi’r Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.

 

2. Iechyd, Diogelwch a Chadernid

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.

Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Datblygu dull gweithredu cyfunol i greu Cynllun Iechyd, Diogelwch Personol, Diogelwch Eiddo, a Chadernid Busnes Blynyddol ‘Un TrC’.
  • Datblygu cynllun atal damweiniau i gwsmeriaid.
  • Gweithdy wedi’i hwyluso gan TrC a oedd yn cynnwys corff sicrwydd trydydd parti a Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd a oedd yn canolbwyntio ar gyflwyno Dosbarth 398 i’r gwasanaeth.
  • Cyflwyno drafft o ddull gweithredu Iechyd, Diogelwch Personol a Diogelwch Eiddo ar Fysiau yng nghyfarfod diweddar yr is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch, Cynaliadwyedd a Lles. Bydd y cynllun drafft yn sail i ddull strategol o ymdrin ag iechyd, lles, diogelwch a pharhad busnes.
  • Cynnydd o 35 yn nifer yr achosion yn ymwneud â’r gweithlu, a oedd yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd sef 21.5. Roedd un digwyddiad RIDDOR.
  • Mae llawlyfr diwygiedig ar Reoli Argyfwng Rheilffyrdd wedi cael ei ddrafftio yn dilyn cydweithio â’r coleg Cynllunio at Argyfwng. Mae gwaith wedi dechrau ar Fframwaith Rheoli Argyfwng Integredig, a fydd yn ddogfen gyffredinol ar gyfer gweithrediadau aml-ddull TrC.
  • Mae gweithgor wedi cael ei lansio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i gyflawni’r prosiect Plismona a Diogelwch Integredig ar Linellau Craidd y Cymoedd.
  • Mynychu gweithdy ar dargedu troseddwyr rhyw a’r gynhadledd ar fannau diogel i Fenywod a Merched, gyda’r bwriad o ymgorffori’r hyn a ddysgwyd a thactegau yn y ffrwd waith diogelu.

Trafododd y Bwrdd achosion absenoldeb oherwydd salwch gan ganolbwyntio’n benodol ar duedd gyffredinol ar draws y DU o weithwyr iau yn absennol o’r gwaith oherwydd problemau iechyd meddwl. Cytunwyd i adolygu darpariaeth iechyd galwedigaethol bresennol TrC a rhoi ystyriaeth gychwynnol i rinweddau gwasanaeth mewnol [Cam Gweithredu Leyton Powell].

 

3. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol a’r Adroddiad ar Lefelau Bygythiad ar gyfer mis Mawrth 2024. Mae dwy risg newydd wedi cael eu hychwanegu, gyda dwy wedi cael eu hisgyfeirio ac un wedi cael ei symud i gofrestr risg Rheilffyrdd TrC.

Mae Strategaeth Rheoli Risg TrC wedi cael ei hadolygu a’i diweddaru i nodi blaenoriaethau risg y sefydliad ar gyfer 2024/25. Cyflwynir y Strategaeth gerbron Pwyllgor Archwilio a Risg mis Mawrth i’w hystyried a’i chymeradwyo.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

4. Diweddariad Strategol / Datblygu

4.1 - Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Bu’r Bwrdd yn trafod cynnwys adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol. Roedd y trosolwg yn cynnwys diweddariadau ar y canlynol:

  • Mae’r gwaith sylweddol sy’n cloi diwedd y flwyddyn ariannol gyda Llywodraeth Cymru yn parhau.
  • Mae perfformiad gweithredol y rheilffyrdd wedi parhau i wella, ond mae diffyg unedau CAF newydd a phroblemau dibynadwyedd ar y locomotifau sy’n pweru’r unedau Mk4 yn parhau i effeithio ar y gallu i symud yn gyflymach. Ar hyn o bryd, mae unedau Class 197 CAF newydd yn cael eu derbyn un bob 13 diwrnod ar gyfartaledd, ac mae 19 mis yn weddill yn y rhaglen, sy’n gynnydd arafach na’r disgwyl. Mae pwysau’n cael ei roi i gynyddu cyflymder yr allbwn. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd fflyd a chyflwyno unedau newydd i’r gwasanaeth. TYNNWYD.
  • Mae gwaith yn parhau ar ddatblygu’r agenda aml-ddull gyda mwy o rannau o’r busnes yn dechrau ei pherchenogi, gan greu syniadau ac ymgysylltu’n gyffredinol â’r cysyniad. Nododd y Bwrdd fod y cysyniad brandio ‘rhwydwaith-T’ wedi’i gyflwyno’n ddiweddar i’r Dirprwy Weinidog a’i fod wedi cael croeso.
  • TYNNWYD. Mae cynnydd da wedi'i wneud o ran cyflwyno trenau i’r gwasanaeth. Bydd y ffocws cyntaf ar baratoi ar gyfer rhagor o waith ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Rhymni, gan gynnwys gwaith sylweddol ar drac Gorsaf Heol y Frenhines ac ailfodelu signalau, yn ogystal â chwblhau cyflwyno trenau ar reilffordd Treherbert, Aberdâr a Merthyr a chynyddu gwasanaethau i bedwar trên yr awr, o leiaf.
  • Mae gwaith Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd wedi cael ei ohirio oherwydd bod cydrannau yn sownd ar longau rhyngwladol. Er bod risgiau’n dal i fodoli, y bwriad o hyd yw bod y gyfnewidfa yn agor ac yn gweithio erbyn dechrau mis Mehefin.
  • Er gwaethaf y rhwystrau dros dro gyda’r gwaith papur ategol ar gyfer yr achos busnes, yn gyffredinol, mae’r gwaith ar brosiect Caerdydd Canolog yn mynd rhagddo’n dda gyda phrosiect cliriach, wedi’i gostio a’i ddeall yn well y mae'r holl randdeiliaid yn ei gefnogi, i bob golwg.
  • TYNNWYD
  • Mae’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar y Gronfa Teithio Llesol yn edrych yn gadarnhaol.

Nododd y Bwrdd adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol, a chroesawodd ailgyflwyno rheilffordd Treherbert, cynnydd Llinellau Craidd y Cymoedd, a pherfformiad cryfach y rheilffyrdd.

 

4.2. Cyllid (Cyfrifon Rheoli)

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Chwefror 2024. TYNNWYD.

 

Rhan B - Sesiwn Diweddariad Gweithredol

5. Diweddariadau Gweithredol

5.1 Y diweddaraf am MKIV

Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde a Ryan Williams â’r cyfarfod.

Atgoffwyd y Bwrdd o gefndir y fflyd MKIV bresennol a’r materion cyfredol sy’n effeithio ar berfformiad diweddar.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am berchnogaeth locomotifau, cymhellion o ran contractau, amserlennu a chynnal a chadw; adborth gan gwsmeriaid; ac opsiynau ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol.

Croesawodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a’r gwelliannau diweddar gyda her i wella mwy.

Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde a Ryan Williams y cyfarfod.

 

5.2 Strategaeth Ddigidol i Gwsmeriaid.

Ymunodd Marie Daly â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni’r Strategaeth Ddigidol Aml-ddull ar gyfer Cwsmeriaid. Mae’r strategaeth yn nodi cynlluniau i fanteisio ar y cyfle i ddigideiddio system drafnidiaeth.

TrC a darparu fframwaith i ganiatáu symud i ddull gweithredu mwy integredig sy’n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid o ran symudedd digidol.

Nododd y Bwrdd y cyflenwr sy’n cael ei ffafrio ar gyfer caffael Partner Technoleg Symudedd fel Gwasanaeth, gan nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r camau nesaf arfaethedig.

Gadawodd Marie Daly y cyfarfod.

 

5.3 Gwasanaethau Arloesi TrC

Ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd gynnwys cyflwyniad a oedd yn amlinellu ymarfer gwireddu buddion diweddar.

Gadawodd Geoff Ogden y cyfarfod.

 

5.4 OLR Bysiau

Ymunodd James Gough â’r cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd rinweddau sefydlu gweithredwr bysiau fel dewis olaf.

Gadawodd James Gough y cyfarfod.

 

5.5 Dangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar gytuno ar gyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol a oedd wedi’u cyhoeddi. Nodwyd bod nifer o’r dangosyddion perfformiad allweddol arfaethedig wedi cael eu gwneud yn gyhoeddus yn barod. Cytunwyd i gyhoeddi set flynyddol o ddangosyddion ar gyfer 2023/24 ac i ryddhau  Dangosyddion Perfformiad Allweddol chwarterol o Ch4 2024/25.

Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.

 

5.6. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod rheilffordd Treherbert wedi’i hagor yn brydlon. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gydag OLE, a chyflwyno i’r gwasanaeth, a cherrig milltir allweddol dros y 12 mis nesaf gan gynnwys gorsafoedd Aberdâr a Lein y Ddinas; newidiadau i amserlenni; rhagor o gynnydd o ran cyflwyno i’r gwasanaeth; a depo Ffynnon Taf yn dod yn weithredol ddiwedd y gwanwyn / dechrau haf 2024.

TYNNWYD

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

TYNNWYD

 

5.8 Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles, y Pwyllgor Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu, y Pwyllgor Prosiectau Mawr, a Phwyllgor TrC 2.0.

 

5.9 Is-fyrddau’r cwmni

Darparwyd diweddariadau ar gyfarfodydd diweddar byrddau Rheilffyrdd TrC Cyf a Pullman Rail Ltd.

 

5.10 Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC yn canolbwyntio ar ddangosyddion perfformiad allweddol, cyllideb TrC, Llinellau Craidd y Cymoedd, Prosiect Bullseye, OLR ar gyfer rheilffyrdd, IFRS16, ac adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol.

 

Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.