Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Tachwedd 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
21 Tachwedd 2024
09:00 - 16:00
Lleoliad - Depo Ffynnon Taf a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Louise Cheeseman, Rhian Langham a James Price.
Hefyd yn bresennol:
Jeremy Morgan, Sam Hadley (TrC) a Gareth Evans (Llywodraeth Cymru).
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Croesawodd y Cadeirydd Louise Cheeseman i'w chyfarfod cyntaf.
1a. Talerddig
Mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad ar ran y sefydliad cyfan â theulu David Tudor Evans a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad dau drên TrC ger Talerddig ar 21 Hydref. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a nododd statws yr ymchwiliad a phwysleisiodd yr angen i ddysgu o’r digwyddiad. Mynegodd y Bwrdd ei ddiolch i dîm cyfan TrC am y ffordd dawel, gydymdeimladol a phroffesiynol yr ymdriniwyd â’r sefyllfa yn ystod yr ymateb uniongyrchol a’r cyfnod dilynol.
1b. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ymddiheurodd Vinay Parmar, Andrew Morgan ac Alan McCarthy.
1c. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1d. Datgan Buddiant
Dim.
1e. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 19 Hydref 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1f. Sylw i ddiogelwch
Myfyriodd y Bwrdd ymhellach ar ddigwyddiad Talerddig yng nghyd-destun gweithredu neu fasnachfreinio gwasanaethau bysiau yn y dyfodol a gwersi y gellir eu dysgu a’u defnyddio ar draws gwahanol ddulliau. Roedd y Bwrdd yn annog cymryd sylw o egwyddorion Vision Zero a sut gellir eu defnyddio ym maes gweithrediadau TrC. Cytunodd y Bwrdd fod angen trafodaeth fanwl mewn cyfarfod yn y dyfodol ar y dewisiadau o ran proses sicrhau diogelwch TrC yng nghyd-destun safbwynt polisi Llywodraeth Cymru [Gweithredu James Price]. Gofynnodd y Bwrdd am wybodaeth am y prosesau digwyddiadau ar gyfer gwasanaethau Traws a bysiau yn lle trenau [Cam Gweithredu Lee Robinson].
1g. Sylw i Gwsmeriaid
Croesawodd y Bwrdd lansiad trenau trydan Dosbarth 756 ar y rhwydwaith yn gynharach yr wythnos hon. Mae adborth gan gwsmeriaid a sylw yn y cyfryngau wedi bod yn gadarnhaol.
2. Diweddariad Diogelwch
Ymunodd Josh Hopkins a Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Digwyddiad Talerddig a’r canlyniadau, gwaith ymchwilio a wnaed hyd yma i ddeall y rhesymau posibl dros y digwyddiad, a diweddariad ar ymchwiliad statudol RAIB. Cafwyd trafodaeth fanwl ar y digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad a’r gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn.
- Cafodd y tîm Gofal mewn Digwyddiadau ei roi ar waith am y tro cyntaf ers iddo gael ei ailstrwythuro yn ystod digwyddiad Talerddig. Cafwyd ôl-drafodaeth fewnol annibynnol ar y digwyddiad a oedd yn cynnwys ymgysylltu â Chyngor Sir Powys.
- Nifer o ymgyrchoedd a digwyddiadau iechyd a lles.
- Rheoli cymhwysedd o ran defnyddio realiti rhithwir i efelychu ymatebion ymarferol i yrwyr mewn amgylchedd di-risg.
- Gostyngiad mewn damweiniau gweithlu ond cynnydd mewn ymosodiadau nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu a oedd yn rhai geiriol yn bennaf. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid.
- Digwyddiadau, damweiniau a dangosyddion perfformiad ar draws seilwaith/trawsnewid a Pullman Rail.
- Roedd goruchwyliaeth drôn wedi ymyrryd ag ymgais i ddwyn ceblau. Mae mesurau cudd ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith yng Ngorsaf Llandaf.
3. Rheoli risg yn strategol
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad rheoli risg strategol.
Gofynnodd y Bwrdd i’r Pwyllgor Gwaith gynnal adolygiad manwl o’r broses rheoli risg.
[Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].
Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde a Josh Hopkins y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Roedd y perfformiad gweithredol dros y cyfnod diwethaf yn dda ar Linellau Craidd y Cymoedd ond roedd lle i wella ar Gymru a’r Gororau. Mae gwelliannau diweddar ar Linellau Craidd y Cymoedd yn rhannol oherwydd bod ganddynt ddigon o staff rheng flaen o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd, a’r rhaglen adlyniad well. Gwelwyd gwelliannau hefyd o ran dibynadwyedd MKIV a Dosbarth 230. Dylai’r newid amserlen ym mis Rhagfyr hefyd ganiatáu mwy o ddibynadwyedd ar draws y rhwydwaith. Mae digwyddiad Talerddig wedi effeithio ar wasanaethau yng nghanolbarth Cymru gyda dwy uned Dosbarth 158 ddim yn cael eu defnyddio yn y gwasanaeth. Cafodd y Bwrdd wybod am y drefn cynnal a chadw well ar drenau Dosbarth 158 mewn ymateb i'r digwyddiad. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau mynediad graddol trenau Dosbarth 197 i wasanaeth rheilffordd y Cambrian er mwyn digolledu am y ddwy uned 158, gan gynnwys defnyddio unedau ETCS ar y rhwydwaith nad yw'n rhan o ETCS. Nododd y Bwrdd yr her gan Ysgrifennydd y Cabinet i gyfathrebu'n glir ynglŷn â'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn cerbydau newydd ar draws y rhwydwaith a'r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar y sylfaen cwsmeriaid bresennol a phosibl [Cam Gweithredu James Price / Sam Hadley].
- Yn gyffredinol, ar draws y rhwydwaith, mae argaeledd unedau yn parhau i effeithio ar berfformiad. Mae trafodaethau'n parhau gyda CAF ar well allbwn o unedau 197. Mae problemau yn cael llai o effaith eleni o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol oherwydd y gwaith paratoi a wnaed cyn tymor yr Hydref.
- Trafododd y Bwrdd gyd-destun strategol rheilffyrdd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â Chadeirydd Rheilffyrdd Prydain Fawr ar faterion strategol [Cam gweithredu James Price].
- Mae cynnydd yn parhau ar yr agenda bysiau. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol, Prif Weithredwyr ac arweinwyr bysiau/trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol hyd yma, ond mae angen eglurder ynghylch cymeradwyo cynlluniau masnachfreinio [Cam Gweithredu Lee Robinson]. Cynhaliwyd sgyrsiau cynhyrchiol hefyd gyda'r ddau gwmni bysiau sy'n eiddo i'r cynghorau.
- Yn ddiweddar, ysgrifennodd y PSG at Ysgrifennydd y Cabinet ar heriau cyllideb Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer gweddill y rhaglen, sydd wedi arwain at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ateb. TYNNWYD
- Bu'r Bwrdd yn trafod twf gwasanaethau yn y dyfodol a chapasiti trafnidiaeth yn y dyfodol a'r angen i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y pwnc hwn [Cam Gweithredu James Price].
- TYNNWYD
- Croesawodd y Bwrdd gyflwyno Achos Busnes Terfynol Prosiect Gwelliannau Canol Caerdydd, yr Achos Busnes Terfynol cyntaf i gael ei ddatblygu'n gyfan gwbl fewnol, sydd wedi lleihau costau'n sylweddol. Cytunodd y Bwrdd fod angen sicrhau, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau, bod yr holl wersi sydd ar gael gan gynlluniau eraill TrC ac eraill ledled y DU o ran manyleb a dyluniad yn ogystal â chamau, strategaeth fasnachol a rheoli'r prosiect pan fydd yn weithredol, yn cael sylw.
5. Cyllid
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer TrC ym mis Hydref 2024/25 a Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig yng nghyfnod rheilffyrdd saith.
TYNNWYD
6. Cyfuno
Ymunodd Alexia Course ac Emma Osborn â'r cyfarfod.
Atgoffwyd y Bwrdd o bwrpas ac egwyddorion y Bartneriaeth Drafnidiaeth ('Cyfuno') rhwng TrC a Network Rail.
Cafodd y Bwrdd wybod bod y bartneriaeth, ers ei lansio'r llynedd, yn ogystal ag amrywiaeth o fuddion anariannol, newydd ragori ar £1m mewn darparu buddion drwy gynhyrchiant a buddion y gellir eu cyfnewid am arian. Mae'r arbedion hyn yn cael eu rhannu ar draws Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru ac maent wedi cael eu dilysu gan bartneriaid busnes cyllid lleol. Mae gwersi o'r rhaglen wedi cael eu rhannu â'r diwydiant rheilffyrdd ehangach.
Croesawodd y Bwrdd fenter lwyddiannus a diolchodd i bawb a oedd yn gysylltiedig.
Gadawodd Alexia Course ac Emma Osborn y cyfarfod.
7. Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â'r cyfarfod
Hysbyswyd y Bwrdd y rhoddodd ORR Gymeradwyaeth Cyflwyno i'r Gwasanaeth (APIS) ar 8 Tachwedd ar gyfer y system llinell uwchben o Ferthyr ac Aberdâr i Bontypridd ac ymlaen i Gaerdydd. Croesawodd y Bwrdd y gwaith o gyflawni carreg filltir arwyddocaol, gan nodi'r her i'r timau seilwaith a cherbydau cyfun i gyflawni un o'r prosiectau peirianneg systemau mwyaf cymhleth y mae'r Diwydiant Rheilffyrdd yn y DU wedi'i weld. Cafodd yr unedau Dosbarth 756 eu rhoi ar waith rhwng Caerdydd, Merthyr ac Aberdâr, gan nodi'r Trenau Trydan i Deithwyr cyntaf ar Rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd gan ddefnyddio system hybrid sy'n arwain y diwydiant gyda mwy nag un newidiad pŵer tyniant cyflymder llinell lawn yn ystod pob taith.
Nodwyd y canlynol gan y Bwrdd:
- Comisiynwyd System Signalau Depo Ffynnon Taf yn llwyddiannus ar 10 Tachwedd, gyda mynediad dilynol i'r gwasanaeth a throsglwyddo'r system i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn ystod yr wythnos ganlynol. Dyma'r tro cyntaf i'r dull signalau arloesol gael ei ddefnyddio fel system lawn yn y DU.
- Ar 18 Tachwedd, dyfarnwyd 'Prosiect Trawsnewid y Flwyddyn' a 'Prosiect Cyffredinol y Flwyddyn' i Raglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau. Croesawodd y Bwrdd y cyflawniad a'r gydnabyddiaeth.
- Yn ystod mis Tachwedd, cwblhawyd y gwaith o adeiladu'r system OLE lawn ar gyfer rhan Coryton/Caerffili i Gaerdydd y llinellau CAR cyn y digwyddiad trydaneiddio allweddol ym mis Chwefror 2025.
- Mae profion Dosbarth 398 yn parhau gyda sesiynau her pellach yn cael eu cynnal ar y rhaglen gyflawni ym mis Tachwedd. Mae effaith bosibl y digwyddiadau llifogydd yn Valencia yn cael ei hadolygu gyda Stadler, yn ogystal ag argaeledd mynediad a gofynion hyfforddi gyrwyr i sicrhau bod y rhaglen yn gadarn.
- Mae'r Gyllideb Flynyddol ddiweddaraf a rhagolygon AFC ar gyfer cwblhau'r Rhaglen wedi cael eu cwblhau gyda her a monitro mewnol sylweddol. Mae cyfarwyddiadau cam i lawr / oedi ar gyfer adnoddau a chwmpas wedi cael eu hailgyhoeddi i bob cyflenwr gyda geiriad cadarn i orfodi’r sefyllfa gytundebol. Mae gwaith yn parhau gyda chyflenwyr i reoli’r ddarpariaeth yn ystod Ch1 2025 ynghyd â monitro perfformiad yn erbyn y rhagolygon diwygiedig yn wythnosol/misol.
- Mae gwersi o bob rhan o’r rhaglen yn cael eu cofnodi.
- Bydd unrhyw gontractau newydd neu rai sydd wedi’u rhewi neu eu hailgychwyn yn rhai pris sefydlog / pris targed na ellir eu had-dalu.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
8. Cyllideb
Ymunodd Stephanie Raymond a Matthew Arthur â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd ei gyflwyno i fersiwn dau y gyllideb ar gyfer 2025/26 a nododd newidiadau a rhesymeg dros newidiadau ers y fersiwn flaenorol, gan dderbyn bod angen gwneud rhagor o waith i fireinio.
Gadawodd Stephanie Raymond a Matthew Arthur y cyfarfod.
9. Byrddau is-gwmnïau
Diweddarwyd y Bwrdd ynghylch cyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.
10. Diweddariadau’r is-bwyllgorau
Darparwyd diweddariad ar gyfarfod diweddar y pwyllgor Prosiectau Mawr.
11. Panel Cynghori
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Panel Cynghori TrC a oedd yn canolbwyntio ar weithrediadau rheilffyrdd, bysiau a newidiadau i amserlenni.
12. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diweddaraf Bwrdd Llywio TrC yn sesiwn anffurfiol a oedd yn canolbwyntio ar ddigwyddiad Talerddig a chyllid.
13. Sesiwn gyfrinachol
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.