Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 22 Medi 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

22 Medi 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Heather Clash, Nicola Kemmery, Sarah Howells, Alison Noon-Jones, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Ymddiheurodd Vernon Everitt am sesiwn y bore.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Gan ei bod yn cael ei chyflogi yn y diwydiant band eang, datganodd Sarah Howells fudd posibl yn eitem Ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 21 Gorffennaf 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Mae angen cymryd gofal o ran y risg y bydd pobl yn rhy hunanfodlon o fod ar y safle am gyhyd. Dyma pan fydd digwyddiadau’n fwy tebygol o ddigwydd.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen i sicrhau bod ymatebion awtomatig i ymholiadau a chwynion cwsmeriaid yn rhoi rhywfaint o fudd i’r cwsmer. 

Myfyriodd y Bwrdd ar rai profiadau diweddar gyda gwasanaethau newid trenau a chymryd gofal o ran defnyddio negeseuon wrth gyfathrebu â chwsmeriaid.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am lansio ap Railway Guardian; cefnogaeth i Pullman Rail wrth i Reolwr Diogelwch gael ei recriwtio; a fforwm diogelwch yn cael ei gynnal yn nepo Trefforest gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, AIW a’u partneriaid cyflenwi.

Rhoddwyd gwybod am saith damwain/digwyddiad yn ystod y cyfnod diwethaf, gydag un yn arwain at RIDDOR. Mae ymchwiliadau pellach ar y gweill. Roedd 11 o alwadau agos yn ystod y cyfnod, yn bennaf o ran arlwyo. Adroddwyd am yr offer diffygiol ac fe'u tynnwyd allan o gylchdro ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Mae’r tîm yn cynllunio ar gyfer ymdrech ar y cyd o ran galwadau agos yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd bod cyllyll wedi cael eu canfod ar drên uned Cl175 yng Nghaergybi. Cafodd hyn ei godi gyda’r tîm diogelwch a chadernid. Mae staff wedi cael eu cynghori i roi gwybod i’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig am unrhyw weithgareddau amheus.

Adroddodd y gweithrediadau ar berfformiad rhesymol o’i gymharu â thargedau DPA. Roedd y sgôr mynegai marwolaethau cyfunedig wedi’i bwysoli (FWI) (0.07) yn is na’r sgôr a ragwelwyd (0.17). Mae FWI y gweithlu yn dal yn gyson yn ystod y cyfnod hwn (0.03) gyda’r cyfartaledd blynyddol sy’n symud (0.05) yn dal yn is na’r ffigur a ragwelwyd (0.07). Gwelwyd cynnydd yn nifer y digwyddiadau gweithlu gyda 22 wedi’u hadrodd yn ystod y cyfnod diwethaf (yn uwch na’r ffigurau disgwyliedig).

Roedd chwe achos o Basio Signal yn Beryglus (SPaD) yn ystod y cyfnod. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am y camau a gymerwyd yn sgil hynny mewn ymateb, gan gynnwys archwiliad manwl, rhybuddion i bob depo, gyrwyr wedi eu tynnu o ddyletswyddau arferol adeg SPaD nes ceir cynlluniau gweithredu cywirol, a’r RSSB yn meincnodi Prosesau Rheoli SPaD yn erbyn arferion da.

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am sawl mân ddigwyddiad ar draws seilwaith, Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a Pullman Rail. 

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Hysbyswyd y Bwrdd bod y ddau fis diwethaf wedi bod yn brysur ar draws y busnes cyfan gyda ffocws parhaus ar gynllunio strategol ar gyfer y dyfodol, datblygu a darparu cynlluniau, a symud ymlaen i wella gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd. Bu ffocws sylweddol hefyd ar ddefnyddio’r model gweithredu newydd a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar sefyllfa cyllid Llinellau Craidd y Cymoedd.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd wybod bod gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rôl TrC yn yr agenda bysiau, yn enwedig o ran gosod a rhedeg rhwydwaith masnachfraint. Byddwn yn gofyn am eglurder mewn cyfarfodydd sydd ar y gweill, gan gynnwys Bwrdd Llywio TrC.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am syniad a drafodwyd yn flaenorol o ddatblygu opsiynau capasiti amgen drwy wasanaethau bysiau o ansawdd uchel i deithwyr nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd oherwydd niferoedd uchel o deithwyr. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu yn y maes hwn gyda chynllun peilot ar y gweill ar gyfer mis Medi a mis Tachwedd.

Mae allbwn dylunio Llinellau Craidd y Cymoedd yn dal i fod yn weddol sefydlog ar lefel allbwn llawer uwch.

TYNNWYD

Mae cynnydd da wedi bod ar adeiladu Llinellau Craidd y Cymoedd gyda’r allbynnau’n dangos cynhyrchiant da. Trafododd y Bwrdd fynediad i wasanaethau ac integreiddio Llinellau Craidd y Cymoedd. Cytunwyd y bydd Dan Tipper yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cyfarfod yn y dyfodol ac y byddai gofyn i Tony Mercado ymuno â’r sesiwn [Cam Gweithredu Jeremy Morgan].

Mae rhagor o drafodaethau wedi cael eu cynnal ynghylch Teithio Llesol gyda Llywodraeth Cymru, TrC a Sustrans. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd yr uchelgeisiau’n gofyn am ddull gweithredu aml-bartner. Dyma gasgliadau allweddol y trafodaethau: (a) mae angen blaenoriaethu prosiectau’n well byth; (b) mae angen cynllun cliriach ar gyfer annog rhai awdurdodau lleol i wella yn hynny o beth; (c) mae angen gwelliant sylweddol yn swmp y gwerthuso ac ansawdd hynny; a (d) mae angen rhyw fath o adnodd canolog i yrru hyn.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd y cyfnod diweddar o dywydd poeth a chadernid cerbydau a seilwaith. Cytunwyd bod angen cynllunio cadernid yn y tymor hir.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd wybodaeth am weithgareddau cyllid a llywodraethu allweddol dros y mis diwethaf, gan gynnwys 
trafodaethau am y bwlch cyllid gyda Llywodraeth Cymru, rhagolwg Ch2 Rheilffyrdd TrC, cerbydau, rhaglen Llinellau 
Craidd y Cymoedd ac adolygiad o ddirprwyaethau TrC.

Trafododd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod gwariant teithio llesol yn cael ei fonitro’n ofalus, gyda llai na hanner yn cael ei wario hyd yma yn y flwyddyn ariannol bresennol. Cytunwyd y byddai James Price, Heather Clash, Geoff Ogden a Dan Tipper yn trafod [Cam Gweithredu Jeremy Morgan]

TYNNWYD

Mae lansiad ac ymgynghoriad y cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig ar y gweill, gyda’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Hydref. Bydd staff yn gallu gwneud dewis personol ynghylch newid darparwr. Mae Pwyllgor Pensiynau’n cael ei sefydlu i oruchwylio’r holl faterion sy’n ymwneud â phensiynau.

Nododd y Bwrdd y Cyfrifon Rheoli ar gyfer mis Awst 2022-23.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod. 

 

5. Is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar yr is-bwyllgor Cwsmeriaid a Masnachol. Roedd ystyriaeth y Pwyllgor yn cynnwys delio â chwynion, ymgyrch hysbysebu’r Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn, ac ap TrC.

Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr wedi trafod nifer o raglenni a phrosiectau parhaus, gan gynnwys trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, rôl TrC yn y prosiect GCRE, a cherbydau. Cytunwyd y byddai diweddariad ar gerbydau yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod Bwrdd TrC fis Hydref [Cam Gweithredu Alexia Course].

Roedd y Pwyllgor Archwilio a Risg diweddar yn canolbwyntio ar nifer o adroddiadau archwilio mewnol a Chenedlaethau’r Dyfodol.

 

6. Is-fyrddau

Roedd cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf fis Medi yn canolbwyntio ar opsiynau amserlen, estyniadau a gwasanaethau newydd.

 

6. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC wedi trafod gorlenwi trenau, gwariant Llinellau Craidd y Cymoedd, diffyg yn y gyllideb, cytundeb strategol Stadler, prisiau yn y dyfodol, adroddiad blynyddol TrC, cyflogau a’r Model Gweithredu Targed newydd.

 

7. Cyfrinachol

TYNNWYD

 

 

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

8. Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran Datblygu Cynaliadwy

Ymunodd Natalie Rees â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses ymgynghori ar gyfer cyrff cyhoeddus newydd a fydd yn ddarostyngedig i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gan gynnwys TrC. Atgoffwyd y Bwrdd bod TrC eisoes wedi bod yn gweithio fel pe bai’n gorff a enwir o dan y Ddeddf bresennol. Cadarnhawyd na fydd angen i TrC fod yn bresennol ym mhob un o’r 18 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, dim ond mynd pan fydd amcanion TrC yn 
cyd-fynd â’r pynciau sy’n cael eu hystyried. Bydd angen i TrC hefyd ddangos tystiolaeth o sut y bydd penderfyniadau a wneir o ran effeithiau tymor hir yn amodol ar archwiliadau datblygu cynaliadwy gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; ond bydd hefyd yn cael rhagor o gefnogaeth gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Llywodraeth Cymru. Croesawodd y Bwrdd y gwaith a wnaed hyd yma ond roedd yn cytuno bod angen gwella’r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn ogystal â chynllunio tymor hir.

Cytunodd y Bwrdd i wahodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd i gyfarfod o’r Bwrdd yn y dyfodol pan fydd yn dechrau yn y swydd.

Gadawodd Sarah Howells y cyfarfod. Ymunodd Vernon Everitt â’r cyfarfod.

 

9. Ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd

TYNNWYD

Gadawodd Owain Taylor-Shaw y cyfarfod. Ailymunodd Sarah Howells â’r cyfarfod ac ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod.

 

10. Diweddariad am Linellau Craidd y Cymoedd

TYNNWYD

Mae perfformiad y dyluniad yn parhau i fod ar lefel uchel, er bod y perfformiad ym mis Awst ychydig yn is na’r disgwyl. Mae eitemau llwybr critigol wedi cael eu nodi a’u lliniaru lle bo angen, gyda’r elfennau i’w cyflawni wedi’u hailgynllunio i gyflawni’r rhaglen ofynnol. Mae’r perfformiad adeiladu yn parhau ar y gofynion a gynlluniwyd neu o’u cwmpas.

Mae dyddiadau comisiynu ar gyfer ailbroffilio Signalau Rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr (TAM) ac Offer Llinellau Uwchben (OLE) wedi cael eu cyflawni. Mae’r dyddiadau ailbroffilio wedi cael eu diffinio a’u hintegreiddio gyda’r rhaglen gomisiynu Cerbydau i gadw at yr amserlenni ar gyfer cymeradwyo cerbydau. Mae’r gwaith o ddiwygio’r proffil hyfforddi gyrwyr yn parhau i gynnal amserlenni cyflwyno’r fflyd.

Gofynnodd y Bwrdd am yr wybodaeth ddiweddaraf am ymuno â gwasanaeth ac integreiddio Mynediad i Wasanaeth Llinellau Craidd y Cymoedd. Cytunwyd i ofyn i Dan Tipper ddarparu diweddariad yng nghyfarfod mis Tachwedd a gofyn i Tony Mercado fod yn bresennol.

 

11. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

12. Datgarboneiddio bysiau

Ymunodd Lee Robinson a Jo Scott â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gynlluniau ar gyfer datgarboneiddio bysiau a chytunodd i’w gyflwyno yn y Bwrdd Llywio. Atgoffwyd y Bwrdd o darged Llywodraeth Cymru, cylch gwaith TrC, statws presennol y gwaith a rhai o’r rhwystrau posibl i weithredu gan gynnwys fforddiadwyedd a datblygu technoleg.

 

13. Masnachfreintio bysiau

Ymunodd Jo Scott â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd y diweddariad a chytunodd i gynnwys y papur gael ei gyflwyno ym Mwrdd Llywio nesaf TrC. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a thrafod amcanion polisi Llywodraeth Cymru; cylch gwaith tebygol TrC, cysoni â’r model gweithredu newydd a rolau a chyfrifoldebau mewnol TrC; rolau a chyfrifoldebau allanol gan gynnwys cyllid, datblygu rhwydwaith, rheoli perfformiad a chyswllt, adolygu rhwydwaith, seilwaith; a risgiau a chyfleoedd.

Gadawodd Lee Robinson a Jo Scott y cyfarfod. 

 

14. Cyfathrebu

Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod. Mae’r cyfnod wedi parhau i gael ei ddominyddu gan ffactorau y tu allan i ddylanwad uniongyrchol TrC, gyda gweithredu diwydiannol, ac yn fwy diweddar gweithgarwch dylanwadol Operation London Bridge. Mae’r gwerthusiad cychwynnol o'r ‘Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn’ yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol yr ymgyrch, gyda’r gwerthusiad cychwynnol yn rhoi cipolwg rhagorol a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r camau nesaf, ar ôl i’r ail gam ddod i ben.

Mae sianeli digidol yn parhau i berfformio’n gadarnhaol iawn, gyda pherfformiad gwefannau a’r cysylltiadau CRM a gyflawnwyd yn gwneud yn well nag erioed.

Mae rhagor o weithgarwch ymgysylltu mewnol ac allanol ‘yn bersonol’ wedi’i gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant rhai o’n fformatau newydd ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned. Mae hyn yn gysylltiedig â’r cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid strategol newydd sy’n ceisio dylanwadu ar gyflenwyr allweddol, cyllidwyr a phartneriaid yn y diwydiant. Mae ein cynllun newid ymddygiad yn parhau gyda chyfraniadau gan dimau ar draws TrC, a chyda chymorth a chyngor gan arbenigwyr gwyddor ymddygiad. Mae’r gwaith yn y maes hwn eisoes ar y gweill ond bydd yn cynyddu dros y misoedd nesaf ochr yn ochr â’r gwaith sy’n cael ei wneud drwy raglenni fel Comisiwn Burns.

Gadawodd Lewis Brencher y cyfarfod.

 

15. Cofrestr risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Nodwyd yr Adroddiad Risg.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.